Cwm Eithin/Byddigions-Helynt yr Arian Mawr
← Y Trigolion: Y Forwyn a'r Ymborth | Cwm Eithin gan Hugh Evans, Lerpwl |
Yr Hen Fythynnod → |
PENNOD V
"BYDDIGIONS."
HELYNT YR ARIAN MAWR
NID oedd yno yr un gŵr bonheddig iawn yng Nghwm Eithin—hynny ydyw, un o hen deuluoedd y wlad y gellir olrhain eu hachau yn ôl am genedlaethau; "eiddo y rhai yw y ddaear a'i chyflawnder," trwy hawlfraint yn myned yn ôl i'r oesoedd tywyll. Yr oedd yr unig un oedd yno yn cael gofalu amdano mewn sefydliad yn agos i Lundain. Ond yr oedd yno fyddigions er hynny—rhai a ddeuai i aros yn yr hotels; byddigions yn dyfod yno i saethu. Adwaenem hwy wrth eu golwg—dynion yn gwisgo clôs pen glin a 'sanau tewion, rhesog, wedi troi eu topiau i lawr; dau neu dri o gŵn hyllion yn dilyn yn glos wrth eu sodlau; genwair neu wn o dan eu ceseiliau; yn sefyllian yn nrws y dafarn ar y Sul; byth yn mynd i gapel nac eglwys; wynebau cochion a golwg sarrug arnynt, bron yr un ffurf ag wyneb ci pen tarw. Nid oedd gan y rhain lawer o edmygwyr—ddim ond ychydig a arferai hongian o gwmpas y tafarnau.
Daeth darllawydd o Lerpwl i fyw i'r plas. Yr oedd hwnnw'n ŵr bonheddig iawn cyn belled ag yr oedd haelfrydedd yn myned. Yr oedd y diotwyr wrth eu bodd gydag ef. Un diwrnod, ar ôl bod yn hela a nifer gydag ef a llu o gurwyr, cymerodd yn ei ben y buasai'n sychu'r dafarn. Aeth â hwy gydag ef a thalodd am bob llymaid o gwrw oedd yno, ac ni chlywyd am y fath wledd â'r diwrnod hwnnw, na'r fath drai ag a welwyd drannoeth. Bu'n rhaid i nifer gerdded i Lanaled, lle'r oedd tair tafarn, i dorri eu syched. Deuai llu o Lerpwl ar adegau at y boneddwr uchod i saethu brain a phetris ac ieir y mynydd, a gelwid hwy yn "fyddigions Lerpwl"; ond methid yn lân â deall eu bod yn fyddigions. Credid mai rhyw hen siopwyr a thafarnwyr oeddynt. Nid oeddynt yn fyddigions iawn. Ni feddent yr hawlfraint i'w galw'n fyddigions. Nid oeddynt erioed wedi bod yn ddigon cymwynasgar i drawsfeddiannu rhannau o'r mynydd, a chodi crocbris o rent ar ei hen berchenogion amdano.
Er hynny, yr oedd yno bedwar boneddwr—hynny yw, rhai yn gallu byw heb weithio—sef Jac y Pandy, Jac Lanfor, Wil Lonydd a Thwm Poole. Yr oedd un peth yn gyffredin i'r pedwar. Nid oedd neb yn cofio gweled yr un ohonynt yn gweithio i ennill ceiniog. Er hynny, edrychent yn raenus, a bu'r pedwar fyw i fyned yn hen. Ond gwahaniaethent yn eu modd o fyw, ac yr oedd gwahaniaeth mawr ym maintioli eu hystadau. Cynhwysai ystad Jac y Pandy bedair sir, a chymerai flwyddyn neu ragor iddo deithio dros ei ystad i gyd. Felly ni flinai ei denantiaid yn aml iawn. Dyn wedi ei witsio oedd Jac y Pandy—neu felly y credid amdano. Nid wyf yn sicr y credai ef ei hun hynny, oherwydd yr oedd yn gyfrwys fel llwynog. Y traddodiad oedd iddo, ac ef yn llanc ieuanc smart, fod yn canlyn geneth ieuanc brydweddol, ond iddo droi ei gefn arni, a bu iddi hithau gael gan rywun ei witsio neu ei offrwm i