Cymru Fu/Hen ddefod gladdu Gymreig
< Cymru Fu
← Cymru Fu/Y Creaduriaid Hirhoedlog | Cymru Fu Hen ddefod gladdu Gymreig gan Isaac Foulkes Hen ddefod gladdu Gymreig |
Edmund Prys, a Huw Llwyd o Gynfal → |
HEN DDEFOD GLADDU GYMREIG
Yr oedd yn ddefod yn yr amser digrif a diniwed gynt mewn angladdau Cymreig, i bawb ddwyn yn ei law frigyn o Rôs Mari, a'i daflu i'r bedd gyda bod yr offeiriad yn terfynu darllen y gwasanaeth. Yr oedd hefyd ddefod gyffelyb yn ffynu yn mhlith y paganiaid; eithr taflent hwy frigyn o'r gypreswydden. Dewisent o'r pren hwn am na flagyrai ei frigau yn y ddaear, ond y gwywent yn ddiatreg; ac yr oeddynt felly yn arwyddlun o'u crediniaeth hwy, na byddai i'r marw adgyfodi. O'r ochr arall, y Cristionogion a daflent Rôs Mari i feddau eu hymadawedig, gan arddangos eu ffydd mewn ail-fywyd ac adgyfodiad.