Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Am afiechydon moch, a'r moddion i'w meddyginiaethu

Am ladd moch, a chiwrio a halltu eu cig Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon


AM
AFIECHYDON MOCH,
A'R MODDION I'W MEDDYGINIAETHU.

Y mae mochyn, yn ei gyflwr naturiol, yn anifail iachus, a phan y byddo wedi ei ddofi, nid yw yn hawdd iawn ei niweidio, os caiff ryw lun o driniaeth a chwareu teg. Pa fodd bynag, trwy ei fod yn cael ei lyfetheirio a'i gaethiwo; yn gorfod ymdrybaeddu mewn baw; yn cael ar un adeg ei syrffedu, bryd arall ei newynu; heddyw yn cael hen fwyd wedi suro, yfory yn cael ymborth wedi ei ysgaldio—ni ddylem ryfeddu os bydd yr anifail yn ddarostyngedig i ymosodiadau afiechydon peryglus a marwol ar adegau. Y prif afiechydon ag y mae moch yn ddarostyngedig iddynt, oherwydd cael eu camdrin fel hyn, ydynt y rhai' canlynol. {{c|AM Y DWYMYN (FEVER) MEWN MOCH. Y mae moch yn hynod o ddarostyngedig i fevers, ac arddangosant hyny trwy hongian eu penau, a'u troi ar un ochr; y llygaid yn gochion, sychder a gwres mawr yn y ffroenau, y gwefusau, a'r croen yn gyffredinol; tueddiad i redeg yn sydyn, a sefyll yn sydyn hefyd, ac y mae hyny yn gyffredin yn cael ei ddylyn gyda math o benysgafnder, yr hyn a bâr iddynt syrthio i lawr, a marw, na ragflaenir hyny mewn pryd. Pan y deuwch i wybod fod yr afiechyd yma yn eu blino, dylech sylwi yn fanwl at ba ochr y byddant yn troi, a'u gwaedu yn y glust, neu yn y gwddf, ar yr ochr wrthgyferbyniol. Y mae rhai yn eu gwaedu o dan y gynffon, oddeutu dwy fodfedd o dan y gloren. Y mae yn dra sicr, fod y pensyfrdandod, neu y benddaredd, neu fel y geilw y Saeson ef, y staggers, mewn mochyn, yn tarddu oddiar ormodedd o waed yn ei gyfansoddiad, a thrwy eu gwaedu mewn pryd bydd iddynt wella yn fuan.

Wrth waedu moch yn agos i'r gynffon, gellwch sylwi ar wythïen fawr yn codi yn uwch na'r lleill. Byddai yr hen ffermwyr yn arfer curo hon gyda ffon fechan, i'r dyben a beri iddi godi neu chwyddo, ac yna ei hagor ar ei hyd gyda fflaim, neu gyllell lem a main; ac wedi tynu allan y swm digonol o waed, hyny yw, oddeutu pymtheng owns, o fochyn a fyddo yn pwyso ugain ugeinpwys, neu ragor, rhwymwch i fyny yr archoll gydag ysbrigyn wedi ei dynu a risg mewnol pren gwaglwyf (lime tree,) neu ynte risg mewnol pren helyg neu lwyfan. Ar ol eu gwaedu, cadwch hwy i mewn am ddiwrnod neu ddau, gan roddi iddynt flawd haidd i'w fwyta, wedi ei gymysgu a dwfr cynhes, heb adael iddynt yfed dim ond sydd yn gynhes, dwfr yn benaí, heb unrhyw gymysgedd. Y mae rhai meithrinwyr moch, ag ydynt o duedd gywrain, yn gwneyd math o bâst o'r blawd haidd, ac yn rhoddi ynddo yr feunyddiol oddeutu haner owns o risg derw wedi ei falu yn fân.

AM DDOLUR Y GWDDF (QUINSEY.)

