Cwm Eithin/Cwm Annibynia. Mudo a Dyddiau Ysgol

Hen Arferion Bendithiol i'r Tlawd Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Enwadau Cwm Eithin


PENNOD XV

CWM ANNIBYNIA.
MUDO A DYDDIAU YSGOL

YNG Nghwm Annibynia y gwelais oleuni dydd gyntaf—hynny yw, os goleuni dydd ydoedd. Dywedodd un hen frawd dreng, a gredai mai'r ffordd orau i yrru mulod yw eu curo yn eu clustiau, mai goleuni lleuad a welais gyntaf, ac nad oedd honno'n llawn. Ni fu gennyf fawr o feddwl ohono ef ar ôl hynny; byddaf yn ei gicio yn ei grimogau bob cyfle a gaf. Tybiaf glywed y darllenydd yn dywedyd, "Fe allai nad oedd bell o'i le; paham y cicio?" Ie, ie; ond y gwir sydd yn brifo clustiau dyn yn ddychrynllyd. Ni waeth gan bobl mo'r llawer pa faint o gelwydd a ddywedwch chwi amdanynt, ond i chwi beidio â dywedyd y gwir. Yr oedd Robert Thomas, y Llidiardau, yn ddigon o athronydd i ddeall hynny. Ni ofnai ef frifo Dr. Edwards y Bala wrth ddywedyd y gwir, er cymaint gŵr oedd ef.

Ond digwyddodd un tro, pan oedd Robert Thomas yn byw yn Ffestiniog, i Dr. Edwards ac yntau groesi ei gilydd yr un Sul, Robert Thomas yn pregethu yn y Bala, a Dr. Edwards yn Ffestiniog. Pan gyfarfuant ar ôl hynny, ebe Dr. Edwards:—"Sut yr ydych chwi, Robert Thomas? Mae'n dda gennyf eich gweled chwi. Yr oeddwn yn falch glywed y cyfeillion yn dywedyd mor dda yr oeddych yn pregethu y Sul y buoch acw. Dywedent eich bod yn pregethu yn afaelgar a grymus, fel un o hen gewri'r dyddiau gynt."

"Ho! Ho!" ebe Robert Thomas. "Fe glywis inne y bobol acw yn deud ych hanes chithe'n pregethu, ac yr oedden nhw yn deud eich bod chi'n pregethu'n ddigon sâl. 'Newch chi ddim digio wrtha i am ddeud y gwir, na newch, Dr. Edwards? Dydw i ddim yn digio wrthoch chi am ddeud celwydd."

Un o'r mân gymoedd a gychwyn allan o Gwm Eithin yw Cwm Annibynia, a dderfydd yn bigfain mewn mynydd isel. Gelwir ef Cwm Annibynia am mai'r Annibynwyr piau fo. Ni feiddiodd yr un enwad arall erioed roddi ei draed i lawr yno. Pan gofiaf ef gyntaf yr oedd ynddo ddwy eglwys Annibynnol, ac felly y mae eto. Dywedir y byddai'r hen wragedd a arferai hel eu bwyd yn ei alw ef yn Gwm Dwydorth, oherwydd wrth fyned i fyny un ochr, a dyfod yn ôl yr ochr arall, a galw ym mhob tyddyn, ni fyddai ganddynt yn y cwd blawd ond digon i'wneuthur dwy dorth geirch.

Yng ngenau'r Cwm yr oeddwn i yn byw, ac yr oedd yno ychydig o Fethodistiaid yn gymysg â'r Annibynwyr, ac yn myned i un o gapeli'r Methodistiaid yng ngwaelod Cwm Eithin; ond i hen gapel bach S———[1] troediwn i dros bont Rhyd y Clwyde, pont garreg (nid cerrig, cofiwch) heb ddim canllaw iddi. Un tro, wrth ddychwelyd o'r oedfa, nos Sul dywyll, rhedais dros y bont yn lle aros am oleuni'r gannwyll lantarn, a syrthiais dros y bont i'r afon. Tynnwyd fi allan yn fuan, a daeth y Parch. Humphrey Ellis, y pregethwr oedd yn y daith, ac a gydgerddai â ni ymlaen, a thynnodd ei law ar hyd fy mhen amryw droeon, a pheidiais innau a chrïo.

Llawr pridd oedd i'r capel yr adeg honno. Er hynny yr oedd yr adnod, "Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dŷ Dduw, a bydd barotach i wrando nag i roddi aberth ffyliaid," wedi ei cherfio mewn llechfaen wrth ben y drws. Bûm yn ceisio dyfalu lawer gwaith ar ôl hynny beth a barodd i'r hen dadau ei rhoddi yno. Oherwydd nid hawdd gwneuthur llawer o sŵn ar lawr pridd. Ond y mae dylanwad yr adnod wedi aros arnaf ar hyd fy oes. Ni fûm erioed yn euog o wneuthur sŵn wrth fyned i dŷ Dduw. Hoffwn gael cyfle unwaith eto i fyned i dynnu fy het i'r hen gapel a'i garreg gysegredig. Diau pe buasai Rhagluniaeth wedi trefnu imi aros yng Nghwm Annibynia, mai Annibynnwr selog fuaswn heddiw, a Hen Gyfansoddwr, y mae'n debyg, oherwydd y diweddar Barch. Michael D. Jones oedd gweinidog yr eglwys fach a gyfarfyddai yn y capel â'r llawr pridd. Teimlaf yn falch i mi gael dywedyd fy adnod wrth Michael Jones. Coffa da amdano. Meddai ddynoliaeth braf, ac annibyniaeth ag asgwrn cefn iddi. Ond collais fy annibyniaeth pan oeddwn rhwng chwech a saith oed, a phwy a ŵyr y golled?

