Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Sylwadau ar Brynedigaeth

Gleanings Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Y Ddeddf Foesol

TRAETHODAU A PHREGETHAU.

SYLWADAU AR BRYNEDIGAETH.

Yr wyf yn atolwg dwys ystyriaeth y darllenydd at yr hyn a ganlyn ar athrawiaeth y brynedigaeth. Y mae yn amlwg fod dau fath o brynu yn bod yn mhlith dynion. Un yw, prynu drwy fasnachu, megys prynu tir, anifeiliaid, lluniaeth, &c., drwy roddi uniawn werth am danynt, dim mwy na dim llai. Yr ail yw, prynu yr euog o gaethiwed, drwy roddi iawn drosto i'r gyfraith, a'i ollwng yn rhydd o'i gadwynau ar gyfrif yr iawn. Yn awr y golygiad ysgrythyrol ar brynedigaeth ydyw, personol ryddhad troseddwr oddiwrth ryw ddrwg naturiol neu foesol, ar gyfrif iawn drosto i'r gyfraith. I'r dyben o gael syniadau cywir ar yr athrawiaeth ogoneddus hon, y mae yn ymddangos i mi o'r pwys mwyaf i gadw mewn golwg mai yn gyfeiriol at brynu caethion o'u sefyllfa golledig, ac nid yn yr ystyr fasnachol, y mae yr ysgrythyrau yn darlunio prynedigaeth pechaduriaid drwy waed Crist.

1. Nid dyled o natur fasnachol ydyw pechod, ond peth annhraethol waeth, sef drwgweithred (crime), camwedd neu drosedd o gyfraith, o'r un natur ag y mae y gwrthryfelwr a'r uchel fradwr yn euog o hono pan yn ymgeisio at fywyd eu cyfiawn lywodraethwr. Er y darlunir maddeuant pechod weithiau fel maddeu dyled o arian, Mat. 6: 12; Luc 7: 42; eto nid felly un amser y darlunir pechadur yn ei ansawdd ei hun, nac yn ei berthynas ag aberth Crist,

2. Y mae y golygiad masnachol o roddi gwerth am werth yn arwain yn ddiarbed i gamgymeriadau niweidiol iawn. Y mae yn rhoddi terfyn ar yr hyn sydd annherfynol, sef aberth Crist, yn dadsylfaenu drwy hyny alwad gyffredinol yr efengyl, a dyledswydd pechadur tuag at yr efengyl; yn gosod allan gyfran o ddynolryw mewn gwell cyflwr, ar ol marwolaeth Crist, na "phlant digofaint;" yn gosod o'r neilldu yr angenrheidrwydd o waith yr Ysbryd i'w symud o'r sefyllfa druenus hono; ac yn mawr gymylu ymddygiad gogoneddus y Barnwr yn y dydd olaf tuag at esgeuluswyr iechydwriaeth, yn rhoddi ychwanegol gosp arnynt na neb eraill. Nis gallaf weled lle i ysgoi y camgymeriadau dinystriol hyn, os dilynir prynu masnachol yn ei gywir ganlyniadau.

3. Y mae y geiriau a gyfieithir prynu, prynedigaeth, prynwr, &c., yn cael eu mynych gyfieithu ymwared, gollyngdod, gwaredwr, &c., yr hyn a fyddai yn gwbl anghyson â'r golygiad masnachol. Lef. 27: 29, "Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail," &c. Salm 111: 9, "Anfonodd ymwared i'w bobl." Salm 130: 7, "Y mae trugaredd gyda'r Arglwydd ac aml ymwared gydag ef." Esa. 50: 2, "Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared?" Esa. 59: 20, "Ac i Seion y daw y gwaredydd," &c. Felly hefyd yn y Testament Newydd, Luc 1: 68, "Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel; canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i'w bobl." Luc 2: 33, "Y rhai oll oedd yn dysgwyl ymwared yn Jerusalem." Luc 24: 21. "Yr oeddym ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai yr Israel.". Act. 7: 35, "Hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr." Gwel hefyd Lef. 25: 24, 26, 29, 51, 52; Heb. 9: 12, 15, a 11: 35. Yn yr holl ysgrythyrau hyn, yr un gair sydd gan yr Ysbryd Glan am ollyngdod neu waredigaeth ag sydd mewn manau eraill am brynedigaeth.

