Cymeriadau (T. Gwynn Jones)/John Morris-Jones
← Alafon | Cymeriadau (T. Gwynn Jones) gan Thomas Gwynn Jones |
Richard Ellis → |
JOHN MORRIS-JONES
Y TRO cyntaf y gwelais ef oedd yn Eisteddfod Landudno, 1896.
Yn un o gyfarfodydd y bore, eisteddwn wrth fwrdd y wasg, yn disgwyl i'r cystadleuaethau ddechrau. Nid oedd y beirdd eto wedi cyrraedd o'u "Gorsedd," ac yr oedd rhai mân bethau eisoes ar droed. Yn fy ymyl eisteddai gŵr ieuanc dieithr i mi; gwallt du iawn, syth ac yn hytrach yn llaes a thrwchus, weithiau'n tueddu i ddisgyn dros ei dalcen ar un tu a chuddio ei lygad, ac yntau'n ei droi ymaith yn rhyw chwyrn â'i law; un llygad fel pe buasai'n gibddall, y llall yn anghyffredin o fyw a gloyw; gwawr felen braidd ar ei groen; gwên yn chwarae ar ei wefusau, gan ddangos dannedd cryfion braf. Sylwais ar y pethau hyn wrth iddo ef siarad ag un o swyddogion y llwyfan a ddaethai heibio.
Yn y man, dyma orymdaith y beirdd i mewn. Wrth basio'r lle yr oeddym ni yn eistedd, troes yr "Archdderwydd" (Hwfa Môn), edrychodd yn dra digllon ar y gŵr ieuanc, estynnodd ei law a rhol o bapur ynddi tuag ato, gan fwmian rhyw beth yn dra chynhyrfus, fel yr ymddangosai i mi.
Pwy bynnag a gerddai nesaf i'r "Archdderwydd," cydiodd hwnnw yn ei fraich ac aeth y beirdd i fyny i'r llwyfan. Chwarddodd y gŵr ieuanc. Bûm yn siarad ychydig eiriau ag ef am y digwyddiad, oedd wedi ei ddifyrru ef yn fawr. Ni ryfygais ofyn iddo pwy ydoedd ac ni ddywedodd yntau ddim amdano'i hun, ond yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl fy hun mai John Morris-Jones ydoedd, a gwybûm cyn nos mai ê. Yr oedd ef eisoes wedi cyhoeddi ei ysgrifau ar "Orsedd y Beirdd" yn y Cymru, cylchgrawn O. M. Edwards, fel yr adwaenid ef y pryd hwnnw, ac yr oedd llawer o sôn amdanynt yn Llandudno yr wythnos honno. Hynny, ond odid, a gynhyrfodd dipyn ar yr "Archdderwydd"—dywedodd rhywun wrthyf mai yn yr " Orsedd" y bore hwnnw, onid wyf yn camgofio, y traethodd ef y llinellau clasurol hynny am y beirdd a'u beirniad newydd:
"Mwynhau eu hedd y maen' hw'
A Siôn Morys yn marw!"
Cefais yr argraff ar fy meddwl y tro hwnnw fod John Morris-Jones wedi cadw hyd hynny lawer o ryw ddireidi bachgennaidd. Credaf iddo ei gadw hyd y diwedd bron. Parodd ffawd
wedi hynny ei ddyfod ef a minnau yn gydnabyddus â'n gilydd, yn bersonol a swyddogol. Tua'r flwyddyn 1902, bûm mor hy â chyhoeddi llyfryn o ryw gerddi bachgennaidd. Adolygwyd hwnnw yn un o'r papurau Saesneg (gan yr Athro William Lewis Jones, o Goleg Bangor, fel y dywedodd ef ei hun wrthyf ymhen blynyddoedd rai). Yr oedd yr adolygiad yn eithaf teg, ond bod ynddo ryw anfanyldeb neu ddau anlwcus. Cymerth eraill ran mewn gohebiaeth a ddilynodd, ac yn eu plith yr Athro John Morris-Jones. Yr oedd yr adolygydd wedi condemnio arfer y ffurf "rhian" yn lle "rhiain," a dywedwyd mai un o erchyllterau Puw oedd "rhian" a "rhianod." Am yr unig dro yn f'oes, cymerais innau ran mewn dadl yn codi o feirniadaeth arnaf fy hun—ildio i'r demtasiwn o ddangos bod y ddwy ffurf i'w cael gan Huw Morys ymhell cyn geni Puw, er nad oedd dim dadl nad oedd y beirniaid yn iawn am y ffurfiau cywir. Erbyn hyn, y mae'n anodd gennyf gredu mor ddifrif oeddym oll yn y cyfnod hwnnw, ac ni chrybwyllwn am y peth oni bai ei fod yn ddarn diddorol—i mi, o leiaf—o berthynas Syr John a minnau.