Y mae sŵn gorfoledd Diwygiad '59 yn fy nghlustiau yn awr—y Cyfarfod Gweddi ganol nos ar y groesffordd wrth lidiart y pentre, yrahlith trigolion y godre, ar ôl dyfod allan o'r capel cyn gwahanu. Yr oedd y nefoedd yn ymyl. Nid oedd eisiau dim ond dringo i ben un o'r mynyddoedd a gylchynai'r cwm, a thorri twll yn y llofft las uwchben na fuasem ynddi. Clywem yr angylion yn canu'n fynych pan agorid y drws i rywun fyned i mewn i'r Capel Mawr uwchben. Yr oedd un hogyn fel Seth Bartle, druan, dipyn diniweitiach na'r gweddill. Daeth yn ystorm o fellt a tharanau ofnadwy un diwrnod. Rhedodd ei frodyr a'i chwiorydd i gyd i'r tŷ am loches, ond arhosodd y bachgen diniwed allan yn hamddenol. Aeth ei fam i chwilio amdano. "Oes gen ti ddim ofn, 'y machgen i?" ebe'r fam. "Nac oes," ebe yntau. "Beth wyt yn ei feddwl yw'r sŵn mawr yna, 'ngwas i?" ebe hi drachefn. "Dim ond Iesu Grist yn rhedeg yn Ei glocs ar hyd y llofft fawr uwchben," ebe yntau. Pa le y mae'r athronydd a fedr ateb yn well heddiw? Beth yw taranau? Y Creawdwr mawr yn cerdded yn drwm trwy natur?

Ond daeth rhyw bregethwr ysgolheigaidd ar ei dro, a dywedodd nad oedd y llofft las a welem uwchben yn ddim ond y terfyngylch, neu'r lle pellaf a allem ni ei weled er ei bod yn edrych fel pe bai yn taro ym mhen y mynydd, ond pe dringem yno, yr edrychai cyn belled oddi yno drachefn ag o waelod y Cwm. Dringais innau i ben y Garth, ac felly'r oedd. Aeth y Nefoedd yn bell, bell. O na chawn fyned yn blentyn yn f'ôl a byw yn ymyl y Nefoedd.

Cadw Cyfarfod Gweddi oedd chware'r plant yr adeg honno. Cofiaf yn dda un o'r cyfarfodydd hynny. Tri o fechgyn bach yr ardal wedi eu hel at ei gilydd i warchod tra'r elai'r rhieni i'r capel nos Sul, Urias y ffactri, yn Fethodus, Bob, fy nghefnder, a minnau, yn Annibynwyr. Ar ôl i bawb gychwyn aethom ninnau i gadw cyfarfod gweddi undebol, Bob yn dechrau. Gweddiwr pur faith oedd ef yr adeg honno. Yr oeddym i gyd ar ein gliniau ac yntau yn hir weddïo, a minnau wedi blino'n lân ar fy sefyllfa. Gwyddwn yn dda fod Urias yn oglais o'i gorun i'w sawdl; ac er cael rhywbeth i'm difyrru fy hun, dechreuais arno. Gwylltiodd yntau yn gaclwm, a gwaeddodd allan: Dywed 'Amen,' Robin, gael i mi hitio Huwcyn." Chware teg iddo, nid oedd am fy nharo pan oedd brawd ar ei liniau yn gweddio. Ac o drugaredd i'm hesgyrn, fe ddaliodd Robin ati am dipyn wedyn. Ciliais innau i'r gongl bellaf, ac erbyn i'r "Amen " ddyfod yr oedd cynddaredd Urias wedi cilio. Da gennyf ei fod yn parhau yn dirf ac yn byw yn y Bala.

Gwerthwyd nifer o ffermydd Cwm Annibynia. Collodd llawer eu cartrefi, a thorrodd hynny galon aml un o'r hen drigolion—fy nhaid yn eu mysg. Y dydd cyntaf o Fai, 186—,trodd gweddi Cwm Annibynia allan yn lluoedd i symud ein dodrefn a'n celfi ni i Gwm Eithin, pellter o ryw bedair neu bum milltir. Edrychai llawer o'r trigolion yn ddigalon iawn pan gychwynasom. A pha ryfedd? Oherwydd fy nhaid oedd bron yr unig ysgolhaig yn y Cwm, wedi bod am flynyddoedd yn yr ysgol yn Ellesmere, ac wedi ei ddwyn i fyny yn fesurydd tir, yn Sais da, a chanddo lawysgrif fel copperplate. Ef oedd cyf- reithiwr y Cwm-yn gwneuthur ewyllys pawb yno, a llyfr y dreth i'r trethgasglydd, etc. Mae amryw o hen ewyllysiau, receipts am Dreth y Golau, a thoreth o bethau eraill yn ei law- ysgrif yn fy meddiant. Cyrchai llawer i'w wrando'n darllen Y Faner. Yr oedd yn fedrus iawn â'i ddwylo. Gallai wneuthur bron unrhyw beth, a gwnâi bopeth am ddim. A diau mai yn "Yr Hows" y buasai cyn diwedd ei oes, oni bai fod fy nain yn gofalu, pan werthid rhywbeth oddi ar y tyddyn, am gadw'r arian at y rhent.

Ond sôn am fudo yr oeddwn. Un o ddyddiau mwyaf f'oes. Ni wyddwn ddim am y cartref newydd ond trwy hanes. Cefais yrru'r gwartheg am ran o'r ffordd, a'm cario yn y drol ful y rhan arall. Treuliodd "Lion," y mul, dros ugain mlynedd o'i oes gyda ni, ac ef oedd un o'm hathrawon pennaf ym more f'oes. Llawer gwaith, pan fyddwn yn ei boenydio, neu pan fyddai wedi blino arnaf, y rhoddodd ei ben rhwng ei goesau, ac y taflodd fi nes y byddwn yn ysgrialu, a rhedeg i ffwrdd ychydig lathenni, yna'n troi i edrych a fyddwn yn fyw. Chware teg iddo, ni thorrodd asgwrn i mi erioed; ond dysgodd i mi rai o wersi pwysicaf fy mywyd. Gwn yn bur dda sut i yrru mulod, a buasai hynny lawn cymaint o werth â gradd mewn prifysgol i aml un.

