Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Dyfyniadau o Bregeth II

Gorseddfainc Anwiredd Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Rhwymedigaeth Dyn i Dduw

DYFYNIADAU O BREGETH II

Eph. 1: 10.—"Fel yn ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhôi yn nghyd yn Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear ynddo ef."

Mae yr apostol yn traethu yn yr adnodau blaenorol ar fwriadau Duw neu ei arfaeth." Mae arfaethu neu fwriadu yn cael ei briodoli yn fynych i Dduw ; ac y mae ei arfaeth ef yn bod y peth ydyw, "yn ol boddlonrwydd ei ewyllys" ei hun, ac "yn ol cyfoeth ei ras," ac y mae hefyd yn "arfaeth dragywyddol." Ond dylid gwylio rhag cysylltu dychymygion disail âg arfaeth Duw. Cam olwg ar ei arfaeth ef ydyw ei hystyried yn cynwys y drwg fel y da—nid yw yn cynwys dim drwg moesol-nid o Dduw y daeth fod drygioni yn cael ei gyflawni. Sonir weithiau am yr Arglwydd fel pe buasai wedi bwriadu i bechod gymeryd lle, ac wedi bwriadu hefyd i ddatguddio trefn o waredigaeth oddiwrth bechod, fel pe byddai y melus a'r chwerw yn tarddu o'r un ffynon. Ond nid yw Duw yn awdwr pechod―ac nid yw bodolaeth pechod yn un rhan o’i drefn ef—mae ei holl drefn ef, ei holl fwriadau a'i holl weithrediadau yr gwrth-weithio yn erbyn pechod yn mhob ystyr ac yn mhawb. Yn ol ei hollwybodaeth fe ganfyddodd y byddai i bechod gymeryd lle, ac yn ol ei haelfrydedd anfeidrol—ei gariad diderfyn--fe drefnodd ffordd o waredigaeth oddiwrth bechod, a'r ffordd hono ydyw yr un a ddatguddir i ni ac a gymhellir arnom i'w defnyddio trwy ffydd ddiffuant yn efengyl ein Harglwydd Iesu Grist. Yn y testyn dangosir yr amcan neu y dyben oedd gan Dduw i gyrchu ato yn ei fwriadau grasol a thragywyddol, sef, “Fel yn ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd y gallai grynhoi yn nghyd, yn Nghrist, yr holl bethau," &c. Sylwn,

I. Ar y gwaith a briodolir yma i Dduw, "crynhoi yn nghyd yr holl bethau yn y nefoedd ac ar y ddaear." Ymadrodd cyfoethog iawn! Nid yw yn hawdd, efallai, i'w ddeall, ar y darlleniad cyntaf. Ond nid yw yr ymadrodd yn dywyll ond i ni ystyried ychydig -beth oedd eisiau eu crynhoi at eu gilydd? Yr oedd pechod wedi gwneyd rhyw ysgar mawr rhwng nefoedd a daear. Yr oedd dyn yn y dechreu, sef yn ei greadigaeth cyntaf, yn meddu yr un cymeriad a theulu y nef-yn gydymaith i Dduw ac i angelion Duw; ond fe wnaeth pechod ryw annhrefn mawr ar bethau ryw chwalfa-ryw ysgar rhyfedd-ysgarodd ddyn oddiwrth Dduw, dynion oddiwrth angelion, yn gystal a dynion oddiwrth ddynion. Ond wele y Duw graslawn a thrugarog, o'i ddaioni hunan-gynhyrfiol a’i ddoethineb anfeidrol, yn myned i adferu trefn eilwaith -trwy godi y dyn i gymeriad a thebygoliaeth i deulu y nef. Dyma ddyben yr efengyl, a dyben holl waith y prynedigaeth.

1. Uno y nef a'r ddaear yn yr un gorchwylion. Os gofynir beth yw gorchwylion teulu y nef, gellir at eb mai dyna yw—gogoneddu Duw a dedwyddoli eu gilydd. Dyna orchwylion y nef, a dyna amcan y teulu glân yn eu holl symudiadau a'u gweithrediadau. Maent yno yn addoli Duw, yn ymgrymu iddo, yn bwrw eu coronau wrth ei draed, yn ymwrando beth yw ei ewyllys ef, ac yn gyflym a llon i'w chyflawni. Ceuir allan bob hunanoldeb annheilwng o'r gymdeithas ddedwydd sydd yno. Gwasanaetha pob angel ei Dduw trwy geisio hefyd at eangu dedwyddwch ei gyd-angel a'i gyd-sant, fel ei ddedwyddwch ei hun. Gwahanol iawn ydyw i hyn ar y ddaear, hyd nes y daw yr efengyl i wneyd trefn ar ddyn. Edrychwn ar y pethau sy'n cynhyrfu ein hardaloedd yn y dyddiau presenol. Ai gogoniant Duw a lles y wlad sydd gan bleidwyr y ddiod feddwol mewn golwg yn eu symudiadau prysur ac egniol? A'i dyma amcanion y gaethfasnach yn ymestyn at eangu ei therfynau dros ein tiriogaethau breision? Sarhad ar synwyr cyffredin dyn fyddai dyfalu y fath beth—hunan-elw arianol a phorthi chwantau a nwydau llygredig sy'n cynhyrfu i'r pethau hyn oll—a dyma agwedd y byd yn gyffredinol, oddieithr i'r graddau ag y mae yr efengyl yn dylanwadu yn ddaionus arno. Ond yr efengyl a gyfyd ddyn at yr un gorchwylion a theulu y nef.

