Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Pob Dyn yn Ddiesgus

Swyddogaeth Eglwys Crist Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Dyfyniadau o Bregeth

POB DYN YN DDIESGUS.

DYFYNIADAU O BREGETH YN NGHYMANFA CARBONDALE YN 1846.

Ioan 15: 22, 'Ond yr awr hon nid oes ganddynt esgus am eu pechod."

Llefarwyd y geiriau hyn gan ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn, mewn symledd ac awdurdod, ydoedd yn llefaru megys na lefarodd dyn erioed. Yr hyn y mae ein Hiachawdwr bendigedig yn sefyll arno yma ydyw, dangos euogrwydd mawr ac echryslonrwydd aethus cyflwr y rhai hyny ag oeddynt yn byw dan yr efengyl a than ei weinidogaeth ef fel anfonedig y Tad, heb ymostwng i'r efengyl a'i defnyddio fel moddion eu hiachawdwriaeth. "Oni b'ai fy nyfod a lefaru wrthynt ni buasai arnynt bechod;" hyny yw, ni buasai arnynt bechod mewn cydmariaeth i'r peth sydd yn awr. "Ond yr awr hon nid oes ganddynt esgus am eu pechod." "Mae fy nyfodiad i i'r byd, fel Ceidwad dyn ac eglurder yr oruchwyliaeth wedi eu gosod mewn sefyllfa nad oes bellach un esgus ganddynt dros bara yn annuwiol a bod yn golledig."

Yr athrawiaeth yr wyf yn sefyll arni ar sail y geiriau hyn ydyw, Fod pob dyn dan yr efengyl—ïe, pob un yn nghyraedd swn yr efengyl, ac heb blygu iddi—yn myned yn mlaen tua gwlad y gwaeau tragywyddol yn gwbl ac yn hollawl ddiesgus am ei bechod, ac yr ymddengys ei achos felly yn y farn a ddaw. Ar yr

un mater difrifol hwn y mae fy mwriad i sefyll dros ychydig fynydau.

1. Y peth cyntaf a enwir i brofi yr athrawiaeth ydyw, uniondeb a daionus natur cyfraith yr Arglwydd.

Gan osod o'r neilldu am fynyd yr ystyriaeth o'r efengyl, edrychwn ar ddyn fel deiliad noeth o ddeddf foesol Duw. Pe na buasai gair o efengyl wedi ei gyrhaedd erioed, yn ei berthynas â'r ddeddf foesol yn holl fanylrwydd a phurdeb ei gofynion, y mae yn ddiesgus. Nid yw deddf Duw yn gofyn dim sydd yn orthrymus. Mae hi yn gofyn i ti garu Duw a'th holl galon, a'th holl feddwl ac â'th holl nerth, a'th gymydog fel ti dy hun, Dyma ofyn yr hyn nas gellid peidio ei ofyn a bod yn gyfiawn. Mae Duw yn deilwng o'i garu â'n holl galon, a'n cymydog yn deilwng o'i garu fel ni ein hunain. Nid gofyn i ti ei garu a'i wasanaethu â galluoedd angel y mae; ond â'r galluoedd hyny ag y mae efe wedi dy gynysgaeddu a hwynt, a hyny yn ddiffuant, yn ffyddlon, yn mhob lle ac ar bob achlysur, am amser a thragwyddoldeb. Dyna ofyn (dywedwn eto) yr hyn nas gellid peidio ei ofyn a bod yn gyfiawn.