Ex. 21: Lef. 19: 20,

4. Nid yr un geiriau a ddefnyddir yn yr Hen Destament am brynu masnachol a phrynu pechaduriaid. Am Brynwr a phrynedigaeth pechaduriaid defnyddir y geiriau Goel, cyfnesaf, neu gyfathrachwr'; a phadah, a brynwyd neu a ryddhawyd. Lef. 25: 25, “A dyfod ei gyfnesaf (Goel) i'w ollwng," &c. Ruth 3: 13, "A wna ran cyfathrachwr (Goel) â thi." Job 19: 25, "Mi a wn fod fy Mhrynwr (Goel) yn fyw." 8, "Gadawed ei hadbrynu (phadah) hi." “Ac heb ei rhyddhau (phadah) ddim." Salm 49: 8, "Gwerthfawr yw pryniad (phadah) eu henaid." Geiriau tarddiol oddiwrth Goel a gyfieithir "gollyngdod" yn Lef. 25: 24, 26, 29, 51, 52. O'r tu arall, am brynu trwy fasnachu, y geiriau a arferir gan yr Yspryd Glân ydynt canah a shabar. Gen 25: 10, "Y maes a brynasai (canah) Abraham gan feibion Heth." Gen. 41: 57, "A daeth yr holl wledydd at Joseph i'r Aifft i brynu," &c., (shabar.) Deut. 2: 6, "Prynwch (shabar) fwyd ganddynt am arian." &c. Gen. 33: 19, a 43: 2; Amos 8:6. Ond mae un gair yn cael ei arfer am brynedigaeth yn y Testament Newydd, sef agorazo neu exagorazo, yn arwyddo yn ei ystyr lythyrenol rhoddi gwerth am werth; ond y mae cysylltiad y geiriau blaenorol ac olynol yn y manau hyny lle y mae y gair hwn ar lawr yn dangos yn amlwg mai prynu caethion a olygir, sef eu dygiad o'u sefyllfa gaeth drwy rinwedd iawn drostynt. Felly y mae y dysgedig Mintert yn esbonio y gair. [1] Yn y manau canlynol yn unig y mae y gair hwn ar lawr yn ei berthynas â'r athrawiaeth hon, 1 Cor. 6: 20, a 7: 23; Gal. 3: 13, a 4: 4; Dat. 5: 9. Yn ol ddeddf Moses gwerth o arian oedd i gael ei roddi dros gaethwas er ei bryniad o'i gaethiwed.

5. Y mae yn hysbys i'r rhai sydd yn hyddysg yn nghyfieithiad y deg-a-thri-ugain, eu bod hwy yn golygu y brynedigaeth yn "weithredol symudiad" neu ryddhad y prynedig oddiwrth ryw ofid; ac o herwydd hyn y maent yn fynych yn cyfieithu y geiriau a arferir am y brynedigaeth drwy y geiriau sozo a ruomai, y rhai sydd yn llythyrenol yn arwyddo achubiaeth, cadwedigaeth, neu waredigaeth, ac a gyfieithir felly yn y Testament Newydd bob amser. Gwel Mat. 24: 22, a 27: 40, 42; Act. 27: 20, 31; Rhuf. 7: 24, a 11: 26; 2 Tim. 4: 17. Y mae hyn yn ymddangos o bwys mawr, pan yr ystyriom mai y cyfieithiad hwn oedd mewn arferiad yn nyddiau yr apostolion; ac at hwn y maent yn gyffredinol yn cyfeirio yn eu hysgrifeniadau.

6. Mae yr holl fendithion sydd yn y brynedigaeth yn cael eu cynwys yn y golygiad o ryddhau caethion euog, pryd nad ydynt gydag un cysondeb yn dyfod i mewn dan y golygiad o fasnachu; megys prynu y rhai oeddynt yn gaethion dan wyddorion y byd, Gal. 4: 3

-6; llwyr brynu oddiwrth felldith y ddeddf, Gal. 3: 13; symud yr euog i sefyllfa gyfiawnhaol, neu symud y ddedfryd farnol oddiarno, drwy faddeu ei bechodau, Rhuf. 3: 24; Eph. 1: 7; prynu o gaethiwed pechod, 1 Cor. 6: 20, a 7: 23; oddiwrth ofer ymarferiad, 1 Pedr 1: 18; oddiwrth bob anwiredd, Tit. 2: 14; allan o bob llwyth, a iaith, a phobl, a chenedl, Dat. 5:9; ac o garchar tywyll y bedd yn nydd yr adgyfodiad cyffredinol, yr hyn a eilw yr apostol, "prynedigaeth ein corph," Rhuf. 8: 23; Job 19: 25-28; 1. Cor. 1: 30; Eph. 1: 14, a 4: 30. Yn yr holl ystyriaethau hyn y mae cyfeiriad amlwg at ryddhad o ryw gaethiwed, drwy rinwedd iawn boddhaol i'r llywodraeth.