Cawsom dyddyn bychan yng Nghwm Eithin, gan yr un meistr neu feistres tir ag oedd wedi gwerthu ein hen gartref. Ond tyddyn yn cael ei drin ar hyd breichiau ydoedd, a'r adeiladau wedi mynd yn wael iawn. Bu raid inni godi ysgubor, ystabal côr i'r gwartheg hesbion, ac amryw gytiau yr haf cyntaf ar ôl myned yno. A'r cwbl a gawsom gan y feistres tir at y gost oedd caniatad i fyned i goedwig y plas i dorri digon o goed at y gwaith. Gwerthwyd y tyddyn hwnnw drachefn ymhen deng mlynedd, a chafodd y feistres tir bris da am yr adeiladau yr oeddym ni, o'r prinder, wedi gorfod eu codi at ein gwasanaeth. Ond cawsom aros yno drachefn gan y meistr newydd am yr un rhent. Ymhen rhai blynyddoedd gwerthwyd y cartref hwn yr ail waith. Cafodd yr olaf o'r teulu rybudd i ymadael. Yr oedd yn wael ei iechyd ar y pryd. Ni allai oddef y syniad o golli'r cartref. Torrodd

ei galon a chymerwyd ef i'r cartref fry rai misoedd cyn i'r rhybudd

i ymadael ddyfod i ben. Cefais innau'r gorchwyl prudd o wneuthur auction ar yr hen gelfi yn 1899, a throi fy nghefn ar yr hen gartref am byth, er y byddaf yn myned at yr hen dŷ, ac ar hyd yr hen lwybrau, a thrwy'r eithin i "Ben y Top," gael llond fy mrest o awyr iach, a chael un olwg arall ar y cylch mynyddoedd, bob tro yr af i Gwm Eithin. Hen gartref fy mebyd! Er mai tywyrch oedd dy drum, a gwellt dy do, a hwnnw mor isel nes i mi daro fy mhen gannoedd o weithiau yn dy dylathau wrth godi'n sydyn o'm gwely yn lle rowlio allan fel y dylaswn, ie, er hyn oll, cu iawn wyt gennyf fi.

Mae llawer yn synnu fod mwy yng ngafael y darfodedigaeth yng Nghymru fynyddig ac iach nag y sydd mewn rhannau eraill o'r wlad, a beïir y tai a'r bwyd a llawer o bethau. Ond anghofir mai Celt ac nid Sais yw y Cymro. "Hard words will never break a bone," medd y Sais. "Gair garw a dyr galon," medd y Cymro. Y mae, neu yr oedd, ymlyniad y Cymro wrth ei gartref yn ddiarhebol. Buasai llawer llai o'r darfodedigaeth yng Nghymru pe buasai yno well deddfau tir a sicrwydd dalia laeth. Clywch sŵn calonnau toredig gŵr a gwraig Cilhaul Uchaf yn dygyfor yng ngeiriau " S.R." pan gawsant rybudd i ymadael â'u cartref gan y stiwart tordyn, di-enaid. Nid yw ond un o filoedd o rai tebyg iddo. Bydd fy ngwaed yn berwi a dagrau yn llenwi fy llygaid wrth ddarllen am greulonderau llawer stiwart ac ambell dirfeddiannydd at ein cyndadau.

Y rheswm fod tir ddaliadaeth mor ansicr yng Nghwm Eithin y pryd hynny oedd fod yr ysgwïer a berchenogai y rhan fwyaf ohono, a'r man gymoedd yn rhedeg allan ohono, wedi colli arno'i hun, ac wedi ei roddi mewn sefydliad i'r perwyl hwnnw yn agos i Lundain er cyn cof i mi, a'r plas yn wag; ei wraig, yr hon oedd Saesnes, a heb yr un aer, yn byw'n wastraffus neu'n celcio arian iddi ei hun, am mai i nai ei phriod yr oedd yr ystad i fyned ar ei ôl. Ni wariai ddim ar yr adeiladau; y cwbl a wnâi oedd hel y rhent. Aeth yr ystad i ddyled, a bu raid gwerthu rhannau helaeth ohoni ddwy waith yn fy nghof i.

Pan gyrhaeddais Gwm Eithin yr oedd pawb yn ddieithr i mi. Nid oedd yno gymaint ag un wyneb a welswn erioed o'r blaen, a theimlwn yn swil, ond buan iawn y deuthum i adnabod y plant bach, plant capel Cwm Eithin, a phlant Llanaled, lle y mynych gyrchwn i Siop Lias am chwarter o de un geiniog ar ddeg, pwys o siwgwr coch grôt, neu bwys o siwgwr gwyn pum ceiniog; ac os byddai rhywun pwysig yn debyg o ddyfod i de, pwys o siwgwr loaf chwe cheiniog, ac i siop Sian Jones am werth swllt o flawd i wneud torth ganthreg.

Diau na fyddai hanes bywyd gwledig Cwm Eithin agos yn gyflawn heb bennod ar ddyddiau ysgol—cyfnod mwyaf rhamantus a diddorol ym mywyd hogyn, er iddo barhau'n hogyn ar hyd ei oes, ac yn enwedig gan iddo agor ei lygaid yng Nghymru pan oedd y werin yn dechrau dyfod i gredu y dylai pob plentyn gael rhyw ychydig o addysg a dysgu ysgrifennu, er bod llawer yn eredu nad oedd angen am y fath beth. Nid oedd yn ddim ond balchter, a gwell i'r plant er eu lles oedd dechrau ennill eu tamaid cyn gynted ag y medrent. "Ni chafodd 'nhad a mam ddim ysgol, ac fe wnaethant hwy yn iawn; maent yn y nefoedd ers blynyddoedd, ac ni chawsom ninnau ddim ysgol. By be ydi'r helynt sydd ar yr hen bregethwrs yma ac eraill hefo'u haddysg a'u haddysg o hyd?" Yr oedd llawer o ieuenctid Cwm Eithin ychydig o flynyddoedd yn hŷn na mi heb gael dim ysgol bron.