Mae y ddeddf hon hefyd yn ddeddf ddaionus, "y gorchymyn sydd gyfiawn, a sanctaidd a da." Nid yw yn gofyn dim ond sydd yn cyd—fyned â'n dedwyddwch penaf; nefoedd yw ufuddhau iddi, uffern yw peidio. Pe buasai yr Arglwydd, wrth ffurfio ei ddeddf foesol, wedi gwneyd lles a chysur ei greadur rhesymol fel ei brif ddyben, a phe buasai fel Tad doeth a thyner yn rhoi allan yn unig y cyngor goreu iddo, tuag at fod yn ddedwydd, nis gallwn dybied am un llwybr gwell i'w gyngori, na'i orchymyn i garu ei Greawdwr a'i Lywodraethwr daionus "â'i holl galon, â'i holl feddwl a'i holl nerth," a'i gymydog "fel ef ei hunan.” Nis gall un bôd rhesymol yn un rhan o'r bydysawd fod yn ddedwydd heb gydymffurfio â'r cyfryw ddeddf. Gadewch i'r bôd uchaf ei anrhydedd a helaethaf ei ddedwyddwch yn nghanol y nef ac yn ymyl yr orsedd, lochesu yn ei fynwes am eiliad falais a llid at ei Greawdwr, neu ddigofaint at ei gyd—greadur, a throai y nefoedd yn uffern iddo yn y fan; a phe gallai, o'r tu arall, un o deulu glân y gogoniant, yn llawn parch sanctaidd i Dduw a chariad teilwng at ei gyd—greaduriaid, basio trwy ororau tanllyd y fagddu dragywyddol, wrth gyflawni gorchymynion ei Arglwydd, ni ddeifiai y tân ei wisgoedd ac ni anmharai y golygfeydd dychrynllyd ar ei berffaith ddedwyddwch. Cydymffurfiad â'i gofynion a'n gwna yn ddedwydd yn mhob lle. Felly y ddeddf unionaf, a'r ddeddf oreu, er ein dedwyddwch, yw deddf yr Arglwydd, a allasai gael ei ffurfio. Fel deiliad noeth o ddeddf foesol Duw, gan hyny, mae dyn yn gwbl ddiesgus am ei bechod. Ac ar y tir yma, mae holl ellyllon uffern yn ddiesgus, a byddant felly am byth.

2. Mae dyn yn ddiesgus, o herwydd fod darpariaeth ddigonol wedi ei gwneyd ar gyfer ei iechydwriaeth. Nid yn unig buasai yn ddiesgus ac yr oedd felly, fel deiliad deddf noeth, ond y mae yn ddiesgus fel deiliad moddion adferiad, neu fel un wedi cael ail gynyg am fywyd ar ol ei golli.

Mae y ddarpariaeth sydd yn Nghrist yn anfeidrol ddigonol ynddi ei hun ar gyfer pob dyn o fewn terfynau gobaith. Yr hyn sydd yn profi fod y ddarpariaeth yn ddigonol ar gyfer pawb yw y ffaith ei bod felly ar gyfer rhai. Os gellir profi fod Crist yn ddigonol i un pechadur ar y ddaear, y mae yn ddigonol i bob pechadur ar y ddaear, oblegid yr un yw cyflwr pawb. Nid rhanu Crist a wneir. Pe rhanu fuasai yn bod, un yn cael rhan o'i rinwedd, ac arall ran, &c., gallesid dychymygu i'r rhinwedd ddarfod, er na allai hyny fod gan ei fod yn anfeidrol ac yn "anchwiliadwy" olud. Ond nid felly y mae; rhaid i bob un gael Crist yn gyflawn iddo ei hun, ac eto yr un yw yn ddilai fel Iachawdwr y byd. Golygwn fod rhyw glefyd angeuol yn cymeryd lle mewn cymydogaeth—a meddyg medrus yn gosod ei swyddfa i fyny ac yn cyhoeddi ei gyfferi meddygol yn anffaeledig. Byddai eisiau holl ddoethineb y meddyg a holl effeithiolaeth ei foddion i gael un claf yn iach, aceto nid yw ei ddoethineb yn llai, nac effeithiolaeth y moddion yn llai i bwy bynag a ymddiriedo ei achos i'w law.

