Cymru Fu/Hen Benillion

Hen Lanciau Clogwyn y Gwin Cymru Fu

gan Isaac Foulkes

Mân-gofion 3


HEN BENILLION

Pan eis I i fyw yn gynil, gynil,
Fe aeth un ddafad imi'n ddwyfil;
Pan eis I i fyw yn afrad, afrad,
Fe aeth y ddwyfil yn un ddafad.


Pan oeddwn gyfoethog cyn myn'd yn dylawd,
Yr oeddwn yn gâr ac yn gefnder i bawb;
Pan eis yn dylawd ac i fyw mewn dyled,
Nid oeddwn yn gâr na chefnder i neb.


Da gan ddiog yn ei wely
Glywed swn y droell yn nyddu;
Gwell gan inau, dyn a'm helpo,
Glywed swn y tannau'n tiwnio.

O, fy anwylyd! tyr'd ar gais
I wrando llais yr adar,
Lle mae'r llanerch deca' roed,
Tan gysgod llingoed Llangar.

Myn'd i'r ardd i dori pwysi,
Pasio'r lafant, pasio'r lili,
Pasio bwnsh o rosys cochion—
Tori bwnsh o ddeiliau poethion.

Pan brioda Sion a minau
Fe fydd cyrn ar benau'r gwyddau;
Ieir y mynydd yn blu gwynion,
Ceiliog twrci fydd y Person.

Gwyn ei fyd na lwfiai'r gyfraith
I'm briodi dau ar unwaith;
'Rwyf yn caru dau 'run enw,
Sion ŵr ifanc, Sion ŵr gweddw.

Gwyn ei fyd na fedrwn hedeg
Bryn a phant a goriwaered,
Mynwn wybod er eu gwaetha'
Lle mae'r gog yn cysgu'r gaua'.

Yn y coed y mae hi'n cysgu,
Yn yr eithin mae hi'n nythu;
Yn y llwyn tan ddail y bedw,
Dyna'r fan y bydd hi farw.

Tebyg yw y delyn dyner
I ferch wen a'i chnawd melusber;
Wrth ei theimlo mewn cyfrinach,
Fe ddaw hono'n fwynach, fwynach.

O, f'anwylyd, cyfod frwynen
Ac ymafael yn eu deupen;
Yn ei haner tor hi'n union,
Fel y toraist ti fy nghalon


Na chais it' wraig o ferched Heth,
Nid yw ond peth anweddus;
Cais un o dylwyth tŷ dy dad,
Os ceisi râd priodas.

Dacw nghariad ar y dyffryn,
Llygaid hwch a danedd mochyn;
A dau droed fel gwadn arad',
Fel dallhuan y mae hi'n siarad.

Dacw nghariad ar y bryn,
Rhosyn coch a rhosyn gwyn;
Rhosyn coch sy'n bwrw'i flodeu,
Rhosyn gwyn fydd 'ngariad inau.


F'anwylyd, f'anwylyd, pa beth yw eich bryd,
Ai dringo pob cangen o'r goeden i gyd ?-
Y brig sydd yn uchel, a'r codwm sy'n fawr;
Fe geir eich cwmpeini pan ddeloch i lawr.

Mae 'ngariad i'n caru fel cawod o wlaw,
Weithiau ffordd yma, ac weithiau ffordd draw;
Ond cariad pur ffyddlon ni chariff ond un :
Y sawl a gâr lawer gaiff fod heb yr un.


Lleisiau a chydgordiad llon
A wna i'r galon lamu,
Tynu mêl o'r tanau mân,—
Holl anian yn llawenu;
Hynaws dôn yw nos a dydd,
Efelydd i'r nef wiwlu.


Tra fu genyf geffyl mi gawn fenthyg march,
Tra gellais ei ganlyn gan bobdyn cawn barch;
A chroesaw, cymeriad, a chariad, a chwyn,
A nosdawch, a dy'dawch, a d'wedyd yn fwyn—
Anwadal fynediad yw rhediad y rhod,
Y golud pan giliodd newidiodd y nod.


Mi a brynais gan y brenin
Frig y borfa a chreigiau Berwyn,
I fidlo castell ar le gwastad
Uwchlaw Corwen gyda'm cariad.