Erbyn fy amser i yr oedd pethau wedi newid: yr oedd y Cwm wedi deffro drwyddo, ac nid wyf yn meddwl fod nemor un o'm cyfoedion na fuont yn yr ysgol bob dydd am ryw gymaint o amser. Pan symudais i o Gwm Annibynia i Gwm Eithin yr oeddwn rhwng chwech a saith oed, heb fod mewn ysgol ond Ysgol Sul. Yr oedd hi yn frwydr boeth iawn rhwng yr Ymneilltuwyr a hen berson Llanfryniau. Ni newidiais fy mhlwyf er symud o Gwm Annibynia i Gwm Eithin (yn drawiadol iawn mewn plwy o'r un enw, yn ôl cyfieithiad "Dewi o Ddyfed," yr wyf wedi bod ar hyd fy oes). Aeth yn ymladdfa rhwng y Person. a'r Ymneilltuwyr ar gwestiwn addysg. Yr oedd yno ryw fath o ysgol wedi bod yn Llanfryniau mewn hen dŷ neu ryw fath o adeilad isel yn ymyl y Ficerdy, ond yr oedd wedi myned yn sâl ac anghyfleus. Tua'r adeg honno, codwyd ysgoldy yn ymyl yr eglwys—"Yr Ysgol Frics," fel y galwem ni hi, a ffermwyr y cylch, a'r rhai hynny yn Ymneilltuwyr bob un, wedi gwneuthur eu rhan at ei chodi trwy gyfrannu a chario ati. Yn fuan dechreuodd y Person fyned i'r ysgol fore Llun i edrych pwy a fyddai yno, ac anfon y plant na fyddent wedi bod yn yr Eglwys fore Sul adref i ddywedyd wrth eu rhieni oni ddeuent i'r Eglwys y Sul na chaent ddyfod i'r ysgol. Arweiniodd hyn i frwydr boeth rhwng y Person a'r Ymneilltuwyr. Ei amcan oedd gorfodi'r Ymneilltuwyr i ddyfod i'r Eglwys neu eu niweidio trwy rwystro i'w plant gael addysg. Ond fe drowyd Cyngor Ahitophel' yn ffolineb y tro hwn fel llawer tro arall; deffrôdd hyn yr Ymneilltuwyr i waelod eu bodolaeth; ymgynddeiriogasant y mynnent addysg i'w plant. Nid dynion gwellt mo bobl Cwm Eithin. Onid yno y magwyd merthyron y degwm? Onid hwy a fu'n ysgwyd gwr o'r enw Mwrog, y "bwm bailiff," a ddaeth i gasglu y degwm ar ran Esgob Llanelwy, fel bretyn ar ganllaw Pont y Glyn, a'i anfon yn waglaw i'w wlad ei hun? Onid hwy a ddioddefodd garchar yn Rhuthyn am eu gwaith? Ie, cafodd rhai o'm cyfoedion, ar ôl i mi droi fy nghefn ar yr ardal, y fraint o fod yn ferthyron y degwm. Cefais innau'r fraint o gasglu ychydig arian at gostau eu hamddiffyniad. Maent i gyd ond chwech wedi croesi i'r wlad lle mae rhyddid a chydraddoldeb. Heddwch i'w llwch.[2]

Cofiaf yr Hen Berson yn dda. Yr oedd mewn gwth o oedran pan welais ef gyntaf. Gŵr o Sir Aberteifi ydoedd. Fel y dywedodd "Wil Bryn Hir" wrtho un tro: "Mi welaf ar eich pen mai un o Sir Aberteifi ydech chwi, lle y mae nhw yn magu mochyn a pherson ym mhob tŷ tlawd." Er ei gulni at yr Ymneilltuwyr, yr oedd yn ŵr rhadlon ar lawer cyfrif; yn gymydog caredig iawn; meddai bersonoliaeth gref, pen mawr, gwallt gwyn cyrliog. Bûm yn ei dŷ lawer tro yn talu'r degwm, a chawn fara a chaws ganddo bob amser, a gwahoddiad i'r Eglwys. Deuai i hela i'm cartref. Meddai wn a miliast ruddgoch gyflym ei throed; canlynai'r byddigions o'r Plas. Yr oedd yn ustus heddwch; anfonodd aml hogyn i'r carchar am saethu petrisen, fy athro i yn yr Ysgol Sul yn eu mysg, a hynny, mae'n debyg, ar ddarn o'r mynydd yr oedd rhywun dipyn cyn hynny wedi ei ddwyn oddi ar y tlodion. Mae'n debyg ei fod yn credu y cyflawnai ddyletswyddau ei weinidogaeth bwysig wrth wneuthur hyn, a phlesio'i nawddogwyr. Dywedid mai anodd cael ei ail mewn cinio. Priodolid iddo'r dywediad am yr ŵydd' mai ffowlyn digon anfelys oedd hi i ginio, ei bod yn ormod o ginio i un, a heb fod yn ddigon i ddau.

Gwnâi'r Person bob ystryw a defnyddiai bob sgriw i orfodi ei holl blwyfolion i fyned i'r Eglwys. Rhag ofn i mi dynnu darlun rhy ddu o'r gŵr parchedig, a bod fy nghof am yr hyn a ddigwyddodd gryn lawer dros drigain mlynedd yn ôl yn chware mig â mi, gwell imi egluro fy mod wedi ysgrifennu'r storïau hyn fwy na phymtheng mlynedd yn ôl pan oeddwn yn wael am wythnosau ar ôl damwain, a heb ddim i'm difyrru fy hun. Cefais fis o seibiant yn awelon iach Cwm Eithin, a holais gryn lawer ar yr hen frodorion y pryd hynny am droeon bore oes. Yn ffodus iawn deuthum ar draws merch yr unig siop oedd yn Llanfryniau y pryd hynny, ac sydd gyfoed â mi ac oedd yn yr Ysgol Gerrig yr un pryd â mi, nas gwelswn ers mwy na hanner can mlynedd. Ond wrth holi am hen gyfoedion, deuthum o hyd iddi. Aeth yn ymgom rhyngom am yr hen amser gynt. "Chwi gofiwch," meddai, "mai gennym ni yn y siop yr oedd y Post Office. Llawer gwaith y bygythiodd yr hen Berson fy nhad, os gadawai i ni'r plant fyned i'r capel y cymerai y Post Office oddiarnom." Aml i dro," meddai, y cyfarfu â mi ar y llan fore Llun. 'Fuost ti yn y Tŷ Cwrdd yn Nhop y Lôn ddoe yn to? Cofia di mai i uffern yr aiff y plant sydd yn mynd ono i gyd; fe gânt eu llosgi i gyd yn greision mewn llyn o dân a brwmstan.' Cyfarfum â brawd arall ychydig yn hŷn na mi, a gafodd ei anfon adref aml dro ar fore Llun am beidio â myned i'r Eglwys fore Sul. "Arferai fy nhad a'm mam,' meddai, fy anfon i'r Eglwys ar fore Sul weithiau. Cofiaf yn dda iawn un bore Llun nad oeddwn wedi bod yn yr Eglwys. Daeth y Person ataf. Lle buost ti bore ddoe?' meddai. 'Gartre yn gwarchod i mam fynd i'r capel,' ebe finnau yn ddigon diniwed. Gwylltiodd y tro hwnnw yn waeth nag arfer." Ebe'r un gŵr, "Hen frawd practical iawn oedd yr hen Berson; ni wnâi lawer o ragor rhwng Sul a diwrnod arall. Cofiaf wrth ddyfod allan o'r Eglwys un bore Sul ei glywed yn gweiddi ar ôl un o'r bechgyn, 'Hei, dywed wrth dy fam am ddwad acw i godi tatws yfory."