"I'm gogoniant y creais ef, y lluniais ac y gwnaethum ef." "Y bobl hyn a luniais i'm fy hun, fy moliant a fynegant." "Pa un bynag ai bwyta ai yfed, ai pa beth bynag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw." A phob un a wasanaetha ei frawd hefyd, er lleshad; a'n brodyr, mewn ystyr, yw pawb dynion ar wyneb y ddaear.

2. Uno y nef a'r ddaear yn yr un egwyddorion, neu ddwyn trigolion y ddaear i weithredu oddiar yr un egwyddorion a theulu y nef. Yr egwyddor sy'n cymell teulu y nef yn ei holl weithrediadau yw cariad. Pe gofynid paham y maent yno yn gwneyd gogoniant yr Arglwydd yn brif ddyben yn mhob peth, yr ateb yw, am eu bod yn ei garu ef uwchlaw pawb a phob peth. Paham yr amcanant at ddedwyddoli eu gilydd mor hyfryd ac mor hardd? Yr ateb yw, am eu bod yn cael eu llywodraethu gan ddeddf cariad. Cariad yw cwlwm y gymdeithas yno. Dyma ddaliodd y nef gyda ei gilydd mor anwyl erioed, a dyma a'i deil byth hefyd. Felly, at hyn yr amcenir yn holl weithrediadau yr efengyl ar y ddaear. "Ceri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, â'th holl enaid, â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth; a'th gymydog fel ti dy hun. Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl gyfraith a'r prophwydi yn sefyll." A dyma elfen fawr yr efengyl—tardda hon o fôr cariad tragywyddol, gweithreda trwy gariad, a dwg y rhai a'i cofleidiant i ymddedwyddu mewn cariad at Dduw a dynion byth.

3. Uno y nef a'r ddaear yn yr un dymer a'r un ysbryd. Dyna yw ysbryd a thymer y nef—yn y lle cyntaf, ysbryd gostyngedig, llariaidd ac addfwyn yw. Mae yno bawb yn wirioneddol ostyngedig ac addfwyn. Ysbryd cynes yn ngwasanaeth eu Harglwydd ywneb yn oeraidd, neb yn glauar ei gân yno. Ysbryd unol ydyw cyd—weithio yn esmwyth y maent yno yn ngwasanaeth Iesu—heb neb yn "tynu yn groes"—mae yr undeb cywiraf yn bodoli yn eu gweithrediadau, a'r cydgordiad melusaf yn eu caniadau gogoneddus. Yn mhob peth, ysbryd anwylaidd iawn ydyw. At hyn hefyd, y mae yn amlwg, yr amcana yr efengyl yn ei dylanwad grasol a gwerthfawr ar ddyn ar y ddaear.

4. Dwyn trigolion y ddaear i wisgo yr un cymeriad cyffredinol mewn purdeb a sancteiddrwydd a theulu y nef. Maent yno yn sanctaidd ac nid oes yno ddim ond purdeb digymysg. Angelion "sanctaidd," ac ysbrydoedd y rhai "a berffeithiwyd" sydd yno yn preswylio. Yn awr, dyma y gwaith sydd gan Dduw i'w wneyd ar y ddaear trwy yr efengyl, cael y dyn yn sanctaidd. Dyma oedd dyben y bwriadau tragywyddol, "fel y byddem sanctaidd a difeius ger ei fron ef mewn cariad." Dyna ddyben dyoddefaint a marwolaeth y Gwaredwr. "Crist, fel y sancteiddiai efe y bobl, a ddyoddefodd y tu allan i'r porth.' A dyma ddyben holl foddion yr efengyl a dylanwadau yr Ysbryd ar ddyn ei gael yn ol i'r un cymeriad a'r rhai sy'n cylchynu yr orseddfaine lân fry.

