Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Y Fantais o gadw Moch
← Cynwysiad | Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Yr Hwch Fagu → |
¶
CYFARWYDDIADAU
AT GADW A MAGU MOCH:
Y FANTAIS O GADW MOCH.
PRIODOL iawn yr ystyrir y mochyn, o ran ei bwysigrwydd fel moddion cynaliaeth ac elw i'r dosparth isaf o bobl, yn nesaf at y fuwch; ac yn wir, mewn llawer o bethau y mae yn fwy cyrhaeddadwy, yn haws ei borthi, ac hyd yn nod yn fwy defnyddiol na'r anifail gwerthfawr a phwysig hwnw.
Diau nad oes un anifail ag sydd yn cael ei gadw yn fwy cyffredinol, nac yn cael ei werthfawrogi yn fwy trwy yr holl fyd, nag ydyw y mochyn.
Y mae yr anifail gwerthfawr hwn yn cael ei gadw gan filoedd a bobl ag ydynt yn rhy dylawd i gadw un anifail arall, ac ymddengys fel pe byddai y creadur yma yn gallu ymgyfaddasu at anghenion ac amgylchiadau pawb. Nid yw yn ymddangos fod neb yn rhy dylawd i gadw un, ac nid oes ond ychydig iawn o bobl yn rhy gyfoethog i'w ddiystyru.
Yn mha anifail y ceir cynifer o ragoriaethau amrywiol? Nid oes un anifail arall mor epilgar, yn pesgi mor gyflym, nac yn cyrhaedd ei lawn faintioli mor fuan; nid oes un anifail arall yn enill pwysau cyfartal ar yr un swm ac ansawdd o ymborth. nac yn cario cymaint o gig ar ffrâm mor fechan, nac yn cynyrchu mor lleied o wâst. Nid yw cig yr un anifail arall, ychwaith, mor werthfawr nac mor gyffredinol ddefnyddiol. Y mae porc yn rhagorol a maethlawn yn ei gyflwr ffresh, y mae yr un mor dda wedi ei biclo, ac y mae y goreu o bob cig at ei halltu. Nid oes un anifail mor galed neu mor hawdd ei gadw, neu a ddaw yn ei flaen ar y fath amrywiaeth o ymborth; a bydd i'r cwt gwaelaf wneyd y tro iddo. Gellir galw y mochyn yn etifeddiaeth y dyn tylawd; yn Nghymru, efe ydyw bank y gweithiwr a'r llafurwr; ac yn yr Iwerddon, adnabyddir ef fel "y gŵr boneddig sydd yn talu yr ardreth."
Nid wyf yn meddwl fod braidd neb a wâd nad ydyw y mochyn, a'i drin yn briodol, yn alluog i gynyrchu enill mawr, gan fod pawb sydd yn eu cadw yn cydnabod eu bod "yn talu;" pa un bynag a fyddo ai y gweithiwr gyda'i un mochyn, neu y person gyda'i ddau neu dri, y ffermwr gyda'i ddeg neu ddeuddeg, neu y porthmon gyda'i ddau neu dri chant o honynt. Pa fodd bynag, y mae yr enill a ddeillia oddiwrth gadw moch yn dibynu i raddau helaeth ar y driniaeth a ymarferir, neu ar y rhywogaeth neillduol a gedwir, a'r draul a elo i'w porthi. Lle y mae un dyn yn enill £2 ar bob mochyn, y mae y llall yn gwneyd dwbl y swm hwnw, tra y mae un arall yn gwneyd pedwar gwaith y swm a nodwyd.
Y mae llawer o ffyrdd i gadw moch, er gwneyd iddynt dalu; ac y mae yn debyg nad oes ond ychydig o bersonau yn eu cadw gydag un bwriad arall. Bydd i un dyn gadw hwch, a gwerthu ei pherchyll yn wythnos oed; ceidw un arall hwy am bedwar mis, gan eu gwerthu fel perchylliaid; un arall a'u ceidw nes y byddont wedi tyfu i gyflawn faintioli, gan eu gwerthu fel moch teneuon; a'r pedwerydd a'u pesga at wneyd bacwn, neu at fridio. Ond yn gymaint a bod cynifer o wahanol ffyrdd at beri enill, rhaid fod rhyw ffordd yn fwy enillgar na'r llall; a'n dyben ni yn bresenol ydyw dangos yr un fwyaf enillgar, yn ol profiad y rhai goreu am fagu moch, yn enwedig gyda golwg ar weithwyr a llafurwyr.
Yn ystod y blynyddoedd diweddaf, y mae pris blawd haidd—ac yn wir pob math o rawn—wedi bod weithiau mor uchel fel ag i dynu i lawr yr enill ar besgi moch at facwn hyd ddim braidd; a gellir dywedyd agos yr un peth am berchyll hefyd; nid oes ond ychydig neu ddim proffit i'r llafurwr neu y gweithiwr tylawd yn y wlad, wrth amcanu at besgi y rhywogaeth gyffredin o foch ar flawd a fyddont wedi ei brynu, os bydd y pris yn uchel.
Rhaid y bydd gan ffermwyr, y rhai a feddant eu blawd a'u cynyrchion llysieuol eu hunain, pytatws, maip, rwdins, a gwreiddiau ereill, yn nghyda digonedd o laeth ysgum a golchion y llaethdy, fantais fawr ar bawb a brynant fwyd i'w moch; ac os gall rhywrai besgi moch er mantais iddynt eu hunain, rhaid mai y ffermwr, y melinydd, neu y darllawydd ydyw hwnw. Y mae y mochyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer y llaethdy, yn gymaint felly ag ydyw y llaethdy ar gyfer y mochyn. Y mae yr anifail yma yn difa holl laeth ysgum ac enwyn y llaethdy, ac fel ad—daliad am hyny y mae yn dychwelyd mewn cig un geiniog am bob chwart o'r hyn a yfa. Y mae hyn, pa fodd bynag, yn eithaf da gyda golwg ar y rhai a gadwant eu gwartheg eu hunain, &c., ond nid yn gymhwys at y miloedd o bobl dylodion, gweithwyr, a llafurwyr, y rhai a gadwant foch er mwyn gwneyd ychydig enill oddiwrthynt. Gan hyny, ni a nodwn allan gynllun trwy ba un y gellir cadw mochyn gan weithwyr a phobl dylodion, nad ydynt yn meddu yr un o'r manteision a nodwyd uchod, ond y rhai, er hyny, a allant wneyd llawer mwy o enill wrth fagu moch bach na thrwy besgi moch tewion. Felly ni a soniwn yn bresnol am YR HWCH FAGU