Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon/Rhagdraeth
← Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon | Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon gan William Williams (Cromwell) |
Ebenezer, Rhosymeirch → |
RHAGDRAETH.
YR ydym yn ymgymeryd a'r llafur o gasglu, a chyhoeddi, yr hanes dilynol gyda theimlad o ddiolchgarwch diffuant i Dduw pob gras, am lwyddo ei waith yn ein mysg. Mae pob cangen o hanesyddiaeth yn werthfawr, fel cyfrwng i alw ein sylw at bethau henafol a diweddar— cysegredig a chyffredin-llwyddiant celfyddyd, gwybodaeth, a chrefydd. Ond hanes gweithrediadau yr Eglwys Gristionogol ydyw y rhyfeddaf a mwyaf gwerthfawr, i'r sawl y mae cariad Duw wedi cael ei dywallt ar led yn eu calonau.
Cynwysa y llyfr hwn grynodeb o hanes dechreuad, a chynydd yr eglwysi Annibynol yn Ynys Môn. Mae yr enw Annibynwyr, wrth ba un yr adwaenir aelodau yr enwad hwn, yn fath o ddangoseg o natur eu ffurf-lywodraeth eglwysig. Credant fod gan bob eglwys hawl i drefnu ei materion ei hun, megis dewis swyddogion, derbyn aelodau i'r eglwys, dysgyblu yr afreolus, &c., heb fod yn ddarostyngedig i unrhyw awdurdod oddi allan iddi; gan gymeryd gair Duw yn rheol ffydd ac ymarweddiad, a chydnabod awdurdod Crist yn unig fel pen yr Eglwys. Er fod yr eglwysi hyn yn annibynol y naill ar y llall, o ran eu trefniadau mewnol a neillduedig, eto, y maent yn gallu cydweithredu yn nerthol o blaid y sefydliadau cyhoeddus a berthynant iddynt fel enwad crefyddol. Er nad ydynt yn cael eu rhwymo i unffurfiaeth mewn barn, dysgyblaeth, a chyfraniadau at achosion crefyddol, y mae eu llafur cymdeithasol a chyhoeddus wedi enill iddynt yn barod fuddugoliaethau lluosog; nid trwy arfau cnawdol a gallu dynol, ond trwy rym y gwirionedd a ffydd yn Nuw. A'r enwad Annibynol yn Ynys Môn, y mae a fynom yn benaf yn y casgliad hwn. Er hyny, y mae yn llawenydd genym gael cydnabod yn serchog a didwyll, yr ymdrechiadau llwyddianus sydd wedi, ac yn cael eu gwneud gan enwadau crefyddol eraill yn yr Ynys, ynghyd a'r undeb a' brawdgarwch a feithrinir yn mysg y gwahanol bleidiau Ymneillduol y blyneddau hyn.
Er mai "Hanes yr Eglwysi Annibynol yn Môn" ydyw testyn y llyfr hwn, efallai na bydd yn anmherthynasol i'n hamcan i gymeryd bras olwg (mewn ffordd o ragdraeth) ar helyntion Ymneillduaeth o doriad gwawr Anghydffurfiaeth yn Nghymru, hyd sefydliad yr eglwys Annibynol gyntaf yn Ynys Môn, Ar ol merthyrdod yr anfarwol John Penry, ymddengys fod yr enwogion Wroth o Lanfaches, Ebury o Gaerdydd, a Walter Cradoc, wedi bod yn offerynau llwyddianus i hyrwyddo Ymneillduaeth. Ymddifadwyd y gwyr da hyn o'u bywioliaethau yn yr Eglwys Wladol, am iddynt wrthod cydsynio â chais y brenin i ddwyn i ymarferiad y llyfr a elwir yn Llyfr y Chwareuaethau. Cyhoeddwyd y llyfr llygredig hwn trwy orchymyn y brenin Iago I yn y flwyddyn 1617, a gorfodid yr Offeiriaid i ofalu am fod ei gynwysiad yn cael ei ddwyn i ymarferiad o dan eu harolygiaeth. Dywedir i'r llyfr hwn gael ei gyfansoddi gan un o'r Esgobion. Gorchymynid ynddo yn mhlith pethau eraill, "nad oedd gwasanaeth i fod yn yr Eglwys ond y boreu, oddieithr fod angladd; a bod y prydnawn i gael ei dreulio mewn chwareuon a digrifwch." Cyfarwyddai hefyd pa chwareuon oedd i'w harfer, sef, neidio, coetio, codymu, troedio pêl, &c., a chaniateid y pleserau hyn ar yr amod "nad oedd neb i gael uno yn y chwareuon y prydnawn, ond a fyddai yn bresenol yn yr addoliad y boreu;" a'r Offeiriaid, y rhai a ddarllenant y gwasanaeth crefyddol yn y boreu, oeddynt i flaenori yn y campau annuwiol hyn y prydnawn! Hawdd y gellir meddwl fod cyflawni y fath weithredoedd pechadurus ar ddydd Duw, yn achosi llawer o ofid i deimladau tyner a duwiolfrydig y gwyr da a enwyd. Gwrthodasant ufuddhau i orchymyn y brenin, ac o herwydd hyny bwriwyd hwynt allan o'r Eglwys Wladol. Yn y flwyddyn 1639, y sefydlwyd yr Eglwys Ymneillduol gyntaf yn Nghymru, a hono yn Eglwys Gynulleidfaol, trwy offerynoliaeth Wroth a Cradoc yn Llanfaches, Swydd Fynwy. Dyma flaenffrwyth y cynauaf toreithiog a welir yn awr yn y Dywysogaeth.