5. Eu dwyn yn un teulu, yn un gymdeithas, ac i'r un lle. Pan y byddo y gwaith grasol wedi ei orphen, ceir gweled rhyw dyrfa hardd o'r hil ddynol yn cyfansoddi yr un tylwyth, yn yr un byd dysglaer, ac yn mwynhau yr un cyffelyb ddedwyddwch a'r angelion hyny y rhai a gadwasant eu dechreuad—ac felly y byddant byth yn ddi-fai ger bron gorseddfainc Duw. Cafodd Ioan olwg arnynt fel "pedair mil a saith ugeinmil" o bob llwyth o Israel, ac o'r cenedloedd, yn "dyrfa na ddichon neb eu rhifo," wedi "dyfod allan o wlad y cystudd mawr," ac "wedi golchi eu gynau a'u canu yn ngwaed yr Oen." O, ddedwyddwch y rhai a unir yn y teulu mawr hwn!

II. Cyfrwng yr uniad hwn, neu y Person yn yr hwn y dygir hyn oddiamgylch. Y mae , pwys mawr yn cael ei roi ar hyn y mae yn cael ei enwi ddwy waith yn y testyn, "Fel yn ngoruchwyliaeth, &c., y gallai grynhoi yn nghyd yn Nghrist," &c., a thrachefn, "ynddo ef." Mae holl ymresymiad yr apostol trwy y benod hon fel rhyw gadwyn auraidd, modrwy yn cydio mewn modrwy, ac oll yn Nghrist Iesu—fel y gall y darllenydd ganfod wrth ddarllen y benod o adnod i adnod. Enwir ef yn fynych ddwywaith yn yr un adnod. Ond sylwn,

1. Yr oedd nef a daear megys wedi cyd-gyfarfod yn mherson Crist―dwyfoliaeth a dynoliaeth wedi ymbriodi ynddo yn yr un Person gogoneddus. Yr oedd yn dal yr un agos berthynas â'r ddaear ac â'r nef. O ran ei Dduwdod, yr oedd yn ogyfuwch a'r Tad tragywyddol yn mhob priodoledd a theilyngdod; ac ar yr un pryd yr oedd yn ddyn, yn meddu teimladau dynol; "Yn gymaint a bod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfranog o'r un pethau." Felly yr oedd yn Berson addas i nef a daear gydgyfarfod ynddo.

2. Trwy rinwedd yr iawn a wnaeth efe dros ein camweddau y cafwyd modd i godi dyn i sefyllfa ddedwydd teulu y nef. Yr oedd dyn trwy bechod wedi haeddu cael ei gau i fyny yn y carchar tragywyddol gyda'r diafol a'i angelion. Ond fe gafwyd modd i faddeu ei feiau ar dir edifeirwch, a chafwyd modd i'r Ysbryd tragywyddol weithredu trwy yr efengyl arno nes ei gael yn bur.

3. Trwy ddylanwad geiriau Crist mewn cysylltiad â gweinidogaeth ei Ysbryd y dygir hyn oddiamgylch. Cyhoeddi Crist yn Waredwr i'r byd yw y moddion i'w achub. Efe sydd i fod yn destyn ein gweinidogaeth —Crist yn ei berson a'i athrawiaeth, ei waith a'i ddyoddefiadau drosom—Crist yn ei deilyngdod a'i rinweddau, &c.; a chymell pawb i wneyd derbyniad o hono ac ufuddhau iddo; ac mewn cysylltiad â phregethu Crist yn ffyddlon a mynegu ei rinweddau trwy fucheddau teilwng y rhai a'i carent, y mae genym addewid o ddylanwadau a gweinidogaeth ei Ysbryd. "Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith," &c.

4. Dygir hyn oddiamgylch trwy ddylanwadau esiampl Crist. Fe ddaeth Crist i'r byd, nid yn unig i wneyd iawn dros bechod—dyna yn ddiau oedd y dyben penaf―ond fe ddaeth hefyd i roddi "esiampl i ni fel y canlynem ei ol ef." Fe ddaeth i ddangos i ni pa fath rai yw teulu y drydedd nef. Os mynech wybod pa ryw fath fodau sanctaidd sydd yno, edrychwch ar Fab Duw o Bethlehem i Galfaria—edrychwch ar ei sel dros dy ei Dad, ei burdeb di—frycheulyd, ei larieidddra, ei gariad, &c. Edrych arno trwy ffydd a byw yn ei gymdeithas ydyw un o'r moddion effeithiolaf i gael dyn yn ol i ddelw teulu y nef.

