Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Cyflwr Pechadur a'i Achubiaeth trwy Ras

Y Ddeddf Foesol Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Tristâu yr Ysbryd Glan

CYFLWR PECHADUR, A'I ACHUBIAETH TRWY RAS.

Eph. 2:4-7.—"Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, ie pan oeddym feirw mewn camweddau, a'n cyd-fywhaodd ni gyda Christ (trwy ras yr ydych yn gadwedig), ac a'n cyd-gyfododd, ac a'n gosododd i gyd-eistedd yn y nefolion leoedd yn Nghrist Iesu : fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yn Nghrist Iesu."

Mae yr apostol yma yn cymell i sancteiddrwydd—i fywyd effro mewn crefydd-trwy adgoffhau goludoedd gras Duw tuag at y saint. Un o'r rhesymau cryfaf ag y mae ysbrydoliaeth Duw yn eu defnyddio i gymell i burdeb bywyd ac ymarweddiad, ac i ddeffroad mewn crefydd, ydyw, yr ystyriaeth o gyfoeth gras a thrugaredd yn nychweliad pechaduriaid ac iachawdwriaeth eglwys Dduw. Sylwn,

I. Ar gyflwr dyn fel pechadur: y mae yn farw mewn camweddau. "Pan oeddym feirw mewn camweddau." Ac yn yr adn. laf, dywedir, "A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau."

1. Dylem sylwi yma ar rai pethau yn nacaol.

(a.) Nid ydym i ddeall fod dyn yn farw yn mhob ystyr. Nid ydyw felly. Y mae yn fyw iawn i'r hyn sydd ddrwg, ond yn farw i'r hyn sydd dda-yn fyw i halogi Sabbothau Duw, ond yn farw i sancteiddiad y Sabboth-yn fyw i gablu enw yr Arglwydd, ond yn farw i barchu ei enw yn fyw i gynllunio drygioni, ac i weithredu drygioni-mae y byd pechadurus ag yr ydym ynddo yn preswylio yn llawn bywyd yn yr ystyr yma.

(b.) Nid ydym i ddeall fod dyn yn rhydd oddiwrth gyfrifoldeb i Dduw, fel y mae y marw sydd yn ei fedd yn rhydd oddiwrth gyfrifoldeb i'r gymdeithas ddynol yr hon y bu unwaith yn aelod o honi. Dilyn y gymhariaeth yn rhy bell, ac felly arwain i gyfeiliornad dinystriol, a fyddai ei dilyn felly. Mae y marw yn ei fedd yn rhydd oddiwrth bob cyfrifoldeb. Nid oes ar y tad sydd yno rwymau mwyach i ofalu am gynaliaeth ei deulu; nid oes ar y dinasydd rwymau i ofalu am orchwylion dinasydd fel y bu; ac nid oes dim cyfrifoldeb ar neb sydd yno. Ond nid yw y farwolaeth ysbrydol yn ein rhyddhau oddiwrth gyfrifoldeb mewn unrhyw ystyr. Y mae dyn, ie, yr annuwiolaf o ddynion, yn gyfrifol i Dduw yn mhob peth. Mae yn gyfrifol am yr egwyddorion y mae yn eu mabwysiadu, am y tueddfryd neu yr anian sydd yn ei lywodraethu, am ei feddyliau gwageddol a'i eiriau segur, ac am ei agweddau a'i weithrediadau oll.

(c.) Nid ydym i ddeall y geiriau ychwaith yn gosod dyn allan fel un amddifad o alluoedd neu gyneddfau priodol i ufuddhau i'r hyn y mae Duw yn orchymyn iddo. Fe ddefnyddir y geiriau hyn weithiau (chwi a wyddoch) i amddiffyn y dyb yna, sef bod dyn yn analluog (yn gystal ag anewyllysgar) i wneyd yr hyn sydd dda, fel y mae y marw sydd yn y bedd yn analluog i deimlo, i siarad, i weled, clywed, &c. Ond dilyn y gymhariaeth yn rhy bell yw hyn eto. Oblegid, (1.) Y mae dyn yn meddu ar alluoedd neu gyneddfau naturiol priodol i ufuddhau i Dduw yn yr hyn oll y mae Duw yn ei orchymyn iddo. Cynysgaeddwyd ef â'r cyfryw gyneddfau yn ei greadigaeth, ac y mae Duw yn gofyn ufudd-dod ganddo yn awr yn ol y cyneddfau neu y galluoedd naturiol ag y mae yn awr yn eu meddu. Nid fel y slaveholder yn gorchymyn i'r caethwas wneyd yr hyn nas gall ei wneyd, y mae yr Arglwydd ond y mae yn ein gorchymyn i wneyd yr hyn nad oes un rhwystr, ond ein drygioni, ar ein ffordd i'w gyflawni. Hefyd, (2.) Y mae cymorth grasol, sef dwyfol ddylanwad, yn cael ei gynyg i bob dyn yn nhrefn yr efengyl, i'w gynorthwyo i wneyd yr hyn a orchymynir iddo yn yr efengyl. Hyn sydd amlwg, oblegid y mae gorseddfaine y gras yn "borth i bob anghenog"-nid i bob duwiol yn unig; ond i bob anghenog. Felly nid amddifadrwydd o allu, a hwnw yn allu priodol i ufuddhau (fel y mae y marw naturiol analluog i weithredu yn ei orchwylion naturiol), a feddylir wrth y farwolaeth hon.

