Cymru Fu/Cae'r Melwr
← Bedd yr Yspeilydd | Cymru Fu Cae'r Melwr gan Isaac Foulkes Cae'r Melwr |
Gwrtheyrn → |
CAE'R MELWR.
[Yr ydym yn dyfynu y chwedl ganlynol o waith yr ysgrifenydd gwir dalentog hwnw Salmon Llwyd, a ymddangosodd yn y cyhoeddiad rhagorol Y Brython, gan deimlo yn hyderus y ca pob Cymro o chwaeth ddywenydd wrth ei ddarllen. Y chwedloneg oreu a feddwn yn yr iaith Gymraeg ydyw.]
Er ys llawer blwyddyn hirfaith, wrth danllwyth mawr o fawn, ar aelwyd gynhes Ty'n y Ddol, yn Mlaenau
Ffestiniog, yn ystod hirnos gauaf, adroddid chwedlau a chofianau gan hen Gymro syml, a elwid gan ei gydletywyr, Yr Hen Dyn y Cefn.
Ei chwedl hoffaf bob amser oedd yr un ag yr ydwyf fi yn bwriadu ei gosod o flaen y darllenydd. Nid anfuddiol feallai, fyddai dyweyd pa fath un oedd yr adroddwr. Dyn bychan, caled, gweithgar, a'i fryd yn llawn o'r hen chwedlau dyddanus a glywsai pan yn las hogyn gweini yn Nolwyddelen oedd y dyn; a choeliaf nadoedd dim yn hyfrytach ganddo na chlywed son am y pethau rhyfedd a barddonol hyny — y pethau diniwaid a phleserus a fuont unwaith yn cysegru yr aelwyd fynyddig, ac yn enyn awyddfryd arbenig yn meddyliau y rhai a eisteddent i wrando ar y cyfryw. Byddai, ar ol i lafur ei ddiwrnod ddybenu, yn nghanol mwg cudynog ei bibell, mor ddedwydd, ie, yn llawer mwy dedwydd, yn yr hen gader freichiau o dan fantell simddai, na'r un tywysog a fedd y byd, ar ei gedau gwych a'i glustogau esmwyth. Ei ddwy goes ar draws eu gilydd, a'i ddwylaw o dan ei gesail, ac yn haner cau ei lygaid, dechreuai fel hyn: —
Yr oedd ryw dro er ys talm ŵr a gwraig yn byw mewn lle bychan yn nyffryn Llanrwst, o'r enw Cae'r Melwr. Eu heiddo hwy oedd y fau. Yr oedd ar eu tir amryw fythynod neu bentai. Byddai son mawr gan bawb y ffordd hono am arian y bobl hyn. Ni bu ganddynt ond un ferch ar eu helw, ac nid oedd dim diwedd ar y tynerwch a'r serch anwylgu a ddangosid i obaith eu hyfrydwch. Yr oedd yr eneth hefyd yn un dlos odiaeth, ac yr oedd caredigrwydd hyfwyn a thiriondeb hyweddus, yn addurn iddi, yn gystal a gwynder ei chroen a gwrid ei gruddiau crynion. Yr oedd mewn bwthyn ar y tir wreigan weddw yn byw, ac iddi yr oedd un bachgen bochgoch, bywiog, chwareus. Byddai'r plant bob dydd efeo'u gilydd, ac nid oedd neb yn fwy ei barch yn Nghaer Melwr na Jack (oblegyd dyna oedd enw mab y wedw). Aeth amser chwareu heibio, ac yr oedd yn rhaid meddwl am anfon Elen merch Cae'r Melwr, i'r ysgol i Lanrwst, at ryw hen ferch foneddig oedd wedi myned trwy ei chyfoeth.