Y mae hwn yn afiechyd ag y mae moch yn dra darostyngedig iddo, a bydd iddo rwystro iddynt besgi; dygwydda yn gyffredin pan y maent ar haner pesgi. Felly wedi iddynt gael eu cau i fyny am bum' wythnos neu chwech, er eu bod wedi bwyta yn agos i ddeg bwshel o bŷs, y mae yr afiechyd yma, mewn tridiau neu bedwar, yn eu gwneyd mor deneu ag yr oeddynt cyn dechreu eu pesgi o gwbl. Math o chwydd yn y gwddf ydyw yr anhwyldeb hwn, a gellir ei wella trwy waedu ychydig uwchlaw yr ysgwydd, neu y tu ol i'r ysgwyddau. Ond y mae rhai yn meddwl mai eu pesgi ydyw y dull mwyaf dyogel; pa fodd bynag, bydd i'r naill neu y llall o'r moddion hyn wneyd y tro. Bara ydyw yr ymborth goreu iddo, wedi ei fwydo mewn potes. Pa fodd bynag, peidiwch a gadvel i;r mochyn fwyta cymaint ag y mae yn awyddus am dan; y foment y byddo ei wange wedi darfod, symudwch ymaith y bwyd, a pheidiwch a'i gynyg iddo drachefn am yspaid o dair i bedair awr.

AM CHWARENAU MEWN MOCH

Afiechyd yn y Gwddf, neu fath o chwyddiad, ydyw hwn hefyd; a'r feddyginiaeth ato ydyw eu gwaedu o dan y tafod, a rhwbio eu cegau, ar ol eu gwaedu, gyda halen a blawd gwenith wedi ei guro yn fân, a'u cymysgu yn dda gyda'u gilydd. Os dygwydd fod hwch a fyddo yn goddef dan yr anhwyldeb a pherchyll ynddi, rhoddwch iddi wreiddiau dail gwayw'r brenin. neu yr yellow daffodil, fel y geilw y Saeson hwynt.

AM FOCH YN LARU AR FWYD, NEU YN EI DAFLU I FYNY AR OL EI FWYTA.

Pan y mae moch yn taflu eu bwyd i fyny, gellir iachâu eu hystumog trwy roddi iddynt lwch ivory wedi ei raspio, neu hartshorn wedi ei sychu mewn padell gyda halen. Dylai y pethau hyn gael eu cymysgu â'u bwyd, yr hwn a ddylai fod yn benaf yn gynwysedig o ffa neu fês wedi eu malu; ond os na ellir eu cael, defnyddier haidd, wedi ei frasfalu mewn melin, yn eu lle, ac ysgaldiwch hwy gyda'r pethau a nodwyd. Y mae rhai yn rhoddi math o lysiau a elwir y wreiddrudd (madder,) ar achlysur fel hyn, wedi eu cymysgu gyda'u bwyd.

Pa fodd bynag, nid yw yr anhwyldeb yma yn peri i foch feirw, ond y mae yn meddu yr effaith o dynu moch i lawr o ran eu cig. Ond diameu ei fod yn atalfa ar haint y gwaed, neu y gargut, fel y geilw y Saeson ef, yr hyn a achosir yn gyffredin trwy iddynt fwyta gormod borfa newydd, wedi iddynt gael eu troi allan gyntaf yn y gwanwyn.

AM GLEFYD Y GWAED (GARGUT).

Y mae y rhan fwyaf o bobl wledig bob amser yn ystyried y clefyd hwn i farwolaeth. Arddengys ei hun, gan mwyaf, yn yr un dull a fever mewn moch, trwy eu bod yn ymollwng wrth gerdded, ac yn laru ar eu bwyd; yn y Jever, pa fodd bynag, bydd iddynt fwyta yn iachus nes y syrthiant; ond yn yr anhwyldeb yma yn y gwaed, bydd i'w harchwaeth at fwyd ddarfod ddiwrnod neu ddau cyn i'r ymollyngiad neu y pensyfrdandod gymeryd lle. Y feddyginiaeth at yr anhwyldeb yma ydyw, gwaedu y mochyn mor fuan ag y canfyddwch fod yr afiechyd wedi gafael ynddo, a hyny o dan y clustiau, ac o dan y gynffon, yn ol barn rhyw rai. Er mwyn gwneyd iddo waedu yn rhwydd, curwch ef gyda gwialen neu ffon fechan tra y byddis yn ei waedu; ac ar ol ei waedu, cadwch y mochyn yn ei gwt, rhoddwch iddo flawd haidd mewn maidd cynhes; a gellwch ychwanegu y llysiau a elwir y wreiddrudd (madder), y rhai a soniasom am danynt o'r blaen, neu red ochre wedi ei bowdro.

AM Y CLEFYD A ADNABYDDIR WRTH YR ENW SPLEEN, NEU DDUEG MEWN MOCH.