yn

2. Ond sylwn air yn gadarnhaol. Wrth ei fod yn farw mewn camweddau a phechodau y mae i ni ddeall, ei fod mor ddyeithr i'r efengyl ac i bethau Duw ag yw y marw yn ei fedd i achosion y byd presenol. Traethu y ffaith ddifrifol yna wneir, a'i thraethu yn y fath fodd ag sydd yn dangos fod y dyn yn "bechadurus" ac yn "gamweddus" am ei fod felly. Nid yw y marw yn y bedd yn clywed dim, yn gweled dim, nac yn teimlo dim-nid oes dim a wnelo â gorchwylion prysur y byd presenol. Felly nid yw y dyn sydd yn byw mewn pechod a chamwedd yn gweled dim gogoniant a hawddgarwch yn mhethau yr efengyl. Nid yw yn clywed dim o swn taranau Sinai, nac o hyfrydlais caniadau Seion-mae "yn farw mewn camweddau a phechodau."

(a.) Y mae yn farw yn llygredigaeth ei gamweddau—pob tueddfryd sydd ynddo, a phob ysgogiad o'i eiddo yn bechadurus—a dyma y darlun du a roddir o hono: "Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ol helynt y byd hwn, yn ol tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awrhon yn gweithio yn mhlant anufudd-dod. Yn mysg y rhai y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd, a'r meddyliau; ac yr oeddym ni wrth naturiaeth yn blant digofaint megys eraill."

(b.) Y mae yn farw dan bwys euogrwydd ei gamweddau. Mae euogrwydd oes o gamweddau yn gorwedd arno heb eu maddeu. "Duw sydd ddigllawn beunydd wrth yr annuwiol. Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf, efe a anelodd ei fwa ac a'i parotodd," &c.

(c.) Y mae yn farw, fel y mae yn agored bob eiliad i gael ei drosglwyddo i afaelion arswydlon yr "ail farwolaeth." Nid oes ond yr anadl sydd yn ei ffroenau ac amynedd y Duw mawr rhyngddo a holl erchyllderau y pryf nad yw yn marw a'r tân na ddiffydd!

II. Ei gyfnewidiad trwy ras-ei gyd-fywhau gyda Christ-ei gyd-gyfodi gyda Christ—a'i osod i gyd-eistedd yn y nefolion leoedd yn Nghrist Iesu.

Sylwn yma ar ddau beth-y gwaith a wneir ar gyflwr pechadur yn ei droedigaeth at Dduw, a bod hyny yn cael ei wneyd mewn cysylltiad a thrwy berthynas â Iesu Grist. Sylwn ar y ddau beth hyn gyda eu gilydd wrth fyned yn mlaen.

1. "Cyd-fywhau a chyd-gyfodi gyda Christ." "Bywhau," hyny yw, dwyn y dyn ag oedd o'r blaen yn ddi-deimlad i deimlo yn briodol, yr hwn oedd yn ddall i weled, yn fyddar i glywed, yn ddi-ofal i ofalu am enw ac achos yr Arglwydd. Cyfodi o sefyllfa bechadurus i fuchedd sanctaidd. Dyma y cyfnewidiad a effeithir trwy yr efengyl, pan y mae y pechadur yn cael ei ddychwelyd at Dduw trwy ras. Y mae yn gyfnewidiad mawr, ac yn drwyadl ar yr holl ddyn— tebyg i gyfodi un o farw yn fyw. Bellach y mae y ffrwyth yn sancteiddrwydd, a bydd y diwedd yn fywyd tragywyddol.

