Cyfrinach y Dwyrain/Amryw—cenedl, gwledydd, dinasoedd, a phlasdy

Ysgrifau ar Groen Cyfrinach y Dwyrain

gan David Cunllo Davies

VII. CENEDL, GWLEDYDD, DINASOEDD, A PHLASDY.

CYN sychu'r ysgrifell carwn godi cwr y llen ar dri neu bedwar o gyfeiriadau ereill.

Tua'r flwyddyn 1879 gwelwyd fod cenedl yr Hethiaid yn bwysicach o lawer nag yr ystyrrid hi gan haneswyr ac esbonwyr yn gyffredin; ac i Dr. A. H. Sayce y perthyn yr anrhydedd i raddau mwy na neb arall o'i dwyn i sylw Prif ddinasoedd meibion Heth oedd Cades ar yr afon Orontes a Carchemish ar lan yr Euphrates. Ceir cyfeiriadau aml atynt yn yr Hen Destament. Ganddynt hwy y cafodd Abraham le bedd ym Machpelah, a dywedir yn Genesis xxiii, eu bod yn trigo yn Hebron; ac ymddengys yn awr, ar ol i lawer o olion eu hanes mewn arysgrifau yng ngwahanol rannau'r wlad ddyfod i'r amlwg, nad oedd y bobl a werthodd y maes a'r ogof a phob pren ar a oedd yn y maes yn amgen na threfedigaeth. Yr oedd y genedl yn un gref a lliosog; a changen fechan o bren mawr oedd perchenogion Machpelah.

Ymgyfamododd Rameses II. (1300 cyn Crist) a'r Hethiaid, a gosodwyd y cytundeb dan gadwraeth duwiau'r Aifft a Heth; ac yn ol y telerau yr oedd Canan i fod yn eiddo'r Aifft a Syria yn eiddo iddynt hwy. Yn ol llechau Tell Eb Amarna yr oeddynt yn bygwth taleithiau gogledd-orllewin Syria. Yr oeddynt yn ddigon cryf i rwystro Tiglath Pileser I., brenin Assyria, i groesi'r Euphrates, ond yn 717 cyn Crist gorchfygwyd hwynt gan Sargon, a gosodwyd tywysog Syriaidd i lywodraethu o Carchemish.

Y mae Dr. A. H. Sayce yn awdurdod ar eu hanes, ac y mae gan haneswyr Beiblaidd syniad eglurach am ystyr y cyfeiriadau atynt yn llyfrau'r Barnwyr a'r Brenhinoedd a mannau ereill drwy ei lafur ef. Gwlad hynod yw Arabia. Y mae perthynas agos rhwng yr Iddew a'r Arab; oherwydd cawn fod deuddeng mab Ismael yn eu cestyll " yn preswylio o Hafilah hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ai di i Assyria." Yr anialwch tywodlyd sydd yng ngogledd Arabia oedd Hafilah; a bernir fod tair o haenau i'w gweled ym mhoblogaeth y wlad, ac mai trigolion cyntaf Arabia oedd teulu Cus fab Cham (Gen. x. 7). Yr ail oedd tylwyth Sem (Gen. x. 21-29); ac y mae teulu Ismael a phlant Ceturah yn dod yno'n olaf.

Yn Arabia y mae Ophir, y lle y dygodd y Phoeniciaid aur o hono i lanw coffrau Solomon. Oddiyno y daeth brenhines. Seba i brofi'r brenin â chwestiynau caled; yr oedd hi yn perthyn o bell iddo. Yr oeddynt eu dau yn blant i Abraham. Dyma lle y trigai Elihu, yr hwn yr enynnodd ei ddigofaint yn erbyn Job (xxxii.); ac oddiyno y daeth y Sabeaid a'r Caldeaid a ruthrasant ar lanciau a chamelod y patriarch o Us; ac yno yr oedd Midianile bu Moses yn gweled y berth yn llosgi ac yn clywed geiriau Duw yn ei alw.

Gwlad ddyddorol yw hon i'r cloddiwr, ac y mae llawer o deithwyr wedi ei thramwyo, ac fel y rhai mwyaf adnabyddus gallem enwi Doughty, Burton, Huber, Langer,, Glaser, Halevy, a Blunt. Y mae'r rhai hyn wedi darganfod llawer of gerfysgrifau sydd o ddyddordeb; ac yn Assyria ceir llawer o gyfeiriadau at ymgyrchoedd yn erbyn Arabia, ac y mae'r ysgrifau a gafwyd yn Arabia yn rhoddi enwau llawer o frenhinoedd, ac yn dangos. bywyd y bobl yn y gwahanol gyfnodau.