Gan fod moch yn greaduriaid nad yw braidd yn bosibl eu digoni, y maent yn fynych yn cael eu blino gyda chyflawnder o spleen. Y feddyginiaeth gogyfer â hyn ydyw rhoddi iddynt frigau tamarisk, wedi eu berwi neu eu trwytho mewn dwfr; neu os gellir cael rhai o ysbrigiau llai a thynerach o'r tamarisk, newydd eu casglu, a'u malu yn fân, a'u rhoddi iddynt yn eu bwyd, byddai o les mawr iddynt; oblegyd y mae y nodd, neu y sug, a phob rhan o'r coed yma, yn dra llesol i foch yn y rhan fwyaf o'u hanhwylderau, ond yn fwy arbenig felly yn yr anhwyldeb yma. Oni ellwch gael tamarisk, gellwch ddefnyddio topiau grug yn eu lle, wedi eu berwi mewn dwfr.

AM Y COLER MEWN MOCH.

Arddengys yr anhwyldeb yma ei hun yn gyffredin trwy fod y mochyn yn colli ei gig, yn gwrthod ei fwyd, ac yn tueddu yn fwy nag arfer at gysgu, ac hyd yn nod yn gwrthod porfa newydd y caeau, ac yn syrthio i gwsg mor fuan ag yr elo i'r borfa. Y mae yn beth cyffredin, yn yr afiechyd yma, i fochyn gysgu tair rhan allan o bedair o'i amser; ac o ganlyniad, nis gall fwyta digon at ei gynaliaeth. Gellir galw yr anhwyldeb yma yn gysgadrwydd, neu farweidd—dra, oblegyd mor gynted ag y mae wedi cysgu, ymddengys yn gwbl farw, heb fod ganddo na syniad na symudiad, er i chwi ei gystwyo yn drwm, nes yr ymadfero.

Y feddyginiaeth sicraf a mwyaf cymeradwy at yr anhwyldeb yma ydyw gwraidd y cucumus silvestris, neu y cucumber gwyllt, fel y geilw rhai ef, wedi ei talu a'i ystreinio mewn dwfr, yr hwn a roddir iddynt i'w yfed. Bydd i hwn beri iddynt gyfogi yn ddioed, ac yn fuan ar ol hyny deuant yn fywiog, ac ymedy eu cysgadrwydd. Pan fyddo eu hystumog wedi cael ei chlirio fel hyn, rhoddwch iddynt ffa ceffylau wedi eu mwydo mewn heli porc, neu drwngc neu biso ffres, oddiwrth unrhyw berson iachus; neu ynte fês wedi cael eu trwytho mewn dwfr a halen cyffredin, oddeutu y ddeugeinfed ran o halen at y dwfr. Bydd yn anghenrheidiol eu cadw i mewn yn ystod yr amser y byddont dan y driniaeth, a pheidio gadael iddynt fyned allan hyd ganol y diwrnod nesaf, wedi rhoddi iddynt yn gyntaf foliaid da o flawd haidd wedi ei gymysgu â dwfr, yn mha un y byddo ychydig risg derw wedi cael eu berwi am deirawr neu bedair. Neu, fel myddyginiaeth ag sydd yn fwy tyner na'r un flaenorol, gellwch roddi iddynt oddeutu chwarter owns o monk's rhubarb, sef eu gwraidd wedi eu sychu, gyda phegaid o flawd haidd, yr hyn a ddyg y mochyn i ymborthi gydag ystumog da.

AM Y CLAFR MEWN MOCH.

Y mae arwyddion yr afiechyd yma ar foch yn ddigon adnabyddus. Cynwysant grach, plorynod, ac weithiau luaws mawr o fân lynorod, ar wahanol ranau o'u cyrph. Os esgeulusir hwy, daw yr arwyddion hyn yn fwy amlwg fyth; ymleda yr afiechyd dros holl arwyneb y croen; ac os gadewir iddo fyned yn mlaen heb ei atal, cynyrcha archollion a doluriau dyfnion, nes bydd y holl gorph yr anifail yn un crynswth o lygredigaeth.

