Cwm Eithin/Gwaith a Chelfi Ffarm

Hen Ddiwydiannau, III Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Hen Ddefodau ac Arferion, I


PENNOD XI

GWAITH A CHELFI FFARM

HYD y gwn i, mae gwaith ffarm yng Nghymru yn bur debyg heddiw i'r hyn oedd pan oeddwn i yn hogyn, ond fod y peiriannau a'r celfi at y gwaith wedi gwella llawer. Yr adeg honno heuid y cwbl â llaw, heddiw mae'r drill i hau, a nifer o offerynnau i lanhau'r tir, ac i hel a difa gwreiddiau. Yn yr hen amser nid oedd ond yr aradr a'r og, fforch a chribin, y bladur i dorri'r gwair a'r yd, a'r gribin fawr i'w llusgo ar eich ôl, a'r gribin fach. Gwaith y merched oedd cribinio a thaenu ystodiau. Ond heddiw yn lle plygu yn ei gefn a bwrw iddi, caiff torrwr gwair eistedd yn gyfforddus yn ei gerbyd a'r ceffylau yn ei dynnu; a'r un fath wrth daenu ystodiau a chasglu. Ond yn sicr rhoddid llawer mwy o lafur yn y tir yr adeg honno, a gellid y pryd hynny alw'r rhan fwyaf o Gymru yn dir Iâl. Paham y meddiannodd rhan fechan o gylch Bryn Eglwys yr enw, mae'n anodd gwybod.

Diau nad anniddorol i rai fyddai disgrifiad byr o offerynnau a chelfi amaethyddol Cwm Eithin, llawer ohonynt erbyn hyn wedi myned allan o arferiad, ac nid oes ond ychydig yn cofio dim amdanynt. Hyd ddechrau'r ganrif o'r blaen yr oedd y ffyrdd yn anhygyrch iawn. Ni ellid mynd â throl ar hyd ond ychydig iawn ohonynt, a newydd beth oedd y drol yr adeg honno. Dywedir mai Lawrence Jones, tad John Jones, "Glan y Gors," a ddaeth â'r drol gyntaf i Gwm Eithin, tua chant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Ac yn ddigon rhyfedd, i Fwlch y Beudy, hen gartre Robert Jones, brawd "Glan y Gors," y daeth y drol a'r ecstro haearn gyntaf, a hynny yn fy nghof i. Ar gefnau'r ceffylau gyda'r pilyn pwn y cerrid bron bopeth, ac âi'r ffyrdd dros ben pob boncyn. Ni wn pa mor bell yn ôl y dechreuwyd defnyddio'r ceffyl gan yr amaethwyr. Dengys yr enw Saesneg sydd bron ar bob ceffyl o'i gymharu ag enw Cymraeg prydferth y fuwch, nad yw'n hen iawn, a chofiaf ddigon o hen frodorion a fu'n aredig gyda'r ychen. Bûm i yn troi gyda'r aradr bren sydd erbyn hyn

wedi llwyr ddiflannu. Yr oedd dau fath o geir i gario ŷd a

gwair, ac mewn lle gwlyb a llechweddog ychydig a ddefnyddid ar y drol yn fy nghof cyntaf. Y naill oedd y car llusg, a wneid o ddau bren ar hyd y gwaelod, un bob ochr, a raels ar eu traws, pedwar post, raels i wneud ochrau a thalcenni iddo, a bachu ceffyl tresi wrtho, a'i lusgo. Y llall oedd y car cefn; gwneid ef gyda dau bren, yn debyg i hanner olwyn, y pennau eraill yn gwneud dwy fraich yn estyn ymlaen fel breichiau trol, a gwneid y talcenni a'r ochrau fel y llall, ond yn lle ceffyl tresi, defnyddid y ceffyl bôn a strodur arno; felly yr oedd yn haws ei dynnu, gan nad oedd ond rhyw ddarn llai na hanner olwyn yn taro yn y llawr, ac yr oedd lawer haws ei droi o gwmpas a'i gael i'r lle y dymunid.

Clywch y briglyn crwn yn brolio,
Fel y gwnaeth e gewyll teilo;
Gwelais ddydd y gwnae fy naïn
Gewyll teilo gwell na rhain."[1]