Yr un flwyddyn, yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor, ac am y tro cyntaf, peidiodd testunau'r gadair a'r goron â bod yn rhai haniaethol. Yr oeddwn innau wedi llyfasu danfon awdl i mewn i gystadleuaeth y gadair eisoes. Oblegid y ffrwgwd fach yn y papur Saesneg, tybio yr oeddwn na byddai nemor siawns i'r awdl, canys yr oedd John Morris-Jones yn un o'r beirniaid, ac ofni'r oeddwn innau y gallai fod tipyn o bosibilrwydd iddo daro ar ffurfiau anghywir ynddi hithau hefyd. Felly ni feddyliais fwy am y gogynnig hwnnw.
Yn y dyddiau hynny, nid oedd reol fod pob ymgeisydd i ddanfon ei enw priod dan sêl i'r ysgrifennydd gyda'i gyfansoddiad, ac ni wyddai ond fy ngwraig ac un arall fy mod innau wedi cynnig. Felly, pan ddaeth fy nghyfaill, a'm cydolygydd y pryd hwnnw, Daniel Rees, a'r neges un noswaith i Gaernarfon fod y pwyllgor am i mi fod yn yr eisteddfod ar gyfer y cadeirio drannoeth, nid oedd gennyf ddigon o hyder i gredu'r ystori. Cefais wybod wedyn mai William Lewis Jones a amheuodd pwy oedd awdur y gerdd a fernid yn orau, ac a gadarnhaodd ei dyb drwy gael hyd i ddarn o'm llawysgrifen a'm henw wrtho.
Digwyddai fy mod eisoes wedi addo bod mewn lle arall drannoeth. Yr addewid honno a gedwais, a chefais felly ysgoi peth a fuasai'n dipyn o brawf ar duedd ry barod i weled ochr ddigrif pethau. Y diwrnod wedyn, euthum i Fangor, lle gwelais goroni fy hen gyfaill Silyn Roberts, ac y cyfarfum, ymhlith eraill, â John Morris Jones.
O'r dydd hwnnw hyd y diwedd, buom yn gyfeillion, ac ni chefais i ond y caredigrwydd mwyaf ar ei law. Gwahoddodd fi i Lanfair i dreulio diwrnod gydag ef, a hyfryd fyth yw'r cof am y dydd hwnnw o Fedi. Nid wyf yn meddwl i ni sôn am ffrwgwd y papur newydd, a'r argraff a gefais y diwrnod hwnnw oedd fy mod wedi taro ar Gymro a barchai iaith ei dadau fel y perchid Groeg a Lladin gan ysgolheigion clasurol, ac nad oedd un llafur na thrafferth yn ormod ganddo i osgoi'r peth lleiaf a allai fod yn fefl arni. Cofiwn am fy hen athro Lladin pan oeddwn hogyn, na fynnai lythyren o'i lle, a'r meistr ar ieithoedd diweddar, a ddysgodd i mi fy Nghymraeg, ar dafod a thrwy ysgrifen, un y byddai priod-ddull anghymreig yn peri dolur iddo. Sonied a sonio am " ddegymu mintys ac anis," fel pe bai hynny'n ddigon o esgus dros bob aflerwch a diogi, mi wn ardderchoced oedd y ddisgyblaeth honno. Bwriais noswaith yng nghartref yr Athro droeon wedi hynny. Nid oedd ŵr mwynach nag ef ar ei aelwyd ei hun na diddanach. Os gellid ei gael i ddarllen prydyddiaeth Gymraeg ar osteg—ac nid anodd fyddai hynny—neu i sôn am bwynt o ramadeg neu gystrawen, âi'r amser heibio heb yn wybod i ddyn. Ceid cyfle hefyd i weled gwaith ei law ef ei hun, naill ai'n copïo llawysgrif un arall, ai'n gwneuthur cloc, ai ynteu'n tynnu llun. Yr un gofal ac amynedd a glendid celfyddus, yr un gonestrwydd ag a geid yn ei holl waith. Er i fwy nag un o'r aml wŷr tanbaid sydd yng Nghymru