Cyflafan Ofnadwy Dolgellau

Cyflafan Ofnadwy Dolgellau

gan Hugh Roberts (Pererin Môn)

Cyflafan Ofnadwy Dolgellau!

Can am Lofruddiaeth

DDYCHRYNLLYD

SARAH HUGHES,

Yn gosod allan y modd y darganfydlwyd ei chorph.

yn nghyd & daliad y Llofrudd,


CADWALADR JONES,

Yr hwn a gyfaddefodd mai efo yn unig a gyflawnodd

y weithred ysgeler!

=======================

GYMRY anwyl! clywch yr hanes
Roddai brudd-der i bob dyn;
Drwg yr ydym oll wrth natur,
Ond mae'r adyn hwn yn un
O'r rhai gwaethaf a groniclwyd
'Rioed yn hanes Cymru fâd ;
O! Meirionydd, rhwng dy fryniau,
Fe ddaeth gwarthrudd ar y wlad.


Sarah Hughes, gerllaw Dolgellau,
Ydoedd lodes lawen, lon,
Ond y llofrudd hyll ellyllaidd—
Erchyll oedd cigeiddio hon;
Ar bedwaredd o Fehefin,
Mil wyth gant saith deg a saith,
Y mae llawer calon ddrylliog,
Hefyd llawer llygad llaith.

Cadwaladr Jones oedd enw'r llofrudd,
Cyfaddefodd hwn yn hy',
Swyddogion gwladol aethant yno,
I wneyd ymchwil ar ei dŷ,
Fe ganfyddwyd yno feddrod
Mewn llain gul, gerllaw i'r lle,
Y fan ysbeiliwyd hi o'i bywyd—
Hyrddio i wyddfod Brenin Ne'.

Ac fe'i cyrchwyd ef i'r carchar,
A'i gloi dan gloion dewrion dûr,
Am gyflawni gwaith mor 'sgeler,
Hefyd tori cyfraith tir;
Ond mae diwrnod eto'n dyfod—
Diwrnod sobr, diwrnod trist,
Pan bydd llofrudd yn ymddangos
O flaen brawdle Iesu Grist.

A'i thori yn un-ar-ddeg o ddarnau
Wnaeth yr adyn creulon, cri,
A'u taflu oll i afon Aran,
Er mynd ymaith gyda'r lli';
Glynu oll a wnaethant yno,
Rhwng cruchiadau dyfroedd blin,
Darganfyddwyd yr holl ddarnau
Ond y badell pen ei glin.

O dref Diram o swydd Norfolk,
Daeth Greenaere creulon, cudd;
Hefyd Baker, Henry Wainwright,
Cofir rhai'n dros lawer dydd;
Mary Anne Cotton, o West Aukland,
Wnaeth weithredoedd sobr, syn,
Hefyd Fish o Blackburn, eilliwr,
Cofir y llofruddion hyn.

Yn y llain yr oedd y llofrudd,
Gerllaw i'r bedd lle buo hi
Am bum' wythnos, nol meddyliau
Dysg fedydgon sydd mewn bri;
A'r swyddogion ganfyddasant
Gi yn cario darn o'i chnawd—
Perodd ddychryn i'r edrychwyr—
A'i gwallt yno, hefyd gawd.

Ar yr olaf o fis Hydref,
O flaen rheithwyr têg ei wlad,
'N mrawdlys gauaf tref Caerlleon,
' Ca'dd ci dreial heb nacâd ;
Yno cafwyd ef yn euog
O gyflawni'r ysgeler waith,
A dedfrydwyd ef i farw,
Ar y crogbren—trwm yw'r ffaith.

HUGH ROBERTS (Pererin Môn).

=========================

ATEBIAD Y CARCHAROR I LYTHYR EI DAD

O GARCHAR DOLGELLAU.

Derbyniais lythyrau, rhai gwych a rhai gwan,
Ond dyma'r anwylaf gyrhaeddodd i'm rhan;
Un llawn o gynghorion, rhai mwynion a mad,
I mi sydd bechadur, yw llythyr fy nhad.

Mae nghalon yn dawnsio, yn crio bob yn ail
A'm gwallt ar fy nghoryn yn ysgwyd fel dail;
'Rwy'n credu bod Iesu yn rhoi caniatâd
I dderbyn pechadur, 'nol llythyr fy nhad.

I'r ysgol Sabbathol, cymhellwyd fi fyn'd,
Yn berffaith o galon gan ffyddlon hen ffrind;
A phan gaiff o glywed, caiff wir esmwythad
'Rwy'n credu'r ysgrythyr sy'n llythyr fy nhad.

Na roddwch, ieuenctyd, eich bywyd i'r byd
Rhowch aml ochenaid—mae enaid yn ddrud;
Ein Harglwydd groeshoeliwyd er mwyn ein rhyddhad,
Yw llais yr ysgrythyr sy'n llythyr fy nhad.

'Wel, myned i'r carchar yn gynar a ge's,
Feallai gwna'r carchar i'm lawer o les;
'Dwy'n hidio mo'r carchar, 'rwy'n edrych i'r wlad,
Sy'n nglŷn â'r ysgrythyr sy'n llythyr fy nhad.

Yn fwy na bu'r gwylwyr yn disgwyl erioed,
Am weled y bore', 'rwy'n disgwyl o'r "Coed,"
Am lythyr caredig, a llawn o fwynhad,
'Tyneru fy natur mae llythyr fy nhad.

O dewch at yr Iesu, na feiddiwch ymdroi,
Mae yna le dyddan i'r truan gael troi,
A dyfroedd y bywyd yn rhedeg yn rhad,
Gan Gyfaill pechadur, trwy llythyr fy nhad.

Mae Brenhin brenhinoedd yn anfon ei gais,
O deued 'r hil ddynol i wrando ar ei lais
Mae am i ni 'mostwng, heb wneuthur nacàd
I'w weled yn eglur yn llythyr fy nhad.

Pechodau fel 'sgarlad, fel eira wna'n lân,
A phechod fel porphor gan wyned a'r gwlân;
'Rwy'n wylo wrth feddwl mai caru lleshad
Rhwng Duw a phechadur, mae llythyr fy nhad.
CADWALADR JONES.