Aeth yr ymladdfa yn dost rhwng y Person a'r Ymneilltuwyr ar gwestiwn yr ysgol. Gwrthododd y Person yn bendant adael i blant yr Ymneilltuwyr fyned i'r ysgol onid aent i'r Eglwys fore Sul. Plygodd rhai i anfon eu plant, ond gwrthododd eraill yn bendant. A'r diwedd fu i'r Ymneilltuwyr adeiladu ysgoldy bach o gerrig yn mesur chwe llath wrth naw llath ar lan yr afon ar ganol y pentre ar gyfer yr Eglwys, a bu'n ddolur llygad i'r hen Berson tra fu byw, ac efallai ei fod wedi byrhau ei oes. Meddai un o'm cyfoedion wrthyf:. "Fe lifodd yr afon yn fawr fel y gwnâi yn aml, ond y tro hwn fe dorrodd o dan y dorlan ac fe weithiodd dwll o dan sylfaen ochr yr ysgol gerrig. Gwelodd yr hen Berson law rhagluniaeth yn y peth. Y rhai am iddynt ddianc o Eglwys ac o Ysgol Frics ni ad dialedd iddynt fyw!' Ond er iddo weddïo am iddi syrthio, ni wnaeth, a buan y llanwodd yr Ymneilltuwyr y twll â cherrig mawr, a safodd yr ysgol gerrig ac fe synnodd yr hen Berson." Y mae'r hen golegdy, er wedi ei droi yn warehouse siopwr, yn sefyll heddiw, yn edrych mor gadarn ag erioed, yn dystiolaeth i fuddugoliaeth rhyddid ar drais a gorthrwm. Bûm yn tynnu fy nghap iddo, ac yn syllu gydag edmygedd mawr arno yn ddiweddar.

Diau fod llawer Eglwyswr ac aml Ymneilltuwr erbyn hyn yn methu â deall beth oedd wrth wraidd y cri am Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yng Nghymru, a pheth a roddodd fod i Ryfel y Degwm. Ond cofio'r nifer o ddynion culion, dialgar oedd yn llenwi pulpudau'r Llannau, ni raid i neb synnu. Diau fod hen Berson Cwm Eithin yn un o'r rhai mwyaf eithafol. Prawf o hynny yw mai yno yn unig y magwyd nifer o ddynion a gafodd eu galw yn "Ferthyron y Degwm." Cofier hefyd nad yw'r amser y soniaf amdano ond rhyw bymtheng mlynedd yn ddiweddarach na'r amser y cyhoeddwyd "Brad y Llyfrau Gleision," ac mai ei gyfoedion, ac efallai aml un iau nag ef, a fu'n rhoddi eu tystiolaeth o flaen y Ddirprwyaeth Frenhinol Saesneg, rhai a ddaeth i'r casgliad mai un o'r pethau mwyaf niweidiol a ddaeth i Gymru erioed oedd ei Hymneilltuaeth. Gwelodd y Ddirprwyaeth chwech o smotiau duon mawr ar gymeriad Cymru: 1, Diffyg gwareiddiad; 2, Diffyg gwybodaeth; 3, Meddwdod; 4, Anniweirdeb; 5, Ein hiaith; 6, Ein Hymneilltuaeth. Yr oedd y pedwar cyntaf yn gynhyrchion y ddau olaf. Diffyg gwareiddiad a diffyg gwybodaeth yn codi o'r ffaith na fedrai'r trigolion siarad Saesneg. Meddwdod ac anniweirdeb Cymru i'w olrhain i'w Hymneilltuaeth. Fel y canlyn y symia un o'r Dirprwywyr ei Adroddiad i fyny:—

"Y mae'r iaith Gymraeg yn cadw Cymru i lawr yn enbyd, ac yn gosod lliaws o atalfeydd ar ffordd cynnydd moesol a llwyddiant masnachol y genedl. Anodd ydyw gorbrisio ei heffeithiau er niwed. Ceidw y bobl oddi wrth gyd—drafodaeth a'u dyrchafai yn fawr mewn gwareiddiad, ac atalia wybodaeth fuddiol i mewn i'w meddyliau. Gwelir effeithiau andwyol yr iaith Gymraeg yn eglur ac alaethus yn y brawdlysoedd. Mae yn gwyrdroi y gwirionedd, yn ffafrio twyll, ac yn cefnogi anudoniaeth." "Dywedir," meddai drachefn, "fod y diffyg o ddiweirdeb yn cael ei gynhyrchu yn arbennig gan y cyfarfodydd gweddio hwyrol, a'r cydgyfeillachu sydd yn canlyn wrth ddychwelyd adref. Haeriad eithaf naturiol offeiriad o Eglwys Loegr," meddai, "ydyw fod profiad maith wedi fy argyhoeddi i o gymeriad mwy heddychlon a theyrngarol y rhai hynny o'r dosbarth isaf sydd yn aelodau yn y Llan, na'r rhai a berthyn i'r sectau eraill."[3]

Felly nid yw'n unrhyw syndod fod y Cymry wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn Eglwys Loegr a thalu degwm at ei chynnal.