gymryd yn ei ben o dro i dro fy mod i yn ddisgybl personol iddo, y gwirionedd syml yw na chefais i erioed mo'r fraint, y buaswn yn falch dros ben ohoni, o fod yn ddisgybl iddo yn yr ystyr honno. Eto, mewn ystyr arall, ohonom ni sydd yn ymhel â dysg Gymraeg yng Nghymru, pwy nad yw'n ddisgybl iddo? Hebddo ef, y mae'n lled sicr na buasai lawer o lun ar astudio'r Gymraeg yn y colegau Cymreig hyd heddiw. Wrth gwrs, nid anghofir am Syr John Rhys, ei athro yntau yn ei dro, ond y gwir yw ei fynd ef yn gynnar i dalu sylw i bynciau ehangach na dysgu'r Gymraeg yn unig; ac am y lleill o'i ddisgyblion ef, nid oedd iddynt oll mo'r ddawn ymddisgyblu parhaus oedd yn nodwedd mor amlwg yng nghymeriad John Morris-Jones.
Ni olyga hyn, wrth reswm, na wnaeth eraill o'r twr hwnnw o ddynion ieuainc a sefydlodd Gymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen lawer o wasanaeth gwerthfawr iawn, ond nid cam â neb yw dywedyd nad oedd onid un arall yn eu plith a chanddo'r ddawn ymddisgyblu oedd gan John Morris—Jones, sef oedd hwnnw, Puleston Jones. Yn ysgrifeniadau'r ddau hyn, ceir llawer gwahaniaeth, gwir yw, ond ceir un peth cyffredin iddynt, sef parch i iaith a manyldeb disgyblaeth barhaus. Ysgrifennai Owen Edwards yn ddifyr ac yn brydferth iawn, ond nid mor fanwl; y mae ei arddull ef ar y dechrau cystal ag ydoedd ar y diwedd—peth gwych i'w ddywedyd, hefyd—ond ni allodd rywfodd adael ei ôl ar ei ganlynwyr, ac y mae rhai ohonynt erbyn hyn yn ysgrifennu Cymraeg digon erchyll i beri i'r llenor mwyn ac awenus hwnnw droi yn ei fedd.
Diddorol fyddai astudio'r gwahaniaeth rhwng y tri. Rhamantwr oedd Owen Edwards, cyfarwydd Cymreig awenus, megis o'r oesau canol, a geiriau yn llun ac yn lliw ac yn ddilyniad digwyddiadau iddo. Hen uchelwr rhadlon, megis, ydoedd Puleston, a wrandawsai ar gannoedd o gyfarwyddon ac eraill yn adrodd eu straeon, a geiriau'n bersonoliaethau iddo, yn gymeriadau y gwyddai ef drwy reddf a deall sut yr ymglyment â'i gilydd, a pha effaith ar y naill a gai bod yn ymyl y llall. Celfydd oedd John Morris-Jones a welai eiriau'n ymgyfuno wrth reidrwydd rheol a pharhad traddodiad.
Bydd rhai'n dywedyd yn aml mai'r unig beth sy'n iawn mewn iaith yw'r hyn sydd gyffredin, hynny yw, mai'r hyn y sydd yw'r hyn sy hefyd yn iawn, a digrif yw sylwi yn aml ar ymdrechion ieithyddion—nid yng Nghymru yn unig—i ddangos mewn ymarferiad eu bod yn credu'r peth a ddysgant fel athrawiaeth. Ond dilyn yr athrawiaeth hon i'r pen draw, nid rhaid i lenor namyn ysgrifennu ar ei gyfer yn union fel y bydd "y dyn yn y stryd" yn llefaru, a dyna bopeth yn iawn. Pa beth bynnag yw'r "gwir" ieithyddol—nid llawer haws cael hyd iddo na rhyw wir arall—ni all fod amau nad yw holl ieithoedd llenyddol y byd yn ddadl barhaus yn erbyn yr athrawiaeth hon. Yr oedd John Morris-Jones yn un o'r dynion na dderbyniant mo'r athrawiaeth hon. Iddo ef, yr oedd bod yn iawn yn cynnwys mwy na dim ond bod.