Ffynnon Elian. Yr oedd yn llawn ymdumiau ac ystrywiau; yn hen greadur brwnt a chas iawn os deallai na fyddai neb ond merched yn y tai pan alwai. Nid wyf yn cofio i mi glywed iddo erioed ofyn am damaid. Ei ddull oedd, pan ddeuai trwy lidiart y buarth ac i olwg y tŷ, dyweder rhyw ganllath oddi wrth y drws, gychwyn yn araf a throi neu facio yn ei ôl ddwsinau o weithiau, a deuai dipyn yn nes i'r drws bob tro; ac yn y diwedd, pan gyrhaeddai y drws, safai gan fwmian rhywbeth na ddeallai neb, a chilio yn ei ôl ac yna dyfod i'r drws. Ni allai gydio yn y frechtan pan âi rhywun ag un iddo am amser hir iawn. Cychwynnai gymryd gafael ynddi a thynnai ei law yn ôl ugeiniau o weithiau. Yr arfer gyffredin oedd ei rhoddi ar y wal, a gadael iddo ei chymryd pan welai'n dda a gallai wneuthur hynny'n handi iawn pan gredai na fyddai neb yn edrych arno. Clywais am un wraig wedi gwylltio'n gaclwm wrtho oherwydd ei ymdumiau, a dywedodd wrtho, Cydia yn y frechtan yma, Jac, ne mi dy hitiai di nes y byddi di'n rholio." "Rhowch hi ar lawr," ebe Jac, "mae hi'n rhy fechan i chwi a minne gydio ynddi hi." Cymerai amser hir i gerdded yn ôl at lidiart y buarth, a'r un fath ar hyd y ffyrdd; ond pan fyddai mewn lle unig, ac y meddyliai na fyddai neb yn ei weled, ar adegau felly gallai gerdded yn ddigon sionc. Tua deng mlynedd ar hugain yn ôl gwelais ychydig o'i hanes yn Nhrysorfa'r Plant. Dywedid iddo fod heb ymweled ag un rhan o'i ystad am amser go hir, pan gyfarfu rhyw frawd ffraeth ag ef gan ei gyfarch, "Helo, Jac, o b'le dost ti? Mi glywes i dy fod ti wedi marw ers talwm." "Mi glywes inne hefyd," ebe Jac, "ond mi ddalltes i'n union mai celwydd oedd y stori."
"Jac y ffŵl" y gelwid ef yn Nhrysorfa'r Plant. Tebyg mai dyna oedd ei enw mewn rhai rhannau o'r wlad. Ond "Jac y Pandy" y galwem ni ef, am y gwyddem mai mab Pandy'r Glyn ydoedd. Nid wyf yn meddwl i Jac y Pandy gael bwyd gan neb oherwydd eu bod yn hoff ohono, na chael llawer o dosturi; ond câi er mwyn cael 'madael ag ef. Yr oedd wedi dysgu ei grefft yn ardderchog.
Jac Lanfor yw'r nesaf. Hen greadur rhadlon a diniwed ddigon. Câi groeso a gair caredig ymhobman. Nid oedd ei ystad ef agos gymaint ag un Jac y Pandy—tua hanner dwy sir oedd ei maint. Felly byddai ei ymweliadau ef lawer mynychach. Cymerai ambell ffarmwr yn ei ben, pan ddeuai Jac ar ei daith adeg cynhaeaf, i wneuthur iddo weithio ychydig am ei fwyd, ond yr oedd hynny bron yn amhosibl. Os ceid ef i'r cae byddai yn waith mawr ei gadw yno am ddarn o ddiwrnod. Diflannai o'r golwg. Er wedi ei fagu yn Llanfor yn ymyl tref y ddau goleg, nid oedd fawr o ddiwinydd. Aeth y Parch. Michael Jones, prif athro un o'r ddau goleg, i dreio dysgu tipyn arno un tro, trwy yr hen ddull o holi ac ateb—cateceisio. "Beth ydi cyflog pechod, Jac?" ebe'r Athro. "Wn i ddim wir, syr. Beth ddyliech chwi am ddeunaw yn y dydd a'i fwyd ei hun iddo fo?" ebe Jac. Diwrnodiau cinio Clwb yr