Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Gweinidogaeth Dr. Everett yn Ninbych
← Bywyd Boreuol Dr. Everett hyd ei Ddyfodiad o'r Athrofa | Cofiant y diweddar Barch Robert Everett gan David Davies (Dewi Emlyn) |
Bywyd, Gweinidogaeth a Llafurwaith Dr. Everett yn yr Unol Dalaethau → |
PENNOD II.
Gweinidogaeth Dr. Everett yn Ninbych.
Amser o bryder i efrydydd ieuanc yw yr amser pan fyddo tymor ei efrydiaeth yn tynu at y terfyn, ac yntau yn dechreu meddwl am ddyfodol ei fywyd, ac yn ymchwilio am faes i lafurio arno. Os na fydd meusydd yn ymagor o'i flaen, teimla yn wangalon; ond os bydd amryw feusydd yn ei wahodd atynt, teimla yn bryderus gyda golwg ar ddewis y mwyaf priodol o honynt. Pan oedd Everett oddeutu gorphen ei efrydiaeth yn Ngwrecsam, cafodd gynyg i fyned yn gyd-athraw â Dr. George Lewis, yr hyn a brawf ei fod yn ysgolhaig gwell na'r cyffredin. Nis gwyddom beth oedd ei resymau dros wrthod y cynyg hwnw, ond dichon fod ei wyleidd-dra a'i dyb isel am dano ei hun wedi bod yn help i hyny; neu fe allai fod ei awydd i bregethu yr efengyl mor gryf fel na fynai droi oddiwrth hyny at ddim arall. Hefyd cynygiodd rhyw wr boneddig ddwyn ei draul yn un o brif athrofeydd Scotland, a dywedir iddo edifarhau yn ol llaw na fuasai wedi derbyn y cynyg hwnw. Ond pe gwnaethai hyny, ni fuasai yn debyg o fod yn dad ac yn arweinydd i'w enwad yn America, yr hwn gylch yr oedd Rhagluniaeth yn ddiameu wedi ei fwriadu iddo, a'i addurno a'i gyf addasu â chymwysderau neillduol ar ei gyfer. Tua'r un amser cafodd alwad o eglwys Dinbych. Yr oedd hono yn hen eglwys wedi ei sefydlu rywbryd cyn 1675. Yr oedd y dref a'i hamgylchoedd yn lle hynod o swynol a phrydferth. Yr oedd yntau yn gyfarwydd a'r bobl, a hwythau yn gyfarwydd ag yntau, oddiar pan fu yno yn yr Ysgol Ramadegol. Felly yr oedd yn naturiol fod gan alwad eglwys Dinbych atdyniad neillduol i'w feddwl. Derbyniodd yr alwad, ac urddwyd ef yno yn mis Mehefin, 1815. Ymddengys fod ychydig o gam-ddealltwriaeth o barthed i ddydd ei urddiad. Yn Hanes Ymneillduaeth gan Morgan, ac yn hanes eglwys Dinbych gan B. Williams, ei diweddar weinidog, ond yn bresenol o Canaan, ger Abertawy, dywedir iddo gymeryd lle Mehefin 1af; ond yn llythyr Mr. Everett ei hun yn mhen haner can’ mlynedd ar ol hyny, dywedir iddo gymeryd lle y 4ydd neu y 5ed o'r mis. Nid ydym yn gwybod enwau y rhai fu'n gweinyddu yn ei urddiad. Dywedir nad oedd yr eglwys mewn sefyllfa lewyrchus iawn pan aeth ef yno; ond yr oedd yn barchus ac yn hen. Dywed Caledfryn, brod or o Ddinbych, "Yr wyf yn cofio yr edrychid ar aelod au yr eglwys yno, tua haner can’ mlynedd yn ol, fel hen lanwyr parchus, hynod lym dros eu trefniadau a'u ffurfiau, ond yn bur sychlyd. Nid oeddynt yn plygu fawr gyda'r oes, pan oedd achos y Methodistiaid yn dân a lluched i gyd. Yr oedd cryn wrthwynebiad yn rhai o honynt i orfoleddu. Gadawodd amryw y lle ac aethant at y Methodistiaid yn amser Mr, Llwyd, mewn canlyniad i hyny. Yr oeddent hwy am gael eu defod au fel gwyr y llan yn barchus (respectable) heb roddi nemawr ryddid i'r teimladau dori dros y llestri."