Yr oedd teyrnasiad Siarl I yn gyfnod tywyll a niwliog ar grefydd. Yr oedd afradlonedd a gwastraff y brenin yn creu gelyniaeth tuag ato yn mhlith aelodau y Senedd, a llygredigaeth ac anuwioldeb ei lŷs yn achosi i'r dosbarth efengylaidd o'i ddeiliaid i'w lwyr ffieiddio. Er ei holl ymgais i geisio ymgymmodi a'r Senedd trwy gynlluniau gwenieithus a chyfrwys, ac er holl ymdrechiadau y dyn taëogaidd ac anhyblyg hwnw Archesgob Laud, i adferyd undeb a heddwch yn yr eglwys, yr oedd y teimlad Puritanaidd yn cryfhau, a'r dymuniad am gael diwygiad trwyadl yn y wladwriaeth yn enill tir. Yr oedd miloedd yn hiraethu yn bryderus am y dydd pan y byddai i lyffetheiriau gormes gael eu dryllio, a'r deiliaid yn ddi wahaniaeth yn cael mwynhau rhyddid i addoli Duw yn ol llais eu cydwybodau. Fel ag y gwelir ambell i foreu tyner a hafaidd yn dilyn noswaith ddu a thymestlog, felly y bu yma. Cyflawnodd y brenin fesur ei anwiredd, diorseddwyd ef trwy orchymyn seneddol, a rhoddwyd ef i farwolaeth. Mewn canlyniad i hyn, newidiwyd ffurf y llywodraeth-cyhoeddwyd rhyddid cydwybod, a dyrchafwyd Cromwell yn llywodraethwr. Yn ystod y Weriniaeth, ffurfiwyd lluaws o fesurau diwygiadol i'r dyben o gyfarfod âg angen yr oes, Gwnaed cyfnewidiadau pwysig yn neddflyfr y deyrnas, dilewyd y cyfreithiau gorthrymus, a mabwysiadwyd rhai eraill mwy rhyddfrydig a chyfiawn. Dewiswyd dirprwywyr i ofalu am burdeb y weinidogaeth yn yr Eglwys Wladol, a bwriwyd allan o honi y gweinidogion di fedr ac anfucheddol a wasanaethent wrth ei hallorau. O dan nawdd yr arglwydd Amddiffynydd, daeth Independiaeth yn ffaith bwysig, a dyrchafwyd yr enwad i anrhydedd a chyhoeddusrwydd arbenig. Er yr holl anfri a deflir ar weithrediadau y Weriniaeth gan haneswyr pleidiol a rhagfarnllyd, y mae yn ddiamheuol fod y cyfnod hwnw wedi bod yn anrhaethol werthfawr i achos crefydd a rhyddid yn gyffredinol. Ni pharhaodd pethau yn y sefyllfa ddymunol hon yn hir, oblegid gorchfygwyd Cromwell gan angau, ar ol teyrnasu am bedair blynedd ac wyth mis. O herwydd nad oedd ei fab yn feddianol ar y gwroldeb a'r medrusrwydd angenrheidiol i lywyddu y deyrnas, rhoddodd yr awdurdod i fynu, ac esgynodd Siarl II i'r orsedd yn y flwyddyn 1660.