Drachefn y mae gwahaniaeth amlwg, yn ol yr ysgrythyrau sanctaidd, rhwng y "brynedigaeth" a'r "pridwerth," neu gyfrwng y brynedigaeth. Iawn Crist ydoedd y pridwerth; gweithredol ryddhad troseddwyr, ar gyfrif yr iawn, ydyw y brynedigaeth. Mae a fyno y pridwerth â Duw, offrwm ac aberth o arogl peraidd i Dduw ydoedd; mae a fyno y brynedigaeth â dynion fel caethion euog. Y pridwerth neu'r iawn a symudodd bob rhwystr o ochr y Brenin tragywyddol i osod amodau cymod o flaen y byd; y brynedigaeth sydd yn symud y rhwystrau o galon y pechadur i dderbyn y cymod. Nid oedd y pridwerth neu y cyfrwng, er mor addas ydoedd, yn gwneyd un cyfnewidiad yn nghyflwr yr euog; y mae y brynedigaeth yn gwneuthur cyfnewidiad mawr. Y naill a ddygwyd oddiamgylch gan Grist yn ei berson ei hun, a'r llall yn mherson ei dragywyddol Ysbryd; fel y mae y rhan fwyaf o swyddau Crist yn cael eu gweinyddu drwy yr Ysbryd, megys Prophwyd, Brenin, Bugail, Esgob, &c., felly gan mwyaf y swydd hon hefyd. O herwydd y gwahaniaeth hwn y mae'r ysgrifenwyr sanctaidd yn arfer geiriau cwbl wahaniaethol am y brynedigaeth ac am yr iawn. Goel, cyfathrachwr; a phadah, a brynwyd neu a ryddhawyd, megys y sylwyd uchod; a geiriau tarddiol oddiwrthynt, a ddefnyddir yn yr Hen Destament, am y Prynwr a'r brynedigaeth; ond copher, yr hyn a wna gymod; a chataah, pechaberth, a geiriau eraill o'r un ystyr, a ddefnyddir am yr iawn. Felly yn y Testament Newydd, ni a gawn am y brynedigaeth y geiriau lutroo, a brynais neu a ryddheais, lutrosis[2] ac apolutrosis, pryniad neu ryddhad oddiwrth, agorazo ac exagorazo, a brynais; ond nid un amser y mae y geiriau hyn am yr iawn. O'r tu arall defnyddir y geiriau lutron, pridwerth; antilutron, pridwerth gyferbyn; ilasmos, iawn; ac ilasterion, trugareddfa, am yr iawn; ond nid un amser am y pryniad neu y rhyddhad oddiwrth felldith; yr hyn sydd yn eglur yn gosod allan mai un peth oedd yn cael ei olygu gan yr ysgrifenwyr sanctaidd wrth y pryniad, a pheth arall wrth yr iawn, neu y pridwerth a roddwyd er prynu.

Hefyd y mae gwahaniaeth i'w weled yn dra amlwg, ond sylwi yn ddiduedd, yn yr ysgrythyrau hyny lle y mae athrawiaeth y brynedigaeth yn cael ei harwain i mewn. Sylwn ar rai o honynt. Gal. 3: 13, "Crist a'n llwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom." "A'n llwyr brynodd oddiwrth y felldith," dyna y brynedigaeth!" gan ei wneuthur yn felldith trosom," dyna y pridwerth neu yr iawn. Eph. 1: 7, "Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau yn ol cyfoeth ei ras ef." "Maddeuant pechodau," neu symudiad y gollfarn oddiar yr euog, ydyw y brynedigaeth; "ei waed ef" ydyw y pridwerth. Tit. 2: 14, "Yr hwn a roddes ei hun drosom, i'n prynu oddiwrth bob anwiredd," &c. "Prynu oddiwrth anwiredd" ydyw y fendith sydd yn dyfod yn eiddo i'r pechadur; "a roddes ei HUN drosom" ydyw y pridwerth neu yr iawn. Heb. 9: 12, "Eithr trwy ei waed ei hun (dyna y pridwerth,) a aeth unwaith i mewn i'r cysegr, gan gael i ni dragywyddol ryddhad; yn ol y Groeg dragywyddol "brynedigaeth." Edrych hefyd Rhuf. 3: 24, 25; Gal. 4: 4, 5; Dat. 5: 9. Ond effallai y dywedir mai effeithiau y brynedigaeth yw y bendithion hyn, ac nid y brynedigaeth ynddi ei hun. Yr wyf finau yn gofyn, I ba ddyben yr awn ni i alw y pethau hyny yn effeithiau y brynedigaeth, ag y mae yr Ysbryd Glan wedi gweled yn oreu eu galw "y brynedigaeth?" Onid gwyrdroi yr ysgrythyrau ydyw hyn i ddal i fyny draddodiad dynol? Yn awr, yr unig wahaniaeth rhwng prynedigaeth pechadur a'i waredigaeth ydyw hyn: mae y waredigaeth yn arwyddo y cyfnewidiad sydd yn cymeryd lle yn nghyflwr pechadur pan y mae yn cael ei symud o'i sefyllfa golledig, oddiwrth ei anwiredd, &c.; y mae y brynedigaeth yn arwyddo yr un cyfnewidiad, ond y mae yn gosod allan y cyfnewidiad hwnw yn ei berthynas a iawn Crist fel pridwerth dros rai euog.

