Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol Cyf I/Aber
← Abbatty Cwm Hir | Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol Cyf I gan Owen Jones (Meudwy Môn) |
Aberaeron → |
ABER; a elwid weithian Aber-gwyn-cregyn; Plwyf yn nghantref Arllechwedd uchaf, swydd Gaerynarfon, Gogledd Cymru: 6m. i'r dwyr. og. ddwyr. o Fangor, ar ochr y brif ffordd o Gaerlleon i Gaergybi; ac ar lan Traeth y lafan.
Yr oedd y lle hwn gynt yn un o drigleoedd tywysogion Gwynedd: ac ar fryncyn celfyddydol yn y nant hon adeiladai Llewelyn Fawr gastell cryf, er cadw meddiant o'r bwlch pwysig yma, trwy yr hwn y croesid y mynydd tua Chynwy neu Gaer Rhun. Nid oes dim o olion y castell ar gael yn bresenol, oddieithr y bryncyn, ar yr hwn ei hadeiladid, yr hwn sydd tua 60 troedfedd o dryfesur, a 24 tr. o uchder; ac nid ydys yn gallu olrhain dim o olion y llys tywysogaidd i sicrwydd boddhaol ychwaith: ond yn ddiweddar gellid canfod olion y ddyfr-ffos a gludai ddwfr o'r afon i'r castell.[1] Pa hyd y bu y fan hon yn drigle i dywysogion Gwynedd nid yw yn hawdd penderfynu efallai; yr oedd y sefyllfa yn dra chyfleus i'r perwyl, gan ei bod yn gorwedd yn agos i'r canol, rhwng dau lys arall, yn y rhai y trigent yn achlysurol, sef Aberffraw yn Mon, a Maes Mynnan yn swydd Fflint.
Mae yn ymddangos fod y lle hwn mewn cryn Rwysg yn amser y ddau Lewelyn, ac efallai mai dyma lle yr oedd eu prif drigias. Llewelyn ab Iorwerth, yr hwn hefyd a gyfenwir " Llewelyn Fawr," oedd fab i Iorwerth Drwyndwn, yr hwn, gan ei fod yn fab hynaf i Owain Gwynedd, oedd ettifedd cyfiawn gorsedd Gwynedd; ond efe a roed o'r neilldu ar gyfrif yr anaf oedd ar ei wyneb, trwy gydsynied cyffredinol pendefigion y dalaith; a'i frawd Dafydd a alwyd i'r orsedd; ar hyn y cydsyniodd Iorwerth yn dawel, ac ymroddai i fyw bywyd neillduedig: ond y mae yn ymddangos fod Dafydd ab Owain yn dra eiddigeddus o'i frodyr, ac yn ymddwyn yn dra chreulawn a gorthrymus tuag attynt, gan ddwyn eu tiroedd oddiarnynt, a'u carcharu hwythau. Yr ettifeddiaeth a adawsid i Iorwerth Drwyndwn, at ei gynhaliaeth ef a'i deulu, oedd cantrefi Nanconwy yn swydd Gaerynarfon, ac Ardudwy yn Meirionydd; a'i breswylfod oedd castell Dolyddelen; yn yr hwn, ond odid y ganwyd ei fab enwog, Llewelyn Fawr. Ond, bu raid i Iorwerth druan ffoi rhag creulonder ei frawd Dafydd, i'r Pennant Melangell, lleyr ydoedd cysegrfa a noddfa hynod; a dywaid traddodiad iddo gacl ei lofruddio yn lled agos i'r gyssegrfa grybwylledig, mewn lle a elwir hyd heddyw "Bwlch Croes Iorwerth" Y mae yn y fynwent uchod faen cerfiedig, a llun dyn arfog arno, yn dwyn tarian, a'r geiriau canlynol oddi tano, "Hic Jacet Edwart," Wedi marw Iorwerth, ei frawd Rhodri ab Owen Gwynedd. yr hwn a garcharasid yntau gan ei frawd Dafydd, a ddiangasai o'r carchar, ac a gymerasai feddiant o holl ynys Fon, ac Arfon debygid hefyd, hyd at afon. Gonwy,—a gymerodd ei nai, Llewelyn, ettifedd cyflawn y goron, dan ei nawdd; ac nid yw yn annhebyg bod gan Llewelyn lŷs yn Aber, pan yn. wr ieuanc dan nawdd ei ewythr, Rhodri, yr hwn a wnelai ei oreu i gadw ei frawd Dafydd a'i luoedd, yr ochr arall i afon Gynwy. O'r diwedd, Llewelyn, fel yr oedd efe yn aeddfedu mewn oedran; wrth weled fod creulonderau ei ewythr Dafydd wedi gwanhau ei ddylanwad ar bendefigion Gwynedd; ac yn hyderus y derbyniai gefnogaeth gref o Bowys, yn gymmaint a bod ei fam Marged, yn ferch i Madog ab Meredydd, tywysog Powys; a roes allan ei fod ef yn hawlio tywysogaeth Gwynedd; a'r pendefigion gyda llawer o barodrwydd, a'i cydnabuant fel eu tywysog cyfreithlawn; ac efe a ddechreuodd lywodraethu yn y flwyddyn 1194. Yn mhen tair blynedd daeth ei ewythr a byddin gref o Gymry a Saeson dan ei lywyddiaeth, i ymdrechu adennill y dalaith oddiar Llewelyn; ond y gwron ieuanc o Aber a ennillodd y fuddugoliaeth yn drwyadl; ac a gymerodd ei ewythr yn garcharor: ond tua'r flwyddyn 1204 efe a roddes ei ryddid iddo, gan ddysgwyl yn ddiammeu, na buasai efe yn cyfodi terfysg drachefn; eithr can gynted ag y cafodd yr hen Dywysog ei ryddid, efe a giliodd yn lladradaidd i Loegr eto, a llwyddodd i gael byddin drachefn, â'r hon y gwnelai ail gais i ddwyn Gwynedd oddiar ei nai; eithr Llewelyn a'i llwyr orchfygodd drachefn; ac yn fuan ar ol y frwydr hon, efe ai rhoddes ef a'i fab Owain i farwolaeth, yn Aberconwy. Yn y flwyddyn 1292, hawliodd Llewelyn wiriogaeth oddiwrth holl dywysogion Cymru, fel penteyrn, yn ol cyfrcithiau Rhodri Fawr, a Hywel Dda; a'r rhan fwyaf o honynt a gydnabuant ei uchafiaeth yn ewyllysgar. Yr un flwyddyn hefyd, efe a briododd dywysoges Seis'nig, sef Joanna, merch y brenin John, a chafodd yn gynnysgaeth i'w chanlyn. arglwyddiaeth Ellesmere, yn y cyffindiroedd: fel yr oedd boreu Llewelyn yn ymddangos yn glaer a gobeithiol dros ben: ond, y mae yn ymddangos fod y brenin wedi myned yn eiddigeddus o'i fawredd, a thrwy ddichell a thrais, wedi llwyddo i gael gan Gwenwynwyn tywysog Powys. yr hwn a fuasai y cyndynaf o'r tywysogion Cymreig i gydnabod uchafiaeth Llewelyn, i drosglwyddo yr wriogaeth hono iddo ef (y brenin John): a hyn a arweiniodd i ymrafael blin rhwng Llewelin a'r brenin. Y brenin a arweiniodd fyddin gref hyd at Gaerleon ar Ddyfrdwy, lle yr ymunai minteioedd mawrion o Gymry dan ei luman, wedi eu casglu gan y pendefigion Cymreig, oedd a rhyw ddant ganddynt yn erbyn Llewelyn, yn mysg pa rai yr enwir Gwenwynwyn, tywysog Powys; Hywel ab Gruffydd ab Cynan ab Owain Gwynedd, yr hwn a alltudiasai Llewelyn am ei wrthryfel blaenorol; Madawg ab Gruffydd, Maelawr; Meredydd ab Rhotbert o Gedewin; a Maelgwyn,a RhŷsGrug, meibion yr Arglwydd Rhŷs. Yr oedd y brenin yn dra phenderfynol i lwyr anrheithio Gwynedd, ac i dori nerth Llewelyn yn y cadgyrchiad yma: ond, nid oedd y gwron Cymreig yn segur na diofal, ac felly efe a anfonodd frŷs genhadon trwy y berfeddwlad, sef swyddi Dinbach a Fflint, i erchi i'r trigolion fudo, yn nghyd a u holl anifeiliaid, i froydd Eryri: a'r brenin a arweiniodd ei fyddin fawr trwy Ruddlan, ar hyd glan y mor hyd gastell Dyganwy, lle yr ymwersyllodd efe ar lan yr afon, Cynwy: ac yno y gwarchaeid arno mor gyfyng, ac ei blinid mor ddibaid, gan wŷr Llewelyn, fel y bu agos i'r fyddin freninol anferth gael ei llwyr ddyfetha: a bu mor gyfyng arnynt gan newyn, fel y bwyttaent gig eu meirch eu hunain, gan ei gyfrif yn foethus. Yr oedd bod ei lŷs yn Aber, a'i brif orsaf filwraidd gerllaw, yn llawer iawn o fantais i Llewelyn i wasgu ar y fyddin freninol, a'i blino yn barhaus, tra y gwersyllai mor agos i Eryri a glanau afon Gynwy.