Cafwyd gwahanol bersonau i addysgu plant yr Ysgol Gerrig. Bu mab y dafarn yno am dymor, ac yna merch y gweinidog Annibynnol. Ymhen peth amser, caed hen lanc o ysgolfeistr wedi cael addysg bur dda, wedi bod mewn siop lyfrau yn y Strand, Llundain, ac yn ddysgwr da iawn. Enillodd yr Ysgol Gerrig enw da iddi ei hun; deuai aml hogyn mawr o dipyn bellter o ffordd yno am chwarter neu hanner blwyddyn yn y gaeaf i berffeithio ychydig arno'i hun. Cefais innau nifer o chwarteri yno ar ôl i mi adael ysgol Llanaled, ond arhoswn gartref yn yr haf i dorri gwair ac ŷd.

Pan oeddwn i yn yr ysgol nid llawer o gydnabyddiaeth oedd rhyngom ni, blant yr Ysgol Gerrig, â'r dyrnaid plant oedd yn yr Ysgol Frics. Teulu'r gynffon, cadwent hwy yr un ochr â'r Eglwys a'r Ysgol Frics i'r afon, tra yr arhosem ni ar yr un ochr â'r Ysgol Gerrig a'r Efail i'r afon. Ond pe buasai yn myned yn ymladdfa, ni fuasai gan gwlins yr Ysgol Frics ddim siawns yn erbyn crymffastiau'r Ysgol Gerrig. Felly yr aeth pethau ymlaen hyd nes y daeth y Bwrdd Ysgol. Cynhelid yr Ysgol Gerrig gan roddion gwirfoddol a cheiniogau'r plant.

Ni wn pa fath bregethwr oedd yr hen Berson, oherwydd yr oedd yr helynt ynghylch yr ysgol wedi peri i mi gasáu'r Eglwys. Dwy waith y bu fy nhroed erioed o'i mewn; y tro cyntaf pan oeddwn tua thair ar ddeg oed yng nghladdedigaeth un o'm hen flaenoriaid; a'r ail waith pan ddaeth y Person newydd yno. Yr oeddwn wedi ei glywed ef yn pregethu o'r blaen mewn gwylnos pan oedd yn Berson Llanllonydd, ac wedi ei hoffi.

Da gennyf allu dywedyd nad oedd pob Person fel hen Berson Llanfryniau. Yn Llanaled, y plwyf agosaf i mi, yr oedd yno wr hawddgar a da, llydan ei orwelion, yn Berson, a rhyddid i bawb anfon eu plant i'r ysgol ar yr un telerau. Ac fel y digwyddai fod, yr oedd fy nghartref i ar derfyn y ddau blwyf, dim ond milltir union i Lanaled, tra yr oedd dros ddwy filltir o ffordd i Lanfryniau, prif ac unig bentref fy mhlwyf fy hun. Felly i Lanaled y cefais fy anfon i'r ysgol. Ac fel y canlyn y bu.

Yn fuan ar ôl i ni symud i Gwm Eithin, yng nghanol brwydr addysg, daeth ffarmwr cefnog, cymydog, i'm cartref, un o arweinwyr capel bach Cwm Eithin. Yr oedd golwg gwyllt arno, fel pe newydd ddyfod allan o un o gyfarfodydd yr Ysgol Gerrig. Meddai wrth fy mam:—

"Yr oedd Huw bach yn ateb yn dda iawn i Robert Owen yn Sasiwn y Plant. A wnewch chwi adael iddo fyned i'r Ysgol? Os gwnewch, fe dala i am ei ysgol o am y flwyddyn gyntaf."

Diolchodd fy mam yn gynnes iawn iddo, ac addawodd y cawn fyned cyn gynted ag y gallai fy nghael yn barod. Aeth fy mam ati i daclu fy nillad. Yr oedd fy nhaid wedi fy nysgu i ysgrifennu rhyw ychydig cynt, a dysgodd yr A.B. Saesneg, a'r "Twice one are two" i mi tra y bûm yn paratoi, ac aeth trwy ei gypyrddaid o lyfrau Saesneg—ni feddai yr un Cymraeg ond y Beibl. Tynnodd oddi yno Eiriadur Cymraeg a Saesneg, gan T. Lewis ac eraill, Caerfyrddin, 1805; 'rwyf wedi ei drysori o hynny hyd yn awr. Nid oedd gennyf y syniad lleiaf beth oedd yng nghrombil llyfrau Saesneg fy nhaid, ond yr oeddwn wedi dechrau hoffi darllen a dysgu allan. Yr oedd gennyf Feibl, Rhodd Mam, Hyfforddwr a Holwyddoreg John Hughes, Lerpwl, ac yr oedd hwnnw bron i gyd ar fy nghof, a gallwn ateb cwestiynau ar hanesion y Beibl, a dywedyd beth oedd oed y byd pan anwyd llawer o gymeriadau'r Hen Destament. Wrth droi dalennau'r Geiriadur, deuthum ar draws y gair "Reverend." Gofynnais i'm taid am ei ystyr: "Dyna deitl y Personiaid," ebe yntau, "ac y maent yn galw'r hen bregethwrs yma yn Reverends yrŵan," ebe ef. Cefais ysgytiad ofnadwy i'm hysbryd. "Yr hen bregethwrs yma," gweision yr Arglwydd, yn ôl fy syniad i! Deallais mai Eglwyswr oedd fy nhaid yn ei galon, er na fu yn yr Eglwys yn fy nghof i. Bu yn mynd i gapel bach llawr pridd Cwm Annibynia amser Diwygiad '59. Dyna'r unig air bach a glywais erioed ganddo am yr Ymneilltuwyr. Yr oedd fy nain yn selog o'u plaid, wedi ei magu o dan adain Charles o'r Bala. Cynghorwyd fi i wneuthur ychydig o benselau er gwneud ffrindiau o blant Llanaled, a buont yn ddefnyddiol iawn i'r pwrpas hwnnw. Yr oedd yno ddigon o gerrig nadd yn fy nghartre, a gwnaent benselau da iawn. Yr oedd yno haen ar yr wyneb, a deuwyd o hyd i haen arall pan oedd Charles Nailor yn turio am lo.