Gan fod Ele yn un led ofnus, ac yn hytrach yn foethus hefyd fwy na heb, daeth i feddwl yr hen fachgen wneud lle Jack yn yr Ysgol Rad, fel ag y byddai iddo fod yn gwmni i'r eneth i fyned a dyfod. Anfonwyd y ddau yno, a buant yn cyrchu hefo'u gilydd i'r ysgolion am rai blynyddoedd; ond aeth amser ysgol drosodd ar Jack, druan. Cyflogwyd ef yn was bach gan ŵr Cae'r Melwr, bu yno am lawer blwyddyn, a phob pen tymhor caffai godiad. Daeth o fod yn Was bach i fod yn eilwas, ac erbyn iddo dyfu yn llanc ugain oed, cafodd ei wneud yn hwsmon Cae'r Melwr. Yr oedd ei hen fam weddw yn mawr lawenhau -wrth weled ei phlentyn yn esgyn i fynu mor rhwydd; ac yr oedd ei weled yn hwsmon mor ieuanc, i'w golwg hi, yn gymaint peth a phe buasai wedi enill haner teyrnas. Anfonwyd Elen i Loegr i ddysgu Saesneg; ac erbyn iddi ddyfod yn ol yn mhen y flwyddyn yr oedd Jack wedi dyfod yn ddyn mawr iawn efo'i thad a'i mam, ac yn cael ei ystyried yn un o'r dynion mwyaf llygadog a chall yn yr hôll Ddyffryn. Yr oedd yn well am amaethu na neb yn y fro, ac nid peth. hawdd fyddai cael undyn a'i curai am brynu a gwerthu. Gwaith hen ŵr Cae'r Melwr oedd ei ganmol yn mhob cyfryw fan, Sul a Gwyl, a choeliai nad oedd yn y wlad nac ail na chymhar iddo. Yr oedd hithau yr hen wraig hefyd yn hoff hyn od o sôn am Jack ni. Dywedai yn fynych pan elai i Lanrwst mai efe oedd y bachgen goreu o Gaer i Gonwy.
Edrychai Elen arno fel ei chyfaill anwylaf; ac o'r braidd nad ellid ffansio fod rhywbeth rhwng y ddau. Yr oedd gweddw dlawd y bwthyn llwyd gerllaw yn cael cwmpeini y ferch ieuanc yn bur aml, ac nid anfynych y byddai y chwedl yn disgyn am Jack. Dechreuodd pobl y wlad hefyd siarad; a pha beth sydd mor dafodrydd a gwlad pan ddechreu hi ar y gorchwyl? Yr oedd tipyn glew o genfigen yn gymysg a'r cwbl; a pha offeryn llymach a mwy gwenwynig a fedd uffern? Dechreuwyd yn dew ao yn deneu ddywedyd fod Jack yn caru Elen; a daeth y sŵn i glustiau yr hen bobl. Ni wyddent ar faes medion y ddaear pa beth i'w wneuthur. Nid oeddynt yn foddlawn i'w merch — y brydferthaf a'r dirionaf yn y wlad — briodi y gwas. Yr oeddynt yn rhyw ddirge ddysgwyl y deuai rhyw gŵr boneddig, ac y gwelai wyn ar eu merch, ac y caent cyn myned i dŷ eu hir gartref yr hyfrydwch o weled eu hanwyl Elen yn wraig fawr. Yr oedd ei glendid a'i chyfoeth, yn nghyda'i challineb, yn rhyw fath o ernes hefyd mai felly y troai pethau allan. Mwyfwy oedd y twrf, a gofynid i'r hen ŵr beunydd a oedd ei ferch wedi priodi y gwas? Digiai yr hen fachgen drwyddo pan glywai sôn; a llawer gwaith, er mwyn ysmaldod, y gofynwyd y gofyniad iddo. Byddai gŵr Cae'r Melwr yn arfer myned i Wydir i giniawa yn lled fynych. Tua'r amser dan sylw digwyddodd fod yn y lle olaf a enwyd ŵr boneddig o Loegr, ac nid oedd na byw na bywyd os na chai hwsmon Cae'r Melwr i fyned gydag ef i'w wlad oblegyd yr oedd y deisigwair, a'r cyrneni, a'r mydylau ŷd, mor hardd fel ag yr oedd wedi pendroni hefo'u taclusrwydd. yr oedd wrth hela ryw ddiwrnod hefyd wedi gweled Jack, a thaerai na -welsai yn ei oes lanc mwy golygus a glandeg. Ni