Oddfellows oedd ei wleddoedd mawr, oherwydd yr oedd yn ddawnsiwr pur dda, a châi groeso a chyfle i dynnu'r crych o'r croen. Yr oedd Jac y Pandy ac yntau yn elynion anghymodlawn i'w gilydd—o'r hyn lleiaf, yr oedd Jac y Pandy yn elyniaethus iawn i'r llall. Nid âi i mewn i'r un ty tafarn ag ef, ac nid âi i ffwrdd oddi wrth y drws chwaith. Cofiaf un tro yn dda fod Jac Lanfor yn dawnsio yn y Cymro Inn, a phethau yn mynd yn hwyliog iawn, a landiodd Jac y Pandy wrth y drws, a deallodd fod y mab afradlon yn y wledd. A phan glywodd y cwmni fod y mab hynaf o'r tu allan, anfonwyd deiseb i geisio'i gael i mewn, oherwydd gallai yntau ddawnsio, a thybid, pe ceid y ddau i ddawnsio gyda'i gilydd, y buasai'r wledd yn un fythgofiadwy. Ond er i'r ddeiseb gael ei hanfon ddwywaith neu dair, gwrthododd yn bendant, a chwyrnai a bygythiai, ac yr oedd ei sŵn fel sŵn injan ddyrnu yn y pellter. Safodd yno'n stond hyd ddiwedd y sbleddach; a bu'n rhaid anfon convoy i fyned â Jac Lanfor i un o gywlasau'r gymdogaeth, ac wrth lwc yr oedd un yn teithio tua'r gogledd a'r llall tua'r dehau, felly ni ddaethant i wrthdarawiad.
Y trydydd oedd Wil Lonydd. Yr oedd cylch ei daith ef lawer cyfyngach na'r un o'r ddau uchod-rhyw ddau blwy a hanner; ac arferai aros yn hwy yn yr un plas, o wythnos i bythefnos—hen dŷ gwag neu feudy allan, rhyw led dau gae neu dri oddi wrth y ffermydd. Y mae'n debyg mai'r rheswm na chymerai ffeddiant o'r ysguboriau yn ymyl y tai oedd na chai lonydd gan yr hogiau drwg, ac ymwelai â'r un ffermydd ddwywaith neu dair yn ystod ei arhosiad. Fel rheol, gofynnai am dipyn o fara yn un ffarm i wneuthur bara llaeth, ac âi i'r ffarm nesaf i ofyn am llaeth. Gofynnai i'r wraig neu'r forwyn ei ferwi iddo. Gallai ffwyta llond crochan pur dda ar unwaith, a gwnai hynny y tro am y diwrnod. A da hynny, oherwydd cerddai mor araf fel mai prin ygwyddech ei fod yn symud. Yr oedd myned i ddwy neu dair o ffermydd gymaint ag a allai ei wneuthur. Yr oedd yn hollol ddiniwed, er bod rhyw graffter ynddo hefyd. Gwyddai ymhle i aros pan fyddai perygl i rew ac eira ei ddal, fel na fyddai raid iddo gerdded ymhell. Arferai ddywedyd am un o'i blwyfi mai plwy da iawn ydoedd—y gallasai dau foneddwr fel efo fyw yno'n iawn. Gwisgai smocffroc wlanen wen—hynny yw, un wedi bod yn wen. Honno'n llaes at ei draed, wedi ei gwisgo trwy wthio ei freichiau i'r llewys a'i ben trwy'r twll yn ei thop, fel y gwna'r merched ieuainc gyda jumpers y dyddiau hyn. Byddai yn cael un newydd bob rhyw hyn a hyn o flynyddoedd. Ni wn ai'r plwy oedd yn talu amdani, ai rhyw garedigion. Ond pan gâi un ni thynnai yr hen un, neu'n hytrach yr hen rai—rhoddai yr un newydd ar gefn y lleill; a phan gofiaf i ef edrychai'n debycach i gocyn crwn o wenith nag i ddyn. Cofiaf ef yn dda un gaeaf. Daeth ar ei daith i hen dy gwag ar gwr tyddyn fy hen ewythr William Ellis, nai John Ellis y cerddor, pan oeddwn i yn canlyn y wedd