Y mae llawer o ddadlu yn nghylch yr achos o'r clafr; ond y farn fwyaf cyffredin ydyw mai budreddi yn y croen, gyda phorthi y mochyn â bwyd rhy boeth, ydyw gwir darddiad yr anhwyldeb. Os na bydd y mochyn ond yn cael ei flino gan ymosodiad ysgafn o'r clafr, a hwnw heb fod o hir barhad, y driniaeth oreu i'w mabwysiadu ydyw yr un a ganlyn:

1. Golchwch y mochyn o'i drwyn i'w gynffon, heb adael un ran o'i gorph heb ei lanhau, gyda sebon meddal a dwfr.

2. Dodwch ef mewn cwt sych a glân, lle y byddo digon o awyr iach, heb, ar yr un pryd, ei amlygu i oerni na thynfa gwynt. Gwnewch iddo wely o wellt glân a sych.

3. Lleihewch ei fwyd, ac na fydded cystal o ran ei ansawdd. Bydded i wreiddiau wedi eu steamio, gyda llaeth enwyn neu olchion o'r llaethdy, gymeryd lle soeg y darllawydd, golchion o'r tŷ, neu unrhyw ymborth a fyddo a thuedd ynddo i boethi neu i beri enyniant yn y mochyn.

4. Bydded iddo ymprydio am bum' neu chwe' awr, ac yna rhoddwch, i fochyn o faint canolig, ddwy owns o Epsom salts mewn cymysg cynhes o fran. Y mae y swm hwn, wrth gŵrs, i gael ei ychwanegu neu ei leihau, yn ol fel y byddo maintioli y mochyn yn galw am hyny. Byddai y swm uchod yn ddigon i fochyn yn pwyso o chwech ugain i wyth ugain. Dylid ychwanegu hwn at oddeutu haner galwyn o gymysg cynhes wedi ei wneyd o fran. Bydd iddo weithio y mochyn yn dyner.

5. Yn mhob pryd o fwyd a roddwch iddo wedi hyny, rhoddwch o

Flour of Sulphur, lonaid llwy fwrdd,
Nitre, gymaint ag a saif ar chwe'cheiniog,

am o dridiau i wythnos, yn ol fel y byddoch yn canfod cyflwr yr afiechyd. Pan welwch fod y crach yn dechreu iachâu, y llynorod yn encilio, a'r briwiau tanllyd yn gwywo, gellwch benderfynu fod y mochyn wedi gwella. Ond cyn i'r canlyniad hyfryd hwnw gymeryd lle, gellwch weled cynydd ymddangosiadol yn yr oll o arwyddion yr afiechyd, megys ymgais olaf yr anhwyldeb cyn rhoddi i ffordd yn gwbl o flaen eich gofal a'ch medrusrwydd.

Y mae, pa fodd bynag, fathau ereill o'r clafr, ag ydynt yn fwy anorchfygol na'r un a nodwyd, ac heb fod yn agos mor hawdd i'w hiachâu. Mewn amgylchiadau felly, wedi i'r driniaeth uchod fod ar waith am bedwar diwrnod ar ddeg, ac heb i wellad gymeryd lle, parotowch y cymysg canlynol:

Cymerwch o Train oil, un peint,
Oil of tar, dau ddram,
Spirits of turpentine, dau ddram,
Naphtha' un dram,

gyda Flour of sulphur, gymaint ag a'i gwna yn bâst tew. Wedi golchi yr anifail yn gyntaf, rhwbiwch ef â'r cymysg hwn, ac na fydded i un llecyn o'r croen ddiangc rhagoch. Cadwch y mochyn yn sych a chynhes ar ol y cymhwysiad yma, a gadewch iddo aros ar ei groen am dridiau llawn. Ar y pedwerydd dydd, golchwch ef unwaith yn rhagor gyda sebon meddal, gan ychwanegu ychydig o soda at y dwfr. Sychwch yr anifail yn dda ar ol hyny, a gadewch ef yn llonydd, heb wneyd dim ond newid ei wely am ddiwrnod neu ddau. Parhewch i roddi y sulphur a'r nitre fel o'r blaen. Nid wyf yn gwybod am un achos o glafr, pa mor ystyfnig bynag y gallai tod, na byddai iddo, yn gynt neu yn hwyrach, roddi i ffordd o flaen y driniaeth hon.

Ar ol i'r mochyn wella, gwyngalchwch ei gwt; purwch ef oddiwrth bob arogl annymunol trwy roddi ychydig chloride of lime mewn cwpan, neu ryw lestr arall, a thywallt ychydig vitriol arno. Os na bydd vitriol wrth law, bydd i ddwfr berwedig ateb y dyben agos yn llawn cystal.