Bu raid i'r Brenin encilio yn ol yn warthus ac aftwyddiannus hollol o'r cadgyrchiad yma; ond fe barai hyny y fath friw i'w falchder, fel yr ymgynddeiriogai mewn nwyd-wylltedd, ac y penderfynai dywallt ei ddialedd ar Llewelyn a'i wlad y flwyddyn ganlynol: ac felly efe a barottodd fyddin gref iawn drachefn: a'r unrhyw bendefigion Cymreig a'i cynnorthwyent y tro hwn eto: ac ar yr achlysur yma. y mae yn ymddangos ddarfod iddo groesi afon Cynwy, a'r Brenin ei hun, a arhosodd yn Aber, yn nghyda rhan o'i fyddin; ond y rhan arall, a anfonodd ef yn mlaen, dan dywysiad y pendefigion Cymreig, i ymosod ar ddinas Bangor; gan ddysgwyl, efailai, fod Llewelyn yno. Y mae yn ymddangos ddarfod i'r fyddin hon losgi Bangor, a chymeryd yr Esgob, "Robert o'r Mwythig" yn garcharor, yr hwn a ddygasant at y Brenin.
Mae yn debyg fod Llewelyn wedi ei oddiweddyd yn hollol anmharod, gan ddychweliad disymwth y Brenin y tro hwn; fel y gwelai mai ynfydrwydd a fuasai iddo geisio ei wrthsefyll. Yr oedd hi y pryd hwn yn agos i adeg cynhauaf; ac wedi enciliad y Brenin o Deganwy, y mae yn debyg i Lewelyn ollwng y rhan fwyaf o'i wyr i'w cartrefi i barottoi llafur y ddaiar at gynhaliaeth y genedl; ac fe ddichon nad oedd gan Llewelyn ddim ond rhyw warchodlu bychan yn Aber ar y pryd, pan y derbyniodd y newydd fod y Brenin gyda byddin anferth, yn cyfeirio tua Bwlch-y-ddeufaen: gan hyny nid oedd ganddo ddim i'w wneyd, ond encilio can gynted ag y gallai i ganol y mynyddoedd; ac mewn tua dwy awr o amser gallasai ef a'i deulu fod wedi ymlochesu yn ddiogel yn Cwm y Gasseg, neu y Nant Bach, tra yr esgynai ef ei hun a'i wylwyr i ben y clogwyn, a elwir efallai, er cof am y tro, "Carnedd Llewelyn." Y mae yno hen adfeilion ar ben y Garnedd hyd heddyw, y rhai debygid, ydynt olion gwersylliad gwŷr Llewelyn yno.
Gallwn gasglu oddiwrth sylw yn un o Frudiau Rhys Goch Eryri, Bardd o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, fod yma Gamedd wedi ei chyfodi gynt ar fedd Rhitta Gawr, ac i Lewelyn ddefnyddio y lle, fel Gwylfa fanteisiol ar yr achlysur dan sylw;—
"Llewpart yssigddart seigddur,
Llewelyn, frenin gwyn gwyr;
Ar ben trum oer tramawr;
Yno gorwedd Rhitta gawr.
Coronog oediog ydwyt,
Cwyn o fan oer, cynnefin wyt:
Llys y gwynt, lluosog wedd,
A'r lluwch yn mol y llechwedd."
Mae yn ddiau y buasai y fan uchel hon yn lle tra anghyfleus i wersyllu ynddo ar rai adegau ar y flwyddyn, gan ei noethed a'i oered; ond deallwn mai tua chanol mis Awst, oedd yr adeg y meddiannai y Brenin Aber; ac yr anrheithid Bangor gan ei wŷr ef. Gallasai Llewelyn o'i orsaf ddyrchafedig weled dinas Bangor yn cael ei llosgi, ac y mae bron yn sicr ei fod yn edrych ar y goddaith; a chan dosturio wrth gyflwr ei wlad, pryd nad oedd ganddo ef fodd i wrthsefyll y fath gyngrhair grymus ag a ymosodai arno ef a'i wlad y pryd hwn, efe a anfonodd ei wraig, y dywysoges Joanna, at ei thad, i geisio ammodau heddwch ganddo, yn yr hyn y bu ei hymdrech yn llwyddiannus hefyd: ond, yr oedd yr ammodau yn dra chelyd i Lewelyn druan. Yr oedd yn rhaid iddo dalu deugain o feirch, ac ugain mil o dda corniog[2] at draul y rhyfel; a chaniattau i'r Brenin gael meddiannu y berfedd-wlad, sef swyddi Dinbach a Fflint; ac yr oedd yn rhaid iddo roddi wyth ar hugain o feibion ei brif bendefigion i fynu i'r Brenin, fel gwystlon y byddai iddo gadw ei gyfammod.
Ond, yn fuan wedi hyn, tynodd y brenin ddigofaint Eglwys Rhufain yn ei ben, fel yr esgymunwyd ef ganddi; a'r Pab Innoccnt, yn y flwyddyn 1213, a ryddhaodd y Tywysog Llewelin, yn nghyda Gwenwynyn, a Maelgwyn oddiwrth eu llwon o ffyddlondeb a wnaethid ganddynt i'r Brenin; ac erchid iddynt ei flino hyd eithaf eu gallu, fel gelyn i'r Eglwys; a hyny dan addewid o faddeuant o'u pechodau, os cyflawnent y gorchwyl yn ffyddlawn; a than fygythiad o felldith, os y palient. Y canlyniad o hyn a fu, i Lewelyn roddi cais eto ar waredu ei wlad oddi tan iau estroniaid; ac wedi llwyddo i gael gan Gwenwynwyn a Madog ab Gruffydd Maelor, tywysogion Powys; Maelgwyn ap Rhŷs o'r Deheubarth, a Meredydd ab Rhotpert, o Gedewin, ymgyfarfod ag ef, i gynnadleddu yn achos cyflwr eu gwlad, efe a ddangosodd iddynt fel yr oedd swyddogion a chastellwyr y brenin yn blino, ac yn gorthrymu eu cydgenedl, ac mai i'w hanffyddlondeb hwy, mewn amser mynedol, yr oedd hyny i'w briodoli: yna efe a'u cymhellai yn daer i ymuno fel un gwr, ac i ymroddi a'u holl egni, unwaith eto, i fwrw iau gorthrymder oddiar eu gwarau, ac adfeddianu eu rhyddid a'u breintiau; ac annibyniaeth eu gwlad a'u cenedl.