yno. Daeth yn storm o eira a rhew, lluwchfeydd mawrion, a pharhaodd yn hir. Bu Wil yn yr hen dŷ am o chwech i wyth wythnos yn methu symud ei luest, ac yn gorfod byw ar ddwy neu dair o ffermydd am hir o amser pan na allai fyned i le'n y byd arall. Ac aeth i deimlo'n swil, ac i ofni ei fod yn myned dros ben rheswm; ond gofalwyd na chafodd lwgu. Clywais modryb, Jenny Ellis, yn dywedyd wrtho, "Paid ti â diodde eisie bwyd, Wil. Os na fedri di fynd i rywle arall, tyd di yma fory eto." (Bendith ar ei phen. Meddai galon hawddgar a da). Bûm yn ei wylio'n dyfod trwy'r eira mawr. Tua chanol y dydd y deuai, ac wedi i'r eira dduo gan y rhew a'r tywydd yr oedd bron yn amhosibl dywedyd pa un ai Wil ai caseg eira yr edrychech arno; ac i fod yn sicr, byddai raid sefyll yn eich unman ac edrych ar ryw farc o'r tu draw iddo i weled ei fod yn symud, gan mor araf y cerddai. Galwodd mewn ffarm yn Edeirnion un tro. Nid oedd neb i mewn ond gŵr y tŷ, a hwnnw yn dipyn o wag. Meddyliodd y mynnai allan faint o fara a llaeth a allai Wil ei fwyta ar unwaith. Chwiliodd am y crochan mwyaf oedd yno; llanwodd ef â bara a llaeth hyd yr ymylon— digon i tua dwsin o ddynion, a berwodd ef yn dda, ac aeth ag ef i'r briws, a gwahoddodd Wil i'w helpu'i hun. Bu yntau'n bwyta ac yn bwyta am amser maith, nes oedd wedi chwyddo i faint mwdwl eithin; ond methodd yn lân ei orffen. Yr oedd yno dipyn yn weddill, a galwodd ar ŵr y tŷ, a dywedodd:—"Mae'r bara llaeth yma'n dda ofnadwy, ond fedra i ddim i fwyta fo i gyd. Byta di'r gweddill. Mae'n biti iddo fo fyn'd yn ofer."
Diau i Wil fyw yn hir fel Elias gynt ar y pryd hwnnw, ond gallaf sicrhau nad aeth yn bell.
Y pedwerydd yw Twm Poole. Cyfeiria "Llyfrbryf" ato ef yng Nghofiant Daniel Owen, 1903, wrth sôn am hoffusion y nofelydd: "Yn ei siop ef y gwelais i olaf y crwydryn rhyfedd Tom Poole." Wele ddarlun ohono wedi ei dynnu oddi ar ei gof gan Mr. William Hughes, Cefn Brith, a dywaid "Llyfrbryf": "Ystyrir y darlun yn bortread pur gywir o'r crwydryn syml diniwed." Gresyn na fuasai "Llyfrbryf" wedi rhoddi inni ragor o hanes Twm Poole. Ychydig o droeon y gwelais i ef. Diau fod rhesymau am hynny. Yn un peth nid oedd yn wreiddiol o Gwm Eithin. Credaf mai o ochr Dyffryn Clwyd i Hiraethog yr hanoedd. Rheswm arall iddo fod yn ddieithrach i mi na'r tri chyntaf yw, i mi dreulio darn o fore f'oes mewn rhan o Gwm Eithin lle nad oedd llawer o briciau, ac ni allai Twm fyw mewn lle felly. Dull Twm Poole o ennill ei damaid oedd hel coflaid o briciau a dyfod â hwy o dan ei gesail at ddrysau'r tai, a gofyn am damaid yn eu lle. Ni feddyliai am fyned at ddrws heb ei briciau i'r wraig at ddechrau tân. Cofiaf ef yn dda. Ffon yn un llaw a'r priciau o dan ei fraich; golwg ddiniwed arno, a gwraig y tŷ yn gofyn iddo, "Ddaru ti ddim tynnu'r gwrychoedd, decini, naddo Twm?" "Naddo," ebe yntau. Cymerodd hithau y priciau a rhoddodd glwt o fara a chaws iddo. Anhawster