Yn olaf ar y pen hwn: bydded i chwi gofio y drwbl a gawsoch wrth iachâu eich mochyn claf, a thrwy sylw priodol at lanweithdra mewn ymborth a chwt, ynghyda phorthi eich moch yn rheolaidd, cymerwch ofal na ddygwydda y clafr yn eu plith rhagllaw. Cofiwch hefyd, fod cymhwysiadau oddiwrth arian byw i gael eu gochel hyd ag y gellir; ond uwchlaw y cwbl, gochelwch ddefnyddio enaint wedi ei wneyd o ddail crafange yr arth, corrosive sublimate, neu ddwfr tobacco; neu, yn fyr, unrhyw sylweddau gwenwynig pa bynag. Ychydig iawn o welliadau a gynyrchwyd gan y cyfryw feddyginiaethau, ond y mae lluaws mawr o farwolaethau wedi eu cynyrchu trwy eu defnyddio.

AGENAU NEU HOLLTAU YN NGHRWYN MOCH.

Weithiau bydd i agenau neu holltau ymddangos yn nghroen y mochyn, yn enwedig o amgylch gwraidd ei glustiau a'i gynffon, ac ar hyd ei ochrau. Ni ddylid camgymeryd y pethau hyn am y clafr, yn gymaint nad ydynt byth yn tarddu oddiwrth ddim ond amlygiad i eithafion gwres ac oerni, pan nad yw yr anifail druan yn alluog i gymeryd mantais ar yr achles ag y buasai greddf, yn ei gyflwr naturiol, yn ei dueddu i'w fabwysiadu. Y maent yn dra phoenus yn mhoethder haf, os bydd y mochyn yn agored i belydrau poethion yr haul am hir amser, heb fod ganddo forfa neu lyn i faddio ei aelodau crasedig a hanerrhostiedig. Os bydd ei berchenog yn awyddus i'w gynorthwyo, wedi i esgeulustra yn gyntaf wneyd ei gwaith, bydded iddo eneinnio y manau agenog ddwywaith neu dair yn y dydd gyda thar a lard wedi eu cymysgu yn dda gyda'u gilydd.

AM RYDDNI MEWN MOCH.

Nid oes angen manylu yma ar yr arwyddion, oblegyd hwy sydd yn cyfansoddi yr afiechyd. Cyn cynyg atal yr arllwysiad yr hwn pe caniateid iddo barhau yn ddiymatal, a ddiddymai nerth yr anifail yn fuan, ac yn ol pob tebygolrwydd a derfynai yn angeuol iddo—bydded i chwi yn gyntaf fynu sicrwydd o berthynas i ansawdd y bwyd a gafodd yr anifail yn ddiweddar. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau o'r fath, cewch allan mai dyma lle y mae gwreiddyn y drwg; ac os ceir hyny allan yn nechreuad yr afiechyd, byddai dim ond newid yr ymborth, megys ŷd, blawd, &c., yn ddigon i beri gwellhad. Ond os bydd genych le i feddwl fod surni yn bresenol, wedi ei gynyrchu yn ol tebygolrwydd, gan ymborthi ar laswellt drwgsawrus, rhoddwch dipyn o chalk (sialc) yn ei fwyd, neu blisg wyau wedi eu malu, gydag oddeutu haner dram o rhubarb wedi ei bowdro; y ddogn, wrth gŵrs, yn amrywio yn ol maintioli y mochyn. Yn adeg mês, a lle y byddont yn hawdd eu cael, bydd iddynt hwy eu hunain beri gwellhad. Tra byddo yr anifail yn llafurio dan yr afiechyd yma, y mae llety sych yn anhebgorol angenrheidiol iddo; a dylid bod yn ddyfal i sicrhau hyny, yn gystal a glanweithdra.

AM Y COLIC AR FOCH.

Nid yw hwn yn afiechyd anghyffredin ar foch, a chynyrchir ef yn fynych trwy fwyta gormod o ymborth sur. Arddangosir ef gan boenan mawrion a thost ar adegau; ymrolia y mochyn hyd lawr, gan gicio ei fol; yna cyfyd, a cherdda o gwmpas am ychydig funudau, hyd nes y daw ail ymosodiad. At ei wella,

Cymerwch o Peppermint water, haner peint,
Tincture of opium, deugain dyferyn.

Rhoddwch hwn iddo yn ystod y munudau y byddo yn dawel. Dylai yr anifail gael ei gadw yn gynhes, a rhowch ymborth iddo (llaeth newydd yn gynhes) nes y byddo wedi llwyr wella.

