Cymru Fu/Jac y Lantern
← Einion ap Gwalchmai a rhian y glasgoed—damheg | Cymru Fu gan Isaac Foulkes |
Noson yn Yr Hafod → |
JAC Y LANTERN
(Oddiar Lafar Gwlad)
Y PETH a glywais ganwaith, a ysgrifenaf unwaith. Er's llawer dydd, yr oedd hen ŵr yn byw ar fynyddoedd Arfon a adwaenid wrth yr enw Sion Dafydd, Bwlch y Ddauafaen. Mae y Bwlch hwnw agos i haner y ffordd rhwng Llanbedr ac Abergwyngregin. Ond at yr hen ŵr a'i hanes. Yr oedd Sion Dafydd yn cyfeillachu llawer byd ag un o blant y pwll diwaelod, nes y byddent yn cyfarfod a'u gilydd yn rhyw fan y naill ddydd ar ol y llall. Pa fodd bynag, yr oedd Sion ryw fore ar ei daith i Lanfair Fechan, a ffust ar ei ysgwydd, gan fod ganddo dir llafur yno. Ond beth a'i cyfarfyddodd ond ei hen gyfaill o'r pwll diwaelod, a chŵd ar ei gefn, a dau o'r tylwyth bach ynddo o'r un rhywogaeth ag ef ei hun. Dechreuasant ymddiddan a'u gilydd am y peth hyn a'r peth arall, ond cwympasant allan a'u gilydd, ac o fygwth aed i daro, a tharo a wnaethant na fu erioed fath ymladdfa. Yr oedd Sion yn dyrnu yn ddigydwybod â'r ffust, a dyrnu a wnaeth nes aeth y cwd yn yfflon mân ar gefn ei wrthwynebydd; a diangodd y ddau oedd yn y cŵd nerth eu traed, neu eu hadenydd, i Rywgyfylchi, a dyna'r amser y gwnaed y lle hwnw yn waeth nag un lle arall trwy i blant y tywyllwch fod yno yn trigo. Yna aeth Sion i'w daith yn llawen; a bu yspaid maith o amser cyn iddo gyfarfod â'i elyn drachefn. Ond cyfarfod a wnaethant, ac ar y cyntaf edrychai'r ddau yn lled ddigofus ar eu gilydd. Y tro hwn, yr oedd Sion yn myned i hela à dryll (gwn) ar ei fraich. Ond, er y cyfan, gofynodd y diafol beth oedd ganddo ar ei fraich, ac atebodd Sion mai pibell oedd, ac mai'r bai mwyaf arni oedd ei bod yn drom iawn. "A ga'i fygyn o honi?" ebai'r Hen Fachgen. "Cei," ebai Sion; a chyda'r gair rhoddi ffroen y gwn yn ngheg y diafol, a thynnu'r trigger a wnaeth Sion; a dyna'r ergyd fwyaf ei thrwst a glywwyd ar wyneb daear erioed. Ach—tô—tơ!" meddai'r ysmociwr, rhyw frycha melltigedig ynddo; ac ymaith ag ef fel mellten na wyddai neb i b'le; a meddyliodd Sion y cawsai waredigaeth oddiwrtho am byth wedi ei saethu fel hyn. Ond, yn mhen yspaid maith o amser, cyfarfyddodd ag of wed'yn ar ddull gŵr boneddig; ond deallodd Sion mai y Twyliwr ydoedd, ac eto gwnaeth fargen ag ef y pryd hwnnw y bu yn edifar ganddo o'r herwydd tra fu byw ar y ddaear, sef gwerthu ei hun iddo am ryw swm mawr o arian, a'r rhai hyny ar ei law; ond ar yr amod hefyd, os gallai gael gafael mewn unrhyw beth, y byddai'n rhaid i'r diafol ei ollwng yn rhydd drachefn. A thrwy yr amod hwn gwaredwyd ef lawer tro. Ond unwaith daeth ar warthaf Sion yn ddisymwth, pan oedd ef yn nghylch ei orchwyl yn garddu. Cipiodd ef i fyny rhwng nef a llawr; ac yr oedd Sion wedi rhoddi pob gobaith o'r neilldu bron, pan feddyliodd am ofyn cenad i droi yn ol er mwyn cael afal i'w sipian yn ngwlad yr haner nos; ac i hyny cytunwyd, ac yn ol â hwy. Pan ddaethant at y coed afalau dyna Sion yn lygio'n ffast yn un o'r prenau; a bu raid i Dywysog Llywodraeth yr Awyr ei ollwng yn rhydd drachefn. Ac er ceisio lawer gwaith wedyn methodd a'i gymeryd oddiar y ddaear hon; a chan ei fod yn rhy ddrwg i fyned i wlad y gwynfyd, a'i wrthwynebydd wedi methu ei gymeryd trwy fodd nac anfodd i wlad y poenau, fo ydyw JAC Y LANTERN; ac os gwir y chwedl, mi a'i gwelais lawer gwaith—er ei fod yn hen, y mae yn hen ŵr sionc eto.
- Oddiwrth hen frawd o Lanbedr y Cenin.