Newydd ddyfodiad oedd y ceffyl i Gwm Eithin at wasanaeth yr amaethwr cyffredin, ac ef yn unig a gâi wellt wedi ei dorri yn yr hen amser, a diau y bu amser pan fyddai raid iddo yntau bori chnoi ei fwyd fel rhyw greadur arall. Ond fe ddaeth amser, naill ai am ei fod yn Sais ac yn ormod o ŵr bonheddig i gnoi ei fwyd ei hun, neu am na chaniatâi ei feistriaid iddo ddigon o hamdden i'w gnoi, pryd y bu rhaid dechrau torri gwellt iddo. Pwy a ddyfeisiodd yr injan dorri gwellt gyntaf, amhosibl dywedyd. Yr oedd gan fy nhaid injan dorri gwellt hen ffasiwn iawn. Yr oedd ganddo dros gan mlynedd yn ôl, ac nid yw'n debyg iddo ef ei chael yn newydd, felly mae'n bosibl ei bod o'r math cyntaf. Ni welais i yr un arall yn hollol yr un fath â hi, ac os gŵyr hogyn ffarmwyr rywbeth fe ŵyr am dorri gwellt. Dull yr injan dorri gwellt oedd fel y canlyn. Yr oedd iddi bedair coes i sefyll arnynt. Ar dop y coesau yr oedd bocs neu gafn bychan rhyw wyth modfedd o led ac o ddyfnder, ac yn agored yn ei dop ar un pen iddo, ac yn wastad â dwy o'r coesau yr oedd darn o ddur tebyg i'r dur ar y tindar, wedi ei wneud yn un darn, yn gwneud pedwar sgwâr tuag wyth modfedd bob ffordd fel y gellid stwffio pen y gwellt trwyddo at y gyllell. Yr oedd darn o fwrdd rhydd yn ffitio ar ei dop fel caead ac yn ffitio o'r tu mewn iddo, a darn o haearn fel ecstro ar ei dop ac yn myned allan trwy ochrau'r bocs, ac yr oedd hic bwrpasol iddynt godi a gostwng. Wrth ddau ben yr ecstro bechid darn o haearn, a thredl oddi wrth y rhai hynny, fel y gellid gwasgu'r gwellt yn galed pan oeddynt yn ei dorri. Wedi ei bachu wrth un o'r coesau yr oedd cyllell hir fel cyllell dorri maip. Yna yr oedd cafn rhydd o'r un lled a dyfnder, a thua thair troedfedd o hyd, y gellid ei fachu wrth y cafn, a choes fel twm o dan fraich trol i ddal y pen arall, fel y gellid cadw yr injan mewn lle bach pan na fyddid yn ei ddefnyddio. Cymerai'r torrwr haffled o wellt wedi ei dynnu'n dda, a rhoddai ef ar ei hyd yn y cafn, a chydag un llaw gwthiai ef ychydig ymlaen bob gafael. Gwasgai â'i droed a chyda'r gyllell gan ei chadw'n glos i'r dur. Torrai'r gwellt yn gyflym iawn, yn fân ac yn wastad, ac ni chlywais 'Captyn' y ceffyl na 'Leion' y mul yn cwyno erioed fod eu bwyd yn rhy fras.

CORDDI

Pwy a feddyliodd am gorddi llaeth i gael menyn, a phwy oedd yr hogen a gyweiriodd y menyn gyntaf, tybed? Mae yn edrych yn syml iawn i ni, ond dyfais fawr a gwerthfawr oedd hi pan wnaed hi. Pa un ai'r selen fenyn ai'r cosyn yw'r hynaf? Ni wn pa fath yw windas gaws y dyddiau hyn. Hen greadures hen ffasiwn iawn a gofiaf fi. Dim ond bocs a'i lond o gerrig, ac ysgriw i'w godi a'i ollwng ar dop y cawsellt, i wasgu'r dŵr allan o'r cosyn. Pa ffurf oedd ar y fuddai gyntaf? Fe gofiaf dri math o fuddai yng Nghwm Eithin. Y fuddai dro oedd un; fe wyr pawb amdani hi, ac nid oes eisiau sôn amdani. Y ddwy arall oedd y fuddai gnoc a'r fuddai siglo. Credaf mai'r fuddai siglo oedd yr hynaf, oherwydd yr oedd llawer buddai gnoc yn fy nghof i, ond prin iawn oedd y fuddai siglo. Nid oedd y fuddai gnoc ond tebyg i ddoli twb, ond yn ddyfnach ac yn culhau at y top, lle'r oedd caead a thwll. Yna gordd, ei phen o gylch ac edyn, a choes hir yn dyfod trwy'r twll yn y caead, a thynnid hwnnw i fyny ac i lawr-gwaith digon caled. Yr oedd y merched yn corddi wrth amser, dau neu dri o gnociau cyflym a byrion, ac un hir ac araf, ac os byddai'r 'gennod ar hâst, rhoddid digon o ddŵr cynnes ynddo ar slei ac fe gorddai'n fuan. Meddai'r fam neu'r feistres, "Ydi o yn peidio â dwad yn rhy fuan, dywed? Roist ti ddim dŵr cynnes ynddo, naddo? 'Doedd dim isio."

Ond buddai siglo oedd gennym ni, ac yr oedd hi'n edrych yn oedrannus. Meddai bedair coes ryw dair troedfedd oddi wrth ei gilydd bob ffordd yn y gwaelod, ond deuai'r ddwy ar bob

ochr i gyfarfod ei gilydd yn y top fel "V" wedi ei throi a'i phen i lawr, raels yn dal y coesau wrth ei gilydd, ac ar dop y ddwy yr oedd lle wedi ei wneud i ecstro orffwys. Bocs oedd y fuddai oddeutu dwy droedfedd o ddwfn ac o led, a thua thair i bedair troedfedd o hyd. Yr oedd caead yn codi ar y top tua hanner hyd y fuddai, dwy resel yn rhannu'r fuddai yn dair rhan. Yr oedd ecstro bychan o bob tu yn union ar hanner hyd y fuddai, ychydig yn nes i'r top na'r gwaelod, a gosodid y fuddai i orffwys ar y ddau ecstro ar dop y coesau. Pan oedd yn sefyll byddai un pen i lawr ychydig, yn gorffwys ar y ffon oedd rhwng y coesau. Yna tywelltid y llaeth i mewn. Yr oedd dolen neu le i gydio â dwy law ar bob pen. Yna dechreuid siglo'r fuddai. Gallai un wneud hyn, neu ddwy pan fyddai angen, neu byddai'r bechgyn eisiau myned i lewys y genethod; a rhedai'r llaeth ôl a blaen trwy'r rheseiliau, a chorddai'n gyflym.

Mae'r fuddai siglo, y ceir darlun ohoni yn y Guide to the Collection of Welsh Bygones, gan Iorwerth C. Peate, a gyhoeddwyd gan yr Amgueddfa Genedlaethol yn 1929, yn edrych lawer mwy hynafol na'r un o'r tair uchod.

CWN YN CORDDI

Mae yn y Llyfrgell Genedlaethol yr hyn a elwir Dog Wheel. Wrth edrych arni daeth i'm cof hen arferiad oedd yng Nghymru o gŵn yn corddi. Nid oedd wedi darfod yn hollol yn fy nghof cyntaf i. Yr oedd dau gi yn corddi mewn ffarm a elwir Plas yn Ddôl, heb fod yn fwy na rhyw chwech neu saith milltir o'm hen gartref, ond yn anffodus yr oedd wedi ei rhoi heibio cyn i mi fyned cyn belled o'r bwthyn y'm ganwyd. Ond clywais hanes triciau Cwn Corddi Plas yn Ddôl yn cael ei adrodd gyda'r nos. Y mae gennyf ryw syniad wedi ei gadw yng nghefn fy meddwl, ond y mae'n wahanol iawn i'r Dog Wheel yn y Llyfrgell. Yn gyntaf rhoddaf yr hyn a ddywedir am honno yng Nghatalog Arddangosfa'r Llyfrgell 1930:—

A dog wheel from Pilroth, Llanstephan, the home of the late Mr. J. W. Harris. It was fixed in the hall—half kitchen and half dining room—and was in use during the early part of the 19th century. The original house was pulled down some years ago, and the dog wheel passed into the possession of the late Sir John Williams.

The following account of a dog wheel written in 1890 by the late Edward Laws, F.S.A., describes this old—time domestic appliance:—

"In the year 1797, Thomas Rowlandson, the celebrated caricaturist, and his friend Wigstead visited Newcastle Emlyn in the course of a tour through Wales. As was the custom in those days they made a book out of their adventures, Wigstead undertaking the letterpress, and his more celebrated friend providing the illustrations. They put up at a decent inn,' and Rowlandson made a drawing of the kitchen. Wigstead writes—'A dog is employed as turnspit; great care is taken that this animal does not observe the cook approach the larder; if he does he immediately hides himself for the remainder of the day, and the guest must be contented with more humble fare than was intended.'"

Maint yr olwyn yn y Llyfrgell yw dwy fodfedd a deugain ar ei thraws a rhyw ddeng modfedd o led; y mae'r edyn ar y ddwy ochr allan, a rhyw ystyllen gul oddeutu dwy fodfedd wedi eu hoelio ar hyd ymyl y cylch o'i chwmpas yn gwneud cantal; felly y mae o'r tu mewn yn wag ac yno y mae'r ci bach a'i goesau byrion yn cerdded o tua chwech i fyny i tua naw, a chymeryd wyneb cloc yn gyffelybiaeth; a'r olwyn yn parhau i droi o dan bwysau'r ci bach. Yna y mae strap cul oddi wrth chwarfan yn ochr yr olwyn yn myned am chwarfan arall ar ben ecstro, ac y mae coes dafad yn cael ei chysylltu â phen arall yr ecstro hwnnw, ac yn troi yn araf o flaen tân i rostio. Diau mai treth fawr ar y ci oedd gorfod cerdded o fewn i'r olwyn am amser ac edrych ar y darn cig yn ei ymyl a'i aroglau hyfryd yn codi i'w wyneb, ond unwaith wedi ei glymu o'r tu mewn i'r olwyn rhaid oedd cerdded neu dagu. Nid rhyfedd felly yr ymguddiai at amser rhostio cig.

Nid oedd eisiau olwyn na chi i rostio cig yng Nghwm Eithin, ond yr oedd yno lawer o gorddi.

Ymddangosodd yr hyn a ganlyn yn y "Welsh By—gones," yn y Cardiff Weekly Mail, Ionawr 10, 1931—

DOG WHEELS IN PEMBROKESHIRE.

"Mr. Henry Mathias, a Haverford lawyer of a generation or more ago, told the late Mr. Edward Laws the Antiquary that he remembered eight dog—wheels in Pembrokeshire," writes a correspondent, including one at the Castle Hotel and another at the Hotel Mariners, Haverfordwest ; one at Lamphey Park, and another at Mr. George Roch's, of Butterhill. It appears, too, that there was at one time a pure breed of dogs called Turnspits' in Pembrokeshire, but some families used the Curdog' (or Corgi) or a small terrier. They were generally sharp little fellows, and were credited with sufficient intelligence to understand when a heavy dinner was to be dressed, for then they would make off and leave the kitchen—maid to turn the spitin their stead."

YR OLWYN GORDDI

Yr oedd yr olwyn gorddi yn bur wahanol i'r uchod, rhywbeth yn debyg i'r hen Treadmill yn y carcharau. Yr oedd eisiau cryn lawer o nerth i gorddi lle y byddai buches fawr. Dywedid y byddai dau gi pur fawr yn cerdded ar yr olwyn ym Mhlas yn Ddôl. Nid wyf yn sicr pa un ai yn ochrau ei gilydd yr arferent fod ai ynteu'r naill o'r tu ucha i'r llall. Pa un bynnag, yr oedd eisiau olwyn bur fawr. Gan na welais yr un o'r olwynion fy hunan, gwneuthum gais yn Y Brython, Awst 28, a Medi 4, 1930, am i rywun a gafodd y fraint o weled un anfon disgrifiad ohoni, a chefais dri o atebion.

Dywaid H. A. Williams, Rhyl, fel y canlyn:—

Yn Y Brython diweddaf gofynna eich gohebydd, H.E., a oes rhywun yn aros a welodd gŵn yn corddi. Yr wyf yn ateb fy mod i yn un a welodd gŵn yn corddi, mewn fferm fawr yn ymyl fy nghartref. Yn yr haf, pan fyddai'r buchod. yn llaethog iawn, byddai corddi bob dydd Mawrth a dydd Gwener. Nid oeddwn ond bachgen ieuanc iawn, ac mewn hwyl garw yn gwylio paratoi y cŵn i fyned ar yr olwyn. Dau gi mawr oedd ganddynt, ac nid oeddynt yn rhy hoff o ddiwrnod corddi; a bore dydd y corddi, yn gweled y merched yn paratoi'r llaeth a'i roddi yn y corddwr, ni fyddent i'w gweled—wedi ymguddio neu fynd am dro i'r caeau, a byddai raid i rywun fyned i chwilio amdanynt a'u cyrchu at eu gwaith. Safent yn llonydd gan edrych ar yr hen olwyn, a'u tafod allan, a chael feed go dda. Yna bachu y strap wrth eu coler oedd am eu gwddf, a'r pen arall with y trawst uwch eu pen, a gorchymyn iddynt fyned, ochr yn ochr, ar yr olwyn, yr hon oedd ar osgo, ac yr oedd pwysau y cŵn yn ei throi; a byddai raid iddynt barhau i gerdded neu grogi, a'u tafod allan yn bwrw glafoerion, a deheu am eu gwynt. Ac felly am ddwy awr neu dair weithiau; ac wedi i'r llaeth dorri yn fenyn, ni fyddai eisiau troi mor gyflym, felly tynnu un ci i ffwrdd a gadael y llall i droi yn araf, a newid y ddau bob yn ail; a balch iawn fyddai'r ddau o gael order i ddyfod i lawr ar ôl gorffen. Yna gwylient am y sgram i fwyta a arferent gael ar y diwedd. Nid yw fy nghof yn ddigon clir am fanylion a maint yr olwyn. Fy syniad yw mai tua chwe troedfedd ar ei thraws oedd yr olwyn, a straps o goed tenau wedi eu hoelio yn aml fel steps i draed y cŵn fachu, a haearn danneddog o dani yn troi yr olwyn gocos bach wrth y fuddai. Credaf y bu terfyn ar hyn tua'r 70's.

Un a eilw ei hun "Runcornfab" a ddywaid:—

Cofiaf yn dda eu gweled lawer iawn o weithiau pan oeddwn yn fachgen. Fe'm ganwyd yn Amlwch, Môn, yn 1857, a byddai fy nhad yn fy ngyrru'n aml iawn ar neges iddo, ar ôl dyfod o'r ysgol, i ffermdy Aberach, Llaneilian, ger Amlwch. Mr. J. Elias oedd enw'r amaethwr, ac yr oedd yno ddau gi mawr iawn yn ochr ei gilydd; ac y mae y disgrifiad a ddyry H.E. yn union yr un fath ag a fyddai ar gŵn Aberach. Methaf â deall sut y gallai ci bach gorddi. Treadmill oedd hon fel a fyddai mewn carcharau. Gwelais un yng Ngharchar Beaumaris yn 1908, pan oeddwn yn yr ardal honno ar seibiant haf, ond yr oedd y treadmill wedi bod yn segur am bum mlynedd ar hugain yr amser hwnnw, a chredaf ei bod yn yr un sefyllfa heddiw. Mae'r carchar wedi ei gau, ond gellir gweled y cwbl ond ymofyn â'r awdurdodau.

Dywedodd fy nghyfaill a'm cymydog John Lloyd, a hanoedd o Gwm Eithin fel minnau, iddo fod yn Llŷn yn 1898, ac ymweled gyda "Myrddin Fardd" â ffermdy yn agos i Chwilog, a gweled un o'r olwynion a holi beth ydoedd. Rhoddodd ddarlun i mi ohoni o'i gof. Credai ef fod yr olwyn honno tua phedair troedfedd ar ddeg o draws fesur. Dywedai "Myrddin Fardd" wrtho y byddai rhaid cau cŵn Llŷn i mewn y noswaith o flaen y diwrnod corddi neu y byddent yn sicr o fod wedi dianc cyn y bore; nid oeddynt yn hoff o waith.

Gwelir yn amlwg, felly, mai olwyn yn troi ar ei lled orwedd oedd yr olwyn gŵn, ac wyneb mawr iddi fel wyneb cloc, a hwnnw wedi ei fyrddio, a darnau o goed meinion wedi eu hoelio o gylch yr wyneb bob rhyw ddwy droedfedd i'r cŵn allu bachu eu traed. Y mae'n debyg fod llawr wedi ei wneud i guddio'r rhan isaf ohoni, dyweder o bump o'r gloch hyd saith. Gosodid y cŵn arni tuag wyth o'r gloch, bechid cortyn oddi wrth drawst uwch ben wrth goler y cŵn, yna byddai rhaid iddynt gerdded rhwng wyth a naw neu dagu.[2]

Ymddengys mai pur wahanol i'r uchod oedd y Treadmill. Dywaid fy nghyfaill Joseph Hughes, Bootle, iddo weled y Treadmill yn hen garchar Biwmaris yr haf diweddaf. Olwyn yn troi ar ei phen ydyw hi, medd ef, fel olwyn ddŵr, ond ei bod yn llydan iawn. Y mae lle i chwech o garcharorion gerdded arni yn ochrau ei gilydd, a therfyn rhwng pob un fel na allent weled ei gilydd. Rhaid bod rhyw drefniant i'w rhwystro i droi yn rhy gyflym pan fyddai pump neu chwech yn cerdded arni gyda'i gilydd, gan fod yn debyg y gallai na byddai mwy nag un carcharor i mewn weithiau, a rhaid oedd i'r olwyn droi gydag un. Dywaid ymhellach fod olwyn gŵn yn aros ym Mrynsiencyn, Môn.

Pa bryd y gwnaed i ffwrdd â'r drol gŵn yng Nghymru nis gwn. Gwelais rai yn Llydaw yn 1908.

Ond erbyn hyn mae'r separator wedi dyfod hyd yn oed i Gwm Eithin, a dyna'r hen greadur casaf gennyf ei weld mewn ty ffarm o ddim. Meddyliwch am hogyn wedi ei fagu yn y wlad, ac wedi treulio llawer mwy yn anialwch y dref na'r Israeliaid yn anialwch Sina, yn cael mynd am dro i Gymru, ac ar ddiwrnod tesog o haf, bron a lleddfu yn yr haul, yn unioni at dy ffarm at amser cinio gan ddisgwyl am fowliaid o datws llaeth. Gwraig lawen yn ei dderbyn i mewn, a'i wadd i'r gegin lle y clywai'r tatws yn berwi. A hen gwrnad oer y Separator yn torri ar ei glustiau o'r briws, ac yntau yn gwybod nad yw llaeth enwyn y separator yn dda i ddim ond i dwyllo'r moch. Y fath siomedigaeth.

Hwyrach na allaf wneud yn well, yn lle rhoi disgrifiad o ddodrefn y tŷ a chelfi'r briws, na rhoddi cerdd y dodrefn i mewn fel y ceir hi yn Beirdd y Berwyn, o gasgliad Syr O. M. Edwards (1902), gan un o feirdd Cwm Eithin.

CERDD DODREFN TY.

Tôn—"Hun Gwenllian."

Dowch yn nes i wrando arna,
I chwi'n ufudd y mynega,
Llawer peth y ddylech geisio,
Er na wyddoch ddim oddiwrtho;
Oni bydd morwyn sad synhwyrol,
A dyn glew gwaredd da naturiol,
Gwell yw iddyn i gwasaneth
Nag ymrwymo yn ddi—goweth,
Oni bydd y stoc i ddechre
Ganddo fo ne ganddi hithe;
Os priodi'n ddiariangar,
Cyn pen hir y bydd edifar.

Dyle pob gŵr gwedi ymrwmo
Wneud y fydde gweddol iddo,
Cymryd gofal yn wastadol
Am y pethe sy angenrheidiol ;
Ni all dyn na dynes heini
Fyw ar gariad a chusanu,

Rhaid cael bwyd, a diod hefyd,
Ac yn rhwydd arian i'w cyrhaeddyd,
Rhaid cael buwch i ddechre swieth,
A cheffyl iti os mynni ysmoneth,
I gario tanwydd wrth ych eisie,
Gore towydd i fynd adre.

Gwag yw tŷ heb iar a cheliog,
A phorchellyn wrth y rhiniog,
Fo biga'r iar lle syrth y briwsion,
Fe bortha'r porchell ar y golchion;
Padell fawr a phadell fechan,
Crochan pres ne efydd cadarn,
Piser, budde, hidil, curnen,
Rhaid i'w cael cyn byw'n ddiangen;
Rhaid cael twned i dylino,
A stwnt i roddi'r ddiod ynddo,
Rhaid cael sach i fynd i'r felin,
A gogor blawd i ddal yr eisin.

Llech, a grafell, a phren pobi,
Mit llaeth sur, a gordd i gorddi,
Noe i gweirio yr ymenyn,
A photie pridd i ddal yr enwyn;
Desgil, sowser, a chanwyllbren,
Ledel, phiol, a chrwth halen,
Trybedd, gefel, bache crochon,
Saltar, a thynswrie ddigon;
Bwrdd a meincie i eistedd wrtho,
Ac ystolion i orffwyso,
Silff i roddi y pethe arni,
Cowsellt, carcaws, a chryd llestri.

Bu agos imi a gado yn ango,
Gwely y nos i gysgu ynddo,
Cwrlid, gwrthban, a chynfase,
A gobennydd i roi'n penne;
Ac ond odid bydd raid ceisio
Cryd i roddi 'r babi ynddo;
Padell uwd a pheillied, mopren,
Picie bach a rhwymyn gwlanen;

Rhac a batog, caib a gwddi,
Car, ystrodur, mynwr, mynci,
Picwarch, cribin, ffust i ddyrnu,
Gogor nithio gyda hynny.

Bwyall, nedde, ac ebillion,
Lli a rhasgal, gordd a chynion,
Pladur, cryman i gynhafa
Gwair ac yd mewn pryd cynhaua,
Morter, pestel, padell haiarn,
Padell ffrio, grat, a llwydan,
Siswrn, nodwydd, a gwniadur,
Troell a gardie a chliniadur,
Cyllell, gwerthyd, bêr, gwybede,
Crib mân a bras i gribo penne,
Pabwyr, gwêr, i wneyd canhwylle.

Wedi cael y rheini i'r unlle
Gwelir eisie cant o bethe,
Gwledd a bedydd a fydd gostus,
A mamaethod sydd drafferthus ;
Bydd rhaid talu ardreth hefyd,
A rhoi treth er lleied golud.
Ystyried pawb cyn gwneyd y fargen,
A ellir cadw ty 'n ddiangen,
Haws yw gorwedd heb gywely
Na byw mewn eisie'r pethau hynny.
Cyn priodi dysgwch wybod
Nad oes mo'r dewis wedi darfod.
C.D. a'i cant.

Y BACH GWAIR

Gwelais y bach gwair yn Hafod Elwy, a golwg hynafol iawn arno. Gweler y darlun rhif 4, tudalen 106. Meddai goes tebyg i goes picfforch fer, a soced i'r goes fyned i fewn, yr haearn ychydig o fodfeddi o hyd, efallai tua chwech. Estynnai allan yn syth oddi ar y goes, a blaen iddo tebyg i flaen caib. Ar ei ganol yr oedd tagell gref, tebyg i fach pysgota neu dryfer. Wrth ei ddefynddio gwthid ef i'r das wair, ac wrth ei dynnu yn ôl deuai â choflaid gydag ef. Torri gwair yn y fagwyr a gofiaf fi, gyda'r haearn a choes tebyg i goes haearn clwt, neu raw bâl, a minnau yn sefyll ar fy nhraed i'w ddefnyddio. Yr oedd un arall yr un siâp â sgwâr, lle y dysgais fyned ar fy ngliniau i'w ddefnyddio. Dywedodd un gŵr wrthyf mai i dynnu gwair o'r daflod neu y cywlas ac nid o'r das y defnyddid ef.

A ydyw y stric, y corn grut hir,—corn buwch a gwaelod pren a hic yn agos i'r top lle y gwthid darn bach o bren yn gaead,— a'r corn bloneg, pwt, byr, tew, wedi ei wneud yr un modd, wedi diflannu, a dim ond y gresten yn aros?

MALU EITHIN

Dywedir y bu melinau eithin yn rhai o rannau mynyddig Cymru. Pan oedd yn ysgrifennu hanes Llanfairfechan i'r Brython, dywedai "Ap Cenin" fod dwy o'r cyfryw yn cael eu troi gan olwyn ddŵr yn yr hen amser yng nghymdogaeth Llanfairfechan. Yn rhyfedd iawn ni chlywais sôn fod yr un wedi bod yng Nghwm Eithin, cartref yr eithin. Ni allaf ddywedyd pa fath bethau oeddynt. Credaf fod ynddynt ryw ordd neu rywbeth i'w wasgu yn seiten ac yna ei falu fel y melir gwellt neu wair. Cofiaf i lawer o eithin gael ei ddefnyddio yn fwyd i wartheg a cheffylau yn ystod y tair blynedd poethion tua 1869—1871, pan gymerodd amryw o fynyddoedd Cymru dân gan wres yr haul, ac y buont yn llosgi am fisoedd, un yn ymyl fy nghartre yn mygu hyd ar ôl y Nadolig gan fod y tân wedi myned i lawr yn ddwfn i'r mawndir. Yr oedd yn fy hen gartref ddigon o eithin ieuainc ffrwythlon. Cariodd y mân dyddynwyr lwythi oddi yno i'w hanifeiliaid oedd ar lwgu. Torrais innau ugeiniau o feichiau i'n gwartheg ninnau. Y ffordd y paratoid hwy oedd rhoi fforchiaid ohonynt mewn cafn carreg fel cafn mochyn; yna cymerid gordd bren weddol lydan, a'u pwyo nes y byddai hynny o fonyn oedd yn dal y dail a'r pigau wedi ei gleisio neu ei ysigo'n dda. Yna eu malu yn yr injan dorri gwellt, eu hunain, neu gyda gwellt. Yr oeddynt yn fwyd maethlon iawn, a'r anifeiliaid yn awchus amdanynt. Ond dywedid eu bod yn rhy boeth i geffylau. Curai ein hen "Gaptyn" ni lawer ar ei draed ar eu holau, ond gallai "Leion" y mul eu bwyta heb eu malu, y pigau a'r cwbl.

Bûm yn defnyddio hen offeryn arall i drin eithin—math o ddwy gyllell wedi eu gosod yn groes i'w gilydd yn debyg i X, a haearn yn dyfod i fyny oddi wrthynt, ac yn ffurfio soced lle y rhoddid coes ynddo. Gosodid fforchiaid o eithin ar ddarn o bren llydan, ac yna pwyid hwy â'r haearn yn debyg fel y corddid â gordd y fuddai gnoc, gan droi'r haearn ôl a blaen yn ddidor fel y gwneid â'r colier. Defnyddid math o fenig lledr, neu y menig cau a ddefnyddir i blygu'r gwrych, i'w codi o'r cafn a'u rhoddi ym mhreseb y gwartheg, a byddent hwythau yn arfer bod yn bur ofalus wrth eu cnoi rhag ofn y pigau a allai fod yn aros. Dywaid y Parch. William Griffiths, Abergele, iddo glywed yr hen frodorion yn sôn am hen offeryn arall—y "Drynolenbren,"[3]—maneg bren a ddefnyddid i afael yn yr eithin.

DIWRNOD HEL DEFAID

Hwyrach y dylwn, er mwyn ambell un, ddywedyd nad yw gwlân yn tyfu yn yr America, fel cotwm, ond ei fod yn tyfu ar gefn y ddafad yng Nghymru. Ond y mae amryw oruchwylion y mae'n rhaid myned trwyddynt i'w gael yn edafedd parod i weu. Y peth cyntaf yw golchi'r defaid. Diwrnod mawr a rhamantus iawn yng ngolwg y plant a'r ieuenctid yw diwrnod golchi defaid. Ar ddiwrnod poeth ym Mehefin, cyn dechrau ar y gwair, 'roedd rhaid myned i'r afon fechan i gau llyn, oni byddai'r afon yn un weddol gref a llyn naturiol yn barod ynddi. A phan ddeuai'r diwrnod golchi ymrysonai'r bechgyn pwy a gâi fyned i'r llyn i drochi'r defaid. Yr oedd y rhai hynaf yn hoffi bod ar y lan a chadw eu crwyn yn sych. Yn blygeiniol iawn, cyn i'r haul godi, cychwynnid i'r mynydd i hel y defaid i'r gorlan ar lan y llyn, a gwaith mawr ydoedd. Y pryd hynny, nid oedd y ci hel wedi dyfod i Gymru, dim ond y ci dal, fel y byddai'n rhaid i'r holl deulu droi allan i hel defaid.

Y gwahaniaeth rhwng ci dal a chi hel defaid yw hyn. Arfer y ci dal oedd rhedeg ar ôl y ddafad a ddangosid iddo, a'i dal gerfydd ei gwar, a hynny'n dyner heb adael ôl ei ddannedd ar ei chroen; a rhyfedd mor fedrus oedd gyda'r gwaith ar ôl ei ddysgu'n dda, hyd nes y dechreuai hen ddyddiau ei ddal, pryd, fel rheol, yr âi'n frwnt, ac y byddai'n rhaid chwilio am ddilynydd iddo. Pan âi dafad ar gyfeiliorn, âi'r bugail i chwilio amdani, a'i gi gydag ef, a chwplws yn ei boced. Adwaenai'r ci y nod gwlân gystal â'i feistr, ac nid oedd ond eisiau'r gorchymyn dal hi," na byddai'n gafael yn ei gwar, a'r bugail yn rhoddi'r cwplws am ei gwddf, ac yn hwylio tuag adref. Nid oedd y ci dal lawer o werth i hel y defaid at ei gilydd.

Pan oeddwn yn hogyn yr oedd hel defaid y plwyf yn rhan o fywyd gwledig, sef hel defaid y "set" (dyna fel y clywais ef yn cael ei ynganu). Peth cyffredin yn ein dyddiau ni yw gweld mewn newyddiaduron: Mae dafad ag oen ar dir John Morgan, Tŷ'n Llidiart, yn dwyn y nod clust—torri blaen y chwith a bwlch tri thoriad oddi arnodd. Canwe ym mlaen y ddeheu, a bwlch plyg odditanodd. Os na hawlir hi gan ei pherchennog cyn Gŵyl Fair, gwerthir hi i dalu'r costau." Nid felly yn yr hen amser. Hawliai'r plwyf (y Festri, mae'n debyg), y defaid cyfeiliorn. Gosodid yr hawl i ffarmwr am swm neilltuol o arian i gerdded yr holl blwyf a chymeryd pob dafad ddieithr i ffwrdd. Ar ddiwrnod penodedig gwerthid hwy bob un oni ddeuai'r perchenogion i'w hawlio, a thorrid eu clustiau fel na allai neb eu hawlio oddi ar y prynwr.

Nis gwn pa bryd y gwnaed i ffwrdd â'r arferiad hwnnw. Yr oedd yn ei lawn rym pan oeddwn yn hogyn. Evan Jones, Aeddren, oedd yn cymeryd y "set," ac Edward Jones, y mab, oedd yn eu hel. Cofiaf ef yn dda yn dyfod â dau gi gydag ef, ac yn gofyn, "A welsoch chi rywbeth diarth?" Bûm gydag ef aml dro, ac yr oedd yn hynod o graff i weled dafad ddieithr, er bod ei lygaid braidd yn groesion. Safai yng nghornel y cae, un goes yn ôl, ac un goes ymlaen, gan blygu i tua hanner ei hyd a'i bwys ar ben ei ffon. A'r ddau gi yn ymryson gwylied pa un a gâi'r anrhydedd o glywed "Dacw hi !" gan ei dangos â'i law, dal hi, Mot," neu "Pero," p'run bynnag a gâi'r gwaith. A hynod mor graff oedd y cŵn i wahaniaethu un nod gwlân gwahanol i'r un oedd ar yr holl ddefaid yn y cae, dyweder dwy gengel ar draws y cefn, neu beth bynnag a fyddai nod y ffarm. Ymhen munud neu ddau byddai'r ci wedi ei dal, ac Edward Jones yn archwilio ei nod clust; ac os un ddieithr fyddai, fe allai wedi crwydro o Sir Drefaldwyn a dyfod gyda'r defaid adre o'r mynydd, edrychai dyn hel y set yn llawen, ond os byddai'n rhaid ei gollwng tynnai wyneb fel diwrnod golchi.

Ond ryw hanner can mlynedd yn ôl daeth y ci hel defaid yn bur gyffredin i Gymru. Credaf mai o'r Alban y daeth, ac erbyn hyn diau ei fod wedi disodli ei ragflaenydd allan o'r wlad bron yn gyfangwbl. Gydag ef gellir hel y defaid at ei gilydd, a dal un yn eu mysg yn hawdd ar ganol y cae, neu eu hel i'r gorlan, a gall un dyn fynd â gyr ohonynt i'r ffair, neu'r man y mynno, gydag un neu ddau o'r cŵn gwerthfawr hyn.

Ond mae'r amser y cyfeiriaf ato cyn eu dyddiau hwy; byddai'n rhaid i'r holl deulu, ond y wraig, droi allan i hel defaid. Câi hi aros gartref ond iddi ofalu sefyll yn yr adwy pan ddeuai'r defaid i lawr, a gwae hi oni wnâi hynny, oherwydd byddai'r ffarmwr yn wyllt ofnadwy ddiwrnod hel defaid, yn bloeddio ac yn arthio. Mae'r diwrnod lawer tawelach erbyn hyn. Gallai'r bugail hel ei ddefaid yr adeg honno gyda llawer llai o sŵn na'r ffarmwr.

Mae diwrnod golchi defaid a'r diwrnod cneifio yn dal yn debyg, felly nid oes angen eu disgrifio; gyda'r hel yn unig y mae cyfnewidiad mawr.

Wele ddisgrifiad y diweddar Owen Jones, "Meudwy Môn," o drigolion un o bentrefi Cwm Eithin yn ei Cymru yn Hanesyddol (1875):—

"Y mae bywyd gwledig yn uchelder ei fri yng "Nghwm Eithin." Y llafurwr amaethyddol, a'r bugail, ydyw breninoedd y fro; a'r gwragedd a'r llancesau diwyd, a welir yn brysur gyda'r gwiaill a'r edafedd, agos bob dydd o'r flwyddyn, oddigerth y Suliau, ydyw y breninesau yma. Yn fyr, y mae "Cwm Eithin" yn un o'r ychydig leoedd hyny y gellir gweled ynddynt ddiwydrwydd, tawelwch, caredigrwydd, a sirioldeb gwledig, hen drigolion "Cymru Fu" heb eu llychwino gan rodres a thrybestod ffasiwnol cymdeithas mân drefydd, a llannau, y dyddiau presennol."

Gŵr craff a diwylliedig oedd "Meudwy Môn," yn caru ei wlad, ac yn gwybod ei hanes yn well nag odid neb; a hawdd. credu oddi wrth y darlun uchod i hen arferion Cymru Fu fyw yng Nghwm Eithin yn hwy nag yn un rhan arall o Gymru. Ac os byth y bydd yr iaith Gymraeg farw, nid oes dim sicrach nad yng Nghwm Eithin y treulia hi ei nawnddydd, o barch i John Jones, "Glan y Gors," ac mai yn y pwll mawnog yn y Mynydd Main y cleddir hi, y pwll y syrthiodd Dic Sion Dafydd iddo.

Nodiadau

golygu
  1. Pennillion Telyn, gan W. Jenkyn Thomas, Caernarfon, 1894.
  2. Gweler ddarlun Cŵn yn Corddi yn yr Atodiad ar y diwedd.
  3. Gweler ddarlun o Felin Malu Eithin yn yr Atodiad ar y diwedd.