"Gyda Christ”—" cyd-fywhau a chyd-gyfodi gyda Christ." Nid meddwl y gair ydyw fod y rhai a gedwir byth trwy Grist wedi cyfodi i.fywyd ysbrydol ar y pryd ag y cyfododd efe. Fe berffeithiwyd y ffordd i gadw pwy bynag a gredo yn ei enw ar y pryd hwnw, ond ni wnaed un cyfnewidiad yn eu sefyllfa hwy. Y mae yr holl fyd dan farn Duw, a phawb fel eu gilydd wrth naturiaeth yn blant digofaint. Ond y mae dau beth i ni i'w deall, mae'n debyg, wrth gyd-fywhau a chyd-gyfodi "gyda Christ," sef, (1.) Mae tebygolrwydd yn bod rhwng eu cyfodiad hwy i fywyd ysbrydol a'i gyfodiad ef ar foreu y trydydd dydd. Fe gyfododd efe i ofalu am achosion ei deyrnas-daeth o blith y meirw i fywyd byth mwyach; maent hwythau yn cyfodi i wasanaethu yr Arglwydd, o blith y meirw ysbrydol, ac o'r sefyllfa hono i fyw bellach fywyd o sancteiddrwydd ar y ddaear. Fe gyfododd Crist i ymddangos drostynt hwy ar ddeheulaw y Mawredd fry maent hwythau yn cyfodi i ymddangos drosto yntau a'i achos yn eu tymor yn y byd hwn. (2.) Maent hwy yn cael eu bywhau a'u cyfodi trwy rinwedd ei fywyd a'i adgyfodiad ef. Ei angau ef a wnaeth iawn dros eu camweddau hwy, a'i adgyfodiad a brofodd fod y fath iawn wedi ei chael ynddo. Felly trwy rinwedd yr anfeidrol iawn a gafwyd yn ei angau a'i gyfodiad ef, y maent yn cael eu cyfodi i fuchedd sanctaidd, &c. "Wedi ein hadgenedlu i obaith bywiol, trwy adgyfodiad Iesu Grist oddiwrth y meirw."

2. "Ac a'n gosododd i gyd-eistedd yn y nefolion leoedd yn Nghrist Iesu." Fe esgynodd Crist i eistedd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd. Y mae'r saint, er mai ar y ddaear y maent, ar ryw olygiadau yn eistedd gydag ef.

(a.) Gydag ef mewn anrhydedd. Y mae efe yn yr anrhydedd mwyaf; y maent hwythau yn anrhydeddus yn eu perthynas ag ef.

(b.) Gydag ef mewn diogelwch. "Eistedd" a arwydda sefyllfa o dawelwch a diogelwch. "Eistedd" y mae efe yn y tawelwch a'r diogelwch mwyaf, allan o gyrhaedd pob gelyn a phob niwed. Nid ydynt hwy allan o gyrhaedd y gelynion eto, ond y mae eu sefyllfa ynddo ef yn un o ddiogelwch mawr-nis gall neb wneyd niwed iddynt, tra b'ont yn pwyso ar ei ras a'i rym ef.

(c.) Maent yn cyd-fwynhau yr un nefol gymdeithas. Er mai ar y ddaear y maent, eto y maent yn mwynhau cymdeithas a gwasanaeth y nefolion. "Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a'u gwared hwynt." "Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu hanfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?" Os yw y gelyn yn temtio i bechod, y mae angylion (trwy ryw offerynoliaeth neu gilydd) yn cymell i sancteiddrwydd yn barhaus, ac yn gweini er dyddanwch y saint; ac yn hyn y cyd-una yn hyfryd ysbrydoedd ein hanwyliaid rhai a fuont feirw yn yr Arglwydd—"Aʼn gosododd i gyd-eistedd yn y nefolion leoedd," &c.

(d.) Maent mewn sefyllfa a sicrha eu dygiad i mewn ryw ddiwrnod i gyd-deyrnasu gydag ef mewn gogoniant tragywyddol. "Os dyoddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef." Fe lefara Duw weithiau y pethau nad ydynt fel pe byddent, i ddangos sicrwydd dygiad y pethau hyny i ben. Felly y maent hwythau, mewn ystyr, fel pe byddent eisoes gydag ef yn ei nefol ogoniant. O, sefyllfa uchel o anrhydedd, diogelwch, a dedwyddwch !

III. Yr achos cynhyrfiol o'r cyfnewidiad hwn. Nid teilyngdod yn y gwrthddrychau-nid rhagwelediad o ryw rinweddau ynddynt hwy; ond cyfoeth trugaredd a mawr gariad Duw. "Duw yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad," &c. Tra hyfryd oedd gan Paul daro ar y tannau hyn, sef gras, trugaredd, a chariad Duw.