5. Trwy effeithioldeb eiriolaeth Crist drosom yn y nef. Mae pwys mawr yn cael ei osod yn yr Ysgrythyrau ar eiriolaeth Crist drosom fry. Mae'n eiriol dros arbediad y ddynoliaeth. "Gad ef y flwyddyn hon hefyd," &c. Y mae yn byw bob amser i "erfyn dros y saint"—dros eu gwaredigaethau, dros eu cynaliaeth, eu hadferiad o wrthgiliadau, a'u perffeithiad yn y diwedd mewn gogoniant, fel y caffont fod lle y mae efe, i'w weled yn ei ogoniant, a bod yn debyg iddo.

6. Bydd y cyfan yn terfynu yn nyrchafiad Crist fel canolbwynt serchiadau a chlodforedd saint ac angelion. Mae aberth Crist drosom ni wedi effeithio yn fawr yn ddiau ar ddedwyddwch angelion Duw—pa mor fawr nis gallwn esbonio yn awr, ond cawn wybod yn well ar ol hyn. Bydd y teulu yn un yn rhoi y clodydd tragywyddol i Dad, Mab ac Ysbryd, a'r cyfan trwy ac yn nghyfryngdod Crist Iesu. A phan ddelo y teulu yn nghyd, o'r nef a'r ddaear, ceir gweled y pryd hwnw yn fwy eglur nag y gallwn ganfod heddyw pa fodd y crynhowyd yr holl bethau yn y nefoedd ac ar y ddaear "ynddo ef."

III. Y cyfnod neu yr amser y byddai i hyn gael ei ddwyn oddiamgylch, "Fel yn ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd y gallai," &c.

Wrth yr amseroedd hyn yn ddiau y golygir goruchwyliaeth a thymor yr efengyl—yr holl dymor, mewn ystyr, o roddiad yr addewid gyntaf hyd floedd yr archangel—ond yn arbenigol, y tymor presenol, yr oruchwyliaeth ddiweddaf o weinyddiad cyfamod grasol Duw tuag at ddyn, sef o ddyddiau ymddangosiad Crist yn y cnawd hyd ei ail ymddangosiad ar gymylau y nef. Dyma "oruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd." Sylwn yma,

1. Fod yr holl amseroedd blaenorol i ddyddiau Crist yn rhag—barotoawl i'r cyfnod hwn. Dyna oedd Duw mawr yn wneyd trwy yr holl oesoedd, parotoi y byd i dderbyn ei Fab—dyna a wnaed trwy yr aberthau cysgodol, trwy weinidogaeth y prophwydi, a thrwy farnedigaethau â pha rai y darostyngwyd teyrnasoedd uchelfrydig ac annuwiol—hyny oedd mewn golwg o hyd, parotoi y byd i orchwylion pwysig y cyfnod presenol.

2. Fe ymddangosodd Crist yn y cnawd yn yr amser mwyaf priodol—"yn nghyflawnder yr amser"—"Crist mewn pryd, a fu farw dros yr annuwiol "—pan yr oedd pob moddion arall er gwellhau y byd wedi ei brofi yn annigonol, a'r byd wedi addfedu i ddinystr, a'r diafol yn dywysog arno, yn meddianu cyrph dynion yn gystal a gweithio ar eu meddyliau, nes oedd y byd mor addfed i farn ag ydoedd yn nyddiau'r dylif mawr yn yr adeg hono danfonodd Duw ei Anwyl fab iddo, a gosododd foddion mewn gweithrediad i achub, ac nid i ddamnio y byd.

ADDYSGIADAU.

1. Gwelwn fod yn rhaid i ryw waith mawr gael ei wneyd ar gyflwr dyn cyn y bydd yn gymwys i gael ei le yn mhlith teulu y nef, "Na ryfedda ddywedyd o honof fi wrthyt, y mae'n rhaid eich geni chwi drachefn." "Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o'r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw." Mae llawer yn byw yn y byd hwn, fel pe byddent yn dysgwyl i ryw oruchwyliaeth ddyeithr o eiddo angeu eu cymwyso i'r nef. Gwylia, enaid, rhag dy dwyllo dy hun yn hyn. "Yr hwn sydd yn hau i'r cnawd, o'r cnawd a fed lygredigaeth, a'r hwn sydd yn hau i'r Ysbryd, o'r Ysbryd a fêd fywyd tragywyddol."

2. Gwelwn anogaeth gref i ddychwelyd at Dduw trwy ffydd yn Nghrist, ac i ymofyn am le gyda ei deulu ef ar y ddaear. Pwy a unir â theulu y nef, meddych chwi, ond y rhai a unir, a hyny yn wirioneddol, â theulu Iesu ar y ddaear. Meithrinwn gariad cynes at deulu Duw yr ochr hon, ac ymbiliwn am gael ein cymhwyso i gael lle yn eu plith pan y byddant wedi eu perffeithio yn Nghrist Iesu.