Ei resymau cedym, a'i wladgarwch gwiw, a'u gorchfygodd hwynt; ac yn wir, yr oedd trahausder swyddogion y brenin wedi eu parottoi i hyny; fel y darfu iddynt adnewyddu eu llw o ffyddlondeb i Lewelyn, eu hunig benteyrn cyfiawn: ac yntau wedi derbyn yr adgyfnerthiad yma, a ddechreuodd ymosod yn ddisymwth ar y gormeswyr Seisnig, gan adfeddiannu yr holl amddiffynfeydd a ddaliai y brenin trwy ei diriogaethau; oddieithr cestyll Deganwy a Rhuddlan, y rhai, gan eu cadarned, ni's gellid eu cymeryd yn rhwydd.
Y brenin John, wedi ei gythruddo yn ddirfawr trwy anrheithiad y Cyffin-diroedd gan y Cymry. a barodd grogi yr wyth ar hugain gwystlon oeddynt yn ei feddiant, yn ngwydd ei lygaid, ac yn mhresenoldeb ei fyddin.yn nhref Nottingham; gan ymhyfrydu yn edrych ar dranc y rhai diniwed: ac oddeutu yr un pryd, Robert Vepont, un o brif swyddogion y brenin, a barodd grogi Rhŷs ab Maelgwyn, plentyn dan saith mlwydd oed, yn y Mwythig. Yr holl wystlon uchod, oeddynt fechgyn ieuainc, cangenau o'r teuluoedd mwyaf pendefigaidd trwy Gymru.
Ond, tra yr oedd y brenin dan ddylanwad y gynddaredd ddialgar yma. yn parattoi cadgyrchiad arall i Gymru, efe a frawychid trwy hysbysiaeth oddiwrth frenin yr Alban. Ac oddiwrth ei ferch, gwraig Llewelyn, yn ei rybuddio fod cydfrad peryglus yn erbyn ei fywyd, yn cael ei ffurfio gan ei bendefigion ef ei hunan; a bod Llewelyn, a'r tywysogion Cymreig. yn debyg o ymuno yn y cyd-frad; a hyn, yn nghyd a'r ystyriaeth, fod meildith y Pab yn gorwedd arno, a barai iddo lwfrhau, a dychwelyd yn ol o Gaerlleon, heb gyflawni ei fwriad creulawn, o arllwys ei ddialedd ar Gymru.
Erbyn hyn yr oedd amryw o Farwniaid Lloegr wedi ymgyngrheirio i fynu mesur o ymwared oddiwrth dra arglwyddiaeth y Pennadur, a rhyw weithred gadarn er sicrhau rhyddid cyffredinol y deiliaid; ac yn yr ymdrech yma, fe'u cefnogid yn bybyr a chywir gan Llewelin, ac amryw o'r tywysogion Cymreig; ac felly cawsom yr anrhydedd fel cenedl, a fod a llaw fawr, os nad y fwyaf. yn mynu cael y Freinlen Fawr, ("Magna Charta:") o'r hon yr ymogonedda Prydain gymaint.
Gwnaeth y brenin ymdrechion egniol i ddarostwng y Barwniaid Seisnig eto, a dirymu y Freinlen Fawr a ganiatasai efe iddynt; ac fel yr oedd efe yn llwyddo, a'r Pab yn cymeryd ei blaid, ac yn ysgymuno ei wrthwynebwyr, efe a'u gorthrymai yn dostach nag erioed: ac yn y cyfwng yma, bu dewrder a dianwadalwch Llewelyn o'r gwerth mwyaf i'r Barwniaid, er eu galluogi i gadw meddiant o'r Magna Charta wedi ei gael. Yn nghanol yr helyntion hyn bu farw y brenin John, yn Newark-upon-Trent, wedi treulio oes druenus, a'i wneyd ei hun yn wrthddrych dygasedd a dirmyg ei gymmydogion a'i ddeiliaid, trwy ei nwydau afreolus, ei ymddygiadau twyllodrus, a'i ysbryd gorthrymus; a'i fab a goronwyd yn frenin yn ei le, yn Eglwys Gadeiriol Caerwynt, ar yr 28ain o Hydref, 1210, dan yr enw Harri III. Nid oedd y pennadur hwn namyn naw mlwydd oed pan fu farw ei dad; a'i deyrnas mewn cyflwr hanerog a chythryblus; ac ni fu Llewelyn yn esgeulus o'r cyfryw gyfleustra i helaethu ei diriogaethau, a chadarnhau ei lywodraeth; a diau pe y buasai y Barwniaid Seisnig wedi bod mor ffyddlawn i gyflawni eu hymrwymiadau iddo ef, ag y buasai efe i gyflawni ei ymrwymiadau iddynt hwy, y buasai rhanau helaeth o Loegr wedi eu huno â Chymru dan ei arglwyddiaeth: ond bu Iarll Penfro larlil'eufro, Gwarcheidwad y brenin ieuanc, yn llwyddiannus i yru y tywysog Louis o Ffrainc, yr hwna feddiannasai y brif ddinas, o'r deyrnas, i dori nerth y gwrthryfelwyr yn Lloegr, ac i orfodi y Barwniaid anfoddawg i dalu eu gwarrogaeth i'r brenin Harri; a than yr amgylchiadau hyn, bu raid i Lewelyn fyned i gyfammod a'i frawd yn nghyfraith breninol; ac i'r perwyl hyn hwy a gynhaliasant gynnadledd yn Worcestcr, yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad y brenin Harri, pan y gwnaed cyfammod rhyngddynt, yn yr hwn yr ymrwymai Llewelyn i roddi cestyll Aberteifi a Chaerfyrddin, y rhai a berthynent i Iarll Penfro, i fynu, ac na roddai achles i neb o elynion y brenin: ac o'r tu arall, caniatteid i Lewelyn gyflawn arglwyddiaeth ar yr holl diriogaethau a berthynent i Gwenwynwyn, hyd oni ddeuai ettifeddion y tywysog hwnw i gyflawn oedran; a Llewelyn o'i du yntau a ymrwymai i roddi cynhaliaeth resymol i'r ettifeddion hyny, pa un bynag a'i yn Lloegr neu yn Nghymru y byddent dan addysg, ac i dalu ei gwaddol i Margaret, ferch Rhŷs ab Gruffydd, Arglwydd y Deheubarth,a gweddw Gwenwynwyn.[3]
Buasid yn dysgwyl y buasai heddwch yn ffynu rhwng Lloegr a Chymru am gryn yspaid yn y canlyniad i'r ymgyfammodiad uchod: ond hên elyniaeth rhai o'r Arglwyddi cyffindirawl at Llewelyn a dorrodd allan, ac felly ail ennynodd y fflam yn fuan, ac ni bu Llewelyn yn fyr o dnalu y pwyth iddynt am eu ffalsder; eithr ni oddef cynllun y gwaith hwn i ni roddi hanes manwl o'r cadgyrchiadau a ganlynodd. Ond oddeutu yr adeg yma, dygwyddodd un amgylchiad neillduol, ag y mae cof traddodiadol amdano, yn nghadw yn nghymmydogaeth Aber hyd y dydd hwn. Mewn rhyw ysgarmes a fu rhwng Llcwelyn a gwyr y brenin. yn y flwyddyn 1228, yn nghymmydogaeth Trefaldwyn, lle yr oedd anwylddyn y brenin, y prif farnydd Hubert de Burgh yn adeiladu castell newydd, cymerasai Llewelyn, bendefig Seis'nig ieuanc, o'r enw William de Breos neu Bruce, yn garcharor; ac efe a'i dug ef i'w gastell yn Aber, lle yr ymddygai tuag atto â haelfrydedd ncillduol: ac ar ol bod yn garcharor dros ryw yspaid, efe a gafodd ei ryddid i ddychwelyd adref, ar yr ammod o roddi castell Buallt i ddwylaw Llewelyn, a thalu tua thair mil o farciau yn arian. Ond, wedi ei ollwng ymaith, cludwyd yr hysbysiad i Lewelyn, fod de Breos, tra yn Aber, wedi llithio y Dywysoges i gyfeillach anweddus, yr hyn a'i cythruddodd ef yn ddirfawr; ac felly, gan benderfynu dial y fath sarhad, y Tywysog a anfonodd i wahodd y pendefig Seisnig ar ymweliad cyfeillgar i'w lŷs, yr hwn a ddaeth, a chryn nifer o geraint a chyfeillion i'w ganlyn; ond wedi i Llewelyn eu gwledda yn groesawus, heb amlygu unrhyw arwyddion o'i ddigofaint, yn nghorph y noswaith hono, efe a barodd garcharu holl ganlynwyr W. de Breos, a'i grogi yntau ar bren, mewn lle a elwir "Gwern y Grogfa," ar gyfer y llŷs tywysogaidd. Y mae traddodiad yn yr ardal, fod y Dywysoges ar ei mynediad allan y boreu dranoeth, wedi cyfarfod yn ddamweiniol â'r Bardd teuluaidd; yr hwn, gan ei fod yn deall nad oedd hi yn gwybod dim am yr hyn a gymerasai le yn nghorph y nos, a'i cyfarchai gan ddywedyd:—
"Diccyn doccyn, Gwraig Llewelyn.