Esgynodd y brenin hwn i'r orsedd trwy ddylanwad yr Esgobaethwyr, ac addawai yntau yn deg ar y pryd i estyn rhyddid crefyddol i'w holl ddeiliaid, Mor gynted ag g deallodd Siarl fod ei orsedd yn ddyogel, dechreuodd weithredu yn orthrymus ac erlidgar tuag at y dosbarth rhyddfrydig o'i ddeiliaid. Lluniwyd deddfau caethion mewn cysylltiad â chrefydd, ac amcanwyd drachefn i rwymo cydwybodau dynion yn ol mympwy y brenin a'i senedd lygredig, Y gyntaf o'r gyfres o ddeddfau gorthrymus a luniwyd yn y teyrnasiad hwn oedd "Deddf Unffurfiaeth" (Act of Uniformity). Ymddengys fod yr uchel-eglwyswyr ar y pryd, yn anfoddlon i ffurf y gwasanaeth crefyddol a weinyddid gan y gweinidogion efengylaidd a ddewiswyd gan y dirprwywyr yn amser Cromwell, a phenderfynasant adferyd y "Llyfr Gweddi Cyffredin" i fod yn safon unffurfiaeth yn ngwasanaeth yr Eglwys. Llwyddwyd i basio ysgrif yn nau dŷ y senedd i orfodi pob gweinidog i'w arferyd. Ar y 15fed o Fai, 1662, rhoddodd y brenin ei sêl wrthi, ond nid oedd y gyfraith i ddyfod mewn grym hyd Awst 24, yn yr un flwyddyn. Disgynodd y diwrnod penodedig i roddi y ddeddf mewn grym ar y Sabbath ("canys mawr oedd y dydd Sabbath hwnw") sef, "Dydd Gwyl Bartholomew," Gresyn i'r fath anfadwaith gael ei gyflawni mewn cysylltiad âg enw un o ddysgyblion hunanymwadol y bendigedig Iesu! Yr oedd y sawl a ufuddhaent i gymeryd y llwon gofynedig gan y ddeddf hon, yn ardystio eu cydsyniad â threfn gwasanaeth y Llyfr Gweddi Cyffredin, yn nghydag â holl gredoäu ac erthyglau yr Eglwys. Ond, wele ddwy fil o'r gweinidogion mwyaf dysgedig, doniol, a defnyddiol yn yr Eglwys yn gwrthod ardystio eu cydsyniad â thelerau y ddeddf orthrymus hon "aethant allan yn llawen o olwg y cynghor" am gael eu "cyfrif yn deilwng i ddyoddef er mwyn enw yr Arglwydd Iesu" Gadawsant eu bywiolaethau a chyflwynasant eu hunain, a'u teuluoedd i ofal Rhagluniaeth y nefoedd. "Cawsant brofedigaeth drwy watwar a fflangellau, trwy rwymau hefyd a charchar, ac aethant oddi amgylch yn ddiddym, yn gystuddiol, ac yn ddrwg eu cyflwr; y rhai nad oedd y byd yn deilwng o honynt." Gofynwyd i un o'r Anghydffurfwyr gan gyfaill iddo, paham na fuasai yn cydymffurfio â'r gyfraith: atebodd yntau, "Mae genyf ddeg o resymau dros wneyd hyny," ac edrychai yn llygaid ei ddeg plentyn, y rhai yr oedd eu cynaliaeth yn ymddibynu yn hollol ar ei fywiolaeth Eglwysig; "ond," meddai, "y mae genyf un rheswm sydd yn gorbwyso y cwbl yn fy meddwl, sef cydwybod dda; ac o barch iddi, rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion." Am lalur a ffyddlondeb yr Anghydffarfwyr yn y cyfnod hwnw, y mae un awdwr galluog yn ysgrifenu fel y canlyn: "Y rhai hyn a aethant allan yn ysbryd a nerth Elias, i droi calonau at Dduw, Ymdrechasant yn galed, a llafuriasant yn egniol dros Ymneillduaeth, pan nad oedd ond baban wedi ei daflu ar wyneb y maes, i dosturi y rhai a deimlent ar eu calon ei ymgeleddu, Cewri oedd ar y ddaear yn y dyddiau hyny-dynion "nad oedd y byd yn deilwng o honynt." Siglasant y wlad fel coedwig yn cael ei hysgwyd gan wynt. Torasant ar draws ffurfioldeb a chysgadrwydd yr oes, Dihunasant yr ardaloedd â'u gweinidogaeth. Tafasant belenau tân i "neuadd y cryf arfog, er aflonyddu ei heddwch. Cerddasant "lwybrau disathr," lle na welid ond olion "anghyfanedd-dra llawer oes," a gadawsant ddylanwad ar Walia na ddilea tragwyddoldeb mo hono. Dynion oeddynt nad oedd ganddynt amcan i'w gyrhaedd na phwnc i'w godi, ond gogoniant Duw a lleshad eneidiau. Ymadawsant a'u mwyniant personol, gan aberthu y cwbl ar allor fawr daioni cyffredinol. Llyncwyd eu hysbryd i fyny gan ysbryd eu Blaenor, canys Crist nis boddhaodd ef ei hun. Dygasant arwyddair Cristionogaeth yn arwyddair eu bywyd-heb geisio fy lleshad fy hun, ond lleshad llaweroedd. Wynebasant beryglon yn llawen, gorfoleddasant mewn tlodi, a chanasant mewn carcharau. Mae y manau yr erys eu llwch yn gysegredig, eu henwau yn barchus gan y byd, a choffeir am danynt gydag ymgrymiad moesgarol gan genedlaethau sydd eto heb eu geni. [1]
Yn y flwyddyn 1664, tua dwy flynedd ar ol i Ddeddf Unffurfiaeth ddyfod mewn grym, lluniwyd deddf gaeth arall, sef Deddf y Tai Cyrddau (Conventicle Act). Ymddengys oddi wrth y nodiadau blaenorol, mai y gweinidogion Ymneillduol oeddynt yn teimlo fwyaf o herwydd gweithrediadau Deddf Unffurfiaeth. oblegyd dyoddefasant golledion ac anmharch personol mewn canlyniad iddi. Ond yn sefydliad yr olaf, yr oedd y lluaws Ymneillduwyr yn dyoddef yn ddiwahaniaeth y gorthrwm a osodid arnynt. Yr oedd y ddeddf hon yn cyfyngu yn ddirfawr ar ryddweithrediadau y pleidiau Ymneillduol, ac yn eu gosod yn agored i erledigaethau creulawn. Gomeddai y gyfraith hon "i ragor na phump o bersonau uwchlaw un ar bymtheg oed (heblaw aelodau y tŷ lle y cyfarfyddant) i gyfarfod i addoli Duw yn deuluol, neu yn gymdeithasol." Os ceid yr un a fyddai y gweinidogaethu ar y pryd yn euog o droseddu y gyfraith, dedfrydid ef am y trosedd cyntaf i dri mis ́o garchariad, neu i dalu dirwy o £5. Am yr ail drosedd, i chwe' mis o garchariad. neu ddirwy o £10. Am y trydydd trosedd, dedfrydid y cyfryw un i alltudiaeth am ei oes, neu i dalu dirwy o £100. Hefyd, yr oedd y personau a oddefent i "gyfarfodydd anghyfreithlon" fel eu gelwid, gael eu cynal yn eu tai, neu yn eu hysguboriau yn agored i ddirwyon trymion, ac os delid merched priod yn y cyfarfodydd hyn, dedfrydid hwy i dri mis o garchariad oddi eithr i'w gwyr dalu £2 o iawn drostynt. Yr oedd yr awdurdod i roddi y gyfraith hon mewn grym yn erbyn yr Ymneillduwyr, yn gorphwys gyda'r heddynad, yr hwn oedd yn meddu awdurdod i gosbi y cyhuddedig oddi ar dystiolaeth noeth y cyhuddwr yn unig Mynych yr ymddangosai gelynion Ymneillduaeth o flaen yr heddynadau, a thystiolaethau gau yn erbyn y diniwaid. "Barn hefyd a dröwyd yn ei hol, a chyfiawnder a safodd o hirbell, canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni allai ddyfod i mewn."