Mae nhw'n d'wedyd yn Sir Fon
Fy mod I'n hangmon meddw,
Ni welodd neb o fewn fy safn
Erioed 'run dafn o gwrw,
A thra bo'r frân yn gwneyd ei nhyth,
Ni'm gwelir byth yn feddw.


Tri pheth sy'n anhawdd imi:-
Cyfri'r ser pan fyddo'n rhewi,
Rhoi fy llaw ar gŵr y lleuad,
Gwybod meddwl f'anwyl gariad.


Sion a Gwen sarug y nos wrth y tân,
Wrth son am eu cyfoeth i mremian yr ân';
Sion fynai ebol i bori ar y bryn,
A Sian fynai hwyaid i nofio ar y llyn:
Ond digon synwyrol y dywedai'r hen wraig
Mai cyrch a gwair lawer i'r ebol sydd raid,
I'w gadw'n lysti, a hyny sy'n siwr,
Fe helith yr hwyaid eu rhaid 'rhyd y dwr.


Dau lanc ifanc yn myn'd i garu
Hefo'r afon ar i fynu;
Un a'i wn a'r llall a'i gledde,
Cysgod bedwen trodd hwy adre.

Dau lanc ifanc yn myn'd i garu,
Ar noswaith dywyll fel y fagddu;
Sŵn cacynen yn y rhedyn
Trodd hwy adre'n fawr eu dychryn.


Mae geny' ddafad gorniog, ac arni bwys o wlân.
Yn pori yn nglan yr afon, yn mhlith y ceryg mân;
Fe ddaeth rhyw hogyn heibio a hysiodd iddi hi,
Ni welais I byth mo'n nafad, os gwn I welsoch chwi?

Mi gweles hi yn y Bala newydd werthu'i gwlan,
A phibell a thybaco, wrth danllwyth mawr o dân.

O! deydwch wrth fy nafad am dd'wad at John Ddu;
Ni welais I byth mo'n nafad, ai tybed y gwelsoch chwi!


Tra bu'm I'n ŵr cynes a'm lloches yn llawn,
Fy marnu'n synwyrol ragorol a gawn;
Troi'n ynfyd a wnaethum pan aethum yn ol,
Di ras a di reswm a phendrwm a phol:
Ni cheir un gymwynas gyweithas fel gynt,
Ni roir i mi garrai lle gweriais I bunt.


Chwi fedrwch droi coronau crynion
I fyn'd yn fân ddimeuau cochion;
Ond mawr na fedrwch yru'r ddimau,
Gwana' gwaith yn geiniog weithiau.

Mi ddymunas fil o weithiau
Fod fy mron o wydr goleu,
Fel y gallai'r fun gael gweled
Fod y galon mewn caethiwed.

Mi alla'n hyfach ofyn ceiniog
Im' llaw fy hun na llaw 'nghymydog;
Haws i'm gadw a ge's nac enill;
Llwm a llesg fydd gwalch heb esgyll.

Llwm fydd llwdn newydd gneifio,
Fe fydd gormod o biogod yn ei bigo;
A gwael fydd gwr â gwisg o sidan,
A'i bocedau hwyr a bore'n hir heb arian.

Dysgwch fyned i farchnata
Lle mae pleser goreu cellwair y gwyr calla',
Ni cheir o fyn'd i ffair y ffyliaid
At rai barus i dai gwallus ond y golled.

Hardd yw'r 'fallen ddyddiau C'lanmai,
Hardd yw'r llwyn o tan ei flodeu;
Y Gauaf nid yw rhai'n cyn hardded,-
Felly mûn, hardd ei llun, pan gyll ei chariad.

'Roeddwn efo'r hwyr yn rhodio
Gerddi gwyrddion i'm comfforddio,
Uwch fy mhen clywn fwyn lymysten,
Oes yw'r loes! beraidd foes, yn uchel ochen.

Nesu wnes yn ewyllysgar,
At fwyn ei llais a main ei llafar,
A than ufudd ofyn iddi,
Er mwyn dyn, fwynaf fun, beth yw dy g'ledi?

Dyma'i hateb a'i hesgusion,
Aml gnoc a dyr y galon :
Unig wyf yn mysg yr adar,

A'm gado'n gaeth yma wnaeth fy nghymwys gymhar.


Nodiadau

golygu