Beth a roit ti am wel'd Gwilym"
"Cymru, Lloegr, a Llewelyn,
A rown yn nghyd am weled Gwilym."
Yna y bardd, gan gyfeirio a'i fŷs at y fan lle yr oedd ef yn hongian gerfydd ei wddf wrth bren, a ddywedai, "Dacw efe!" Dywaid traddodiad hefyd i'w gorph gael ei gladdu mewn ogof, yn y maes a elwir "Cae Gwilym Ddu." Eraill a farnant mai yn y lle a elwir Braich y Bedd, yn agos i Hafod Garth Gelyn ei claddwyd: ac y mae traddodiad yn ein hysbysu fod Eglwys yn agos i'r lle hwnw yn yr hen amseroedd; ac y mae yno lannerch yn myned hyd heddyw dan yr enw "Hen Fonwent." Nid oes dim yn anhygoel yn hyn, yn gymmaint a bod genym seiliau i gredu fod un o hâf-lysoedd y tywysogion Cymreig yn y fan grybwylledig.
Bu farw y Dywysoges Joanna, yn mhen saith neu wyth mlynedd ar ol y trychineb uchod; a hi a gladdwyd yn ol ei dymuniad ei hun, yn Llanfaes, gerllaw y Beaumaris, lle yr oedd crefydd-dy perthynol i'r urdd mynachaidd a elwir y Dominiciaid, neu y Brodyr Duon; a Llewelyn a adeiladodd Gapel costus ar ei bedd, yr hwn a gyflwynid i St. Francis, ac a gyssegrid gan Howel, Esgob Bangor.—Gwel LLANFAES.
Yn yr un flwyddyn ag y bu farw Joanna, sef 1237, Llewelyn a wysiodd holl dywysogion a phendefigion Cymru i'w gyfarfod ef yn Mynachlog Ystrad Ffiur, ac a barodd iddynt adnewyddu eu llwon o ffyddlondeb, a chydnabod hawl ei fab Dafydd o'r llywodraeth ar ei ol ef: ei fab o'r dywysoges Seisnig, yn hyttrach na Gruffydd, ei fab henaf, o'i wraig gyntaf Tangwystl. Yr oedd ganddo ferch hefyd o Joanna, o'r enw Gwladus, yr hon a briododd â Syr Ralph Mortimer.
O'r pryd hyn hyd ddiwedd ei oes, yr oedd teimladau mwy cyfeillgar yn ffynu rhwng y tywysog Llewelyn a'i frawd-yn-nghyfraith, brenin Lloegr. Yr oedd Llewelyn bellach mewn gwth o oedran, ac wedi treulio oes egniol a hunan-ymwadol annghyffredin, ac efallai fod hyny yn peri iddo fod yn dra awyddus am ychydig o seibiant a gorphwysdra bellach: ac heblaw hyny, efallai ei fod ef yn fwy awyddus am sicrhau i'w fab Dafydd, ewyllys da, a chefnogaeth ei ewythr, brenin Lloegr; fel, pan na byddai efe mwyach, y gallai ei fab Dafydd esgyn i'r orsedd yn fwy tangnefeddus. Ac ar yr 11eg o Ebrill, 1240, bu farw LIewelyn ab Iorwerth, ac efe a gladdwyd yn mynachlog Aber Cynwy, Yr oedd efe yn un o'r Tywysogion mwyaf doniol, dewr, a llwyddiannus, o holl Dywysogion Cymru; bu yn teyrnasu chwe blynedd a deugain, ac yn yr yspaid hyny ehangodd lawer ar derfyuau ei wiad: ond, yr oedd surdoes estronaidd wedi llygru amryw o'r pendefigion a'r offeiriaid i'r fath raddau, fel na's rhoddent i Lewelyn y gefnogaeth a'r cydweithrediad hwnw oedd yn angenrheidiol tuag at sicrhau ei hannibyniaeth a'i rhyddid.
Tua chwe blynedd y bu Dafydd fyw ar ol dylyn ei dad yn y llywodraeth, ac arnodid hyny o dymhor â llawer o anwadalwch tymher; ac â gormod o ddelw ei daid, y brenin John. Gorchwyl olaf ei oes, sef y gwrthsafiad dewr a ddaliodd efe i Harri y Trydydd, gerllaw Deganwy, a adlewyrchodd y pelydr mwyaf goneddus ar ei deyrnasiad;[4] ac yn fuan wedi dychweliad gwarthus Harri o'r cadgyrchiad colledus hwnw, dychwelodd Dafydd, yn doredig ei ysbryd i'w lŷs ei hunan, yn nghastell Aber, lle y bu efe farw, yn Ngwanwyn y flwyddyn 1246, ac efe a gladdwyd gyd a'i dad yn Aber Conwy. Bu farw Dafydd ap Llewelyn yn ddiblant; yr oedd ei unig frawd ef, Gruffydd ap Llewelyn, wedi torri ei wddf wrth geisio dianc o'r Twr Gwyn, ac efe yn dew ac yn drwstan. Gadawsai Gruffydd ap Llewelyn feibion ar ei ol, sef Owain, Llewelyn, a Dafydd. Yr oedd Owain, yr hwn a elwid Owain Goch, wedi bod er amser ei gaethgludiad gyd a'i dad i Lundain, dan gadwraeth y brenin yn Lloegr; ond, pan glybu efe am farwolaeth ei ewythr, efe a giliodd yn ddirgelaidd oddiyno, ac a ddaeth i Wynedd, gan ddysgwyl ei gelwid gan y pendefigion i'r orsedd dywysogaidd, fel ei hettifedd cyfiawn. Yr oedd Llewelyn trwy ystod teyrnasiad ei ewythr, yn aros yn ei lŷs ei hun, Maesmynan, gerllaw Caerwys: a dywedir ei fod yn meddiannu cantrefi Rhos, a Rhufoniog, a Dyffryn Clwyd, a Thegeingl. Ni's gwyddom pa le yr anneddai y brawd ieuangaf Dafydd ab Gruffydd y pryd hyn; pa fodd bynnag, fe ymddengys ei fod naill ai yn rhŷ ieuainc, neu ddinod, i feddwl bod yn ymgeisydd am arglwyddiaeth Dywysogaidd: ac felly, trwy gyngor pendefigion y wlad, gosodwyd Owain a Llewelyn yn dywysogion ar dalaith Gwynedd. Cyd deymasodd y brodyr yn dawel a chyttun, am yspaid yn y dechreu; ond yn mhen tua saith mlynedd, amlygai Owain Goch anfoddlonrwydd i fwynhau y naill hanner o'r Dywysogaeth; a llithiodd ei frawd Dafydd, i gyduno ag ef i geisio dwyn cyfran Llewelyn oddiarno; ac efallai eu bod wedi ymhyfau i wneyd y cais yma, am fod brenin Lloegr wedi dwyn y berfedd-wlad, lle y cynnwysid ettifeddiaeth Llewelyn, oddiar y Cymry: ond, tra yr oeddynt hwy yn casglu eu lluoedd yn nghyd i geisio dihawlio Llewelyn, a'i fwrw o'r arglwyddiaeth, casglai yntau fyddin o'i gefnogwyr i'w gwynebu, ac ar Fryn Derwyn, ychydig oddiar Glynnog. y cyfarfuant, a chyn pen awr o frwydro, cymerwyd Owain yn garcharor, a Dafydd a ffudd am ei einioes. Fe'n hysbysir ddarfod i Lewelyn gadw ei frawd Owain yn garcharor yn nghastell Dolbadarn am dair blynedd ar hugain.