Mae iawn Mab Duw yn gyfryw mewn gwiwdeb a gwerth ag y mae yn anhawdd, hyd yn nod mewn dychymyg, ychwanegu ato na thynu oddiwrtho. Meddyliwn am fynyd am anfeidrol urddasrwydd Person y Gwaredwr—perffeithrwydd ei ufudd-dod—a pherffeithrwydd y dyoddefiadau a ddyoddefodd. Person uwch ei urddasrwydd a'i ogoniant nid oedd i'w gael, neb llai ni buasai yn ateb―ufudd—dod gwell a pherffeithiach nid oedd yn gyraeddadwy, a llai ni buasai yn gwneyd y tro—dyoddefaint perffeithiach nid oedd i'w gael, a llai ni buasai yn ateb; rhoddodd ei einioes gwerthfawr i lawr, ac nid oedd einioes gwerthfawrocach yn bod; dyoddefodd hyd angau, ïe angau'r groes; dyoddefodd angau yn ei gorph, a dyoddefodd angau mewn ystyr yn ei enaid, a chyda y priodoldeb mwyaf gellir dyweyd mai dyoddefiadau ei enaid oeddynt enaid y dyoddefiadau. Yn awr, i wneyd iawn digonol dros un camwedd un dyn, ni buasai Person llai ei urddasrwydd a'i fawredd dwyfol yn ateb—nac ufudd—dod llai o'i eiddo na pherffaith ufudd-dod—na llai aberthiad nag aberthiad cyflawn o'i werthfawr fywyd. Ac i'r dyben o gael ffordd anrhydeddus i achub "pwy bynag gredo ynddo" o'r holl hil ddynol, nid oedd eisiau uwch urddasrwydd yn y Person a ddyoddefodd, nac ufudd-dod perffeithiach, na bywyd perffeithiach i'w aberthu. Nid diffyg darpariaeth mewn iawn, gan hyny, a fydd yn achos o golledigaeth neb, ond gwrthodiad gwirfoddol o'r ddarpariaeth a wnaed.

3. Mae y pechadur yn ddiesgus, oblegid fod y ddarpariaeth a wnaed trwy Iesu Grist wedi ei bwriadu mewn cyngor tragywyddol i fod y peth yw mewn helaethrwydd a digonolrwydd.

Dyma sydd gan rai yn esgus dros barhau yn anghrefyddol ac yn anmhlygedig i'r efengyl, maent wedi dychymygu nad oedd dim yn y bwriad a'r cyngor tragywyddol ar eu cyfer hwy. "Nid wyf yn ameu," medd y dyn, "nad oes digon yn Nghrist ar gyfer fy math i, ac nad yw yr aberth ynddo ei hun yn ddigonol; ond yr wyf yn ofni na fwriadwyd dim ar gyfer fy iechydwriaeth, ac er nad oes cyfyngu wedi bod yn rhinwedd yr aberth, eto fod cyfyngu wedi bod yn y bwriad." Mewn atebiad i'r wrthddadl hon, yr hyn yw y maen tramgwydd ar ffordd llawer, nid wyf yn dyweyd nad oedd gan yr Arglwydd, ac nad oes ganddo yn holl weithredoedd ei ragluniaeth, olwg neillduol, oddiar oruchel benarglwyddiaeth ei ras, ar y rhai sy'n credu yn ei Fab er iechydwriaeth; ond yr hyn y sylwyf arno yw nad oes yma ddim lle i un dyn ymesgusodi am barhau yn anmhlygedig i alwad yr efengyl. Sylwn ar ddau beth yn fyr yn y fan hon:

(1.) Nid bwriad dirgeledig Duw (pa beth bynag yw hyny) ydyw ein rheol ni, ond ei ewyllys ddatguddiedig yn ei air ac yn ei ragluniaeth. Felly yr ydym yn gweithredu mewn pethau cyffredin, ac y mae hyny yn addas, ac felly y dylem weithredu yn y pethau a berthynant i iechydwriaeth ein heneidiau anfarwol.

(2.) Gallwn fod yn gwbl dawel, pa faint bynag a allwn ni amgyffred yn ein sefyllfa bresenol am ei fwriad a'i gyngor grasol ef, nad oedd yno ddim yn anghydsefyll â'r hyn a geir yn ei ewyllys ddatguddiedig yn ei air.

Mae dynion i'w cael yn fynych yn wahanol iawn yn eu geiriau a'u gweithrediadau cyhoeddus i'r hyn ydynt yn eu bwriadau a'u cynlluniau dirgelaidd. Pe gellid gweled i mewn trwy ffenestr y fynwes, gellid canfod meddyliau, bwriadau a chynlluniau gwahanol iawn i'r hyn a ymddengys yn y geiriau a'r ymddygiadau allanol. Ond byddai yn annheilwng iawn i feddwl felly am yr Arglwydd. Yr hyn yw efe yn ei air yn gyhoeddus, dyna ydoedd yn mwriad ei galon erioed.