Sylwa Dr, R. Gwesyn Jones, "Gallwn feddwl oddi wrth deithi meddwl Mr. Everett, yn gystal a'r hyn a glywais am dano, fod ynddo gymwysder neillduol i fyned i Ddinbych ar y pryd. Yr oedd yn ddigon pwyllog a boneddigaidd i beidio dychrynu y rhai oedd ent yn anfoddlon i orfoleddu, tra yr oedd yn ddigon miniog, bywiog a gwresog i'w deffroi o'u cysgadrwydd, a chynhyrfu eu cydwybodau i fwy o weithgarwch a sel. Mae y Parch. R. Thomas, Bala, yn nghofiant Mr. Jones, Dolgellau, yn dyweyd fod pregethau Everett, fel yr eiddo Williams o'r Wern, yn bachu yn nghalonau y gwrandawyr, nes y byddent yn methu cael ymwared oddiwrthynt."
Awst 28, 1816, aeth Mr. Everett i'r sefyllfa briodasol gyda Miss Elizabeth Roberts, ail ferch Mr. Thomas Roberts, o Rosa, yn agos i Ddinbych, yr hon a fu yn ymgeledd dyner a rhagorol iddo am agos i dri ugain o flynyddau, ac a fu byw dair blynedd ar ei ol.
Traetha Dr. Gwesyn Jones am amser gweinidog aeth Mr. Everett yn Nghymru fel hyn: "Yr oedd yn adeg gynhyrfus ar y weinidogaeth yn Ngogledd Cymru pan aeth Everett i Ddinbych. Yr oedd cewri o'i gwmpas y dyddiau hyny. Yr oedd Williams o'r Wern yn nghanol ei nerth yn gymydog agos iddo; John Roberts, Llanbrynmair; Michael Jones, Llanuwchlyn; Cadwaladr Jones, Dolgellau; Hughes, Dinas Mawddwy; Arthur Jones, Bangor, a Morgans, Machynlleth, o hyd galw. Yr oedd amryw o honynt wedi bod dan addysg y naill neu y llall o'r ddau Lewis, dynion mawr a dysgedig iawn, y rhai a adawsant eu hol ar Gymru hyd heddyw. Yr oeddynt oll dan ddylanwad Dr. Edward Williams, gweithiau yr hwn oeddynt y pryd hwnw yn bur newydd, ac yn tynu sylw mawr gan feddylwyr Lloegr, Scotland a Chymru."
Yr oedd cymdeithasu â dynion o'r fath alluoedd, athrylith, ac ysbryd cyhoeddus, a chydlafurio â hwynt yn y cyrddau mawrion, yn foddion grymus i symbylu Ac ei feddwl, a chynhyrfu ei egnion i'r man eithaf. fel prawf o effeithioldeb y cyfryw ddylanwad, gellir dywedyd iddo ddyfod allan i sylw y wlad, ar unwaith, fel un o gedyrn y weinidogaeth, a chymeryd ei safle yn rhes flaenaf enwogion y pwlpud cyn ymadael a Chymru.