Yn y flwyddyn 1665, rhoddwyd deddf arall mewn gweithrediad yn erbyn yr Ymneilldwyr, yr hon a elwir yn "Ddeddf y Pum Milltir" (Five Mile Act). Yr oedd y gyfraith hon, yn mhlith pethau eraill, yn rhwymo yr Ymneillduwyr trwy lŵ, na byddai iddynt gynyg am unrhyw gyfnewidiadau yn nhrefniadau yr Eglwys Wladol. Yr oedd pob gweinidog a wrthodai gymeryd y llwon gofynedig gan y gyfraith, i gael ei atal rhag byw yn, na dyfod o fewn pum milltir i unrhyw ddinas, neu fwrdeisdref; nac o fewn pum milltir i unrhyw blwyf, tref, neu le, yn mha un yr oedd wedi bod yn gwasanaethu yn flaenorol fel periglor, ficer, neu ddarlithydd; o dan berygl o gael ei ddirwyo i'r swm o £40. Cynlluniwyd y cyfreithiau ysgeler hyn, ynghyd a'r Test and Corporation Acts, pa rai oeddynt yn anghymwyso Ymneillduwyr cydwybodol i ddal swyddau gwladol o dan y goron, gan yr Esgobion a'u pleidwyr, gyda'r bwriad o geisio llethu Ymneillduaeth. Er hyn oll, myned rhagddo yr oedd y diwygiad er pob moddion a arferid i'w wrthsefyll. Yr oedd Ymneillduwyr yr oes hono yn debyg i'r Hebreaid gynt yn yr Aipht, "fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent." Parhaodd yn gyfyng iawn ar bobl yr Arglwydd yn ystod gweddill teyrnasiad Siarl, ar eiddo Iago II ar ei ol ef, hyd y Chwyldroad, pryd y rhoddodd y Goddefiad brenin rhyddfrydig William III ei sel wrth ddeddf y (Toleration Act), yn y flwyddyn 1689. Bu i'r cyhoeddiad o'r gyfraith hon, gynyrchu bywyd adnewyddol yn y miloedd Ymneillduwyr oeddynt yn barod bron a diffygio. Daeth y weinidogaeth deithiol i fri, ac ymroddodd lluaws o ddynion ieuanc cymeradwy i waith y weinidogaeth. Adeiladwyd amryw o addoldai newyddion ar hyd siroedd Cymru, a chofrestrwyd llaweroedd o dai i gynal cyfarfodydd crefyddol ynddynt. Gwelodd yr Arglwydd yn dda yn y cyfnod hwn, i fendithio ymdrechiadau ei weision ffyddlon mewn modd hynod Dynoethwyd ei fraich, a gwnaeth rymusderau. Agorwyd dorau y nefoedd, a thywalltwyd y gwlaw graslawn yn gawodydd ar y sychdir. "Yna yr anialwch a'r anghyfaneddle a orfoleddasant, a dechreuodd y diffaethwch flodeuo fel rhosyn."
O dan nawdd y gyfraith rag-grybwylledig, y daeth y cenhadau Ymneillduol cyntaf i ynys Mon i bregethu yr efengyl, Er mai y sir hon oedd yr olaf o siroedd Cymru i dderbyn egwyddorion Ymneillduaeth, eto, gellir dwe'yd am dani na bu yn ol i ardaloedd eraill yn y llwyddiant buan a chyffredinol a ddilynodd gweinidogaeth effeithiol ein hynafiaid. Gellir barnu na ddarfu i drigolion Môn ddyoddef nemawr o galedi o herwydd y cyfreithiau gorthrymus â enwyd, oblegid y mae yn amheus genym a oedd cymaint ag un Ymneillduwr proffesedig i'w gael yn yr holl Ynys, yr amserau helbulus hyny. Ymddengys mai Breiniolwyr (Royalists) brwdfrydig oedd y cyffredinolrwydd o dir-feddianwyr a gwyr Eglwysig Môn yn y blynyddau cythryblus a ragflaenodd y "Chwyldroad," pryd yr agorwyd drws y ffydd" i efengylu yn mhlith y Monwysiaid "anchwiliadwy olud Crist." Y cyffelyb ysbryd a ddangoswyd gan y dosbeirth hyn ar adegau diweddarach, yn enwedig, pan yn cynhyrfu yr erledigaethau crculawn a ddigwyddasant yn amser Lewis Rees, Jenkyn Morgan, William Pritchard—tadau Ymneillduaeth yn y wlad hon. Yr oedd Mon cyn dyfodiad y cenhadau Ymneillduol cyntaf iddi mewn sefyllfa isel a thruenus iawn o ran moesau a chrefydd. Y trigolion yn gyffredin mewn cyflwr o anwybodaeth dygn, eu meddyliau yn ymddifyru mewn gwag ofergoelion, eu cydwybodau yn wasaidd a dideimlad, a'u calonau yn orlawn o elyniaeth mileinig yn erbyn pob "pengrwn" a "Cradoc" a gyfarfyddant. Cymerai y lluaws eu harwain gan eu chwantau anianol, yn dilyn gwagedd, ac yn rhodio yn ol oferedd eu meddyliau. Gyda phriodoldeb neillduol y gallesid galw yr ynys hon yn yr adeg hono, fel ei gelwid gynt-"Yr ynys dywell." Ychydig o lyfrau oedd yn argraffedig yn yr iaith Gymraeg, yn y cyfnod hwnw, ac yr oedd y mwyafrif o lawer o'r trigolion heb fedru darllen. Yr oedd moddion addysg yn brin yn y wlad. Dywedir fod llaweroedd o benau teuluoedd cyfoethog, a rhai mewn swyddau pwysig, yn hynod o ddiofal am roddi addysg i'w plant. Yr oedd y merched yn gyffredin yn cael eu hamddifadu yn fawr o foddion addysg. Coffeir am rai boneddigesau o fri yn yr oes hono, yn analluog i ddarllen. Ymddengys fod yr hyn a ddywedai yr hybarch Ficar o Lanymddyfri am foneddigesau anllythrenog yn ei oes ef, yn wir ddesgrifiadol o'r un dosbarth yn Mon yr adeg dan sylw. Dywedai:
"Pob merch tincer gyda'r Saeson, fedr ddarllen llyfrau mawrion,
Ni ŵyr merched llawer Scwier, gyda ninau ddarllen Pader."