Tybir yn gyffredin mai lwythau crwydrol fel y patriarchiaid oeddynt, yn byw mewn pebyll, ac yn newid eu meusydd. pan ddarfyddai'r borfa; ond yr oedd y Sabeaid a'r Minaeaid yn adeiladu amddiffynfeydd a themlau urddasol. Ceir llawer hefyd o hanes crefydd y wlad; eithr nid yw darganfyddiad eto ond yn ei febyd yn y wlad hon sydd heddyw yn gartref i Fahometaniaeth. Cyfeiria Dr. Frederick Jones Bliss ("The Development of Palestine Exploration ") at amryw gofnodion. o ymweliadau â gwlad Canan. Tua 1966 c.c. (yn o debyg) y mae Sinuhit—mab i Amenemhat I., un o frenhinoedd yr Aifft, yn ffoi o flaen yr hwn a gymerodd yr orsedd ar ol ei dad i wlad oedd yn gysegredig i rai a gawsant fyw yn Gosen mewn hanner canrif ar ol hynny. Gadawodd y gwr ar ei ol ramant ar bapurfrwyn rydd ddarlun o fywyd Canan yn oes y patriarchiaid. Yr oedd y wlad yn gyfoethog o ffigys a gwinwydd—o olewydd ac yd—o win a mêl—yr oedd gyrroedd o wartheg a lluoedd o adar mewn digonedd mawr.

Ar furiau teml y duw Amen, oddiar flynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg cyn Crist, ceir cofnodiad o bedwar ymgyrch ar ddeg yn Syria a Phalestina. Rhydd yr hanes restr o drefydd, a thywysogion, a'r ysbail a gymerwyd.

Yn 1070 c.c. danfonodd Krikhor—un o offeiriaid frenhinoedd yr Aifft Uchafwas o'r enw Wen Amen i brynu coed. iddo yng Nghanan. Glaniodd yn ymyl Carmel, a chan iddo gyfarfod â lladron methodd symud at ben ei siwrne yn Gebal am naw diwrnod. Ymosododd ar lwyth of bobl a ddrwgdybiai o fod mewn cyfamod â'r lladron, a chymerodd long a berthynai iddynt. Bu y gwas yn y wlad am tua hanner blwyddyn, ac y mae yn y llythyr lawer o bethau rydd oleu ar Ganan cyn dyddiau Samuel.

Yn ddiweddar darganfuwyd plasdy brenhinoedd Israel yn adfeilion dinas Samaria, gan gwmní a gloddiant dan nawdd Prifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau; ac y mae'r lle yn bwysig, am mai yn y plas hwn y bu Ahab a Jezebel yn trigiannu, ac am fod Amos ac ereill yn cyfeirio ato.

Gwyddom i deyrnas Solomon, wedi marw o homo ef, ymrannu yn ddwy—yn Judah, y deyrnas a gynhwysai Benjamin a Judah, ac yn Israel a gynhwysai y deg llwyth. Jerusalem oedd prifddinas Judah, ac o ddyddiau Omri ymlaen yr oedd Samaria, dinas newydd ar y ffordd o Sichem i Esdraelon, yn brif ddinas teyrnas y gogledd, sef Israel neu Ephraim (1 Bren. xvi, 24) tua 925 cyn Crist; a bu felly hyd ei dinistr gan yr Assyriaid yn 722 cyn Crist. Gelwir Samaria gan Eseciel yn chwaer hynaf Jerusalem (xvi. 46); ac er na phechodd fel hanner pechod" Jerusalem, y mae'n amlwg fod ei drwg yn fawr, a bod dyddiau ei goddiweddiad gan ei phechod yn yr ymyl. Nid oes gan Esaiah (xxviii.) well enw arni na "choron balchder meddwon Ephraim." "Bydd ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodenyn diflanedig: megis ffigysen gynnar cyn' yr haf." Wedi dyfod o Jezebel i fyw yma daeth y ddinas yn lle crefyddol pwysig; adeiladwyd temi i Baal. Lladdodd y frenhines hon broffwydi'r Arglwydd; ac yn bwyta ar ei bwrdd yr oedd pedwar cant a deg a deugain o broffwydi Baal, ynghyd a phedwar cant o broffwydi'r llwyni (1 Bren. xviii.), a pharhaodd dylanwad y duwiau dieithr hyd ddyddiau Jehu, yr hwn a ddinistriodd y deml. Yr oedd Eliseus yn byw yma, ac y mae yn bur debyg mai yma y proffwydodd Hosea. Mor bwysig yr ystyrrid dinas Samaria fel y cawn hi yn chwareu rhan ym mhob cyflafan a gyfarfu gwlad Canan. Cawn Salmaneser, Sargon, Alexander Fawr, Hyrcanus, Herod Fawr, a'r Croesgadwyr yma yn nyddiau bri pob un o'r rhai hyn.