mawr Twm gyda'i ddull o fyw oedd cadw'r ddesgil yn wastad rhag iddo, wrth geisio plesio'r gwragedd, dynnu'r gwŷr yn ei ben. Oherwydd un o'r pechodau mwyaf yn erbyn ffarmwr yw gadael llidiart yn agored, a thynnu'r gwrychoedd. Clywais am un hen frawd yn dywedyd ei brofiad yn y seiat, ei fod yn credu na fyddai'n ddrwg iawn arno'r Ochr Draw, gan ei fod wedi gofalu cau pob llidiart ar ei ôl, ac na fu'n euog o dynnu gwrychneb. Ond yr oedd Twm Poole wedi dysgu'r grefft o hel priciau heb dynnu'r gwrychoedd, naill ai o egwyddor neu o ofn y canlyniadau. Ni fuasai raid iddo ofni llawer ar y gwragedd am hynny, oherwydd nid dieuog llawer ohonynt, os caent gyfle heb i'r gwŷr weled. Ond yr oedd clywed arthiad ambell ffarmwr pan welai rywun yn tynnu'r gwrych wedi suddo'n ddwfn i gydwybod Twm. Ni cheid ef yn euog o'r trosedd uchod. Drwg gennyf erbyn hyn na sylwais pa fodd y byddai Twm yn ymdaro ar y Sul. Oherwydd am hel priciau ar y Sul y cymerwyd yr hen wr i'r lleuad, ac yr oedd ef i'w weled yno yn amlwg iawn o Gwm Eithin, a mynych y bygythid plant a phobl ddiniwed â'r un dynged os gwnaent rywbeth allan o le. Clywais gan gyfaill mai ffordd Twm i gael cynhaliaeth ar y Sul oedd myned i'r capel, aros am y blaenoriaid a'r pregethwr ar y diwedd, canmol y bregeth, ac adrodd emyn, ac oni thyciai hynny, canmol Iesu Grist fel rhoddwr haelionus.
Clywais fy nain yn sôn am foneddwr arall a arferai deithio y rhannau hyn o'r wlad cyn cof i mi, yn neilltuol gilfachau'r Arennig. "Hen ddyn y Cŵn," y galwai hi ef. Ei ffordd ef oedd cadw pump neu chwech o gŵn ffyrnig, a mynd o gylch y ffermydd a hawlio bwyd iddo ef a'i gŵn; ac onid e bygythiai y cŵn ar y trigolion, ac yr oedd ei arswyd gymaint fel yr oedd yn gallu cael ei gynhaliaeth yn y ffordd ddieithriol hon. Dywedai fy nain i'r hen ŵr a'i dylwyth ddyfod i'w chartref un tro pan nad oedd ond ei mam a hithau a chwaer neu ddwy wrth y tŷ, ei thad a'r dynion wedi myned i'r mynydd; gwyddai'r hen ddyn hynny'n dda, ac aeth yn frwnt, ac i hawlio gwledd o datws a chig, ac uwd i'r cŵn. Ond daeth y dynion i lawr o'r mynydd yn gynt nag yr oedd yn meddwl, a gwelsant y lluniaeth yn cael ei baratoi, a'r merched mewn braw, a throesant ar y boneddwr a'i gŵn ac aeth yn gryn gynnwrf; ond y dynion a orfu; ac i ffwrdd â'r cŵn a'u meistr, ac ni welwyd hwy am hir o amser drachefn yn y pentre. Diau y dywaid rhywun mai coel gwrach ar ôl bwyta uwd yw peth fel yna, na fuasai'r trigolion byth yn dioddef peth felly. Sicr na fuasai yn cael ei oddef yn ein hoes ni; ond mae'r hanesyn uchod yn llythrennol wir, nid yw ond un o lawer o enghreifftiau o bethau tebyg. Yr oedd pobl yn medru witsio, ac yn y blaen, yn bla ar y wlad yn nechrau'r ganrif o'r blaen. Ac oni oddefwyd Gwylliaid Cochion Mawddwy am hir amser?
HELYNT YR ARIAN MAWR
Er mai digon tlawd oedd trigolion Cwm Eithin, bu agos iddynt fyned yn gyfoethog iawn fwy nag unwaith yn fy nghof i.