Tua dechreuad y ganrif hon yr oedd y Wesleyaid wedi dyfod i Ogledd Cymru, ac yn mrwdfrydedd cyntaf eu tarawiad allan ymosodent yn egniol ar Galfiniaeth yr enwadau Ymneillduol oedd yno o’u blaen; ac ymosodai y rhai hyny yn ol gyda llawer o bybyrwch arnynt hwythau. Gweithiodd y rhyfelgyrch hwn rai dospeirth yn mhellach i dir Uchel-Galfiniaeth nag yr oeddynt o'r blaen. Ond amryw o brif weinidogion yr Annibynwyr, y rhai oeddynt yn gyfarwydd a golygiadau Edward Williams ac Andrew Fuller, a deimlent yn anfoddlon i'w henwad gael ei wthio i'r tir hwnw, Canfyddent fod hyny yn rhoddi mantais ddirfawr i Arminiaeth weithio ei ffordd. Credent fod yr hyn a elwir Calfinaeth Gymedrol, neu a adwaenir yn y wlad hon wrth yr enw Duwinyddiaeth Lloegr Newydd, a Duwinyddiaeth New Haven, yn fwy cyson â'r Ysgrythyrau; a chyhoeddasant eu golygiadau o'r areithfaoedd a thrwy y wasg. Ya 1816 cyhoeddodd J. Roberts, Llanbrynmair, ddau lythyr ar ddybenion marwolaeth Crist, ac yn 1819 cyhoeddwyd beirniadaeth arnynt gan Thomas Jones o Ddinbych. Mewn atebiad i hwnw cyhoeddodd J. Roberts sylwadau pellach ar y mater, ac yn niwedd y llyfryn hwnw yr oedd ysgrif ar Iawn Crist gan Williams o'r Wern; ar Nad all Anghrediniaeth dyn ddim gwneyd Trefn Duw yn Ofer, gan Morgans, Machynlleth; ar y Cysylltiad sydd rhwng Iawn Crist a Llywodraeth Jehofa, gan Michael Jones, Llanuwchlyn; ar yr Ewyllys Ddwyfol, gan Griffiths, Tyddewi; ar Alwad yr Efengyl, gan Breese, Liverpool; ar Brynedigaeth, gan Everett, Dinbych; ac Ol-ysgrif gan Jones, Dolgellau. Gelwid y llyfr hwn "Y Llyfr Glas," oblegid fod amlen o bapyr glas am dano, a gwnaeth gynhwrf mawr yn y wlad. Byddai llawer yn curo, ac yn drwgliwio ei awdwyr fel Arminiaid a chyfeiliornwyr, ond gweithiodd ei egwyddorion eu ffordd nes enill cymeradwyaeth y dosparth mwyaf meddylgar yn y Dywysogaeth. Heblaw y rhan a gymerodd Dr. Everett yn nygiad yn mlaen ddadleuaeth dduwinyddol ar y pynciau yna, cymerodd ran hefyd yn nygiad allan y Dysgedydd fel cyhoeddiad misol i'r enwad. Teimlodd amryw o weinidogion fod arnynt angen cyfrwng i amddiffyn eu hunain rhag cam-ddarluniadau ymosodwyr, ac i oleuo meddyliau y cyhoedd ar brif athrawiaethau yr efengyl.
Mewn cyfarfod yn Ninbych, Tach. 1, 1821, ymrwymodd deuddeg o honynt i ddwyn y Dysgedydd allan. Saif eu henwau wrth y cytundeb yo y drefn ganlynol: D. Jones, Treffynon; D. Morgans, Machynlleth; Robert Everett, Dinbych; Cad. Jones, Dolgellau; W. Williams, Wern; John Evans, Beaumaris; Benjamin Evans, Bagillt; D. Roberts, Bangor; Robert Roberts, Treban; Edward Davies, Rhoslan; John Roberts, Llanbrynmair, a William Hughes, Dinas. Yn ystod ei arosiad yn Nghymru cyhoeddodd Dr. Everett gynllun o law fer Gymreig. Dywed y Parch. S. Roberts am dano, "Yn ol ei anogaeth dysgais y cynllun hwnw, a bu ei gymelliad i mi ei dysgu a'i harfer, yn gymorth mawr i mi drwy fy holl oes—dichon o fwy o les i mi na'r holl mathematics ag y bum yn ymboeni gyda hwy." Cyhoeddodd hefyd yr Addysgydd, neu y Catecism Cyntaf. Y mae lluaws o argraffiadau o hwnw wedi eu dwyn allan ar ol hyny yn Nghymru ac America, ac y mae yn parhau yn dderbyniol iawn o hyd.
Adrodda S. Roberts yr hanesyn nodweddiadol a ganlyn am Dr. Everett pan oedd yn Nghymru: "Yr oedd Dr. Everett yn un a fedrai ymfeddianı gyda thawelwch mewn adegau o gynhwrf ac o berygl. Pan oedd unwaith yn croesi afon Caer wrth ddychwelyd o Gymanfa yn Liverpool, gyda mintai o'i gyd-weinidogion, yr oedd y gwynt yn ysgwyd eu cwch yn arswydus, a'r tonau yn ymluchio drasto yn ddiorphwys, nes oedd y rhwyfwyr mewn dychryn y darfyddai am danynt. Yr oedd yr hen John Roberts a Williams o'r Wern, a Jones, Treffynon, a'r brodyr eraill oeddynt yno, yn ymwasgu at eu gilydd i gyd-weddio am nawdd ac arbediad, os oedd gan y Meistr mawr ryw waith yn ychwaneg iddynt wneyd drosto. Yr oedd Dr, Everett hefyd yn gweddio, ond yr oedd heblaw hyny yn eistedd yn dawel at ei haner mewn dwfr, yn nghanol gwaelod y cwch, lle yr oedd eisiau ychwaneg o ballast, er ei gadw rhag troi ar ei ochr." Dylasai y brodyr ereill yr un modd gofio fod eisiau ballastio y cwch yn gystal a gweddio; ond yr oeddynt wedi dychrynu ac ymwylltio gormod i feddwl am hyny.