AM Y PLA MEWN MOCH.

Credir fod yr afiechyd yma yn heintus, neu yn drosglwyddadwy o'r naill i'r llall; ac am hyny dylai pob moch a fyddont yn dyoddef o dano gael eu gwahanu yn uniongyrchol ac heb golli dim amser, oddiwrth y gweddill o'r gyr, a'u rhoddi mewn rhyw gwt lle na ddelo ond y rhai afiach. Yn yr achos hwn, yn gystal ag mewn amgylchiadau ereill pan fyddo moch yn sâl, dylent gael gwellt glân. Pan fyddo y pla wedi ymosod arnynt fel hyn, rhoddwch iddynt oddeutu peint o raisin wine, neu ynte win gwyn da, yn mha un y cafodd rhai o wreiddiau polpody y dderwen eu berwi, ac yn mha un y byddo deg neu ddeuddeg o rawn yr eiddew wedi eu malu, a’u trwytho. Bydd i'r cyfferi hyn beri iddynt ysgothi, a thrwy gryfhau yr ystumog, fwrw allan yr afiechyd.

Os bydd i fochyn arall, ar ol y cyntaf, gael ei gymeryd gan yr un salwch, bydded i'r cwt gael ei lanhau yn dda oddiwrth y gwellt a'r tail a adawsid yno gan y mochyn afiach blaenorol. Pan yr elo gyntaf i mewn, rhoddwch iddo amryw sypiau o wermod, newydd eu casglu, fel y byddo iddo ymborthi arnynt yn hamddenol; gan ofalu bob tro y bydd genych achos i ddwyn mochyn afiach o'r newydd i mewn, am roddi iddo wellt glân, a chwt glân. Y mae polpody y dderwen, fel y cyfarwyddwyd uchod, yn feddyginiaeth ragorol hefyd at y choler mewn moch.

AM Y FRECH GOCH.

Bydd gan foch, pan y byddant yn cael eu blino gan y frech goch, lais mwy cryglyd nag arferol; bydd eu tafodau yn llwydion, a'u crwyn wedi eu gorchuddio yn dew â blisters, neu chwysigod, o faintioli pŷs. Yn gymaint a bod yr afiechyd yma yn naturiol i foch, byddai yr hen bobl yn cynghori, fel ag i'w ragflaenu, fod iddynt gael eu bwydo mewn cafnau plwm. Y mae hefyd yn arferiad gyffredin, pan y mae yr afiechyd yma yn blino moch, i roddi iddynt drwyth o briony root a cummin water, yn eu bwyd cyntaf bob bore. Ond y ffordd sicraf er eu meddyginiaethu, yn ol barn y medddygon goreu, ydyw parotôi y cyfferi canlynol:—

Cymerwch o Sulphur, haner pwys,
Alum, tair owns,
Bay—berries, tri chwarter peint,
Huddugl, dwy owns.

Gymysgwch y pethau hyn oll gyda'u gilydd, rhwymwch hwy mewn llian, a rhoddwch hwy yn y dwfr y byddo y moch yn ei yfed, gan eu hysgwyd neu eu cyffrôi yn gyntaf yn y dwfr. Neu ynte—

Cymerwch o Flour of sulphur, haner owns,
Madder, wedi ei falu, gymaint ag a'i cuddia,
Liquorice, yn dafellau, chwarter owns,
Aniseed, chwarter owns,
::Blawd gwenith, un lwyaid.

Cymysgwch y cyfan gyda llaeth newydd, a rhoddwch y dogn i'r moch bob bore ar eu cythlwng, neu cyn iddynt brofi dim ymborth; ac adfynychwch hyn ddwy waith neu dair. Y mae hon yn feddyginiaeth a fawr gymeradwyir fwran a'r frech goch mewn moch.

AM AFIECHYD YN YR YSGYFAINT.