Yn y flwyddyn 1255, y pendefigion Cymreig, y rhai ni's gallent oddef y camwri â pha un eu gorthrymid gan y tywysog Edward, ac arglwyddi y cyffindiroedd yn hwy, a anfonasant gennadwri at Llewelyn i attolygu arno amddiffyn eu cam; ac yntau fel Tywysog dewr-wych, ni bu yn annyben i gyfarfod â'u dymuniadau; ac wedi crynhoi byddin led gref yn nghyd, efe a ymosododd gyda chad-ruthriad chwyrn a chyflym ar y tiriogaethau a drawsfeddiannasid gan y Saeson; ac mewn llai nag wythnos efe a ennillodd yr holl Berfedd-wlad a Meirionydd. Yna efe a adenillodd y tiroedd a drawsfeddiannasai y tywysog Edward yn Ngheredigion, ac a'u rhoddodd i Meredydd ab Owain ab Gruffydd. Rhoddodd hefyd ardal Buallt i Meredydd ap Rhŷs Gryg, gan erlid ymaith Rhŷs Fychan ap Rhŷs Mechell, heb gadw dim iddo ei hun, ond yn unig ennill clod am ei wrolder a'i haelioni. Ar ol hyny, efe a aeth, ac a ennillodd iddo ei hun ardal Gwrthrynion allan o feddiant Syr Rosser Mortimer; ac yn mhen ychydig, sef yn 1256, efe a aeth tua Phowys gyda Meredydd ap Rhŷs, a Meredydd ap Owain, a llawer o bendefIgion eraill, yn erbyn Gruffydd ap Gwenwynwyn, yr hwn oedd yn pleidio y brenin, ac efe a ennillodd oddiarno y cyfan o Bowys, oddieithr y Castell Coch, ac ychydig o'r wlad, ar ymyl Hafren. Ac o'r flwyddyn hon hyd y flwyddyn 1267, efe a barhaodd i ymladd yn erbyn y Tywysog Edward, â dewrder dihafal, gan fuddugoliaethu weithiau, acholli y dydd bryd arall: ond, yn y flwyddyn olaf a nodwyd, bu raid iddo ymostwng o flaen gallu gor-nifeiriol y Saeson; a derbyn ammodau heddwch yr hwn oedd yn fwy fuanteisiol ac anrhydeddus nag y gallesid dysgwyl. Gan i Llewelyn omedd talu gwarogaeth i Edward ar ei esgyniad i orsedd Lloegr, goresgynai y pennadur hwnw ei diriogaethau ef â byddin gref iawn yn y flwyddyn 1277, gan yr hon ei newynid i ymostyngiad o'r diwedd, ac ei gorfodwyd i ymheddychu ar ammodau, trwy y rhai ei difeddiannid o'r rhan fwyaf o i diriogaethau.
Yn y flwyddyn 1282, ymarfogai y Cymry drachefn i ysgwyd ymaith iau y gorthrymwyr oddiar eu gwarau, ymosodasant ar y gwarchodluoedd, a gorchfygasant amryw o ran-fyddinoedd y gelyn: ond, daeth Edward ei hunan i Wynedd drachefn, a lluoedd mawrion ganddo; ac efe a benderfynai lwyr ddarostwng Cymru cyn dychwelyd y tro hwn; ond, efe a gyfarfu â mwy o anhawsderau nag a fuasai yn eu dysgwyl, a chafodd ei wŷr eu baeddu yn dost mewn llawer brwydr â'r mynyddwyr glewion; felly yn yr Hydref, efe a ddychwelodd i Gastell Rhuddlan, o'r lle yr anfonodd wŷs-lythyrau i grynhoi ei brif gynghorwyr, er cynllunio rhyw foddion mwy effeithiol er cwblhau yr amcan oedd ganddo mewn golwg.
Yn fuan ar ol hyn, cyfeiriai y brenin tuag Ynys Fon, ac wedi croesi yr Afon Cynwy ar bont o fadau, gyda rhan o'i fyddin, tra yr anfonai y rhan arall o honi mewn llongau i'r Ynys; a'r rhai hyn a gawsant feddiant o ran o'r Ynys, pa fodd bynnag yn rhwydd, gan fod rhai o ddynion penaf yr Ynys wedi cymeryd llw o ddeiliadaeth i'r Brenin. Y rhan hon o'r fyddin, er gallu cydweithredu a'u cyfeillion a ddeuent ar hyd ymylau Arfon, a wnaethant bont o fadau dros y Menai, gerllaw Moel y Don, yn ddigon llydan i driugain o wyr ei cherdded yn gyfochrog. Yna, cyn i'r fyddin gyffredinol gychwyn i groesi y bont, ac yn wir, debygid, yn mhell cyn i'r Brenin a'r fyddin a'i canlynai, ddyfod yn agos i'r lle, darfu i Syr William Latimer, a llu nifeiriol o'r milwyr gorau, a Syr Lucas Thany, Rhaglaw Gwasgwyn, gyd a'i Wasgwynwys a'r Yspaeniaid oeddynt yn ngwasanaeth y brenin, fod mor eofn a myned tros y bont ar amser trai i'r ochr arall i'r Menai; a thros ennyd, ni chyfarfuasant ag un gwrthladdiad, ac nid ymddangosai eu bod mewn unrhyw berygl: ond, pan ddaeth y llanw i mewn, fel yr oedd rhan o'r môr rhyngddynt a'r bont, yn ei gwneyd yn anfanteisiol iddynt ei hadennill, rhuthrai y Cymry dan dywysiad Rhisiart ap Walwyn arnynt yn ddisymwth, fel y gorfu i'r rhai a allent,ddianc tu ag at y bont; ond y rhai a ddiangasant rhag arfau y Cymry, a foddasant wrth geisio cyrhaedd y bont, a dywedir na ddihangodd o honynt ond Syr William Latimer, yr hwn trwy gryfder ei farch a lwyddodd i gyrhaedd y bont. Felly yn y tro yma, collodd y Saeson, rhwng lladd a boddi, bymtheg marchog, deuddeg ar hugain o ysweiniaid, a mil o filwyr cyffredin. Yn mhlith y lladdedigion yr oedd Syr Lucas de Thany, Syr William Dodingeseles, a Syr William de la Zouch. Parodd y fuddugoliaeth hon lawenydd mawr i'r Cymry, ac o'r tu arall, dyrysodd amcanion Iorwerth, fel na ddaeth yn mlaen yn ol ei fwriad, i geisio cau ar Lewelyn yn mylchau Eryri, ond y dychwelodd yn ol i gastell Rhuddlan. Dywedir fod Llewelyn wedi gwneyd gwledd i'w gyfeillion yn Aber, brydnhawn y fuddugoliaeth uehod, a than symbyliad y llawcnydd eyffredinol, iddo gyfansoddi yr englyn canlynol[5]:—
"Mae'n don llawen bron llu'r brenin—heddyw
Er hawdded ein chwerthin;
Llawer Sais, leubais libin
Heb un chwyth fyth o'i fin."
