Cymorth:Gosod testun ar Wicidestun

Prif gynnwys Wicidestun yw traws ysgrifau o sganiau o ddogfennau sydd ddim mewn hawlfraint.

Creu sganiau

golygu

I drawsgrifio testun o lyfrau, papurau, taflenni ac ati mae'n rhaid iddynt fod ar fformat PDF neu DjVu

Mae modd creu sganiau PDF o lyfrau trwy eu sganio ar beiriant argraffu sy'n cynnwys peiriant sganio, ap ffôn symudol, neu sganiwr dogfennau pwrpasol a'u cadw ar ffurf PDF. (I greu ffeil DjVu, gan amlaf, mae'n rhaid creu ffeil PDF a'i droi'n DjVu efo rhaglen benodol megis Djvu-Spec Pdf 2 Djvu Converter)

Wrth greu sgan o lyfr ac ati cofiwch gynnwys pob dalen—Y cloriau; tudalennau gwag a thudalennau efo lluniau, yn ogystal â thudalennau efo testun

Caffael sganiau

golygu

Mae gan Internet Archive a Google Books nifer o hen lyfrau Cymraeg sydd wedi eu sganio'n barod sydd efo hawl i'w lawrlwytho a'u hail ddefnyddio. Y ffordd hawddaf i gael hyd i lyfrau Cymraeg arnynt yw mynd i'r safleoedd a rhoi enwau awduron Cymraeg neu dermau sy'n debygol o arddangos mewn teitl llyfr Cymraeg yn y blwch chwilio ee cofiant, Cymraeg, barddoniaeth, Aberystwyth ac ati. Yn Google newidiwch yr opsiwn Unrhyw olwg (Any view) i Golwg llawn (Full view) ar frig y tudalen canlyniadau.

Mae gan Deddfwriaeth DU copïau ffeiliau PDF o ddeddfwriaeth Cynulliad / Senedd Cymru sydd ar gael yn rhydd o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

Uwchlwytho sganiau

golygu

I uwchlwytho ffeiliau i Wicidestun mae'n rhaid defnyddio safle Comin Wikimedia. Nid oes modd uwchlwytho yn "lleol" i Wicidestun.

Os nad ydych yn gyfarwydd ar sut i uwchlwytho i Gomin mae "tiwtorial" syml ar gael ar y safle: Commons:Y camau cyntaf

Gosod y gwaith ar Wicidestun

golygu

Er mwyn trawsysgrifio'r testun PDF/DjVu bydd rhaid creu tudalen indecs ar ei gyfer.

Rhowch deitl y ffeil (gan gynnwys yr estyniad pdf/djvu sydd ar ôl y teitl ond heb y gair File: bydd o'i flaen) i mewn i'r blwch chwilio ar Wicidestun.

Cofiwch i'w ysgrifennu yn union fel y mae ar Gomin. Mae Plant y Goedwig.pdf yn cael ei drin fel ffeil wahanol i Plant y goedwig.pdf neu Plant-y-Goedwig.pdf.

Rhowch Indecs: o flaen y teitl a phwyswch y botwm chwilio.

 

Gan nad oedd 'Indecs:Plant y Goedwig. pdf yn bodoli ar y pryd (byddwyf yn ei greu yn y cam nesaf) daeth dolen goch i fyny fel atebiad i fy chwiliad.

 

O roi clec ar y ddolen goch, bydd tudalen indecs newydd yn cael ei greu (cyn belled a bod ffeil o'r un enw ar gael ar Gomin).

 

Llenwch y blychau ar frig y dudalen gyda'r wybodaeth berthnasol:—teitl y gwaith, enw'r awdur ac ati (os nad ydych yn gwybod, does dim problem efo gadael blychau gwag)

Ar hyn o bryd, anwybyddwch y blychau Delwedd y clawr, Progress, Tudalennau a Sylwadau, down yn ôl atynt hwy mewn tudalennau cymorth eraill.

I lenwi'r blwch categori does dim angen defnyddio còd Wici, dim ond dechrau ysgrifennu enw'r categori—fe ddaw restr o awgrymiadau i fyny.

Pethau defnyddiol i'w rhoi yn y blwch categorïau yw

  • Enw'r teitl (bydd yn ymddangos yn goch fel arfer)
  • Enw'r awdur,
  • Trwydded yr hawlfraint (PD-old [llyfrau a gyhoeddwyd cyn 1928] PD-old-70 [Llyfrau gan bobl a bu farw rhwng 1928 a 70 mlynedd yn ôl] OGL3 [Dogfennau wedi eu cyhoeddi o dan y Drwydded Llywodraeth Agored]
  • Pwnc y gwaith: Barddoniaeth; Corwen, Hanes Sir Fôn, William Williams o'r Wern etc
  • Blwyddyn cyhoeddi: ee Llyfrau 1899

Eto, peidiwch â phoeni am adael y blwch categorïau yn wag neu efo llai o wybodaeth nag yr awgrymir uchod.

Cyhoeddi

golygu

Pwyswch y botwm cyhoeddi'r ddalen ar waelod y sgrin,

 

a bydd indecs o dudalennau barod i'w trawsysgrifio yn cael ei greu. Bydd trawsysgrifio yn cael ei drafod ar y dudalen cymorth nesaf.