Wele fi, ar fore Llun bythgofiadwy i mi, yn cychwyn yn swil a chrynedig. Sglaetsan yn crogi o dan fy nghesail wrth linyn dros fy ysgwydd. Llond un boced o benselau, tipyn o frechdan yn y llall i'm cinio. Yr oedd yno dair tafarn yn Llanaled. Byddwn yn arfer myned i un ohonynt i bostio llythyr, ac i un arall i werthu ambell bysgodyn. Nid oedd yn ein hafon ni y pryd hynny ond brithylliaid. Y mwyaf a gefais erioed yno oedd un deunaw owns. Cefais bris pur dda am hwnnw. Ond am y dafarn arall, ewythr a modryb i mi oedd yno. Tŷ to gwellt isel, wedi ei godi ar dair gwaith o leiaf, os nad pedair gwaith, ac yno yr oedd fy mam wedi trefnu i mi fwyta fy nghinio. Nid oedd rhaid i mi gario dim ond tipyn o frechdan i'm canlyn. Cawn ddigon o laeth neu botes, ac ambell damaid o gig. Awn trwy'r gorchwyl mawr o fwyta fy nghinio gyda'r bechgyn yn y pen ucha. Nid oedd neb yn yfed yno, a byddai Modryb yn y parlwr bach yn ymyl yn cadw chware teg i mi pan gymerid fi'n ysgafn. Cefais lawer o garedigrwydd ganddynt, ac ni wnaeth y ddiod ddim niwed iddynt hwy yn bersonol. Pan fyddai rhai wedi yfed yn dda, byddai'n rhaid cael talu am lasiaid i F'ewyrth, oherwydd yr oedd yn gwmni mor ddifyr, yn siarad a chwerthin a phrocio'r tân; ac os byddai raid iddo gymryd glasiaid, "droper o gin" a gymerai bob amser, a hynny oedd llymaid o ddŵr. Derbyniodd lawer o arian yn ystod yr hanner can mlynedd neu ragor y bu yno am lymaid o ddŵr glân. Ni ofynnodd neb i mi yfed dafn, erioed yno, ac ni feddyliais erioed am wneud. Gwelais lawer o yfed yno—yr un rhai fel rheol. Cofiaf dri o hogiau ieuainc yn dyfod yno un tro i nôl glasiaid. Edrychodd Modryb yn front arnynt, ac yn bur fuan dywedodd wrthynt am fynd adre.

Bu un tro doniol iawn yno. Yr oedd mab y Person yn hoff iawn o'r dafarn. Aeth yn ffrwgwd rhyngddo ef ac un arall wedi cael gormod. Yr oedd ganddo wasgod grand ryfeddol amdano o ddeunydd gwahanol i weddill ei ddillad, ac yn y ffrwgwd rhwygwyd y wasgod yn ddarnau. A'r cwestiwn mawr wedyn oedd sut i wynebu ei fam ar ôl mynd adre. Yr oedd ganddo fwy o ofn ei fam na'i dad, a pheth oedd i'w wneud? Wedi hir feddwl penderfynodd losgi ymylon y rhwygiadau, a myned adre a dywedyd wrth ei fam ei fod wedi digwydd rhoddi ei getyn heb ei ddiffodd yn iawn ym mhoced ei wasgod, iddi fyned ar dân, ac iddo gael dihangfa gyfyng iawn. Cafodd groeso a chydymdeimlad mawr a gwasgod newydd gan ei fam.

Hen batriarch ardderchog oedd Person Llanaled—pur wahanol i'r gŵr a fu yn erlid John Jones, Glanygors. Felly ni chefais i'r fraint o fod yn ferthyr addysg trwy gael fy ngyrru adre fore Llun am beidio â mynd i'r eglwys fore Sul. Heblaw hynny yr oedd yno ysgolfeistr o Gymro twymgalon a llenor gweddol wych. Mae peth o'i waith wedi ei gyhoeddi. Er mai Saesneg a siaradai ef yn yr ysgol, ni chlywais i sôn am y Welsh Not, sef y gosb am siarad Cymraeg. Cadwai wialen fedw anferth, wedi ei phlethu, a wnâi ei gwaith wrth ei dangos. Anaml y byddai'n rhaid iddo ei defnyddio. Nid wyf yn meddwl iddo frifo llawer ar neb â hi. Coffa da sydd amdano. Bu ef a minnau yn gyfeillion cynnes i ddiwedd ei oes faith, ac yn gohebu peth. Credaf nad oes ysgoldy yng Nghymru yn sefyll ar le iachach nag un Llanaled. Saif bron ar uchaf y cwm, Hiraethog un ochr, a'r Brotos a mynyddoedd eraill yr ochr arall. A mynyddoedd Sir Gaernarfon fel rhes o gadfridogion i'w gweled yn y pellter trwy ffenestr yr ysgoldy. Buasai'n gywilydd i unrhyw blentyn beidio â dysgu rhyw gymaint, pa mor ddwl bynnag, yn y fath le.

Pan euthum i'r ysgol, nid oedd yno ond yr ysgolfeistr i ddysgu y dosbarthiadau i gyd, er bod yno gryn nifer o blant o bob oed, yn enwedig yn y gaeaf. Arferai rhai o'r plant mwyaf roddi gwersi i'r rhai lleiaf. Yn fuan ar ôl i mi fyned yno, oherwydd henaint a llesgedd yr hen Ficar parchedig, daeth yno gurad, a deuai ef i'r ysgol yn bur fynych i roddi gwers i rai o'r dosbarthiadau. Mae'n debyg na wnâi fawr ond darllen llithoedd, a cherdded ar hyd y llan ôl a blaen. Byddem ninnau yn gwneud bow iddo pan gyfarfyddem ag ef ar y llan; gwenai yntau yn neis iawn arnom. Paham y byddem yn gwneud bow i'r curad nis gwn; ni fyddem byth yn gwneud bow i'r gweinidog. Cefais aml wers gan y curad mewn darllen a rhifyddiaeth.