Y mae moch, gan eu bod o natur boeth, yn agored i afiechyd a elwir syched, neu yr ysgyfaint, yn ol rhai ffermwyr. Tardda yr anhwyldeb yma yn gwbl o ddiffyg digonedd o ddwfr; o ganlyniad, nid ydynt yn agored iddo ond yn sychder haf, neu pan fyddo dwfr yn brin. Y mae yn fynych yn taflu cryn gostau ar y ffermwr, pan y mae moch wedi eu gosod heibio at besgi, a phan na chymerir gofal priodol i roddi iddynt ddigon o ddwfr, oblegyd yna y maent yn sicr o nychu, a cholli eu cig. Er atal hyn, byddwch yn ofalus i roddi iddynt ddigonedd o ddwfr ffres, a hyny yn fynych hefyd; canys y mae y diffyg o hono yn dwyn arnynt wres gormodol yn yr afu, yr hyn a gynyrcha yr anhwyldeb hwn. Er ei feddyginiaethu tyllwch ddwy glust y moch, a rhoddwch yn mhob twll ddeilen a bonyn o'r llysiau a alwn ni y Cymry yn belydr du, ond a adnabyddir gan y Saeson wrth yr enw black helebore.

AM Y GERI, NEU Y BUSTL, MEWN MOCH.

Y mae yr anhwyldeb yma yn gwneyd ei ymddangosiad trwy chwydd o dan y bochgernau, ac nid yw byth yn dygwydd ond o herwydd diffyg chwant at fwyd, a phryd y byddo yr ystumog yn rhy oer i dreulio yr ymborth,—o leiaf felly y dywed rhai awduron. Y mae yn gyffredin yn ymaflyd yn y moch hyny a gaethiwir mewn cytiau budron, ac a esgeulusir neu a newynir gyda golwg ar ymborth. Rhoddwch iddynt sug neu nodd dail cabaits, gyda saffron wedi ei gymysgu â mêl a dwfr—oddeutu peint o hono, a bydd yn sicr o beri iachâd iddynt.

AM Y CHWANTACHGLWYF MEWN MOCH.

Y mae ein cymydogion y Saeson yn galw yr anhwyldeb yma wrth yr enw pox, am y tybiant ei fod yn tarddu oddiar duedd chwantachol yn yr anifail, yr hyn a bair i'w waed gael ei lygru. Ond pa un bynag am hyny, y mae i'w ganfod yn fwy hynod yn y moch hyny na fyddont yn cael digonedd o ymborth, ac yn fwyaf neillduol yn y rhai ag ydynt wedi bod yn ddiffygiol o ddwfr. Y mae yn gwneyd ei ymddangosiad mewn lluaws o friwiau ar gorph y creadur; ac ni fydd i na baedd na hwch ddyfod yn eu blaenau tra y byddo yr afiechyd hwn arnynt, er i chwi eu bwydo â'r math goreu o ymborth. Y feddyginiaeth ar eu cyfer ydyw, rhoddi iddynt ddwy lwyaid fawr o driagl, mewn dwfr a fyddo wedi ei led-feluso â mêl—oddeutu peint ar y pryd; ac eneiniwch y briwiau â flour of brimstone wedi ei gymysgu yn dda â lard mochyn; at hyny gellid ychwanegu ychydig bach o lwch tobacco. Tra y byddwch yn rhoddi iddynt y cyfferi hyn, dylai y moch afiachus gael eu cadw mewn cwt, ac ar wahan i'r gweddill o'r gŷr, nes y byddont wedi ymiachâu.

AM CHWYDD O DAN Y GWDDF.

Y mae yr afiechyd yma yn ymddangos rywbeth yn debyg i chwydd yn y chwarenau, ac y mae rhai ffermwyr yn ei alw yn "chwarenau" mewn moch. Y feddyginiaeth fwyaf cyflym ato ydyw agor y manau a fyddont wedi chwyddo, pan y maent yn gyflawn aeddfed i hyny, gyda phin—gyllell (pen-knife,) neu fflaim (lancet,) gan gymeryd gofal na byddo y mymryn lleiaf o rŵd ar y naill na'r llall, a daw allan o'r archoll swm mawr o sylwedd drewllyd o liw melyn neu wyrdd. Wedi hyny golchwch y briw gyda golch, ond gofalwch am iddo fod yn ffrès, ac yna trinwch y briw gyda lard mochyn.

Dyna ydyw y prif anhwylderau sydd yn blino mochyn y wlad hon, ac ond dal sylw ar yr arwyddion, a dylyn y cynghorion a nodwyd yn flaenorol, gall pob dyn feddyginiaethu ei fochyn heb ymgynghori â meddyg anifeiliaid, yr hyn a arbeda lawer o draul a choll amser.


H. HUMPHREYS, ARGRAFFYDD, CAERNARFON.

Nodiadau

golygu