fynai ei feistr sôn am adael i'w hwsmon fyned ymaith; ond troai ysgweier a Barwn Gwydir arno yn ddigydwybod. Addawodd yntau y gwnai siarad efo Jack yn nghylch y peth, ac y ceid ateb dranoeth. Rywbryd yn y nos yr oedd gŵr Cae'r Melwr yn niyned adref, a siaradai wrtho ei hun. Dywedai, "Dyma'r peth oedd arnaf eisieu. Fe aiff Jack i ffwrdd. Mi fedraf weithian dori pob cysylltiad rhyngddo ac Elen. Gwas da oedd o; ac ydyw hefyd o ran hyny. Colled fawr i mi fydd ei golli; ond beth os ydyw y twrf amdano ef ac Elen yn wir? Rhaid gwneud rhywbeth." Fel yna y siaradai ar hyd y ffordd. Cyrhaeddodd Gae'r Melwr. Nid oedd yno ond Jack- ar ei draed. Ar ol canu "Nos da'wch," aeth i'r tŷ ac i'w wely, i gael dywedyd wrth yr hen wraig yr ymddiddan. Dechreuodd ar ei chwedl cyn cyrhaedd y llofft, a mawr fu'r gyfrinach a'r cynllunio. Dywedent wrth eu gilydd, "Peth garw fydd colli'r hwsmon goreu yn y wlad. Beth os mai celwydd noeth ydyw'r cwbl hefog Elen? ond helynt gwyllt fyddai iddo hudo yr eneth. Gwas ydyw."Penderfynwyd rhoi'r cynyg iddo fore dranoeth; ac felly fu hi. Dywedodd Jack yn ddibetrus fod yn dda ganddo gael y fath gynyg, a diolchodd yn wresog i'w feistr am ei ewyllys da. Aeth yr hen ŵr i Wydir yn ebrwydd i hysbysu y Sais y deuai y llanc. Nid oedd ond deuddydd i wneud parotoadau. Aeth y si ar led ei fod yn myned i ffordd; ac nid oedd gan ei hen fam weddw ond erfyn am nawdd iddo yn ymbilgar o flaen yr orsedd hono — o flaen yr Un Hwnw a wrendy ochenaid ei ffyddloniaid o ddyfnder ing a chymylog leoedd trallod! Yr oedd ei deimladau yntau yn dadmer. yr oedd ei wyneb yn foddfa o ddagrau cysegredig cariad pur. Gweai myrdd o bethau o flaen ei lygaid, fel mân wybed Mehefin. Ac yr oedd un arall heb fod yn nepell a'i chalon fel ffynon oer yn y gauaf. Gwelir hono yn mygu pan fydd yr eira yn gnwd tew o'i chwmpas; ac ni rewa hon pan fydd y llynoedd llonydd yn gloedig gan loyw ddu iâ. Felly calon Elen; er bod gauaf cariad wedi dyfod ati, yr oedd llygedyn byw ei serch mor lân a chlir ac erioed. Aeth Jack i ffwrdd. Clywid yn fawr ar ei ol; ond ni chlywid merch Cae'r Melwr ar un cyfrif yn sôn gair amdano. Ar ol cyrhaedd pen ei daith, ac ymsefydlu yn ei le newydd, gyrodd lythyr adref at ei fam, a chofiai at ei hen gyfeillion "yn fawr, ond dim cymaint a sill am Elen. Dywedai yr hen ŵr wrth yr hen wraig ryw ddechreunos wrth y tân: — " Nid oedd "dim gwir yn y chwedl fod Jack ac Elen yn caru, onide nid aethai byth i ffwrdd fel yr aeth. Rhyw chwiwladron oedd yn cenfigenu wrtho ef a minau." "Nac oedd, O, nac oedd," meddai hithau, "ac y mae'r plant gwirion wedi ofni cymaint fel na fydd Elen un amser yn sôn dim amdano ef, ac ni soniodd yntau ddim gair am dani hithau, yn ei lythyr; ac yr oedd o yn ein henwi ni ill dau." " Rhyfedd iawn, a rhyfedd iawn fel pe tae," ebai yr hen ŵr: "celwydd digywilydd oedd o: yr wyf yn siwr "dda ddigon mai Dafydd Sion Rhys, Pen Isaf y Dref, a ddyfeisiodd y cwbl."
Aeth amser yn ei flaen. Gollyngwyd Jack yn annghof cyn pen hir, oddieithr gan ei fam weddw a —— a phwy?
Cawn weled cyn y diwedd.