Pa beth bynag, gan hyny, yw cynllun iechydwriaeth fel y mae yn ddatguddiedig yn ngair y gwirionedd, o ran ei helaethrwydd a'i ddigonolrwydd, dyna ydoedd hefyd yn yr arfaeth a'r bwriad tragywyddol. Ewyllys ddatguddiedig Duw yn ei air ydyw y mynegfys (index) goreu i wybod beth oedd yn ei feddyliau tragywyddol, cyn creu dyn nac angel. Os yw cynllun iechydwriaeth, yn ol gair yr Arglwydd, yn cynwys digon ar gyfer pawb, a galwad a'r bawb i gyfranogi fel y byddont cadwedig, gallwn fod yn sicr fod y cynllun yr un mor helaeth yn y meddwl dirgelaidd a'r bwriad tragywyddol. Y gair yw ein rheol ni, ac os yw y gair yn ein gadael yn ddiesgus, yr ydym yn ddiesgus yn wir.

4. Fod deiliaid yr Efengyl yn ddiesgus a ymddengys yn amlwg wrth ystyried goleuni yr oruchwyliaeth yr ydym dani a helaethrwydd ei breintiau.

Mae yn wir fod yr Iuddew dan oruchwyliaeth y cysgodau yn gwbl ddiesgus; goruchwyliaeth ddaionus ac efengylaidd oedd hono, a gellir dyweyd ei bod yr oruchwyliaeth oreu a mwyaf priodol i ddyben mawr ei gosodiad. Er mai "goruchwyliaeth damnedigaeth" ydoedd, ac mai "adgoffa pechodau a wneid ynddi bob blwyddyn, eto yr oedd yn oruchwyliaeth "ogoneddus." Pob oen a offrymid a gyfeiriai yr addolydd at "Oen Duw, yr hwn sy'n tynu ymaith bechodau y byd;" pob dyferyn o waed a dywelltid ar yr allor Iuddewig a ddywedai yn ei iaith fod un diniwed i gael ei offrymu dros yr euog; a'r holl brophwydi a lefarasant am y Siloh, unig obaith pechadur.

Ac yn awr, os oedd yr oruchwyliaeth hono yn ogoneddus, pa faint mwy y mae yr oruchwyliaeth yr ydym ni dani yn rhagori mewn gogoniant." Mae "cyflawnder yr amser" wedi dyfod arnom ni. Duw wedi anfon ei Fab ei hun, wedi ei wneuthur o wraig a than y ddeddf; mae gweithrediadau a dyoddefiadau y Gwaredwr wedi taflu goleu yn ol ar y cysgodau a'r prophwydoliaethau a gerddasant o'r blaen am dano; ac felly y mae yr orchwyliaeth yn fwy goleu, yn fwy tyner, ac yn fwy ysbrydol.

Ac O mor helaeth ein breintiau ni, Gymry, yn y dyddiau presenol! Er na bu neb o honom yn llygaid—dystion o wyrthiau y Gwaredwr, na chlywsom ef yn llefaru ac na welsom ei wedd; eto mae ein breintiau mewn ystyr yn helaethach na'r eiddynt hwy y rhai a'i clywsant ac a'i gwelsant, oblegid y mae yr haul wedi codi yn uwch i'r lan, a'r oruchwyliaeth yn llawer mwy goleu nag ydoedd y pryd hwnw. Maen yn y llwch oedd Iesu Grist y pryd hwnw, ond yn awr y mae wedi ei ddyrchafu yn ben congl faen, &c.; ar y ddaear yr oedd y pryd hwnw mewn sefyllfa o ddarostyngiad, ond y mae yn awr ar yr orsedd, a'r holl nefoedd yn plygu iddo, a phrofion fyrdd wedi eu rhoi mai efe yn wir ydoedd Mab y Duw byw. Mae gair yr Arglwydd genym, ei holl air yn ein iaith gynefin; y weinidogaeth efengylaidd genym yn ei symledd, a'i hawch, a'i melusder; breintiau cyhoeddus a neillduol ty Dduw o fewn ein cyrhaedd; pob rhyddid i fwynhau ein breintiau, heb neb yn gallu ein gorthrymu, ein rhwystro na'n blino, fodd yn y byd! O, pa esgus a allwn ni roi, neb o honom, os yn ol wedi y cyfan y byddwn o gyrhaedd gafael yn y bywyd tragywyddol?

