Cyduned Seion lân
← Ti, Dduw unig ddoeth, y goleuni a'th gêl | Cyduned Seion lân gan James Hughes (Iago Trichrug) |
Ti, Iesu, Frenin nef → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
94[1] Cariad ac Iawn Crist.
M. B.
1 CYDUNED Seion lân
Mewn cân bereiddia'i blas
O fawl am drugareddau'r Iôn,
Ei roddion Ef a'i ras.
2 P'le gwelir cariad fel
Ei ryfedd gariad Ef?
P'le bu cyffelyb iddo 'rioed?
Rhyfeddod nef y nef!
3 Fe'n carodd cyn ein bod,
A'i briod Fab a roes,
Yn ôl amodau hen y llw,
I farw ar y groes.
4 Gwnaeth Iesu berffaith Iawn
Brynhawn ar Galfari:
Yn ei gyfiawnder pur di-lyth
Mae noddfa byth i ni.
5 Anfeidrol ydyw gwerth
A rhin ei aberth mawr,
I achub rhyw aneirif lu
O deulu gwael y llawr.
Y rhai, yn berffaith lân,
A beraidd gân i gyd,
I'r bendigedig unig Oen
Yn iach o boen y byd.
James Hughes (Iago Trichrug)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 94, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930