Cymerodd y frwydr uchod le ar y 6ed o Dachwedd, 1282; ond byr iawn a fu parhad y gorfoledd uchod yn llysoedd y Cymry; ac nid yw yn annhebyg mai yr un a nodwyd uchod oedd y wledd olaf a gynhaliwyd yn Llŷs tywysogaidd Aber; canys Llewelyn, yn lle gorphwyso yma ar ol deall fod y brenin Edward wedi encilio i auafu yn nghastell Rhuddlan, a adawodd ei frawd Dafydd i gadw ardaloedd Eryri, ac efe ei hun a aeth â byddin gref tua Deheubarth Cymru, i gyfnerthu ei gyfeillion, ac i ymddial ar ei wrthwynebwyr, a chan ymosod ar Geredigion, gwlad Rhŷs ab Meredydd, yr hwn a fuasai gan amlaf yn fradwr i'w genedl, efe a'i diffeithiodd yn dost. Oddiyno efe a aeth tua Llanfair yn Muallt, i ymgynghori â rhai o bendefigion yr ardaloedd hyny, ac i geisio ffurfio cyngrheiriad tuag at wrthladd yr ormes Seisnig yn fwy effeithiol. Pa lwyddiant a fuasai yn dilyn yr ymdrech hwn o'i eiddo, pe y cawsai einiocs i gario allan ei gynlluniau, ni's gallwn ni ddyfalu: ond dygwyddodd amgylchiad ar y pryd hwn, a roes derfyn bythol ar ei holl gynlluniau gwladgar, a'i ymdrechiadau gorchestol; ac a lwyr ddiffoddodd annibyniaeth cenedlaethol y Cymry. Mae yn ymddangos iddo gael ei drywanu gan un Adam de Ffrancton, tra yr oedd o'r neilldu eneyd oddiwrth ei wŷr; a'i ben a ddygwyd i'r Brenin Edward, i gastell Rhuddlan, ac oddiyno fe'i hanfonwyd i'r brif ddinas, ac a'i gosodwyd ar bieell haiarn, ar un o dyrau uchaf y Twr Gwyn.—Gwel Buallt, &c.
Ei frawd Dafydd a'i deulu, y rhai a heliasid o gwm i glogwyn, a gymerwyd yn garcharorion, tra yr oeddynt yn llechu yn nghwr cors, gerllaw Mynydd y Bere, ryw ddwy neu dair milldir oddiar bentref Aber; ac efe a roddid i farwolaeth yn y modd creulonaf trwy orchymyn y brenin.
Ychydig oddiar y pentref hwn y gwelir gweddillion hen amddiffynfa Brydeinaidd grêf ar fryn uchel; a gelwir y Llannerch "Maes y Gaer." Gallem feddwl fod yr amddiffynfa hon tua chyfoed a'r amddiffynfa grêf sydd ar yr ochr arall i'r mynydd, yn mhlwyf Llanbedr y Cennin, yr hon aelwir Pen caer Elen; neu, yn fwy cywir, efallai, Pen caer Belin: ac nid yw yn annhebyg fod y ddwy hen amddiffynfa uchod wedi eu bwriadu i gadw y fynedfa trwy Fwlch y Ddeufaen.
Y mae yma lannerch yn y plwyf hwn a elwir Bryn y Meddyg, lle yr oedd yr yspytty efallai, i'r milwyr cleifion neu archolledig, pan fyddai annedd y tywysog yn Aber.
Yr oedd hen balasdy gynt yn y plwyf hwn, a elwid y Wig, lle y mae annedd hardd Mr. Atkinson yn sefyll; ac y mae y chwedl ddyddorol a ganlyn yn gyssylltiedig a'r lle. Dywedir fod y lle yn perthyn gynt i arglwyddi Gwydir, gerllaw Llanrwst; a darfod i Syr John Wynne ar un achlysur, beri i'w was gymeryd y forwyn Catharine (yr hon oedd yn feichiog o'i meistr), dros y mynydd i'r Wig, i orwedd i mewn; ond fel yr oeddynt ar y mynydd, yn agos i'r Foel Wynion, daeth yn dywydd mawr arnynt, a deallai y llances bod pangfaau esgor wedi ei goddiweddyd; ac felly troisant i ryw hafotty bychan ar y mynydd, lle y gafwyd mab iddi; yr hwn wedi hyny a fu mor hynod, dan yr enw "Twm Siôn Catti." Ni's gwn ay ym chwedl hon yn gywir am le genedigaeth Twm; ond y mae hen furddyn ar y mynydd, yn cael ei alw "Hafotty y Famaeth hyd heddyw; ac y mae y traddodiad uchod yn cael ei gadw yn fyw gan fugeiliaid y fro, o oes i oes; ac yn eithaf cydweddol a buchedd ramantus y dyn hynod hwnw,
Mae yma le arall yn y plwyf o gryn henafiaeth hefyd, sef Bodsilin: a deallwn i linach ucheldras fod yn cyfanneddu ynddo dros oesoedd. Dyma achau y teulu, fel eu cawn yn ngwaith Lewys Dwnn, yr hwn a gyhoeddwyd dan olygiad Syr Samuel Rush Meyrick; ac oddiwrth y gwaith hwnw, casglwn fod gan y teulu hwn annedd arall yn Nhre 'r Gof, plwyf Hen Eglwys, Môn.
"Robert, mab ac aer Owen ab Robert ap John a Meirig ab Llewelyn ab Hwlcyn ab Howel ab Iorwerth ddu ab Iorwerth ab Gruffydd ab Iorwerth ab Meredydd ab Methusalem ab Hwfa ab Cynddelw, o Gwmmwd Llifon. Syr Owen Archddiacon Mon, yr hwn a ddyrchafwyd i'r urddas hwnw ar farwolaeth Nicolas Robinson, Esgob Bangor, yn y flwyddyn 1584. Yr oedd efe hefyd yn beriglor Burton Latimers, yn swydd Nortbhampton, ac yno ei claddwyd ef, Mawrth 21, 1592.