Bydd rhai o'i feirniaid yn y wlad hon yn dywedyd nad geirofydd mono—ar y Cyfandir, anghytuno â rhai o'i syniadau y byddis. Rhaid cydnabod, wrth gwrs, mai rhai heb fod yn eir ofyddion eu hunain fydd barotaf i'w dderbyn yntau i'r un dosbarth, ond y mae cymaint â hyn o wir yn eu hawgrymiad—nid geirofydd yn unig ydoedd ef, ond ieithofydd hefyd. Hyd yn oed er anghytuno â rhai o'i gasgliadau, rhaid cydnabod iddo ddangos medr anghyffredin wrth drin datblygiad seiniau, ond dechreuai ei waith ef cyn iawn lle gorffen llafur y seinofyddion. Gramadegwr, astudiwr cystrawen a phriod—ddull, un a aned i astudio'r pethau sy'n gwneuthur celfyddyd iaith yn bosibl, ydoedd ef. Ac yn y maes hwn darganfyddai rywbeth newydd o hyd. Iddo ef, y pethau hynny, pan ddarganfyddid a phan brofid nes ei fodloni ef, oedd yr iawn a'r gwir. Ni rusodd erioed ymwrthod â'r peth y profwyd ei fod yn anghywir, hyd yn oed er iddo ef ei hun fod wedi arfer y ffurfiau hynny gynt. Pan ddeuthum i'w adnabod gyntaf, hyn a'm tarawodd fwyaf o bopeth yr oedd cywirdeb a manylder yn egwyddor iddo, ac ni lefarodd erioed mo'r ganmoliaeth wag a ddifetha lawer bachgen a allai ddysgu sgrifennu'n burion.
Clasurydd hyd fêr ei esgyrn ydoedd ef. Nid dyma'r amser hyd yn oed i ddyn gymryd arno benderfynu mewn hanner dwsin o eiriau sut brydydd ydoedd, na pha mor gywir neu anghywir oedd ei farn a'i safonau beirniadol, faint o "feirniadaeth ar fywyd" oedd yn ei waith, neu ba faint o drwyn oedd ganddo at fath arbennig o nwyd—un peth y gellid disgwyl i ni a'i hadwaenai ef ei wneuthur, gyda rhywfaint o lwydd ac o les, fyddai rhoi i rai nas gwelsant ryw fath o syniad am y dyn. Nid oedd yn siaradwr cyhoeddus llithrig; yn wir, herciog fyddai; ond os dyfynnai ddarn o brydyddiaeth neu o iaith rydd, gwnai hynny â pherffeithrwydd. Y peth hyotlaf a glywais i ganddo erioed oedd darlith ar Williams Pantycelyn, a draddodes yn Aberystwyth rai blynyddoedd yn ôl. Adroddai lawer o waith Williams, wrth gwrs, a hynny gydag effaith anghyffredin. Yr oedd tinc yr hwyl Gymreig ganddo, ond na chaniatâi ef i'w graddfa amrywio ond ychydig i fyny ac i lawr. Ceid ganddo yr un peth yn ei feirniadaethau eisteddfodol, lle y cadwai gynulleidfa gymysg o filoedd o bobl i wrando arno fel y gwrandewir ar feistr. Yn wir, daeth gwrando arno'n traddodi beirniadaeth yn un o'r pethau mwyaf deniadol yn eisteddfodau ei gyfnod,—un o'r profion sicraf hefyd o lwyr effeithioldeb Cymraeg glân a graenus hyd heddiw ym mhob rhan o Gymru.