5. Y mynych atalfeydd ag y mae Duw yn gyfodi yn ei ragluniaeth i ddofi y pechadur yn ei rwysg, a'i rwystro ar ei yrfa ryfygus tua'r tân tragywyddol, a ddengys ei gyflwr yn dra diesgus, os yno y myn fyned wedi y cyfan.

Gellir dyweyd yn wir fod holl weithrediadau rhagluniaeth Duw—pa un bynag ai mewn trugaredd ai mewn barn—wedi eu golygu i afrwyddo ffordd y pechadur tua dinystr. Beth yw y trugareddau ond goruchwyliaethau daionus i ystwytho y meddwl cyndyn; beth yw y barnau ond rhybuddion fod rhai mwy i'w dysgwyl, os dilyn a wneir lwybrau pechod? Beth yw yr addysgiadau teuluaidd, y gocheliadau, dagrau mamau a thadau tyner, dros fechgyn a genethod gwylltion a gwamal? Beth yw y gruddfanau a glywir mewn dirgel fanau gan rieni dros eu plant—y gwewyr enaid a deimlir ar eu rhan—ond rhyw wrthgloddiau tyner a gododd Duw i dy rwystro i bechu a bod yn golledig? Beth yw yr ysgol Sabbothol a'i gwerthfawr ddylanwadau? beth yw y Sabboth efengylaidd a'i ordinhadau? y cyrddau cwarterol a'r cymanfaoedd? beth ydynt, meddaf, ond gwrthgloddiau cariad i dy atal yn dy rwysg a'th ryfyg rhag colli dy enaid! Mae yma ddynion yn Carbondale wedi mynu eu ffordd heibio i'r rhagluniaethau mwyaf cyffrous, wedi tori dros gloddiau deddfau Duw, yn mathru ei Anwylfab dan draed, yn beiddio y weinidogaeth fwyaf syml, difrifol ac efengylaidd, ac yn penderfynu (yr wyf yn ofni) i fynu eu ffordd tua'r trueni, heibio i'r moddion goreu a fedd Duw i'w rhwystro! O! gofynaf, a fydd y rhai hyny ddim yn ddiesgus yn y farn a ddaw!

6. Argyhoeddiadau cydwybod ac ymrysoniadau yr Ysbryd ar gydwybodau dynion a ddangosant sefyllfa yr annuwiol dan yr efengyl yn gwbl ddiesgus.

Mae dynion yn wahanol iawn i'w gilydd yn eu golygiadau a'u barnau am waith yr Ysbryd, a llawer o ddychymygion disail yn ddiau yn cael eu coleddu ar y mater hwn. Ond beth bynag yw tybiau dynion am yr hyn a elwir "gweithrediadau cadwedigol yr Ysbryd Glan," mae un peth yn gwbl sicr, hyny yw, nad eisiau dylanwadau nas gellir eu cael, ond yn hytrach cam ddefnyddio y dylanwadau a deimlir, a fydd y gwir achos o golledigaeth y pechadur. "Chwi rai gwar

galed a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi bob amser yn gwrthwynebu yr Ysbryd Glan, megys eich tadau, felly chwithau."

Llawer o ddynion Phariseaidd a hunain—gyfiawn, a gwynant o eisiau dylanwadau mwy grymus o eiddo yr Ysbryd, ac a briodolant yr achos o'u parhad mewn cyflwr anedifeiriol i absenoldeb ei argyhoeddiadau, fel pe byddent hwy i raddau yn ddiesgus o herwydd hyny, pan mewn gwirionedd y maent trwy hir gynefindra â phechod, wedi mygu argyhoeddiadau a gafwyd o'r blaen, a'u cydwybodau eu hunain (fel y dywed yr apostol) wedi eu serio â haiarn poeth. Llawer adeg werthfawr a gafwyd pan oedd yr Ysbryd, trwy y gair a throion rhagluniaethol yn ymryson â'u meddyliau, a thynerwch neillduol yn eu meddianu, ond gwrthodasant yr alwad, caledasant eu gwarau, ac y maent yn awr ar yr ymyl o gael, os nad wedi eu rhoi i fyny i galedwch barnol, a'u damnedigaeth nid yw yn hepian!