Arferai William Jones, Lerpwl, roddi te a bara brith i ni unwaith yn y flwyddyn. Ac un tro cawsom de neilltuol ar ddyfodiad Tywysog Cymru i'w oed. A chwpan i yfed y te a llun y Tywysog arni. Cafodd dyn y mail bach gôt goch, a bu'r gôt goch yn yr ardal yn hir ar ôl i ddyn y mail bach ei throi heibio, yn cael ei phrynu a'i gwerthu gan y naill hogyn i'r llall. Nid oedd treulio arni.

Yn fuan ar ôl i mi adael yr ysgol fe adeiladwyd ysgoldy i'r genethod i fod ar eu pennau eu hunain, a diau i hynny dorri rhyw gymaint ar ramant bywyd ysgol Llanaled. Mae'n ddrwg gennyf orfod addef mai rhyw do go ddiniwed o ysgolheigion oedd y to yr oeddwn i yn eu mysg. Ychydig o amser o'n blaenau ni yr oedd yno rai a ddaeth yn enwogion-"Taliesin Hiraethog," "Huw Myfyr," "Llew Hiraethog," Huw ac Isaac Jones, Hendre Ddu, Dr. David Roberts ("Dyn y foch aur"), Gwrecsam, y Parch. David Jones, Hugh Evans, Tŷ'n y Gilfach; ac o'r to ar ein holau y cododd "Bardd y Drysau," "Glyn Myfyr," a Thomas Jones, bardd ac awdur gwych. Ond o'n criw ni, yr unig un, hyd y cofiaf, a ddaeth i enwogrwydd oedd "Tawelfryn," awdur cofiant Ieuan Gwynedd," sydd yn aros eto. Ond diolch am yr addysg a gawsom; er mor ddiniwed y troesom allan, mae'n siŵr y buasem yn fwy diniwed fyth hebddi.

Hyd y gwn i, yr oedd chwaraeon plant ysgol Cwm Eithin yn debyg i chwaraeon y dyddiau hyn. Byddem yn chware pêl droed yn y gaeaf, er na chlywais y gair pêl droed na football erioed yn cael ei arfer. Yr oedd gennym ni ein henw clasurol ein hunain ar y bêl, sef "cwd tarw.' Yr arferiad oedd i ddau o'r bechgyn hynaf fod yn arweinwyr-pob un i ddewis ei fyddin. Câi'r cyntaf bigo un a'r nesaf bigo dau, ac yna bob yn ail nes ceid digon. Weithiau cymerent yn eu pennau i roddi tro i'r hen blant bach yn y fyddin, nes y byddai cae'r llyn yn ddu gan blant. Arferem hefyd ddogio cath glap, pitsio, troi'r topyn cwrs, chware marblis-pob chware yn ei dymor neilltuol ei hun. Ond gwell i mi adael llonydd i'r chwaraeon rhag ofn i mi roddi fy nhroed ynddi. Ni fûm yn arwr mewn chwaraeon. Anaml y mentrwn chware marblis o ddifrif, gan mai colli y byddwn, ond yr oedd yno rai, fel finnau, yn fodlon i chware o "fregedd." Byddaf yn meddwl i mi ddechrau fy oes yn y pen chwith, oherwydd yr oeddwn cyn hoffed o gwmni hen bobl pan oeddwn yn hogyn ag wyf o gwmni plant bach yn awr; ac, ar aml ganol dydd pan na fyddwn yn chware, trown am ymgom at hen bobl y 'Sendy a fyddai bob amser yn sefyll â'u pwysau ar y wal pan fyddem yn chware, neu yr hen stonecutter dall oedd yn byw wrth dalcen yr ysgoldy ac yn dyfod allan i eistedd ar y wal isel. Hoff oeddwn o'u gwrando yn myned dros dreialon caled bore'u hoes, a diau i mi dreulio gormod o fore fy oes ymysg hen bobl a chario bywyd yn rhy drwm yr adeg honno, ac y buasai yn well i mi fod wedi chware rhagor.

Mae'n debyg nad ydyw pawb yn blant yr un amser ar eu hoes, y mwyafrif yn ei dechrau, eraill yn ddiweddarach. Byddaf yn credu y caiff ambell un ei eni i'r byd heb fod yn blentyn o gwbl. Cofiaf am un gweinidog yr amheuwn i yn fawr a fu ef yn blentyn erioed. Byddai'n sôn am yr amser yr oedd yn ieuanc; mor dda oedd o ac eraill; ac yn ein ceryddu ni beunydd a byth. Yn ffodus, ymhen tipyn digwyddais fod yn ardal ei hen gartref. Cyfarfûm â gwraig oedd wedi ei magu y drws nesaf iddo, a dywedais wrthi am y driniaeth a gaem ganddo.

"Yn awr," meddwn, "mae arnaf eisiau i chwi ddweud ychydig o'i hanes o pan oedd yn hogyn, gael i mi gael dweud wrtho. Ni wnaf ddweud pwy a ddywedodd wrthyf. Dywedwch dipyn o'i dricie fo."

Gwarchod pawb!" ebe hithau, "nid oedd ganddo fo ddim tricie. Bachgen da iawn oedd o; darllen ei lyfr y bydde fo." "Ydech chwi ddim yn cofio iddo roi'r gath i lawr trwy'r simdde erioed?"

"Bobol annwyl! chymere fo lawer am wneud ffasiwn beth," ebe hi; "bachgen da iawn oedd o."

"Wel, wraig," meddwn drachefn, "ydech chwi'n meddwl dweud wrtha i fod o wedi ei ail eni cyn ei eni y tro cyntaf?"

"Bachgen da iawn oedd Gruffydd beth bynnag."

Bu'n rhaid i mi droi'n ôl yn siomedig.

Nodiadau

golygu
  1. Capel Soar
  2. Gweler eu darlun ac eglurhad yn yr Atodiad ar y diwedd.
  3. Gweler Reports of the Commissioners of inquiry into the state of Education in Wales. London, 1848.