Croeso mewn Llys
gan Sypyn Cyfeiliog
- Mi a welais lys, a dwy a deg llys,
- ac ni welais lys mor lwys edmig
- âcirc;’r llys a hoffaf er lles i’w phennaf,
- nid llaes y’i molaf, mal Celliwig;
- yn llwyr degwch nef, yn llawr Bachelldref,
- y lle y bydd dolef bob Nadolig;
- a llu o geraint, a llyn tra meddwaint,
- a llewychu braint bro hil Meurig;
- a llawer cerddawr, a llawen grythawr,
- a llawenydd mawr uwch llawr llithrig;
- a llef gan dannau, a llif gwirodau,
- a llafar gerddau gorddyfnedig;
- a lliwgoch baladr gan llin Cadwaladr,
- a llafn gwaedraeadr, coelfeingadr cig;
- a thro cerddorion, a thrydar meibion,
- a thrabludd gweision gosymddeithig;
- a thrulliad trablin, a thrallawd cegin,
- a thrilliw ar win i wan blysig.
- Tair cynneddf y sydd, tirion lawenydd,
- ar briflys Dafydd, difefl ryfyg:
- ba ddyn bynnag fych, ba gerdd a fetrych
- gydag a nodych yn enwedig,
- dyred pan fynnych, cymer a welych,
- a gwedi delych, tra fynnych trig.