Felly mae'r gair "prynedigaeth" bob amser yn cynwys y golygiad neu y rhagdybiad o "iawn," er nad ydyw un amser yn arwyddo rhoddiad yr iawn. Geiriau eraill a arferir pan nad oes dim ond y noeth waredigaeth yn cael son am dani, heb gymeryd i mewn y golygiad o berthynas a iawn; sef sozo, diogelu, Mat. 1: 21; a 27: 40, 42. Luc 23: 39; a Ioan 5: 34; ruo, grymus waredu, Mat. 6: 13. Rhuf. 7: 24; 2 Cor. 1: 10; Col. 1: 13; exaireo, cipio allan, Act. 7: 10; a 26: 17; ac apalasso, gollwng ymaith, Heb. 2: 5. Ond pan y mae y waredigaeth yn cael ei gosod allan yn ei pherthynas a iawn Crist, y geiriau y sylwyd arnynt uchod, a arferir bob amser. Yn gyson a'r golygiadau hyn y mae y Parch. John Brown o Haddington yn sylwi, ag ychydig ymadroddion tra chynwysfawr, yn ei Eiriadur Ysgrythyrol, dan y gair Prynwr, fel hyn, "Ein 'prynedigaeth neu warediad oddiwrth bechod sydd drwy waed ac Ysbryd Crist, Eph. 1: 7; Col. 1: 14; Heb. 9: 12; ac sydd yn dechreu mewn maddeuaut pechodau, yn cael ei dwyn yn mlaen yn ein sancteiddhâd, ac yn cael ei berffeithio yn ein tragywyddol ddedwyddwch; pan yn yr adgyfodiad, y bydd i'n cyrph gael eu rhyddhau oddiwrth holl effeithiau marwol pechod." Oddiwrth y sylwadau hyn gwelwn,

1. Fod cyfrwng prynedigaeth pechaduriaid yn annherfynol. Mae gwerth gwaed Crist yn gydbwys â gwerth y Person anfeidrol a roddodd ei hun, yn gysylltiedig â pherffeithrwydd ei ufudd-dod, ei ddyoddefaint a'i farwolaeth.

2. Er fod cynygiad o gymod ar sail dwyfol aberth o gyd-eangder a dynol ddeiliaid llywodraeth Jehofa mewn sefyllfa prawf, eto personol ydyw y brynedigaeth; a'r un mor ynfyd ydyw son am "brynedigaeth gyffredinol" a son am ailenedigaeth gyffredinol, neu gyfiawnhad cyffredinol, gan mai yr un personau sydd yn derbyn y bendithion hyn oll,

3. Nid ydyw profi mai credinwyr yn unig ydynt y pwrcas prynedig neu waredol yn gwrthbrofi fod yr holl ddaioni y mae y byd yn fwynhau yn deilliaw drwy gyfryngdod, ac o ganlyniad, ar gyfrif aberth yr Arglwydd Iesu Grist. Eto,

4. Y mae yr ymadrodd " prynu bendithion" tymorol neu ysbrydol yn gwbl anghyson â golygiad yr Ysgrythyrau ar athrawiaeth prynedigaeth, gan mai personau a brynwyd, ac a brynir, ac nid pethau. Prynwr personau oedd y Messiah cyn ei ymddangosiad yn y yn y cnawd. Prynwr personau ydyw yn awr, ac ni rydd heibio weinyddu yn y swydd ogoneddus hon hyd oni wel ei holl aelodau yn dyfod i'r lan o'r bedd ar ei ddelw ei hun.

  1. Agorazo, emo; metaphorice redimo, uli ad Christum applicatum. MINTERT.
  2. Lutroô, redimo, pretio da to, ex alterius, tyrannide, servitude, vel captitate libero.—MINTERT.