Sail hanes Arian Mawr Cwm Eithin yw hen draddodiad fod gŵr o'r enw Peter Ffowc, Tŷ Gwyn, wedi syrthio mewn cariad à merch ieuanc o bentre cyfagos, ond iddo newid ei feddwl ar ôl hynny. Gwysiwyd ef o flaen yr awdurdodau eglwysig i roddi cyfrif am ei waith, a derbyn ei benyd; ond erbyn y dydd penodedig yr oedd Peter Ffowc ar y môr yn hwylio tua'r America. A deuwyd o hyd i'w gariad wedi boddi wrth Bont Cilan. Llwyddodd Peter yn fawr fel marsiandwr yn y wlad newydd. Ymhen hir amser daeth yn ôl i Lundain, a bu farw yn ddiewyllys, ac yn Llundain y mae ei arian hyd y dydd hwn, er y gwnaed aml ymgais i'w cael oddi yno.
Pan oeddwn yn hogyn deg neu un ar ddeg oed, daeth stori allan fod arian mawr beth wmbredd yn dyfod i Gwm Eithin. Aeth y newydd fel tân gwyllt drwy y lle, pawb ar flaenau eu traed yn disgwyl amdanynt. Ni wn pa fodd y daw si am arian mawr i wahanol ardaloedd. Clywais mai yn debyg i'r dull a ganlyn, ond nis gallaf sicrhau. Er fy mod yn gwybod rhyw grap am amryw bethau, ni wn ddim ar wyneb y ddaear fawr yma am arian, ond fel hyn y clywais: Mae llawer o arian pobl wedi marw mewn lle a elwir y Chancery yn Llundain. Mae hynny yn ffaith, ac y mae yn ddigon gwir mai yno y maent. Fe fûm i yn Chancery Lane, ond ni welais yr arian mawr. Daw rhestr o'r arian hyn allan yn awr ac eilwaith, yn dangos fod hwn a hwn, o'r fan a'r fan, wedi marw yr amser a'r amser, ac wedi gadael hyn a hyn ar ei ôl; ac y maent wedi dyblu a threblu erbyn hyn. Pan fydd y twrneiod allan o waith, dim yn dyfod i mewn at gael tamaid, ânt i chwilio y rhestrau hyn, a gwelant fod rhyw un o le neilltuol wedi marw a gadael swm mawr iawn o arian, a neb wedi eu cael; llawer wedi methu, ond neb wedi treio yn ddiweddar. Pa niwed treio eto? Daw hynny ag ychydig i mewn. Yna chwilir am frawd o dwrnai o'r ardal, un wedi ei fagu ynddi os gellir ei gael, fel y gall ddywedyd ei fod yn un o ddisgynyddion yr hen ymadawedig. Yna chwilia yntau am frawd gweddol henffel o ganol y bobl, un nes atynt na thwrnai. Dechreua hwnnw ddywedyd megis dros ei ysgwydd:
"Glywsoch chwi fod Mr. Bowen, y twrne, yn treio am arian mawr yr hen Forus, mab Pant y Ffynnon, a fu farw yn Llunden erstalwm? Mae ei arian o yn y Chancery. Mae'n nhw yn deud fod yno gryn hanner can miliwn ohonyn nhw."
"Ydych chwi yn meddwl fod rhywbeth yn y peth?"
"O, mae yn siŵr i chwi fod, neu fase Mr. Bowen, y twrne, ddim yn boddro ei ben yn i cylch nhw."
"Wel, yr ydw i yn siŵr mod i yn perthyn yn nes i hen deulu Pant y Ffynnon na fo."
"Wel, well i chwi fynd i'w weld o ynte."
Fel yna fe ddywedir y rhoir ardal ar dân. Ni wn i ddim am hynny, ond gwn yn iawn hanes helynt Arian Mawr Cwm Eithin. Yr oedd hwnnw fel hyn. Yn un o'r trefi marchnad ar gyrion y Cwm yr oedd twrnai yn byw a gyfrifid yn un hir iawn ei ben, a chredaf ei fod felly. Yng nghanol Cwm Eithin yr oedd crefftwr yn byw, dyn golygus, parablus, crefftwr pur dda. Cawsai faint a fynnai o waith pe bai yn ei wneud, ond bywoliaeth lwydaidd oedd ar ei wraig a'i blant. A dywedyd y gwir yn blaen, nid oedd yn hoff o weithio. Nid oedd plygu yn ei gymalau. Un o'r bobl hynny sydd yn hoffi cerdded o gwmpas â choler wen am ei wddf, menyg a ffon yn ei ddwylo; rhyw un rhan o dair o ŵr bonheddig. Ped elech gydag ef am dro ar hyd y caeau dringai dros ben gwal chwe throedfedd cyn y plygai i fyned dan y pren a groesai'r adwy. Pe buasai yn fyw y dyddiau diweddaf hyn buasai yn hel siwrans, hel plant i'r ysgol, wedi cael swydd bach gyda'r King Edward Memorial neu dan yr Insurance Commission. Un felly oedd y gŵr hwn. Er ei fod yn byw ymhell oddi wrth Bowen y twrnai, nid hir y bu hwn yn cael gafael arno. Dechreuodd yntau ofyn megis dros ei ysgwydd yn y ffair a'r farchnad:
"Glywsoch chwi fod Mr. Bowen, y twrne, yn debyg o gael arian mawr yr hen Beter Ffowc, Tŷ Gwyn, ers talwm ? Mae Mr. Morgan, Cacau Cochion, a Mr. Jenkins, y Parciau, yn mynd i gael swm mawr ohonyn nhw."