Y gwirionedd yw, dylanwad yr Ysbryd yw pob gradd o ddylanwad efengyl, ac nid oes neb sydd dan ei gweinidogaeth nad ydynt wedi teimlo ei dylanwad i ryw raddau. Goruchwyliaeth i'w meithrin ydyw, ac o'i meithrin ni a'i mwynhawn yn helaethach. Nid oes yma un esgus i'r annuwiol am wrthod yr efengyl a bod yn golledig; ond y mae athrawiaeth y Beibl am waith yr Ysbryd yn rhoi yr anogaeth gryfaf i bechadur i droi at yr Arglwydd. Yn lle cwyno ac ymesgusodi mewn diofalwch, ymbil a ddylit bechadur am fwy o deimlad a mwy o dynerwch, ac ymostwng mewn edifeirwch am i ti daflu y sarhad a wnaethost ar ei weinidogaeth trwy esgeuluso ei ddoniau a pharhau cyhyd mewn anufudd-dod.

7. Bydd gweithrediadau cyhoeddus y farn ddiweddaf yn dangos, i'r boddlonrwydd mwyaf i'r holl fydysawd, fod gwrthodwyr yr efengyl yn ddiesgus.

Ni bydd gan neb esgus yn y diwrnod hwnw. Pe byddai esgus sylfaenol yn bod, diameu y gwrandewid ef, ar adeg mor bwysig, gan y Barnwr cyfiawn; ond ni bydd un i'w gael. Pan ddangosir gwir achos y golledigaeth bydd pawb yn fud. Ni bydd gan neb fodd i ddyweyd, "Nid oedd dim yn yr efengyl ar fy nghyfer," neu "nid oedd dim hawl genyf i edrych at aberth y groes, am fod y 'bwriad' wedi fy nghau allan!" O nage, fy enaid gwerthfawr, nid felly; ond y Barnwr a ddywed, a phob cydwybod a adseina i uniondeb y ddedryd, "Yn gymaint ag i mi wahodd, ac i chwithau wrthod," &c. Anfonais fy ngweision atoch, ond ni fynech wrando ar eu llais, daethum i'ch plith yn enw fy Nhad, ond ni fynech i mi deyrnasu arnoch, anfonais fy Ysbryd i ymryson a'ch cydwybodau, ond diffoddasoch ei argyhoeddiadau, “Ewch ymaith, chwi weithredwyr drygioni," &c. Bydd gweithrediadau y farn, a holl ocheneidiau bythol y colledigion o wlad efengyl yn y boenfa dragywyddol yn adlewyrchu goleuni ar yr athrawiaeth bwysig hon, fod pob dyn yn ddiesgus am wrthod yr efengyl a cholli ei enaid!

Yn awr, anwyl wrandawr, a gawn ni lwyddo wrth geisio dy anog i ffoi at Iesu yn y Gymanfa heddyw, fel yr wyt, dan yr euogrwydd mwyaf a'r trueni gwaethaf? Na ddywed, "Mwy yw fy mhechodau nag y gellir eu maddeu." Fe welodd Duw yn dda godi i fyny golofnau coffadwriaeth o'i annhraethol ras, ar wahanol amserau, trwy achub rhai o'r rhai gwaethaf a fuont ar y ddaear erioed. Yn mha le y mae Manasseh? Saul o Tarsus? Yn mha le y mae y Corinthiaid a'u cyffelyb? Maent yn wyn heddyw fel yr "eira yn Salmon," yn dangos fod modd yn angau'r groes i achub y penaf o bechaduriaid.

Mae Duw wedi gorchymyn i'w weision fod yn daer. "Cymell hwynt i ddyfod i mewn fel y llanwer fy nhy." Ar air ein Meistr yr ydym ninau yn ymbil ac yn deisyf ar y dyrfa hon, "Cymoder chwi a Duw." Er mwyn cymaint o werth sydd yn dy enaid, er mwyn gogoniant yr Arglwydd, er mwyn yr annhraethol fraint o ysgoi y digofaint sydd ar ddyfod a chael bod byth gyda'r saint a chyda'r Oen ar fryniau gwynfyd, cwympa, fel yr ydwyt, i law trugaredd, fel y byddech gadwedig. Bydded i ddwyfol fendith ddilyn y gwir i'r dyben hwnw. Amen.