Er maint ei ofal am arddull lenyddol, llefarai dafodiaith yr ardal lle ganed ef bron yn ddiofal. Enwai rai o'r misoedd o leiaf yn Saesneg; dywedai rifedi tudalen neu flwyddyn, a phethau felly, yn gyson yn Saesneg, a Saesneg fyddai llawer o'i eiriau moes wrth y bwrdd (megis "plis," "tanciw," etc.). Synnwn bob amser at y gwahan iaeth hwn rhwng ei iaith lyfr a'i iaith lafar, ond ni ellais erioed fod yn ddigon hy i alw ei sylw at y peth. Ceid ganddo hefyd, y mae'n wir, lawer o hen eiriau diddorol iawn, a arferai y mae'n ddiau fel rhai a glywsai beunydd yn ei ieuenctid, ond ni chefais le i gredu fod i dafodiaith fel y cyfryw ddiddordeb mawr iddo.
Pan ai'n ymddiddan personol rhwng dau, teimlwn bob amser ei fod ef ar ei orau, er ei fod hefyd mewn cwmni helaeth yn adroddwr ystraeon ardderchog. Anodd yma beidio â chynnwys yr olaf a glywais ganddo, ychydig cyn ei farw. Yr oedd rhywun yn holi'r Ysgol Sul, ac yntau'n un o'r plant. Soniwyd am Lyn Genesareth, a gofynnodd yr holwr:
"A oes sôn am ryw lyn arall yn y Beibl?"
Distawrwydd am ennyd; yna clywid llais y bachgen dylaf oedd yno yn ateb:
"Oes."
"Wel?" meddai'r holwr.
"Llyn Pysgod Angau," meddai'r atebwr.
Credaf nad anghofia neb ohonom oedd yno byth mo groywder y modd y llefarodd Syr John yr ateb hwnnw i ni.
Mewn ymddiddan mwy personol, y peth a'm tarawodd i lawer gwaith oedd fod ynddo ryw fath o wyleidd-dra ac o ddiniweidrwydd anghyffredin. Credaf na byddai byth yn rhyw hapus iawn yng nghwmpeini dieithriaid—byddai rhyw sychter cwta undonog yn ei lais, ac edrychai'n anesmwyth. Yr wyf yn berffaith sicr iddo lawer gwaith dynnu ymosod ffyrnig arno ef ei hun drwy beth a ddywedodd yn gwbl ddiniwed. Odid well chwarddwr nag ef. Eto ni roed iddo'r ddawn i chwerthin ar bapur. Peth arall a'm tarawodd oedd ei barch i lefel gyffredin gonestrwydd dynol, hyd yn oed pan sonnid am rai a gyfrifid yn elynion iddo.
Ni sylwais i erioed fod yn ei wladgarwch ddim byd annaturiol. Er hoffed ganddo bopeth Cymreig, ni chlywech ganddo byth mo frawddegau'r gwladgarwr proffesedig. Yr wyf yn sicr na freuddwydiodd erioed bod yn fraint, megis, i'r Gymraeg gael ei wasanaeth ef na neb arall ohonom, ond dywedodd wrthyf unwaith mai braint i ni oedd cael fel ein galwedigaeth waith a garem. Yr oedd ganddo fwy o ffydd nag y sydd gan rai ohonom gyda golwg ar barhâd yr iaith. Eto, pan sonnid ei bod hi mewn perygl, gallech fod yn sicr mai nid rhyw sentimentalwch wylofus a thwyllodrus a barai iddo ef weithio erddi. Gyda'i farwolaeth ef, daeth cyfnod yn hanes addysg a diwylliant cartref yng Nghymru i ben, er y dichon llawer o'r mân ffigurau a lanwai swyddi uchel yn ystod y cyfnod fyw am flynydd oedd eto. Diau fod gwrth ddadlau yn ei waed, ond fe ŵyr ei gyfeillion fod hanner hynny yn ddyledus i'w awydd am fynegi a chyfiawnhau'r peth a ystyriai ef yn gywirdeb diamau. Ni welais odid ddim mor ddihoced â'i syndod pan amheuid rhai o'i osodiadau. Am bethau eraill a ddywedai yn ei ddadleuon, fel y soniais eisoes, ni allai ef ddim chwerthin mewn print, ac am hynny cymerid o ddifrif lawer peth nad oedd o ran bwriad nemor mwy na digrif. Er na bûm i fyfyriwr dosbarth iddo, braint i minnau ddywedyd gydag eraill, "Disgybl wyf, ef a'm dysgawdd."
- 1929, 1930.