- Oes gafr eto?
- Oes heb ei godro?
- Ar y creigiau geirwon
- Mae’r hen afr yn crwydro.
- Gafr wen, wen, wen.
- Ie fin wen, finwen, finwen.
- Foel gynffon wen, foel gynffon wen,
- Ystlys wen a chynffon.
- Wen, wen, wen.
- Gafr ddu, ddu, ddu.
- Ie finddu, finddu, finddu.
- Foel gynffon ddu, foel gynffon ddu,
- Ystlys ddu a chynffon.
- Ddu, ddu, ddu.
- Gafr goch, goch, goch.
- Ie fin goch, fin goch, fin goch.
- Foel gynffon goch, foel gynffon goch,
- Ystlys goch a chynffon.
- Goch, goch, goch.
- Gafr las, las, las.
- Ie fin las, fin las, fin las.
- Foel gynffonlas, foel gynffonlas,
- Ystlys las a chynffon.
- Las, las, las.