Ymddengys mai ty y brenin oedd yr adeilad mwyaf gorwych yn y ddinas. Y mae Amos, y bugail a chasglydd ffigys gwylltion, yn cyfeirio ato. Wedi galw Asdod o'r Aifft i fod yn dystion o'r dinistr y mae'r Arglwydd ar gyflawni ar Samaria. cyfeiria at yr hyn sydd yn aros y lle,—"Tarawaf y gaeafdy a'r hafdy; a derfydd am y tai ifori, a hefyd diben ar y teiau mawrion" (iii. 15). Brad-fwriadodd Pecah mab Remaliah yn erbyn Pecahiah y brenin nad oedd (fel ereill) wedi troi oddiwrth bechodau Jereboam mab Nebat, ac yng nghastell y brenhindy y tarawyd ac y lladdwyd y teyrn. Yma yn ddiau. y lladdwyd y deg a thrugain o feibion Ahab, ac yma y bu Herod Fawr yn byw am ddeugain mlynedd. Y mae'r lle yn garnedd ers blynyddoedd, a chuddir y rhan fwyaf o'r bryn gan olewydd—lannau; ac wrth gloddio cafwyd seiliau plasdy o dan bedwar ugain troedfedd o adfeilion a daear, ac y mae y murddyn yn cuddio dwy acer o dir. Ymhlith y pethau a ddarganfuwyd y mae pymtheg a thrugain o ddarnau o lestri pridd yn dwyn ysgrif, ac y mae'n amlwg mai costrelau gwin ac ystenau olew oeddynt. Dywedir o ba winllan ac o ba olewydd—lan y daeth cynnwys y llestr; a chredir mai at winllan Naboth (1 Bren, xxi.) y mae'r cyfeiriad pan sonnir am "Winllan y Tell"—neu winllan y tir uchel.

Bu Dr. Sellins a'i gwmni, dros Athrofa Vienna a llywodraeth Awstria, yn archwilio Taanach—un o ddinasoedd brenhinol y Cananeaid, yn rhandir Isachar. Tarawyd ei brenin gan Josua (xii. 21); ac yn ei hymyl yr ymladdodd Barac a brenhinoedd gwlad yr addewid, a dethlir y fuddugoliaeth yng nghân Deborah.

Darganfuwyd nifer o lythyrau ar glai mewn llythrennau cŷn-ffurf. Perthynant i'r blynyddoedd rhwng 2000 a 1300 c.c. Yn un o honynt gorchmynnir i lywodraethwyr Taanach dalu teyrnged i Megido.

Daeth pethau rhyfedd i'r golwg drwy gloddio yn Bethsemes. Yr oedd yno uchelfa a cholofnau, a chladdfa i'r meirw dani.

Bu y Gymdeithas Ddwyreiniol Ellmynig yn brysur ar adfail Jerico; a chawsant olion muriau amryw o hen ddinasoedd; a bernir fod un, neu ychwaneg o honynt, yn henach na goruchafiaeth yr Hebreaid o dan Josua.

Gwarglawdd o dros fil o droedfeddi mewn hyd, a thua phum cant o droedfeddi o led, yw murddyn Jerico—dinas y palmwydd (Deut. xxxiv. 3). Y mae'r muriau mewn cyflwr pur dda. Y maent yn drwchus ac yn uchel, ac, fel yr awgrymwyd, nis gellir gwybod ai y mur a syrthiodd pan ddaeth y seithfed tro i ben, ydyw. A syrthiodd pob darn o furiau Jerico? "A'r mur â syrthiodd i lawr odditanodd," a ddywedir yn yr hanes. "Yn gydwastad," medd y Cyfieithiad Diwygiedig; ac yn ei le," medd yr Hebraeg. Digon i lanw ystyr y geiriau sy'n desgrifio'r amgylchiad ydyw'r hyn a gredir yn dra chyffredin, sef, mai rhan o fur y ddinas—digon i ollwng pob un i fyned i fyny ar ei gyfer, a syrthiodd; ac onid ar waith yr hwn a wna Jerico yn ddinas warchaedig trwy adeiladu ei mur y mae melldith Josua yn gyfeiriedig (Jos. vi. 26; 1 Bren. xvi. 34).

Yr oedd y ddinas yn gyfaneddol yn nyddiau Dafydd, oherwydd gorchmyn nodd y brenin i'r gweision a dderbyniasant anfri ar law Hanun—y gwr gamddeallodd garedigrwydd, i aros yno nes tyfu o'u barfau.

Nid ydym yn y nodiadau hyn ond megis wedi teithio ar antur. Y mae ugeiniau o leoedd sydd wedi eu hadgyfodi o ddistawrwydd y gorffennol pell sydd yn ychwanegu yn ddirfawr at ein gwybodaeth a'n dyddordeb, ac yn cadarnhau dilysrwydd yr Ysgrythyrau. Hyderwn y bydd cipdrem fel hon yn ddigon i ddatguddio'r posibilrwydd rhyfeddol sydd o flaen y darganfyddiadau a wneir yn y dyfodol yn y gwledydd y bu'r Arglwydd yn gwneuthur enw iddo'i hun yn hanes tylwythau'r ddaear.




CAERNARFON:

CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.).

SWYDDFA CYMRU."

Nodiadau

golygu