Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol Cyf I/Rhagymadrodd

Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol Cyf I Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol Cyf I

gan Owen Jones (Meudwy Môn)

Rhestr o Ddarluniau

RHAGYMADRODD.

—————————————

Y GWAITH hwn, sydd weithian wedi ei orphen, a amcanwyd i wasanaethu fel llyfr cyflawn o hyfforddiad cyffredinol ar bob peth o ddyddordeb dwfn mewn cyssylltiad â'r Dywysogaeth, dan y penau Hanesyddiaeth, Parthofyddiaeth, a Buchofyddiaeth.

Mewn HANESYDDIAETH, cynnwysa eglurhad byr a dyddorawl ar yr holl amgylchiadau mwyaf cyhoeddus yo Hanesiaeth Wladol a Milwraidd, Crefyddol a Chymdeithasol y Genedl; ac yn wasgaredig trwy y rhai hyn, neu dan benau annibynol, rhoddir adroddiadau helaeth am frwydrau, Cylafareddau, Henafiaethau, Defodau ac Arferion, Iawnderau a Rhagorfreintiau, Sefydliadau Cyhoeddus, Urddasau ac Uchel-swyddau Gwladol ac Eglwysig-mewn gair, pob peth pwysig sydd yn cyfansoddi yr hyn a elwir yn gyffredinol HANESYDDIAETH.

Mewn PARTHOFYDDIAETH, rhoddir darluniad gwahanredol o holl siroedd Cymru, Dinasoedd, Bwrdeisdrefi, & Threfydd Corphoriaethol a Marchnadlol, Plwyfau, Capeloriaethau, a Threfgyrdd; ac mewn cyssylltiad a'r rhai hyn, rhoddasom eglurhâd ar y lluaws Gweddillion Henafiaethol a ffurfiant arweddau mor hynod mewn llawer parth o'r wlad; ac o amgylch pa rai y cyd ymdyrra adgofion o ddyddordeb lleol a chyffredinol tra mawr;-o'r cyfryw y mae Meini Derwyddol, Hen Gladdfeydd, Amddiffynfeydd, Cestyl, Gwersylloedd, Mynachlogydd, Palasau, &c.

Mewn BUCHOFYDDIAETH, rhoddwyd hysbysiaeth am y rhai enwocaf a addurnasant frutiau y Dywysogaeth, ar y Maes ac yn y Cynghor-lys, yn yr Eglwys a'r Wladwriaeth; ac yn llwybrau Llenoriaeth; yn enwedig mewn Barddoniaeth a Cherddoriath. Rhoddir hysbysrwydd hefyd am hen deuluoedd pendefigaidd Cymru, a'u tras.

Yn yr amryfal Ddosparthiadau hyn, cawsom gynnorthwy amryw o brif Lenorion y Genedl, megys y diweddar Barch. J. Emlyn Jones, LL.D.; y Parch. Richard Parry (Gwalchmai); y Parch. Thomas Levi; y Parch. J. Spinther James; Mri. D. W. Jones (Dafydd Morganwg); J. Jas. Hughes (Alfardel); W. C. Davies, &c. &c.

Byddai enwi yr holl lyfrau yr ymgynghorwyd â hwy yn mharottöad y Gwaith hwn, yo gofyn mwy o ofod nag a allwn ei hebgor; digon yw dywedyd, nad esgeuluswyd yr un o unrhyw deilyngdod, y gwyddem am danynt, ar y gwahanol destunau.

Gan fod rhai cyfeillion galluog, y rhai ar gyfrif manteision arbenig a feddent, a gymhellasid i ysgrifenu ar destunau neillduol, ac a addawsent wneyd hyny, wedi eu lluddias gan ryw achosion i gyflawni eu haddewidion o fewn unrhyw yspaid rhesymol, bu raid i'r Golygydd o'r herwydd adael allan ychydig erthyglau oeddynt yn ei Gynllun ar y dechreu, megys Esgobyddiaeth a Methodistiaeth Wesleyaidd yn Nghymru.

Gan na chyhoeddwyd Gwaith cyffelyb i hwn o'r blaen yn yr iaith Gymraeg, nid yw yn rhyfedd os canfyddir fod yma rai diffygiadau, ac weithiau fe ddichon, gamgymeriadau; ond yr ydys yn hyderus nad ydynt yn lluosawg, nac yn bwysig.

Gan fod y Gwaith hwn wedi ei amcanu mewn rhan i fod yn Gronfa o ddefnyddiau at wasanaeth Haneswyr dyfodol, y mae yn llawen genym gael lle i gredu, trwy hysbysiadau a'n cyrhaeddasant o wahanol gyfeiriadau, ei fod eisoes wedi bod yn foddion i gymhell amryw i gymeryd mwy o ddyddordeb yn Hanes eu Cenedl, a Henafiaethau eu Gwlad; fel y mae lle i obeithio y bydd i lawer o'r Olion henafiaethol ydynt yn wasgaredig dros wyneb y Dywysogaeth, ond hyd yma yn ddi sylw, gael eu dwyn i oleuni, a thrwy eu holrhain yn ofalus, y gallant wasanaethu i egluro ein Hanesiaeth foreuol yn gyflawnach a mwy boddhaol.


Y GOLYGYDD.