Wrth ystyried fod y wlad gan mwyaf yn anllythrenog, ac yn dra anwybodus, y mae yn naturiol meddwl fod ymarferiadau y trigolion yn halogedig a phechadurus iawn. Treulid y Sabathau yn gyffredin mewn chwareuaethau ffol ac anfuddiol. Ymgasglai rhai i ryw lanerch deg, lle y byddai canu a dawnsio, ynghyd ag amryw arferion llygredig eraill yn cael eu cyflawni. Eraill a ymgyfarfyddant i chwareu y bêl a'u holl egni, hyd yn nod ar bared yr annedd gysegredig; ac eraill yn fawr eu lludded a ymlidient y bêl droed, gan anafu eu gilydd yn yr ymrysonfa, Treuliai eraill y Sabbath yn y tafarndai, i ymdrybaeddu mewn meddwdod hyd dranoeth, ac yn fynych ni orphenid y cyfarfodydd annuwiol hyn heb ymladdfeydd gwaedlyd. Mewn gair yr oedd y bobl yn eistedd mewn tywyllwch, yn mro a chysgod angau, a'r pethau a berthynant i'w tragwyddol heddwch yn guddiedig oddi wrth eu llygaid!
Yn y flwyddyn 1742, symudodd un William Pritchard o Glasfrynmawr, yn mhlwyf Llangybi, i Blas Penmynydd, Mon. Efe oedd seren foreu y diwygiad Ymneillduol yn y wlad hon. Yr oedd Mr. W. Pritchard mewn undeb a'r Eglwys Annibynol yn Mhwllheli, a pharhaodd mewn undeb a'r enwad hyd ei fedd. Yn fuan ar ol ei ddyfodiad i Benmynydd, llwyddodd i gael trwydded ar dŷ o'r enw Minffordd, i bregethu ynddo. Ar ei gais ef y daeth yr hybarch Lewis Rees, gweinidog yr eglwys gynulleidfaol yn Llanbrynmair y pryd hwnw, i bregethu i'r lle hwn; a dywedir mai dyma y cyfarfod crefyddol cyntaf a gynaliwyd gan yr Ymneillduwyr yn ynys Môn. Tebygai y cyfarfod bythgofiadwy hwnw mewn rhai pethau i gyfarfod mawr dydd y Pentecost. Rhai "a synasant ac a ammheuasant" "eraill a watwarasant," ond teimlodd amryw ddylanwad y "peth" hwnw a ragddywedwyd am dano trwy y prophwyd Joel, yn "dwysbigo eu calonau; ac ofn a ddaeth ar bob enaid." Dywedir yn hanes bywyd y Parch. Lewis Rees, fod ei weddi ar y pryd wedi cynyrchu argraffiadau dwysion ar rai o'r terfysgwyr, fel nad oedd nerth yn eu dwylaw i godi yn ei erbyn; ac i amryw o honynt gael agor eu calonau i ddal ar y pethau a lefarid. Derbyniasom yr hanesyn dyddorol a ganlyn, am effeithiau daionus y cyfarfod rhag-grybwylledig, oddi wrth y Parch. David Beynon, Nantgarw, Yn y flwyddyn 1814, pan oedd y diweddar Dr. Arthur Jones, Bangor, ar daith yn Mon, pregethodd am ganol dydd mewn tŷ a elwir Hafod, yn mhlwyf Llangwyllog. Aeth Mr. Beynon yno i'w gyfarfod. Yr oedd hen wr yr Hafod yn gristion cywir, ac ar y pryd yn bur oedranus, ac yn hollol ddall. Yn ei ymddiddan a Mr. Jones, adroddodd mewn dull effeithiol iawn hanes ei droedigaeth. Cymerodd hyny le, meddai, o dan bregeth Lewis Rees y waith gyntaf yr ymwelodd a Mon, yn ymyl y Minffordd yn mhlwyf Penmynydd. Yna aeth yn mlaen a'r hanes fel y canlyn. "Ni bu Saul o Tarsus erioed yn fwy penderfynol i garcharu disgyblion Iesu nag oeddwn i a'r fintai erledigaethus oedd wedi ymgasglu, gyda phastynau, i gyfarfod y pengrwn oedd i ddyfod i bregethu yn Mhenmynydd. Yr oeddym oll wedi cytuno, os efe a bregethai, y gwnaem ben am dano rhag blaen. Ac wedi iddo ddyfod yno, dechreuasom wasgu yn mlaen tuag ato, a phan aeth i ben hen gareg fawr yn ymyl yr hen dŷ hwnw (Minffordd), trodd ei wyneb tuag Arfon a rhoddodd y penill hwnw i'w ganu gan ryw nifer fechan oedd yn ei ganlyn:—
Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw,
Lle daw i'm help 'wyllysgar," &c.
Ninau yn tybied mai disgwyl gwyr arfog o fynyddoedd Arfon yr oedd ef, a giliasom rhyw ychydig oddi wrtho. Ac wedi ymgynghori' penderfynodd rhai o honom gael clywed beth oedd gan y pengrwn i'w ddyweyd, ac felly ni aethom dros y clawdd yr ochr isaf i'r ffordd, a cherddasom yn araf a distaw yn nghysgod y clawdd, hyd nes y daethom ar gyfer y man lle y safai. Nid oedd ef yn gallu ein gweled ni, ac nid oeddym ninau am ei weled yntau, ond yr oedd ym yn clywed pob gair a ddywedai mor eglur a phe buasem yn ei ymyl. O dan y bregeth hono, ar y diwrnod rhyfeddaf yn fy oes, y daethum i adnabod fy hun fel pechadur colledig, yn mhob man, ac er pob dim, oddi allan i Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio. Diolch iddo byth, am fy nghipio fel pentewyn o'r tân."
Aeth rhai blyneddau heibio cyn adeiladu un capel a elwid yn briodol felly, yn yr holl wlad. Arferid pregethu yn achlysurol yn y Mirffordd gan bregethwyr dieithr a ymwelant a'r ynys. Rhydd y Parch Peter Williams, yr hanes a ganlyn am ei ymweliad a Môn yn y flwyddyn 1746. "Aethum yno (meddai) wedi cael hanes pregethwr o swydd Arfon, yr hwn a aethai i'r wlad hono; ymholais, a chefais ei fod yn dywedyd yn erchyll am wyr Mon, a'r cynlluniau ofnadwy oedd ganddynt yn erbyn pregethwyr teithiol, a'r rhai a fyddant yn eu canlyn. Pa fodd bynag anturiais bregethu ar hyd y bryniau, yma ac acw, lle bynag y gallwn gael pump neu chwech o wrandawyr yn gynnulledig, ond y bob! a ddaethant o bob man, gan lefain y naill wrth y llall, "un o'r penau-gryniaid a ddaeth i'n plith i bregethu." Dechreuais lefaru mor gynted ag y gallwn, ac ni arhosais i lawer o honynt ymgasglu. Deallais trwy hyfryd brofiad, os gallwn enill clustiau y bobl, y cawn hefyd eu calonau, ac na fyddai yn hoff ganddynt erlid mwyach. Fel hyn daeth rhai o honynt o radd i radd, yn lled fwynaidd; a daeth rhai o'r tlodion, ac o'r bobl o sefyllfa ganolig, i ofyn i mi ddyfod atynt i letya, a bod i mi groesaw o'r fath le ag oedd ganddynt hwy. Mewn canlyniad i ymweliadau gweinidogion a phregethwyr o siroedd eraill a'r ynys, lliniarwyd i raddau mawr y dymher erledigaethus yn mysg y "tlodion" a'r bobl "ganolig." Cofrestrwyd amryw dai anedd mewn gwahanol barthau o'r wlad, i gynal moddion crefyddol ynddynt, a bendithiwyd yr ynys cyn hir ag adfywiadau crefyddol lled nerthol. "Yr amser i drugarhau wrth Sion, ïe, yr amser nodedig a ddaeth: oblegid yr oedd ei weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Yr oedd y dychweledigion cyntefig yn hynod am eu diwydrwydd gyda phob moddion o ras, nid yn