"Beth! yr ydw i yn perthyn yn nês i deulu'r hen Beter Ffowc na'r un ohonyn nhw, peth sy siŵr ydi o."
"Wel, gore bo'r cynta i chi fynd i weld y twrne ynteu, rhag ofn i chwi fod yn ddiweddar. Mi ro eich enw chwi i lawr fel un o'r rhai sydd i gael rhan."
Aeth yn dân gwyllt trwy y lle. Bu agos i rai golli eu synhwyrau. Caed cyfarfod gyda Mr. Bowen. Nid oedd neb a roddai ei enw fel ymgeisydd am yr arian cyn dyddiad nodedig i dalu dim ond swm neilltuol. Ar ôl hynny byddai yn codi. Gallent eu talu ar ddwywaith neu dair. Ymddangosai i Mr. Bowen fod Mr. William Syth, y crefftwr, yn gwybod cryn lawer am achau y gymdogaeth, ac mai buddiol fyddai ei benodi i'w gynorthwyo ef i wneud ymchwil bellach, a gallai ef alw gyda'r rhai a ddymunai gael rhan o'r arian mawr pan ddeuent. Nid oedd eisiau pwyso ar neb, ond dylid cofio na chai neb gyfran pan ddeuent oni fyddai ei enw ar restr yr ymgeiswyr, ac wedi talu ei gyfran at y costau. Credai na fyddai y costau yn fwy na phunt ar gyfer pob ymgeisydd os ceid nifer go dda; a gallai Mr. Syth dderbyn yr arian bob yn bumswllt os byddai yn fwy cyfleus i rai eu talu felly. Dechreuodd yntau ar ei waith, yn gyntaf trwy fynd i'r ffeiriau a'r marchnadoedd â golwg foneddigaidd a phwysig arno, â'i ffon a'i fenyg. Ac edrychai mor ddidaro ag y medrai am gael enw neb, oherwydd yr oedd yr arian yn siŵr o ddyfod. Ac yr oedd y lliaws yn estyn y pumswllt cyntaf a'u henwau iddo. Ond yr oedd yno nifer o anffyddwyr yn y Cwm, hynny yw rhai â diffyg ffydd yn yr arian mawr, neu yn rhai oedd yn cofio ceisio amdanynt o'r blaen. Ac yr oedd eisiau eu cael hwythau i mewn. A gwelodd Mr. Syth cyn hir y byddai raid iddo fynd o gylch y tai i berswadio y rhai hyn; a bu wrthi yn ddygn iawn yn cerdded o gylch y Cwm, yn ofalus iawn i ddangos mai er mwyn y bobl eu hunain y galwai. Yr oedd yr "Arian Mawr " yn siŵr o ddyfod, a gresyn i neb fod heb ei ran. Yn ffodus yr oedd fy nain yn un o'r anffyddwyr. Yr oedd hi mewn gwth o oedran ar y pryd. Credid gan lawer ei bod hi yn un o'r perthynasau agosaf i'r hen Beter Ffowc, o'r hyn lleiaf, dywedai llawer hynny wrthi; clywais hwy â'm clustiau fy hun. Cofiaf Mr. Syth gyda hi yn dadlau ei hawliau hi i'w rhan fwy nag unwaith. Ond ni allai ei symud. Ar ôl iddo ef fethu daeth ei chefnder, yr hen Siôn Ifan y Pennant, i geisio ei pherswadio. Cyrhaeddodd tua chanol dydd, ar bwys ei ffon. Dangosai i'm nain ei gysylltiad ef a hithau â Pheter Ffowc, ac mai hi ac ef oedd i gael y siâr fwyaf. Bu yn y tŷ yn ymresymu'n hir, ond daliai fy nain yn gyndyn. Yr oedd yr hen Siôn wedi cynhyrfu drwyddo. Edrychai cyn wyllted a 'deryn, a'i lygaid yn