Crempog (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)
Mae Crempog yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi
- Os gwelwch chwi'n dda, ga'i grempog?
- Mae mam yn rhy dlawd
- I brynu blawd,
- A nhad yn rhy ddiog i weithio;
- Halen i'r ci bach,
- Bwyd i'r gath bach,
- Mae ngheg i'n grimpin eisiau crempog.