Syr William Owen, o'r cyff hwn a ddyrchafwyd i berigloriaeth yr Hen Eglwys, Medi 25, 1583; ond efe a'i rhoddes i fynu Hydref 17, 1605. John Owen, oedd yn Ysgrifenydd i Syr Francis Walsingham, ag oedd yn fyw Chwefror 19 y nawfed flwyddyn i Iago I. (1611-12), fel y gwelwn wrth amseriad Gweithred a lawnodwyd ganddo. Yr oedd ei wraig ef yn aeres Porkington, neu, yn Gymraeg, Brogyntyu, gerllaw Croesoswallt, a'r Cleneney yn Eifionydd; ac yr oedd Mary Jane, gwraig y diweddar William Ormsby Gore, Ysw., A.S., yn chweched mewn disgyniad o'r John Owen hwn, ac Ellen, ei wraig. Yr oedd iddynt ddwy chwaer hefyd, y rhai a briodasant i deuluoedd parchus. Eu mam, gwraig yr Owen ab Robert uchod, oedd Angharad, merch, ac un o dair aeres i Ddafydd ab William ab Gruffydd ab Robin o Gwchwillan. Mam Angharad oedd Gwen, ferch Morys ab John ab Meredydd ab Ieuan ab Howel ab Dafydd ab Gruffydd ab Cariadog ab Thomas ab Rhodri ab Owain Gwynedd. Mam Owen ab Robert, a'i frawd Howel, oedd Gwenhwyfar, ferch William ab Meredydd ab Rhys ab Ieuan Llwyd ab Gr: ab Gronwy ab Howel ab Cynwrig ab Iorwerth ab Iarddur, Mam hono oedd Anngharad, ferch o'r Cryngae yn Sir Gaer. Mam Robert ab John, oedd Anngharad, ferch Gruffydd ab Howel ab Madoc ab Ieuan ab Einion. Mam Meirig[6] oedd Mali, ferch, ac unig aeres i Ifan Llwyd ab Gr: ab Gronwy, o Fodsilin; ac oddiwrthi hi Cadfad Bodsilin. Mam John ab Meirig, Margaret, ferch Ieuan Fychan ab Ieuan ab Adda. Plant y Robert Owen uchod oeddynt John, yr hwn a fu yn wastrawd i Dywysog Condë, a'r hwn a werthodd ettifeddiaeth Bodsilin: Thomas, Robert, Owen, a William; ac o ferched, Ellen, yr hon a briododd Owen ab Huw ab Rhys ab Ieuan ab Dafydd Fychan.—Alis, yr hon a briododd William Bould ab Thomas Bould, o Gaer yn Arfon.—Mallt, Gras, ac Elsbeth. Mam John, Thomas, Ellen, Alis, a Mallt, oedd Anncs, ferch Sion Wyn ab Ieuan ab Sion ab Meredydd. Mam hono, Mallt, ferch Rhydderch ab Dafydd ab Ieuan ab Ednyfed. Mam y plant eraill oll ydoedd Lowry, ferch William Coetmor, ab William ab Pyrs ab Rhys ab Robert ab Ieuan Fychan. Mam hono, Siân, ferch William ab William ab William ab Gruffydd ab Robyn o Gwchwillan. Arfau Robert Owen o Bodsilin oedd Pais Hwfa ab Cynddelw.—-2 pais Cwchwillan.—3 pais Larddur. Oddiwrth yr achau uchod gwelwn fod gwaedoliaeth uchaf Gwynedd yn cyfarfod yn hen foneddigion. plwyf Aber.
Nid yw y pentref hwn ond bychan; na'r rhan fwyaf o'r anneddau ond salw yr olwg arnynt: ond y mae yn gorwedd yn ngenau glyn prydferth iawn, trwy yr hwn y mae yr afon Gwyngregyn yn llifeiriaw, gan ymarllwys i'r môr, ryw haner milldir islaw y pentref. Oddi yma ceir golygfa swynol ar Landudno, Ynys Seiriol, Penmon a'i Briordy henafol y Ffriars, Barnhill, Palas Syr Richard Bulkeley, Tref Beaumaris, a'i hen gastell; Dinas Bangor, a Chastell ysplenydd y Penrhyn: ac afon Menai, yn dryfrith gan agerfadau, a llestri hwylio o bob maintioli
O'r tu ol i'r pentref, y mae y glyn yn ymestyn. am oddeutu milldir a haner, rhwng bryniau uchel i fynwes mynydd-res fawreddog Eryri, ac o ganol y mynydd ceuawl sydd yn mhen uchaf y nant, y mae rhaiadr ardderchog yn disgyn ar ddau godwm: yr uchaf a dorir yn amryw ffrydiau, gan ei fod- yn cwympo ar draws ysgythrau y graig; a'r isaf sydd yn ymdywallt yn un len lydan o driugain troedfedd o uchder.
Y mae eglwys y Plwyf yma yn gyssegredig i Sant Bodfan, ac y mae yn ben adeilad ehang, a chlochdy, nendwr petryal da iddi. Y fywioliaeth sydd bersonoliaeth, yn Archddiaconiaeth ac Esgobaeth Bangor. Noddwr, Syr R. B. Williams-Bulkeley, Bar. Mae yma Ysgol ddyddiol berthynol i'r Eglwys, yn cael ei chynnal mewn Ysgoldy cyfleus, yr hwn a adeiladwyd yn y flwyddyn 1833. Y mae yn ddigon ehang i gynnwys 67 o blant i dderbyn addysg: ond nid yw y nifer cyffredin yn haner hyny, na'r addysg a gyfrenir ynddi ond lled salw, fel y gwelir wrth Adroddiad Dirprwywyr Addysg.
Y mae dau Addoldy Ymneillduol hefyd yn y pentref bychan hwn, yr isaf, yr hwn hefyd yw y mwyaf, yn perthyn i'r Trefnyddion Wesleyaidd; a'r uchaf, i'r Trefnyddion Calfinaidd. Nid yw y cynnulleidfaoedd yn lluosog yn y naill na'r llall; ac ni's gellir dysgwyl iddynt fod ychwaith, gan nad yw poblogaeth y lle, ond ychydig.
Ymddangosai Cân i'r Plwyf hwn, mewn rhifyn Diweddar o'r " Brython;" gan frodoro'r lle, debygem; yr hon y'n cymhellir i'w dodi i fewn yma, o herwydd ei bod yn cynnwys darluniad tra cywir o'r ardal
"O Aber ! mae d'enw mor swynol i'm henaid;
O'm calon y'th garaf tra b'wyf yn y byd:
Dy lethrau dryfrithir â gwaith ein henafiaid,
Gwrthgloddiau a chaerau, a çhestyll tra chlyd.
—Ei bannawg fynyddau,—noddfäau 'r hen Gymry,
Sy'n orwych ymgodi i'r cymmyl di ri;
—Y Llwydmor a'r Bere, mynyddoedd anwyl-gu,
Sy'n addurn i Aber, i brofi ei bri.
Helyntion fy maboed ymwthiant i'm golwg,
Nes berwi fy mynwes gan hiraeth yn gry;
A'm hnnwyl gyfoedion sy'n huno mewn trymgwsg,
Gynt chwerais a neidiais ar hyd y Ffrith Ddu:
Y campau bachgenaidd, a'r amryw wrhydri,
A wnaethum trwy gydol foreuol fy oes;
Y bryniau anwylgu, a'r creigiau uehel-fri,—
Y cyfati er's blwyddi o'm golwg a ffoes.
Ac yno mae palas yr hen Dywysogion
Fu'n llywio y Cymry er's cannoedd cyn hyn;
Llewelyn Fawr, enwog, hen Gymro twym galon,
A Dafydd ein brenin, fu'n hen Ben y Bryn; —
A dyma oedd palas ein T'wysog Llewelyn,
Llyw olaf y Cymry, hen elyn i drais;
Ond ga'dd ei fradychu yn Muallt:—Ow! gresyn,
A'i ladd yn y dyffryn gan gleddyf y Sais!
Uwchlaw y rhaiadrau, gwel, dacw y Bera,
Lle llechai ein Dafydd rhag cleddyf a brad;
Ond hela ein gwron â gwaedgwn wnaed yma,
A'i grogi, a'i ddarnio, ger gwydd yr holl wlad;
Yspeilio y Palas, a'n gwawdio ni gwedy'n,
Anrheithio ein broydd, a'n gosod yn gaeth:
Pa Gymro all garu hil Hengist fynydyn,
Pwyl ettyb yr adsain, tra'r eigion yn hallt!
Os oes i feib Hengist enwogrwydd a moliant,
Gwroldeb, beiddgarwch, nes synu y hyd;
Mae hil yr hen Frython yn uwch mewn gogoniant;—
O Aber ti fegaist wroniaid i gyd!
Beiddgarwch y Cymry sy'n deatyn ymddyddan.
A'u penderfynolrwydd sy'n syndod o hyd;
Dewr y'ut a diysgog ar faes y gyflafan,
Mae Cymry, bydd Cymry yn enwog trwy 'r byd.