Yn mhen llawer o flynyddoedd — dyweder saith mlynedd — daeth i Wydir fab i iarll Northampton i aros. yr oedd rhyw giniaw mawr yno un noson, a gwahoddesid holl foneddigion a boneddigesau y gwledydd yno, ac yn eu mysg Elen, aeres Cae'r Melwr. Dechreuwyd yn yr hwyr ganu a dawnsio; ond nid oedd neb i'w chystadlu â'r rhian brydferth hon. Yr oedd cymaint o wahaniaeth rhyngddi a phob un arall yn y lle, ag sy rhwng afallen sur a phren afalau pêr. Syrthiodd y Sais tros ei ben a'i glustiau i gariad. Cafodd air â hi; ac yr oedd ei geiriau iddo fel cawodydd maethlawn Mai ar sypiau briallu haner crispiedig. Bod yn agos iddi oedd ei wynfyd; clywed ei llais oedd ei beroriaeth; edrych ar ei hystum lluniaidd oedd ei benaf hyfrydwch. Meddwai ei lygaid ar ei phrydferthion, a gwleddai ei galon ar ei thlysni; nid oedd eisieu bod yn ddewin i ganfod teimladau serchus y boneddwr, ac erbyn haner dydd dranoeth yr oedd sôn dros bob man fod Elen Cae'r Melwr a'r gŵr boneddig mawr yn caru. Ymsythai yr hen ŵr, ac ymsioncai yr hen wraig wrth wrando ar eu cymydogion yn cyfarch gwell iddynt ar gorn y newydd da. Bob dydd byddai y gŵr ifanc yn unioni am Gae'r Melwr, a phan âi'r hen ŵr i'r dref, yr oedd pawb yn cymeryd gofal dwbl i ddangos eu parch iddo. Dechreuodd y wlad son am ddydd eu priodas, a chyn pen rhyw lawer o amser daeth y ffug yn fiaith. yr oedd y diwrnod wedi cael ei benu. Aeth y boneddwr adref i Loegr i ymweled â'i deulu a'i gyfeillion cyn newid ei fyd, ac hefyd i wneuthur y darpariadau gogyfer â'r adeg ddedwydd hono — y diwrnod dysglaer hwnw, pan fyddai Elin o Walia yn flodyn têg yn ngardd y Sais uchelfri. Dyrwynodd amser yn mlaen, a phob nos a dydd dynesai yr awr iddynt gael eu —
"Huno yn hyfwyn wrth allor y llan."
Oblegyd amgylchiadau teuluaidd ni fedrodd y boneddwr gychwyn mor brydlawn ag y dymunasai o'i wlad. Ond anfonodd ei gyfeillion o'i flaeu, ac yn Ngwydir yr arosent oll. Nid oedd Elen byth bron yn dyfod allan. Diwrnod cyn dydd y briodas, yr oedd mab larll Northampton yn cychwyn o Langollen yn lled fore, a dau was gydag ef ar gefn ceffylau mawrion. Pan newydd adael y llan, goddiweddasant ŵr boneddig urddasol yn marchogaeth ar hyd yr un ffordd. Ar ol dangos arferion moesgarwch tuag at eu gilydd, gofynai mab yr iarll i'r boneddwr dyeithr, a oedd efe yn myned yn mhell ar hyd y ffordd hono. Atebai yntau ei fod. Gofynodd iddo drachefn, pa mor belled. " Hyd yn Nghapel Garmon, ar bwys Llanrwst." Pan ganfu hyny, dechreuodd ddywedyd mai i le o'r enw Gwydir yr oedd yntau yn myned, ac y gobeithiai y caent gyd-deithio; ac os byddai galwad, y caent achub cam eu gilydd, "oblegyd," meddai, "y mae llawer o ladron y ffordd yma." Myned yn mlaen yr oeddynt, ac o'r diwedd dechreuodd y Sais adrodd wrth ei gyd-deithydd helynt ei feddwl — ei fod yn myned i briodi un o'r morwynion glanaf a welodd llygad dyn erioed — fod y briodas i gymeryd lle dranoeth. Nid oedd dim gair yn dyfod allan o'i enau am hir filldiroedd meithion ond canmoliaethau parhausi'r fun lanwedd o Gae'r Melwr, neu'r friallen ddiwair o Ddyffryn prydferth Llanrwst. Ar ol blino yn canmol, gofynodd o'r diwedd a wnai ei gyd-deithydd ddyweyd tipyn o'i hanes yntau. "Gwnaf, yn union," ebai, " oblegyd y mae yn ddyledus arnaf wneud hyny tuag at un sydd wedi bod mor galon agored tuag ataf. Saith mlynedd yn ol gadewais rwyd ar fy ol yn nghwr Dyffryn Conwy, ac yr wyf yn myned yno yn awr i edrych a ddeil hi i'w chodi."Chwarddai mab yr larll am ben y fath ynfydrwydd, a lled dybiai fod ei gyfaill yn dechreu gwirioni. Yn mlaen yr aed, a chyrhaeddwyd Capel Garmon yn ngwyll y nos. Ysgydwyd law yn serchog, a chanasant yn iach, gan ddymuno llwydd i'w gilydd. Aeth mab yr larll yn mlaen i Wydir, ac arosodd yr hwn a drafaeliai gydag ef mewn tŷ tafarn bach yn y pentref dan sylw. Ar ol bod yno ychydig fynydau, holodd am. yr offeiriad, ac aed i ymofyn ef at y gŵr boneddig yn ddiymdroi. Daeth yntau yno, a bu yn siarad am awr neu ddwy gyda'r gŵr boneddig dyeithr, a dywedodd wrtho am briodas merch Cae'r Melwr, a soniodd rywbeth am Jack. Dywedodd y gwr boneddig wrtho o'r diwedd fod arno ef eisieu cael ei briodi cyn dydd bore dranoeth. ac y rhoddai iddo ddeg gini melyn os y gwnai. Ni faliai yr hen offeiriad ddim llawer mewn na rheol na pheth; cytunodd i wneud rhag blaen; sef am chwech o'r gloch yn y bore.
