Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/David Williams
← John Humphrey Davies | Cymeriadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Alafon → |
DAVID WILLIAMS
"CANYS rhoed i ddynion farw." Fe ddaw plant dynion i wybod hynny'n gynnar ar eu hoes, i'w ddeall cyn bo hir, ac i ddygymod ag ef i ryw fesur, efallai, cyn y diwedd.
Eto, y mae rhai dynion y byddwn rywfodd yn methu â meddwl amdanynt nac yn heneiddio nac yn marw. Un o'r rhai hynny oedd Dafydd Wiliam, fel y carem ei alw, un o feibion breiniol cadernid, mwynder a goleuni. Ac eto, pan glybuom ei farw, oni theimlem nad angau ei hun sy'n greulon? Onid ef a roddes derfyn tawel ar ddioddef oedd yn ymddangos i ni ers misoedd naill ai'n greulondeb hagr ai ynteu'n chwarae hagrach fyth Yr wyf y funud hon fel pe gwelwn ei wên a phe clywn ei lais yntau, yn chwerthin cerydd arnaf am "ddywedyd pethau". . . A! fe fyddai'n fwy na da wybod ei fod ef, o hyd, ac nad darn ar glawr yr wyddbwyll mono mwy!
Hyd yn oed cyn dyfod i mi'r fraint o gyfarfod ag ef, buaswn gydnabyddus â nifer o gymdeithion ei ieuenctid, a llawer a glywswn amdano, am ei angerdd mawr a'i ddiniweidrwydd llwyr. Ond daeth ef a minnau'n gymdogion yn Aberystwyth, ac yn gyfeillion. Llawer tro yr aeth oriau dros ein pennau megis heb yn wybod i ni, a minnau'n gwrando ar ei wybodaeth a'i brofiad a'i ddoethineb, ei ddysg helaeth a manwl, ei reddf at ddeall pethau anodd, ei ddawn at ddewis gair, ac yn bennaf dim, praffter ardderchog ei feddwl. Beth nas rhoddwn am gael unwaith eto weled y meddwl hwnnw'n gweithio? Ei weled, meddaf.
Dyma hi'n hwyr o haf—Mehefin cynnar. Wrthi'n cyfieithu pennod o'r Epistol at y Galatiaid y bu ef a minnau. Y mae hi weithian yn trymhau, a Phen Dinas draw o'n blaenau fel pe bai eisoes yn cysgu yn y goleuni ambr. Y mae'r ffenestr yn agored. Sŵn gwenyn—pa sŵn mor garedig?—yn y coed oddi allan. Aroglau blodau weithiau'n tonni i mewn gydag awel fach sy fel pe bai wedi colli ei ffordd yn yr awyr drom. Perffaith dawelwch. Cwbl brydferthwch. Sut y gallai fod unpeth drwg mewn bod: Nac unpeth brwnt? Syniem, mewn distawrwydd, ac yr oedd ef yn anadlu'n hir ac yn araf. Rhywbeth y buasem eisoes yn sôn amdano eto yn aros y tu cefn i'n meddyliau, rhywbeth a llawer enw arno, rhywbeth du, aruthr, nad oedd amgyffred arno er hynny. Ac eto—Natur!
Clywn fy llais fy hun, fel pe buaswn yn gwrando ar lais rhywun arall, yn gofyn cwestiwn, hen, hen gwestiwn. Gwelwn ei ben yntau'n codi'n sydyn, ei lygaid yn fflachio, ei wefusau'n lled agor, ac yn crynhoi megis i lefaru, yn pwdu, bron, ac yna'n cau drachefn heb lefaru gair; ei dalcen gwych yn crychu, yntau'n cuchio hyd yn oed, a difrifwch mawr yn dyfod i'w olwg. Dacw fo'n plygu a'i benelin ar y bwrdd a'i ên ar ei law, ac yn edrych draw, fel pe bai'n gweled trwy fater a phellter—neu fel pe na bai'n eu gweled o gwbl. Bydd felly am ysbaid, yn gwbl lonydd a distaw, aruthr grynhoi ar bob egni meddwl. Yna daw goleuni i'w lygaid, cryn cornelau ei wefusau, a thyrr gwên dros ei wyneb cadarn ardderchog, yna ymlaen ag ef i draethu ei feddwl . . . Ac nis clywir mwy
Llawer a glywswn, fel y dywedais, am ei angerdd gynt. Clywais amdano unwaith, wrth ddarlithio i ddosbarth, hyd yn oed yn gymharol ddiweddar, yn sefyll wrth gefn cadair, ac wrth lefaru yn gafael ynddi a'i throi a'i throsi yn ei angerdd nes dyfod o'r cefn yn rhydd yn ei ddwy law, yntau gan chwerthin yn ei bwrw ymaith a mynd rhagddo fel pe na ddigwyddasai ddim. Er na welais i erioed dystiolaeth mor weithredol o'i angerdd, mynych y gwelais ef mewn eiliad yn meistroli ton o angerdd—dyna un o'r pethau mwyaf rhyfeddol ynddo.
Clywais ef lawer tro'n pregethu, a phobl yn dywedyd ei fod mewn hwyl, pryd y gwyddwn innau ei fod yn ymatal bob cam o'r ffordd, ac mai yn yr ymatal hwnnw yr oedd godidowgrwydd. ei rym a'i ddylanwad—y maint oedd y tu cefn i'r cwbl! Tra bwyf a thra cofiwyf Ddafydd Wiliam, mi fyddaf, er truaned fwyf a maint y methwyf a bod fel y mynnwn, eto'n gwybod maint y godidowgrwydd a all fod mewn rhai dynion, ac fel yr enillant y feistrolaeth honno arnynt hwy eu hunain, a thrwy hynny ar bopeth arall, sy'n eu gosod o'r neilltu fel arglwyddi ar eu tynged eu hunain, fel capteiniaid eu heneidiau eu hunain.
- 1927.