Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon/Capel Mawr

Ebenezer, Rhosymeirch Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon

gan William Williams (Cromwell)

Capelnewydd, Llanerchymedd



CAPEL MAWR.

CYNELID cyfarfodydd crefyddol yn yr ardal hon am rai blynyddau cyn adeiladu yr un addoldy, sef yn Ceryg-gwyddel, yn mhlwyf Cerygceinwen, ac yn y Tŷ gwyn, yn mhlwyf Llangadwaladr. Cofrestrwyd y lleoedd hyn i gynal moddion crefyddol ynddynt. Ffurfiwyd eglwys yn un o'r manau a enwyd tua'r flwyddyn 1763, os nad yn gynt. Y personau canlynol oeddynt yr aelodau cyntaf a gyfamodasant a'n gilydd, ac â'r Arglwydd i gychwyn yr achos yn y lle:-William Parry, Tŷ gwyn (yr hwn a bregethai yn achlysurol); Hugh Williams, College, Llangadwaladr; Owen Jones a'i wraig, Ceryg-gwyddel; Dafydd Abraham, y Llôg; Owen Roberts, Tynypwll; William Jones, Tyrhyswyn; Thomas Parry, Tanylan (wedi hyny Cerygengan); John Jones, Tyddyn-domos; a Mrs. Thomas, Tanylan. Yn mhen rhyw ysbaid o amser, daeth amryw eraill yn mlaen i ym. uno â'r ddiadell fechan, ac yn eu plith Mrs. Hughes o'r Plascoch, yr hon a gyfrifid yn wraig rinweddol a defosiynol iawn. Yr oedd Mrs. Hughes yn ferch i Mr. W. Pritchard, Clwchdernog, a hi yn unig o'i holl ferched ef a ymunodd â'r Annibynwyr; yr oedd y lleill yn aelodau parchus gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Gwahoddwyd y Parch. Jonathan Powell i bregethu yn ŵylnos Mrs. Hughes; ei destyn oedd Diar. xxxi. 29, "Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll." Awgrymai yr hen frawd ar ei bregeth fod ei chwiorydd wedi dewis yn dda, ond ei bod hi wedi rhagori arnynt oll. Buwyd yn pregethu ac yn cynal cyfarfodydd neillduol yn Ceryggwyddel a'r Tŷ gwyn am oddeutu 10 mlynedd cyn adeiladu y capel. Y rhai oedd yn gofalu yn benaf dros y gwaith o adeiladu yr addoldy cyntaf, oeddynt, John Owen, Caeaumôn; Owen Jones, Ceryggwyddel; William Parry, Tŷ gwyn; a Thomas Parry, Tanylan Gweithredai John Thomas, Ysw, o Tanylan, fel arolygwr ar y gwaith. Yr oedd Mr. Thomas yn ŵr cyfoethog; ac er nad oedd yn aelod o'r eglwys fechan, eto, yr oedd ei hynawsedd a'i garedigrwydd tuag at y frawdoliaeth yn fawr. Yr oedd ei wraig yn ddynes dduwiol iawn, a gellir meddwl ei bod yn dylanwadu ar ei gŵr cr daioni, Hefyd, yr oedd y rhagddywededig Thomas Parry yn ngwasanaeth Mr. Thomas, fel prynwr ŷd iddo, ac o herwydd ei fywyd dichlynaidd, a'i onestrwydd fel goruchwyliwr, yr oedd yn gymeradwy iawn yn ngolwg ei feistr. Gan na wnaed unrhyw gofnodiad ar y pryd o'r treuliau cysylltiedig ag adeiladu yr addoldy cyntaf, nis gallwn ddyweyd faint a gostiodd, na'r modd y talwyd am dano. Yn y flwyddyn 1812, gwnaed adgyweiriad trwyadl arno, a rhoddwyd corau (pews) ynddo am y waith gyntaf; yr oedd y draul yn £70, a thalwyd y cyfan allan o drysorfa yr eisteddleodd. Dangosodd Mr. Thomas Parry, Cerygengan, garedigrwydd mawr tuag at yr achos yn yr amgylchiad hwn, trwy roddi benthyg yr arian a nodwyd, a boddloni i'w cymeryd yn ol mewn symiau bychain oddi wrth yr eisteddleoedd. Adeiladwyd yr addoldy helaeth presenol yn y flwyddyn 1834, o dan olygiad Mr. John Thomas, Presiorwerth; Mr. Richard Hughes, Plasbach; Mr. Henry Parry, Fferambaili, ac eraill o gyfeillion caredig yr achos. Costiodd yr adeilad tua £200, a thalwyd y cyfan gan y gynulleidfa, oddi eithr £15. Y mae yr addoldy yn bresenol yn ddiddyled.

Gan fod yr eglwys hon o'i dechreuad hyd yn awr, wedi cydgyfranogi â'i mam-eglwys yn Rhosymeirch o lafur yr un gweinidogion, erfyniwn ar y darllenydd i droi at hanes yr eglwys hono, lle y gwel gofnodiad o honynt, Rhifedi y gynulleidfa yma ydyw 250, yr eglwys yn 105, yr Ysgol Sabbathol yn 130. Y mae claddfa fechan yn perthyn i'r addoldy hwn, lle y gorphwys lluaws o bererinion mewn tawelwch; yn eu plith y mae gweddillion marwol yr hynaws a'r serchog frawd y Parch. Richard Roberts, Maelog, yr hwn a alwyd i'r winllan yn foreu, ac a noswyliodd yn gynar; yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Symudwyd ef i'r bedd yn ieuanc, ond y mae ei goffawdwriaeth yn fendigedig. Y mae yr hyn a ganlyn ar gareg fedd a berthynai i Tanylan:

M. S.

Margaritea Thomas de Tanylan in Parochia Trefdraeth quae vita decessit 24, Aprilis, A.D. 1783. Aetatis suae 47.

Monumentum hoc erexit amoris ergo dilectus conjux Johannes Thomas generosus, qui postea in mari obiutus est cum 58 aliis e Carnarvonia redeuntibus, 5 Dec. 1785. Aetatis suae 52.

Yn y Gymraeg:

C.G.

Margaret Thomas, o Tanylan, yn mhlwyf Trefdraeth, yr hon a ymadawodd a'r bywyd hwn Ebrill 24, 1783, yn 47 mlwydd oed.

Y gofadail hon o serch, a godwyd gan ei phriod urddasol a haelfrydig, John Thomas, yr hwn wedi hyny a foddwyd, yn nghyd â 53 eraill, wrth ddychwelyd o Gaernarfon, Rhag. 5, 1785, yn 52 mlwydd oed.[1]


Nodiadau

golygu
  Mae erthygl parthed:
Capel Mawr, Ynys Môn
ar Wicipedia
  1. Cyfeirir yma at y ddamwain alaethus a gymerodd le ar yr afon Menai, pryd y suddodd y treiddfed (ferry-boat) wrth groesi o Gaernarfon i Fon ar y dyddiad uchod. Allan o 55 o bersonau ni achubwyd ond un yn unig.