Ymadawodd y ddau am y noson hono. Aeth y boneddwr yna allau, a bu o'r tŷ am tuag awr, ond daeth yn ei ol a boneddiges gydag ef. Gadawodd hono yno ei hun drachefn, ac aeth ymaith yr ail waith. Aeth at Gae'r Melwr, a churodd wrth y drws; cyfododd yr hen ŵr yn llawn ffwdan. Adnabu lais Jack-. Dywedodd yntau ei neges yn ddiseibiant, sef bod merch ei feistr ganddo yn Nghapel Garmon, a'i fod am briodi yn fore iawn y dydd hwnw (oblegyd yr oedd hi erbyn hyn yn dri o'r gloch y bore). Gofynai hefyd a ddeuai yn was priodas i'w hen was bach. O! deuai rhag blaen. Rhoes beth amdano ynbur ddel; ond nid y dillad newydd tanlliwerai a gawsai gogyfer a, phriodas Ellen. Aethpwyd tua Chapel Garmon; ac wrth fyned, dywedai yr ben ŵr lawer byd o helynt y briodas oedd i fod yno, a gwahoddai Jack a'r wraig yno i dreulio y diwrnod yn llawen a llon hefo nhw. Cyrhaeddwyd y tŷ tafarn, ac erbyn iddynt fyned i'r tŷ, yr oedd yr offeiriad a'r clochydd yn disgwyl er ys awr neu chwaneg. Caed cornaid o ddiod dda, ac yna aed rhag blaen i'r eglwys. Merch y dafarn yn forwyn briodas, a'r Person yn sefyll yn lle gwas, a ben ŵr Cae'r Melwr yn rhoddi'r ferch! Priodwyd. Llwyddai yr ben ŵr y ddau mewn Saesneg clapiog o flaen y person hyd yn nod; a dywedai fod yn rhaid iddo frysio adref. Ond erfyniodd âr Jack fod yn sicr o ddyfod yno i'r briodas. Aeth adref a dywedodd •wrth yr hen wraig pa fath ddynes hardd oedd gwraig Jack. Ond ni welodd mo'i gwyneb unwaith, er iddi roddi cusan iddo wrth borth y mynwent pan oedd o'n dwad adref. Seisnes oedd hi. Mawr oedd y dwndwr yn Nghae'r Melwr y bore hwnw. Pawb yn llawn ffwdan: pawb yn paratoi. Yr oedd yn ddiwrnod braf yn niwedd Hydref, a'r haul yn loew-ddysglaer yn tywallt ei belydron ar fryn, dyffryn, a dôl. Disgwylid i Elen godi; ond nid oedd dim hanes o honi. Disgwyl y buwyd, ond dim na siw na miw o'i thwrf. O'r diwedd penderfynwyd myned i fynu ati i'w chysuro, rhag ofn ei bod yn ddigalon. Daeth y morwynion priodas yno — chwech o forwynion cyn glysed ag a welwyd yn Ngwynedd er dyddiau Morfudd; ond nid oedd Elen wedi dyfod i lawr. Aed i'w hystafell wely: ond nid oedd yno ond cais lle bu. Yr oedd pawb yn synu, rhai yn gwaeddi, eraill yn tywallt dagrau, a'r hen ŵr a'r hen wraig, un o bob tu'r tân, yn fudanod. "Wel," ebai'r hen ŵr, "mi welaf sut y mae hi. Mi rois fy merch â'm llaw fy hun heddyw y bore." "Na faliwch," ebai yr hen wraig, "os na chafodd fab larll, fe ga'dd DDYN." Anfonwyd i'w chyrchu adref, a gorfu ar y Sais, druan, fyned i'w wlad heb Elen. Cae'r Melwr, oblegyd yr oedd wedi priodi Jack. Felly yr eglurhâwyd dameg y rhwyd, yr hon a draethodd Jack wrth y Sais, druan, pan yn cyd-deithio y noson cynt. Daethant eu deuoedd yn dalog adref ar ol cael eu gwahodd, ac ni bu neb dedwyddach yn nglân ystad priodas erioed na'r ddeuddyu hyn; ac ni bu edifar gan hen ŵr Cae'r Melwr roddi ei ferch i Jack.
Dyma chwedl Cae'r Melwr, medd ———— Salmon Llwyd.