Cymru Fu/Chwedl Rhitta Gawr

Ystori Doctor y Benbro Cymru Fu
Chwedl Rhitta Gawr
gan Isaac Foulkes

Chwedl Rhitta Gawr
Ceubren yr Ellyll

CHWEDL RHITTA GAWR

.

DAU frenin a fu gynt yn Ynys Prydain, sef oedd eu henwau Nynniaw a Pheibiaw; a'r ddau hyn yn rhodio'r maesydd ar un noswaith oleu, serenog, ebai Nynniaw: "Gwel pa ryw faes helaeth a theg sydd genyf fi."

Peibiaw. "Yn mh'le y mae?"
N. "Yr holl wybren."
P. "Gwel dithau y maint o ddâ a defaid sydd genyf fi yn pori yn dy faes di."
N. "Yn mh'le y maent?"
P. "Yr holl sêr a weli di, yn aur tanlliw bob un o honynt, a'r lleuad yn fugail arnynt, ac yn eu harail."
N. "Ni chant ddim aros yn fy maes i."
P. "Hŵy a gânt."
"Na chant," ebai y llall, wers-tra-gwers, onid aeth hi yn gynhen gwyllt a therfysg rhyngddynt; ac yn y diwedd, o ymryson, myned i ryfel ffyrnig, oni laddwyd gosgordd a gwlad y naill a'r llall yn agos oll yn yr ymladdau.


A chlywed a wnaeth Rhitta Gawr, brenin Cymru, maint y galanastra a wnaeth y ddau frenin anmhwyllgar hyny, a bwriadu a wnaeth efe ddwyn cyrch a gosod yn eu herbyn, a gwedi myned wrth farn a rhaid ei wlad a'i osgorddion, cwnnu a wnaethant a myned yn erbyn y ddau frenin anmhwyllgar a aethant fel y dywespwyd wrth ddifrawd ac anrhaith, gan ddychymygion o wallgof, a'u gorthrechu a wnaethant, ac yna tori ymaith eu harfau a wnaeth Rhitta. A phan glybu y rhai eraill o wyth brenin ar hugain Ynys Prydain y pethau hyn, ymgynull a wnaethant eu holl osgorddion, er dial sarhâd y ddau frenin eraill a ddifarfwyd, a dwyn cyrch a gosod ar Ritta Gawr a'i wŷr ac ymladd glewdaer a fu o bob tu; ond Rhitta a'i wŷr a gawsant y maes. "Llyma fy mawr inau," ebai Rhitta "; ac yna difarfu yr holl frenhinoedd eraill a wnaethant ef a'i wŷr. A breninoedd yr holl wledydd eraill cylch-ogylch a glywsant hyn, ac er sarhâd y breninoedd a ddifarfwyd, ymarfogi yn erbyn Rhitta Gawr a'i wŷr a wnaethant; a thaer a glew y bu yr ymladd, ond Rhitta a'i wŷr yn enill y maes yn bensych. " Llyma'n maes helaeth a theg ninau!" ebai Rhitta; a difarfu yr holl freninoedd hyny hefyd a wnaeth Rhitta a'i wŷr. "Llyma'r anifeiliaid a borasant fy maes i,"ebai Rhitta wrth y breniuoedd anmhwyll 'hyny, "ac mi a'u gyrais hwynt allan oll — ni chânt bori fy maes i." Gwedi hyny y cymerwys Rhitta yr holl farfau hyny, ac a wnaeth o honynt ysgin helaeth o ben hyd sawdl; a gŵr oedd efe gymaint a'r ddeuwr mwyaf a welwyd erioed. A gwedi hyny y gwnaeth efe a'i wlad yn gyntaf a'r a wnaethpwyd erioed o'r fath, drefn a deddf wrth gyfiawnder a phwyll rhwng brenin a brenin, a gwlad a gwlad, yn holl Ynys Prydain, a'r Werddon, a Llychlyn, a'r Almaen, a thir Gâl, a'r Yspaen, a'r Eidal. A hoed byth y cadwer y drefn hono er gwrthladd y cyfryw freninoedd y soniwyd am danynt, rhag myned i ryfel mwyach lle na bo rhaid na chyfiawn achos. Amen. A phoed felly y bo tros byth.

Ac felly y terfyna Chwedl Rhitta Gawr.
Iolo Manuscript.