gan Robin Ddu

Y seren y sy arwydd
ydd â sais heddyw oi swydd
Stella Cometa o'r gwin
gwawr lliwys o'r gorllewin
pa waeth y byd post oi Ben
sy waith siriol saith seren?
Byd enbyd uwch ben dinbych
llun draig wrth orllewin drych
llun Ell o'r lluniau allan
llun cleddau fal Tonnau tan
Sierion am y seren oedd
yn treuthy tair o Ieithoedd
mae noddfa lle mae'n addfed
oed Crist er pan brynwyd Cred
M:V.c meddant mowddwy
XV a chwe X a dwy
Rhyfedd ar gyfnod gwir
hoen alaeth hyn a welir.
ar ol hyn araul hynod
agos ini geisio nôd,
fo a 'r marchog ir ogof
a dyfod a'n cyfnod cof
lle nid el llew nau dau
draw i ogof y dreigiau
yno trig meddig im iaith
deirnos mewn duffos diffaith
ef yw'r llew ofwy yw'r lles
o daw allan oi dylles
llew du anwyl llu danoch
y ceiliog hardd ar clog coch
yr hwn y medd yr henwaed
a ynill grym i holl gred
ai arwydd yw herwydd iaith
y seren gymesurwaith.
am un pwynt y mae'n y pen
yma heuriad y maharen
y pymthegfed o fedi
y try'r haul oi nattur hi
Rhyfelau fal dagrau dur
a gwriadau rhwng brodur,
er da, mab a ladd ei dad
brwydr ddull bryd ar ddillad
y gwyllied hwy a gollir
blin yw'r gwaith o blaenia'r gwir.
Preladiaid o sgotiaid gant
am y gair a ymgurant
Lwmbardiaid Twrkiaid mewn taith
a oresgyn rawysgwaith,
a'r Pegwns rhag aliwns gwir
(gofidiaith) a gyfodir.
Gwyr y wlad mae'n gad gall
a diria o du arall
Eryr du a gair ar don
gwae filoedd o'r gofalon
o Galais y daw'r gelyn
gwan yw'n iaith a gwenwyn ynn
o dduw pam na weddiwn!
rhag y byd anhyfryd hwn,
Hir yw'r oes a Herwr wyf,
os Rhyhir nas arhôwyf.
Blwyddyn hir i ble 'ddâ 'n hedd
yw un awr o anwiredd
Gwyn-fŷd gwae ni y gwanfeirdd
gweddill y byd, gwae ddull beirdd
Gwyn fyd trin ganfod trwch
gwn trwyddo gan tor heddwch
gofun mab ag ofni mon
ir nordd o ran y werddon
e ddaw chware a ddechreuwyd
draw'n llys aderyn llwyd
Torri bargod tir Byrgwyn
mae yn waeth i maeth am hyn
mae'r wreichionen hen yn hwyr
yn mygu 'n ei magwyr.
nid a'n hwyr ni ad henau
oni weler yn olau
ni wyl Inglond 'n ol anglais
wedi'r sant benadur sais
o daw r 'llyg hyd y llan
ai glog aur i gil Garan
o daw ef wedi y daith
dialedd, nid a eilwaith
fo ddaw drwy ffydd llawenydd lle
yr un neidr a roen dre
Eryr draw a ddaw yn dda
od a eilwaith nid wyla