melltennu. Aeth fy nain i'w ddanfon at y cut lloeau. Ofnwn bob munud weled yr hen ŵr, er ei fod wrth ei ffon, yn neidio dros ben fy nain, gan mor wyllt yr edrychai. Nid wyf yn sicr iawn beth oedd y rheswm fod fy nain yn gwrthod ymuno—un yn ddiau oedd nad oedd ganddi bunt i'w sbario. Ond y mae argraff ar fy meddwl ei bod yn cofio rhywun yn ceisio am yr arian mawr pan oedd hi yn eneth fach. Heblaw hynny, hen frenhines o wraig oedd hi. Nid hawdd ei symud wedi iddi wneuthur ei meddwl i fyny, ac nid oedd deilen ar ei thafod. Dywedai ei meddwl heb lol."
Gwelodd Mr. Syth nad oedd yr ail bumswllt, ac yn enwedig y trydydd pumswllt, yn dylifo i mewn mor rhwydd a'r cyntaf. Yr oedd misoedd yn myned heibio, yr arian heb ddyfod, a'r bobl yn dechrau nogio a cholli eu sêl a'u brwdfrydedd cyntaf. Yr oedd bron yn amhosibl cael y pedwerydd pumswllt.
Dywedid i Mr. Syth fynd o gwmpas a dywedyd, "Mae yr arian mawr yn bownd o ddyfod. Maent wedi llwytho ar dryciau y relwe yn Llundain. Ond mae y Great Western Railway Company yn gwrthod dyfod â hwy heb i ni dalu'r cludiad cyn cychwyn, ac mae eisiau'r pumswllt yna i dalu i'r Railway Company am ddwad â hwy."
Ymddengys na chafodd ddigon o bumsylltau i dalu'r cludiad, dim ond digon i dalu am ddadlwytho'r tryciau yn ôl. O'r hyn lleiaf, nid yw yr arian mawr byth wedi cyrraedd Cwm Eithin. Gwnaed cynnig arall am arian mawr Peter Ffowc ar ôl i mi adael Cwm Eithin. Nifer o flynyddoedd yn ôl, yr oeddwn yno am ychydig o awel iach y bryniau, yn aros gyda chyfaill; ac yr oedd y Cwm yn ferw drwyddo. Nid oedd dim i'w gael ond sôn am yr arian mawr. Yr oeddynt i ddyfod ar unwaith. Clywais fod rhai a geisiai amdanynt y tro hwnnw yn rhai gwreiddiol dros ben, ac wedi gwneud llun coeden fawr gadarn ganghennog. Peter Ffowc oedd y gwreiddyn a'r boncyff, a'r disgynyddion oedd y canghennau; ac am dalu'r swm o arian yr oedd pob un i gael ei enw ar un o'r canghennau i ddangos ei gysylltiad â'r boncyff. Ond yn lle ymladd am fod yn uchaf, fel arfer pobl uchelgeisiol, ymladdent am fod yn isaf a nesaf i'r boncyff; ac yr oedd enwau trigolion y cwm fel adar yn llechu yng nghanghennau'r goeden. Nid oes neb eto wedi gallu ei gysylltu ei hun â'r boncyff, hyd y gwn i, ac ni chlywais fod yr arian mawr wedi cyrraedd. Cefais fy nghymell gan fy nghyfaill yn gryf i roddi fy enw ar y goeden, ond cofiwn i'r Great Western Railway Company wrthod dyfod â'r arian i Gwm Eithin y tro o'r blaen ac nid oedd gennyf ffydd yn y goeden. Ond er nad yw fy enw yng nghangau'r goeden, gobeithiaf y cedwir hi, fel y caiff ei ddisgynyddion eto gyfle i brofi eu perthynas â Pheter Ffowc a chael yr arian mawr.