Cymru Fu/Pennod Cynddelw

Y Crochan Coel Cymru Fu

gan Isaac Foulkes

Hen Lanciau Clogwyn y Gwin
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Robert Ellis (Cynddelw))
ar Wicipedia

PENNOD CYNDDELW

Gefail-gŵn

PEIRIANT rhyfedd oedd mewn bri a gwasanaeth yn yr Oesoedd Tywyll yw "Gefail-gŵn." Hen offeryn pwysig ac anhebgorol i "Gymru Fu" oedd hwn. Math o binsiwr pedwar aelod ydoedd, o hen dderwen gadarn, at ymaflyd yn ngàrau ci, neu yn ei wàr, a'i lusgo allan o'r Eglwys, os digwyddai iddo ymladd ag un o'i frodyr, neu ymddwyn yn anweddaidd yn amser y gwasanaeth. Mae amryw o'r gefeiliau henafol hyn i'w gweled hyd heddyw yn crogi ar barwydydd hen eglwysi plwyfol Mon ac Arfon. Gwelais un ohonynt yn Eglwys Llanelian, yn Mon, yn ddiweddar. Yr oedd y man gafaelyd ar ddull safn ci, a hoelion yn lle danedd iddo. Gwasgai yn anoddefol. Wrth ei agor, crebychai y pedwar aelod fel Jack y Jumper, fel y gellid ymaflyd mewn ci a fyddai yn ymyl y gweinyddwr; ond wrth wasgu, ymestynai yn sydyn, nes y byddai tua hyd pigfforch rhwng y ci a'i boenydiwr-felly nid oedd modd iddo gnoi mewn hunan-amddiffyniad. Yr oedd swyddog pwrpasol yn yr hen Lanau i ddefnyddio'r Efail-gŵn, a man pwrpasol iddo eistedd i wylio ysgogiadau y cwnach. Gwelais yr eisteddfa yn Llanelian. Y mae astyllen o dderw ar y pared yn ymyl, a "gwarcheidwad y Deml" yn doredig arni. Dyna enw swyddog yr "Efail-gŵn.' Pan oedd y wlad yn llawn o ddeadelloedd a bugeiliaid, byddai llawer o gŵn yn eu canlyn i'r llanau ar y Sul, a gwaith mawr fyddai cadw heddwch a gweddeidd-dra yn eu plith; a rhwng y cyfarth, yr ymladd, a'r udleisio yn nghrafangau yr "Efail-gŵn," byddai y cŵn a'u perchenogion mewn digon o helbul yn fynych.

Tras a Pherthynas.

YR oedd y Cymry yn ddiarebol yn yr hen oesoedd am arddelwi âch a pherthynas a'u gilydd. Mae'r wythfed a'r nawfed âch i'w clywed yn fynych ar lafar gwlad, er nad yw yr oes hon yn cydnabod prin ond yr ail a'r drydedd gradd mewn cyd-dylwyth. Gair cyffredin Gwent a Morganwg am geraint, neu berthynasau, yw cyd-dylwyth. Yr oedd gofal yr hen dadau am eu hachau yn dangos serch ac ymlyniad y Cymry wrth eu gilydd. 'Llyma y pum achos sydd i gadw achau:—1. O blaid priodasau teilwng. 2. O blaid etifeddiaethau tir a daear. 3. O achos-o achos tri pheth a bair tyngu anudon, cariad—gwerth—ac ofn. 4. O blaid cas a galanastra. 5. O blaid arfau; canys od â gŵr yn rhaid y brenin, a chael gradd fel y perthyn iddo ddwyn arfau; a gofyn i'r hores (herald) nid yw gymmesur i foneddig, os bydd arfau iddo ef ei hun, a hyny fyddai cydnabod nad oes bonedd iddo yn ei wlad." Hyd y drydedd âch yn unig y gellid hawlio "tir a daear." "Tri pherchenogaeth tir"; ar gyntefig, heb wahardd hyd yn nghwbl y trydedd âr; pentan cyntefig; a brodoriaeth gyntefig, sef yw hyny, rhoddi y frawd gyntaf yn llys, yn mraint a berchenogai y tir hyny o Gymro cynnwynol, bod prawf o hyny hyd gylch rhieni; sef yw rhieni, gwr, ei dad, ei hendad, a'i orhendad; ac o hyny hyd y nawfed âch edryd gerni eu gelwir." Dylai dyn wybod dosbarth a synwyr ar ei rieni, ei gyd-etifeddion, a'i blant. Canys rhieni dyn yw ei dad, ei hendad, a'i orhendad; cyd-etifeddion ynt brodyr, a chefndyr, a chyfyrdyr; etifeddion dyn yw y rhai a hanffo o'i gorph, megys mab, ŵyr, a gorwyr. Pan fo marw dyn o un o'r tair ach o gorph y cyff cynaliawdr, (sef y llinell union-syth,) yn ddietifedd o'i gorph, efe a wyr y dyn (cyfrwys) deallgar pwy a ddylai gaffael y tir hwnw oherwydd cyfraith. