Cwm Eithin/Y Trigolion: Y Gwas a'r Gweithiwr
← Y Trigolion: Y Ffermwyr | Cwm Eithin gan Hugh Evans, Lerpwl |
Y Trigolion: Y Forwyn a'r Ymborth → |
PENNOD III
Y TRIGOLION:
Y GWAS A'R GWEITHIWR
"MAE y gŵr yn ymguraw,
A'i dylwyth yn wyth neu naw:
Dan oer hin yn dwyn y rhaw,—mewn trymwaith;
Bu ganwaith heb giniaw.
Aml y mae yn teimlo min
Yr awel ar ei ewin:
A llwm yw ei gotwm, gwel;
Durfing i'w waed yw oerfel.
Noswylio yn iselaidd,
A'i fynwes yn bres oer, braidd!
Ba helynt cael ei blant cu,
Oll, agos a llewygu !!
Dwyn ei geiniog dan gwynaw;
Rho'i angen un rhwng y naw!
Edrych yn y drych hwn dro,
Gyr galon graig i wylo :
Pob cell a llogell egyr,
A chloiau dorau a dyr."
—"Dewi Wyn o Eifion."[1]
Yr oedd gweision y ffarm fel rheol yn ddynion dichlyn; gweithwyr caled am oriau hirion; yn byw yn galed, ac yn magu teuluoedd lluosog, lawer ohonynt. Dynion geirwir, ond ambell hen gynffonnwr, gonest i'r eithaf yn eu tlodi, ac, feallai oherwydd eu tlodi, ni chaent nemor ddim ar goel gan neb; ni chymerasent lawer am gymryd dim nad oedd yn eiddo iddynt, ond ambell wningen oddi ar y mynydd yr oedd y tirfeddianwyr wedi ei ddwyn oddi arnynt. Os daliai'r hen gipar hwy caent eu dwyn o flaen yr ustusiaid, sef y tirfeddianwyr, ac anfonai y rhai hynny hwy i garchar bron yn ddieithriad. Cofiaf yn dda un o fechgyn gorau'r ardal, fy athro yn yr Ysgol Sul, yn cael ei anfon am fis i garchar Rhuthyn am saethu petrisen. Fel y clywais Dr. Pan Jones yn dywedyd pan areithiai ar gwestiwn y tir, "Torrodd dau neu dri o fechgyn Llangollen i berllan afalau yn agos i'r dref; daliwyd hwy, ac fe'u hanfonwyd i garchar gan y 'stisied. Yng nghof rhai o'r trigolion, comin oedd y darn tir lle y tyfai'r coed afalau, y tirfeddiannwr wedi ei drawsfeddiannu a'i gau i mewn. Wrth adael y llys tynnai'r ustusiaid eu hetiau i'r meistr tir, y lleidr mawr, newydd anfon y bechgyn i'r carchar am gymryd eu heiddo'u hunain."
Dechreuai'r gwas a'r forwyn eu diwrnod am chwech yn y bore, ac yng nghynt yn aml, a gweithient yn galed hyd wyth o'r gloch y nos o fore Llun hyd nos Sadwrn.
Os heb fod yn byw yn bell, âi y gweithiwr adre bob nos, gan gyrraedd tua naw, a threulio agos i awr gyda'i wraig a'i blant ; myned i'w wely yn brydlon am ddeg, a chodi tua phump i fyned trwy'r un oruchwyliaeth.
Yn y gaeaf, yn ystod y dyddiau byrion, yr oedd diwrnod y gweithiwr dipyn yn fyrrach; ond byddai'r hogyn gyrru'r wedd wrthi hyd wyth yn torri gwellt a thrin y ceffylau. Treuliai'r gweithiwr y Sul gyda'i deulu fel rheol; ond arferai fyned i'r ffarm i nôl ei ginio. Arbedai hynny dolli ar fwyd y wraig a'r plant; a byddai tamaid o gig i'w gael yno, tra na welid dim yn y bwthyn am wythnosau yn aml.
Fe allai y dylwn egluro, er mwyn ambell un, y gwahaniaeth rhwng gweithiwr a gwas. Dyn wedi priodi, neu wedi sadio, ac yn cyflogi wrth yr wythnos, oedd y gweithiwr, tra yr oedd y llanciau yn cyflogi dros y flwyddyn; ac nid oedd dyn yn weithiwr os byddai'n canlyn y wedd. Câi ambell hogyn newydd briodi gryn anhawster i gael lle i weithio gan nad oedd wedi arfer dim ond gyrru'r wedd. Yr oedd diwrnod hogyn gyrru'r wedd yn hwy na diwrnod y gweithiwr ac yntau ar hast eisiau myned adre at y wraig. Yr oedd braidd yn ddiraddiad i lanc newydd briodi yrru'r wedd. Ond gwelwyd aml un yn troi at y wedd yn ôl, ar ôl blwyddyn neu ddwy o fywyd priodasol—digon o amser i ddeall nad angyles a briodasai, namyn merch ddigon tebyg i'w fam a'i chwaer, ac fe allai yn fwy o hen strempen na'i chwaer. Ar ôl swper ymneilltuai'r gweision a'r hogyn i'r briws am ychydig i blagio'r forwyn, ac yna i'r llofft allan wrth ben y briws neu'r ystabl i lolian am ychydig neu i ddysgu adnod erbyn y Sul; ambell un i ddarllen wrth olau cannwyll, pryd y gosododd seiliau bywyd o wasanaeth a defnyddioldeb, pob un i ofalu am gannwyll yn ei dro. Edrychai'r meistr yn wgus bore drannoeth onid aent i'w gwelyau erbyn deg. "Ewch i'ch gwlâu gael i chwi godi yn y bore." Er hynny ni feddyliai neb fod y bywyd yn un caled, a difyr oedd yr oriau. Pennod ddifyr iawn a fuasai hanes y llofft allan. Treuliais dair blynedd ynddi, ond chware teg i'r ffermwyr, nid arnynt hwy 'roedd y bai i gyd fod y llanciau yn y llofft allan. Nid oedd lle yn y tai, lawer ohonynt, a'r llofft allan oedd yr orau mewn aml amaethdy, ac yr oedd yn well gan y llanciau gysgu allan o'r hanner nag yn y tŷ. Nid gwaith hawdd iawn i ffarmwr gael gwas i gysgu yn y tŷ oni fyddai ysbryd hen lanc wedi ei feddiannu i wraidd ei enaid. Sut yn y byd mawr y gallai llanc gael cariad os byddai o dan fawd meistr a meistres ddydd a nos? A thrychineb ofnadwy yw i lanc fod heb gariad. Lle y buasai ei anrhydedd llancyddol? Mae pob llanc yn meddwl priodi rywbryd, ni waeth pa mor hen y bo. Credaf y gallaf brofi hyn trwy hanesyn syml. Yng Nghwm Eithin, yn amser fy maboed, yr oedd hen ŵr ar fin ei bedwar ugain yn ffarmio, ac wedi colli ei briod ers llawer o flynyddoedd Bu ganddo housekeeper yn hir, ond collodd honno. Yr oedd ganddo un mab adre heb briodi yn llawn deugain oed, ond yn ddiniweitiach na'r cyffredin ac yn swil iawn, hynod o ffeind wrth bawb. Galwn ef Jos. Ni waeth imi heb roddi ei enw priodol. Yr oedd gen i barch mawr iddo, a thipyn o dosturi tuag ato.
"Jos," ebe'r tad, " rhaid i ti chwilio am wraig, 'neith hi mo'r tro i ni fod fel hyn. 'Does dim posib cael morwyn yrŵan a dim llun arni hi. Chwilia di am wraig, ac mi fydd gen'ti gartre ar ôl i mi fynd." Rhoddodd Jos ei ben i lawr a rhyw hanner gwên ar ei wyneb, a dywedodd, " 'Dydw i ddim yn licio gofyn i'r un o'r genethod briodi."
"Ddim yn licio wir! Lol i gyd! Sut yr wyt ti'n meddwl y darfu i mi briodi?"
Yr oedd Jos â'i ben i lawr ac wedi mynd yn swbach bach i'w gilydd. Atebodd ei dad yn ôl yn derfynol, 'gasai ef. "Wel, ie, ond priodi mam ddaru chwi, ynte? " Ni chafodd Jos wraig. Collodd ei dad ymhen amser, a buan yr aeth stoc ei ffarm a hynny oedd ganddo rhwng y cŵn a'r brain. Bu'n rhaid iddo droi ei gefn ar ei hen gartre, a bywyd tlawd iawn a gafodd yn gweithio ychydig yma ac acw. Pawb yn ddigon ffeind wrtho, ond y rhai a aeth â'i arian.
Yn Llanaled yr oedd chwech o elusendai a rhent ffarm wedi eu gadael i hen wŷr gweddwon neu ddi-briod fel y gellid rhoddi 3/6 yn yr wythnos i bob un at fyw. Gofynnais i un o'm hen gyfoedion y rheswm na fuasai Jos wedi cael myned i un ohonynt yn ei hen ddyddiau. Atebodd hwnnw, "Fe ddarfum i gynnig iddo gael mynd i un ohonynt pan oedd tua deg a thrigain mlwydd oed, a'i ateb oedd Dydw i ddim yn meddwl y cymeraf ef; rhyw dai digon anfelys ydynt, onid e? Pe bai gan un wraig ni chai ef fyned â hi yno.' Bu fyw i fyned dros ei bedwar ugain oed ar gymorth plwyf a chyfeillion.
Swm cyflog gweithiwr da yng Nghwm Eithin pan gyrhaeddais i yno oedd swllt yn y dydd yn y gaeaf; rhai yn cael dim ond pum- swllt yn yr wythnos. Codai'r cyflog yn y gwanwyn i tua o naw i ddeuddeg swllt, ac ambell bladurwr da yn cael pedwar swllt ar ddeg yn y cynhaeaf, a bwyd. Pan oeddwn yng Nghwm Eithin am seibiant tuag ugain mlynedd yn ôl, euthum o gwmpas rhai o'r brodorion hynaf i holi am hanes y bywyd gwledig yno yn eu cof cyntaf hwy, a beth oedd swm lleiaf y cyflog. Yr hynaf y cefais afael arno oedd Dafydd Roberts, Tŷ'n Rhyd, erbyn hynny yn byw yn y 'Sendy, ac yn gryn gwrs dros ei bedwar ugain pan oeddwn yn siarad ag ef. Meddai gof clir. Wedi cyfarch ein gilydd, aethom dros aml hanesyn y cofiwn i amdano pan oeddwn yn hogyn ac yntau yn ei anterth yn gweithio yn y cylch. Onid peth hyfryd yw cyfarfod ambell hen ŵr yr arferech fod yn dipyn o law gydag ef pan oeddych yn hogyn bach—un yr arferech edrych i fyny ato yn nyddiau plentyndod, dyn a fedr wneuthur ichwi feddwl ei fod ef yn meddwl llawer ohonoch, ac yn gallu rhoi argraff ar eich meddwl pan oeddych yn llabwst o hogyn, os yw'r gair "llabwst " yn gywir am un nad aeth o byth yn fawr, ei fod yn credu eich bod yn ddyn, ac yn ymddwyn atoch felly mewn gwirionedd? Ond dyna ffordd llawer ohonom i fesur dynion ar ôl tyfu i fyny. Y dyn iawn yw'r un a wna dipyn o helynt ohonom ni, a'r dyn sâl yw'r un na wêl ein mawredd ni. "Cam neu gymwys," yr oedd Dafydd Roberts yn fy llyfrau i, ac y mae'n para i fod er wedi ein gadael ers tro. "Faint ydych chwi yn cofio oedd y cyflog i rai yn gweithio efo ffarmwrs, Dafydd Roberts?" meddwn wrtho. "Yr ydw i yn cofio 'nhad yn gweithio yn Tai Ucha'r Cwm, pan oedden ni yn blant, ac yn byw yn Llidiart y Gwartheg, am rôt yn y dydd; dau swllt yn yr wythnos." "Wel, sut yr oeddych chwi yn byw?" meddwn innau.
"Mi ddeuda wrtha ti, a 'does gen i ddim cywilydd deud wrtha ti, Huw bach. Mi fyddwn i a fy chwiorydd yn gorfod troi allan i hel ein bwyd cyn cynted ag y gallem fyned o gwmpas. Amser caled ofnadwy oedd hi yr adeg honno; ond yn ara deg fe ddaeth pethau yn well. Mae hi yn wahanol iawn yrwan; ydi, ydi.' Cyfeiriai Dafydd Roberts felly at y blynyddoedd tua 1836-1840, pan oedd ei dad a'i fam a phump neu chwech o blant yn byw yn Llidiart y Gwartheg ar ddau swllt yn yr wythnos. Yna gelwais gyda hen ewythr, Thomas Williams, oedd nifer o flynyddoedd yn iau, a'r perthynas agosaf yn fyw i "Jac Glan y Gors.' Gofynnais yr un cwestiynau iddo yntau. "Yr ydych wedi gweithio yng Nghwm Eithin ar hyd eich oes," meddwn. "Do," ebe yntau, "hyd o fewn ychydig o fisoedd yn ôl. Bu raid i mi ei rhoi hi i fyny." "Beth oedd y cyflog y ffordd yma," meddwn, "pan ydych chwi yn cofio gyntaf, cyflog dynion, nid cyflog hogiau?" "Wyth geiniog yn y dydd a'u bwyd oedd dynion yn gael," meddai, "pan oeddwn i yn hogyn, a pharhaodd felly yn bur hir. Bûm i yn gweithio am wyth geiniog y dydd pan oeddwn wedi troi ugain oed, ac yr oedd yn anodd iawn cael gwaith. Ond yr oeddwn i yn gweithio yn y Bwlch gyda chefnder i 'nhad, Robert Jones, brawd "Jac Glan y Gors"; ac 'roeddwn yno pan fu farw. Ymhen amser daeth cyfnewidiad, a chododd y cyflog yn sydyn i swllt yn y dydd, ac yr oedd siarad cyffredinol am y cyflogau uchel, a beth a ddeuai o'r ffermwyr druain, lle yr oeddynt yn mynd i gael arian i dalu'r fath gyflog." "Beth a fu'r achos o'r codiad?" meddwn. "Wel," meddai yntau, "dechreuodd y dynion fyned i'r gweithydd glo tua'r Cefn, ac agorodd chwareli Stiniog, ac aeth nifer yno. Daeth gair fod rhai yn cael cryn bunt yn yr wythnos yn y ffwrnes fawr a gwaith haearn Brymbo. Ni choeliai neb y fath beth am amser, ond gan y mynych gyrchai y llanciau i stesion Tŷ Coch i nôl glo, bu raid credu cyn hir."
Cyflog llanc yn canlyn y pen gwedd yr adeg y soniaf amdani oedd tua £9, eiddo ail wagnar tua £5/10/-, a hogyn £1/10/-. Yr unig wyliau a gâi gweision ffermwyr ar hyd y flwyddyn oedd dydd Nadolig a diwrnod ffair gyflogi.
Fe wn i yn dda y gellid prynu llawer yn ychwaneg am swllt nag a ellir yn awr, a hefyd fod gan y tlawd aml ffordd i gael tamaid na ŵyr pobl yr oes olau hon ddim amdani. Ond caf ddisgrifio'r rhai hynny yn y bennod ar "Frenhines y Bwthyn." Yr oedd ganddi hi lawer i'w wneuthur i gael bwyd i'r plant. Fe wn hefyd yn dda fod gwell teimlad rhwng gwas a meistr yn hanner cyntaf y ganrif ddiweddaf, ac mai trychineb mawr i'r gweithiwr tlawd oedd i "F'ewythr a Modryb"g ael eu disodli gan "Mistar a Meistres." Ond er cofio'r cyfan, byd caled oedd byd y gweithiwr. Onid oedd hi yn dywyll i edrych ymlaen at hen ddyddiau? Ofn myned i'r "House"! Bu'n well gan gannoedd farw o newyn na myned i'r "House." Yr oedd cymorth o'r plwy bron yn amhosibl ei gael, ac yn druenus o fychan pan geid ef. Ni wn pa bryd y pasiwyd deddf fod y meibion i ofalu am eu rhieni, ond cofiaf yn dda ddynion heb fod yn ennill ond o 9/- i 12/-, a gwraig a phump neu chwech o blant ganddynt, yn cael eu gwysio o flaen yr ustusiaid a'u gorfodi i dalu 1/- neu 2/- yn yr wythnos at gynnal tad a mam mewn henaint. A dioddefodd aml hen ŵr a hen wraig eisiau cyn myned i gwyno rhag tynnu eu meibion i helynt, a myned â rhan o fwyd eu hwyrion oedd eisoes yn ddigon prin.
Yr oedd yn rhaid i'r gwas a'r gweithiwr aros allan bron ar bob tywydd, glaw a hindda, a dyfod adre gyda'r nos yn wlyb at y croen. Câi'r gweithiwr sychu ei ddillad bob nos a'u cael yn sych i'w rhoddi amdano yn y bore os byddai mewn cyfle i fyned adre y nos. Ac mewn llawer ffarm, câi'r gwas eu sychu o flaen y tân yn y briws neu'r gegin, lle byddai gwraig a rhyw gymaint o ddynoliaeth ynddi Ond mewn aml le, yr oedd yn rhaid eu hongian yn yr ystabl neu 'r llofft allan i sychu. Yr oedd yr ystabl yn lle go lew i hynny, gan fod gwres y ceffylau yn twymno'r lle. Ond, er ceisio cadw dillad i newid, aml y byddai raid gwisgo yn y bore mewn rhai heb fod yn sych. Felly nid rhyfedd fod y dynion yn edrych yn hen cyn cyrraedd canol oed. Mae pethau wedi gwella'n fawr yn y cyfeiriad hwn.
Arferai paganiaid duon India fyned â hen bobl i lan afon Ganges i farw. Nid rhyw lawer iawn mwy anghristionogol oeddynt na'r tirfeddianwyr oedd yn gwneuthur cyfreithiau Prydain Fawr. Pwy sydd yn cofio'r pethau hyn nad yw yn barod i ganmol y Cymro dewr o Gricieth am Old Age Pensions? Mae Cân Hen Wr y Cwm, gan "Gweryddon," yn adrodd profiad hen weithiwr tlawd i'r dim:
"Wel dyma ŵr a'i dŷ ymhell, |
O dan fy nghlwy yn dwyn fy nghlais, |
O boenau dwys ar ben y daith! |
Ni flina'i neb fel hyn yn hir, |
- "Y Geiniogwerth," 1849
Nodiadau
golygu- ↑ Blodau Arfon, gan "Dewi Wyn o Eifion" (David Owen), Caerlleon,1842.