Dy raiadr fawreddog, a'th ddyfroedd grisialog,
Sy'n llumu'n fwaog, gan ddyrnu y nant;
A dyfnder ar ddyfnder, sy'n galw 'n fawreddog,
Ryw fil-fil o leisiau, o fryn ac o bant;
A minnau wrth wrando y lleisiau lluosog,
Yn boddi mae fenaid yn nghanol y cor,
Ne's chwenych ymddiosg o'r babell ogwyddog,
A hedfan mewn nwyfiant i nefoedd fy Ior.
A Maes y Gaer enwog, a'r breichiau ysgythrog,
Sy'n dyrchu'n fawreddog i entrych y ne';
A rhwng eu cesseiliau rhed afon risialog,
Gan sisial, ri gweini i bawb yn y lle:
A'i meusydd mawreddog ddwg gynnyrch toreithiog;
Da corniog, a'i defaid o'r bron yu ddi ri':
Hirhoedlog ei meibion, a'r Duw Hollalluog
Roes arni yn enwog, o'i fawredd a'i fri.
A'r Domen henafol, lle bu ei thrigolion,
Yn chwareu eu campau difyrol heb ri';
A'r Eglwys a'r gladdfa, lle gorwedd ei meibion,
Sydd le cyssegredig ac anwyl i mi:
A Llyn Nant yr afon, a'i bysgod melynion,
Sy'n denu boneddion, finteioedd i'r fan,
I yfed ei ddyfroedd, a'i falmaidd awelon,
A gweled amrywion ddillynion ein Llan.
Dy geinion, O Aber! sy'n swyno fy nghalon,
Ti fegaist hoff feibion yr Awen yn wir;
A chewri o ddynion, fu'n sugno dy ddwyfron,
Sy'n awr dros yr eigion, yn addurn i'th dir.
Ar wyneb Amerig, mae rhai sy'n dy garu,
Ac yn Califfornia, rai ffyddlon a phur;
A thraw yn Awstralia, mae plant wnest eu magu,
Mae'th fechgyn, O Aber! ar wasgar yn wir.
O'r Mŵd a'i choed derw, ce's gân gan y cwcw,
A'r fwyalch fwyn hoyw, delora uwch ben;
A'r hen "Wern Grogedig," y lle neillduedig
Y bu yn grogedig, un Gwilym ar bren:
Ac annedd fy rhiaint, lle cefais fy magu
Yn dyner ac anwyl, heb brofi dim cam
A phan fyddwyf farw, O! doder fi i gysgu,
Dan gangau yr ywen, ger beddrod fy mam.
O Aber garth gelyn! meillionog ei dyffryn,
Hen gartref y delyn a'r awen yn wir;
Dy erddi toreithiog, a'th ddeildai goludog,
Palasau mawreddog sy'n addurn i'th dir;
Addoldai godidog i Dduw Hollalluog,
Moesoldeb a chrefydd, fo'n llenwi y fan;
Brawdgarwch ac undeb a fyddo'n flodeuog,
Dedwyddwch a heddwch byth. byth yn ein Llan.
Dy raiadr a'th geinion, sy'n denu boneddion,
Rhianod glan tirion, a Beirddion i'r fan:
A phenau coronog o'u llysoedd mawreddog,
I dalu ymweliad a llethrau ein Llan.
Pwy faidd fy nirmygu am i mi fawr garu,
Y fro ce's fy magu, a'm noddi rhag nam?
Boed llygaid y Duwdod yn gwylio fy ngwely,
Tra fyddwyf yn cysgu ger beddrod fy mam!
Glan Traeth Wylofain— Hu Eryri.
Nodiadau
golygu- ↑ Tybia rhai mai yn y fan lle y mae "Pen y bryn," Aber, yr oedd yr annedd Tywysogaidd yn sefyll; dywaid Leyland amdano fel hyn:— Yr oedd gan Llewelyn ab Iorwerth dy ar fryn mewn coed yn mhlwyf Aber ond, mae yn debyg mai y castell ar y bryn a elwir "y Mwd," oedd hwnw. I fynu yn y Cwm, y ffordd yr eir tua Bwlch-y-ddeufaen, yn agos i odreu y " Foel dduarth," y mae adfeilion hen adeilad fawr, ar ran o ba un y saif amaethdy bychan yn bresenol, a elwir "Hafod y Garth;" y mae yn debyg mai dyma y fan lle y Safai'r hen lys Tywysogaidd a elwyd Hafod-Garth-Gelyn: " o'r lle y dyddiai Llewelyn arnryw o'i Lythyrau, ac ysgrifau eraill: ac o fewn ychydig gannoedd o latheni i'r llannerch grybwylledig, rhyngddi âg Aber, canfyddir olion hen adeilad, a llannerch o dir a fuasai unwaith yn gauedig, yn ei hamgylchynu; ac y mae traddodiad yn mysg hen drigolion yr ardal, mai dyna lle y gorweddai y Llan a elwid Aber-garth-gelyn: a nodir llwybr yn cyfeirio oddiyno tu a'r Gyrn, Llanllechid, a elwir hyd heddyw, "Llwybr Gwilym, Offeiriad;" ffordd yr elai Offeiriad oddiyma, tua Bwlch yn Ylchi, lle debygid yr oedd eglwys arall, yn yr hon y gwasanaethai: ac y mae yn y fan hono adfeilion pentref lled fawr, yn uchel yn y mynydd- dir. Mewn perthynas— i Ben y Bryn, fe ddywedir fod un o henafìaid y diweddar Mr. Thomas, Coedalun, neu, "Goed Helen," gerllaw Caer-yn-Arfon, wedi cael arglwyddiaeth Aber, a'r tiroedd cylchynol, yn wobrwy am ei wroldeb yn mrwydr Zutphen; ac i'w fab adeiladu Pen y Bryn yn breswylfa iddo ei hun, yn ol rhyw gynllun tramor a dynasai ei sylw. Efe hefyd, meddir, a roddes y tir sydd yna perthyn i bersondy Aber, i fod at wasanaeth offeiriaid y lle hyd byth. Ond, dywedir fod Syr Richard Bulkeley, yr hwn oedd yn uchel yn ffafr y frenines Elizabeth, wedi trawsfeddianu y faenoriaeth yma oddiar y perchenogion cyfiawn, trwy ryw ystrywiau. Canfyddwn yn achau boneddwyr Coed Helen, enw un, "Syr William Thomas, o Aberglasney, Marchog o Ryfelwrth yr hyn efallai, yr awgrymir ei fod wedi cael yr anrhydedd hwnw, fel gwobrwy rhyw orchestwaith milwraidd. Yr oedd y boneddwr uchod yn Siryf swydd Gaerynarfon yn y flwyddyn 1539. Ei fab, Rhys Thomas, Ysw. a briododd Jane. ferch Syr John Pulestone, Marchog, a gweddw Edward Gruffydd, Ysw., o'r Penrhyn, gerllaw Bangor; ac efe a fu yn Siryf swydd Gaerynarfon yn y flwyddyn 1574.
- ↑ Tair mil, medd rhai, yr hyn sydd yn fwy rhesymol—Woodward's Wales, p. 351.
- ↑ Rymers Feodera, voi. ii. p. 227.
- ↑ Gwel EGLWYS RHOS, a LLANRHOS.
- ↑ Y mae eraill yn honni mae Cadwgan Ffôl a ganodd yr
englyn pan y daeth y Saeson trwy Gonwy i ymladd a'r Cymry,
ac eu boddwyd ger Deganwy; ac mai fei hyn yr oedd yr englyn:—
"Llawer brân sy'n eisiau i'r brenin heddyw;
Hawdd gallwn chwerthin;
Llawer Sais, leubais libin,
A'r grô yn dô ar ei din." - ↑ Bu Meirig ab Llewelyn farw yn y flwyddyn 1530. Cynrychiolwyd ef a'i dad a'u gwragedd mewn gwydr lliwiedig yn ffenestr Eglwys Ael neu Langadwaladr yn Mon