Tystiolaeth Mr. Morgans yn Hanes Ymneilltuaeth, am gysylltiad Everett ag eglwys Dinbych sydd fel hyn: "Llafuriodd yma oddeutu wyth mlynedd gyda llwyddiant mawr a chymeradwyaeth gwresog yr eglwys. Enillod Mr. Everett air da a derbyniad parchus yr holl eglwysi a'i hadwaenent yn y Dywysogaeth." Fel y canlyn y dyweda Mr. Williams yn hanes eglwys Dinbych am weinidogaeth Mr. Everett yno: "Nid oes ond un dystiolaeth i'w rhoddi am Mr. Everett fel dyn, Cristion a gweinidog. Yr oedd wedi enill iddo ei hun safle gynes iawn yn nghalonau ei bobl, a safai yn uchel iawn yn marn y cyhoedd. Meddai alluoedd cryfion, a dawn ymadrodd rhwydd; a phe cawsai aros yn y wlad hon, mae yn sicr y buasai yn un o gewri yr areithfa Gymreig. Bendithiodd Duw ei lafur i raddau helaeth iawn, fel yr ychwanegodd y gynulleidfa, ac y cynyddodd rhif yr eglwys yn fawr. Yr oedd iddo air da gan yr holl saint, a cherid ef yn anwyl gan bawb a'i hadwaenai. Symudodd oddiyma i'r America yn 1823."
Yr oedd Dr. Everett yn ystod wyth mlynedd ei arosiad yn Ninbych wedi dringo i safle uchel yn ngolwg y wlad fel un o'r pregethwyr mwyaf galluog a phoblogaidd. Byddai ei bregethau yn cario dylanwad rhyfeddol ar y cynulleidfaoedd. Safai yn agos iawn i Williams o'r Wern mewn poblogrwydd pregethwrol, ac mewn dysgeidiaeth yr oedd lawer yn uwch. Bu son mawr am ei bregeth yn Nghymanfa Llanbrynmair yn 1815, sef blwyddyn ei urddiad, ar y geiriau, "O! frodyr, gweddiwch drosom." Nid oedd yn anadnabyddus yn y Deheudir chwaith. Cof genym i ni glywed Mr. John Morgan, Bron Iwan, hen flaenor yn Hawen, yr hwn oedd yn fath o wyddoniadur gyda golwg ar hanes yr Annibynwyr yn yr haner cyntaf o'r ganrif hon, yn siarad am bregeth odidog a glywodd ganddo mewn Cymanfa rywle yn y Deheudir. Dywedai ei fod yn "electrifeio y gwrandawyr yn rhyfedd."
Yn y flwyddyn 1823, cafodd Dr. Everett alwad i ddyfod drosodd i fugeilio eglwys Gynulleidfaol Gymreig Utica, Efrog Newydd. Yr oedd dau o'i frodyr- yn-nghyfraith yn byw yno, ac yn ei wahodd yn daer i gydsynio a'r alwad. Bu yr ymgais i'w gael yn llwyddianus, a daeth ef a'i deulu drosodd y flwyddyn hono, er colled i Gymru, ac er enill mawr i America. Ysgrifenai J. Roberts, Llanbrynmair, dan y dyddiad Mai 31, 1823, at ei frawd, George Roberts, Ebensburgh, Pa.: "Yr wyf yn hyderu y bydd dyfodiad. Mr. Everett i America o fawr les. Y mae yn weinidog gwerthfawr iawn, a gobeithio yr helaethir ei ddefnyddioldeb." Dywedai S. Roberts: "Yr wyf yn cofio fod teimladau o alar drwy eglwysi y Gogledd pan y deallaşant am ei fwriad i ymfudo i'r Unol Dalaethau."