1. Mae yr ymadroddion, "cyfoeth ei drugaredd" a'i "fawr gariad,” yn dangos fod ynddo helaethrwydd o dosturi at bechadur. Mae wedi cyhoeddi ei enw yn Dduw trugarog a graslawn, &c. "Duw, cariad yw." O, pwy all ddirnad helaethrwydd ei drugaredd yn Nghrist Iesu tuag at y byd colledig !

2. Fe ddangosodd helaethrwydd ei drugaredd a'i fawr gariad yn yr aberthiad a wnaeth o'i Anwylfab drosom, a'r aberthiad a wnaeth Crist o hono ei hun. "Yn hyn y mae cariad," &c. 3. Eglurir helaethrwydd ei drugaredd yn ei waith yn achub pechaduriaid mawrion. Rhai felly oedd yr Ephesiaid a'r Corinthiaid, a dychweledigion dydd y Pentecost, y rhai a groeshoeliasant yr Iesu; a rhestra Paul ei hun yn eu plith fel y "penaf o bechaduriaid."

4. Bydd cyfoeth ei drugaredd i'w ganfod yn y gwaith hwn pan y dygir ef i berffeithrwydd tragywyddol-pan y canfyddir y dyrfa waredigol heb arni "na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw."

IV. Amcan haelfrydol Duw yn nychweliad ac iachawdwriaeth y rhai y mae yr apostol yn llefaru yma ani danynt; "Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yn Nghrist Iesu."

Un amcan daionus o eiddo yr Arglwydd yn nychweliad pechaduriaid ydyw, sicrhau iachawdwriaeth y gwrthddrychau hyny eu hunain. Amcan arall (ac am hwnw y lleferir yma) ydyw effeithio er lleshau eraill-effeithio yn yr oes bresenol er lleshau oesoedd dyfodol. Y mae pob diwygiad ar grefydd yn effeithio yn mlaen ar genedlaethau eto a enir. Yr oedd y diwygiadau mawrion a gwblhawyd trwy weinidogaeth bersonol yr Arglwydd Iesu Grist a'i apostolion yn yr oes hono, yn cael eu bwriadu gan Dduw, yn anfeidrol haelfrydedd ei galon ef, i gario effeithiau daionus arnom ni, ac felly ar eraill o oes i oes hyd ddiwedd amser. Yn yr un modd y mae pob diwygiad i effeithio ar genedlaethau i ddyfod. "Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai," &c.

Sylwn ar rai pethau a ddangosir i oesoedd dyfodol yn niwygiadau nerthol yr oes apostolaidd.

1. Fe ddangosir yn ymarferol, a hyny yn y modd dysgleiriaf, barodrwydd Duw i faddeu trwy Grist Iesu i'r pechaduriaid gwaethaf. Edrychwn ar y rhestr ddu a rydd yr apostol o bechodau yr oes hono, a chlywn ef yn dweyd, "A hyn fu rhai o honoch chwi; eithr chwi a olchwyd; eithr chwi a sancteiddiwyd; eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni;" ïe, edrychwn ar lofruddion Mab Duw ei hun wedi derbyn maddeuant; ac oni ellir dweyd fod rhagorol olud ei ras ef trwy ei gymwynasgarwch iddynt yn Nghrist Iesu wedi ei ddangos i'r oesoedd a ddeuai?

2. Fe ddangosir fod modd i eglwys Dduw gael diwygiadau nerthol eto. Diwygiadau nerthol oedd diwygiadau yr oes hono-diwygiadau oeddynt yn dangos "rhagorol olud" gras Duw; ac fe fynai Duw ddangos i oesoedd a ddeuai fod modd eto cael yr un dylanwadau; oblegid yr un yw goludoedd ei ras ef a'i gymwynasgarwch yn Nghrist Iesu yn awr a'r pryd hwnw. Edryched eglwys Dduw ar y tywalltiadau rhyfeddol a wnaed y pryd hwnw, a dysgwylied (er mor isel ydyw ar yr achos mewn llawer man) am y cyffelyb dywalltiadau eto.

3. Fe ddangosir i holl genedlaethau y ddaear mai yn Nghrist Iesu yn unig y mae gobaith i bechadur fod yn gadwedig. Mynai Duw ddangos i bawb yn mhob oes, hyd ddiwedd y byd, trwy y nerthoedd rhyfeddol a ddilynasant athrawiaeth y groes, mai yn Nghrist y mae ganddo fodd i ddangos ei gymwynasau i bechadur. Yma yn unig y mae modd i symud euogrwydd a halogrwydd pechod-sef, trwy gredu yn Iesu, byw iddo, a'i anrhydeddu yn ei ordinhadau.