unig yn gartrefol, ond arferent deithio yn mhell i wrandaw gair y bywyd. Hefyd, ar ol gwrandaw gwirioneddau yr Efengyl, y rhai a gyfrifid ganddynt yn werthfawrocach nag aur coeth lawer; ymddiddanent am danynt "gan ddal yn well ar y pethau a glywsant, rhag un amser eu gollwng hwy i golli." Yr oedd undeb a brawdgarwch yn ffynu yn eu plith mewn modd anghyffredin. Cymerodd llawer o honynt eu colledu yn eu hamgychiadau bydol, yn hytrach nag ymostwng i draws-arglwyddiaeth gelynion crefydd. Ar un adeg, "galwyd rhyw nifer o'r rhai oeddynt yn caru crefydd, o flaen eu meistr tir, i Blas Lleugwy, lle yr oedd amryw o eglwyswyr wedi dyfod ynghyd. Gofynwyd iddynt, pa un a wnant, ai gadael crefydd, ai colli eu tyddynod? Atebodd y trueiniaid, mai colli eu trigfanau a ddewisent yn hytrach na gwadu eu Harglwydd. Yr oedd un o honynt yn bur dlawd. Methodd hwn ymatal, ond torodd allan i lefain yn mharlwr y gwr boneddig, ac i neidio yn ei glocsiau, gan waeddi; yn wir, y mae Duw yn anfeidrol dda i mi; gogoniant byth, diolch iddo! Enill tyddyn, a cholli teyrnas na wnaf byth! Parodd yr olygfa syndod aruthrol i'r boneddwyr, eto, eu troi allan o'u tyddynod a wnaed." [2]
Mewn lle a elwid Caeaumon, yn nhy un John Owen, y ffurfiwyd yr eglwys Annibynol gyntaf yn yr ynys, tua'r flwyddyn 1744. Hon oedd yr eglwys Ymneillduol gyntaf yn Mon. Adeiladwyd addoldy Rhosymeirch yn y flwyddyn 1748. Cydgynullai y gwahanol lwythau Ymneillduol i'r lle hwn, am amryw o flyneddau cyn iddynt adeiladu capeli iddynt eu hunain mewn manau eraill yn yr ynys. Cyfeiriwn y darllenydd am wybodaeth helaethach ar hyn, i hanes Ebenezer, Rhosymeirch. Ymddengys oddiwrth yr hanes dilynol, mai trwy lafur egniol, ac er gwaethaf rhwystrau ac anfanteision mawrion, y dygwyd ein gwlad i'r agwedd grefyddol a welir arni yn ein dyddiau ni. Na feddyliwn fod y gwaith wedi ei orphen. Na, y mae tir lawer eto heb ei feddianu. Mae yn wir y gall yr eglwysi Annibynol yn Mon, ddyweyd fel Sïon gynt, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion am hyny yr ydym yn llawen." Ond dylem "lawenhau mewn dychryn " o herwydd mae llygredigaethau yr oes eto yn gryfion, a'r gelyn ddyn yn brysur wrth y gwaith o hau efrau yn mhlith y gwenith. Cofiwn fod y rhyddid crefyddol a fwynheir genym yn werth gwaed llaweroedd o'n henafiaid, a pharchwn eu coffadwriaeth trwy wneyd iawn ddefnydd o'r breintiau sydd yn ein meddiant. Glynwn yn ddiysgog wrth yr egwyddorion hyny sydd wedi ein derchafu eisioes i anrhydedd arbenig fel enwad crefyddol, ac yn benaf oll "Ymnerthwn yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid ei allu ef. Amddiffyniad y Goruchaf fyddo dros ei waith yn mysg pob enwad crefyddol yn yr ynys, fel y gweler ei effeithiau "er mawl gogoniant ei râs ef" y dydd ofnadwy hwnw a ddesgrifir gan ein Prif-fardd:
"Pan fo Môn a'i thirionwch,
O wres fflam yn eirias fflwch;
A'i thorog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur yn fflam'dân."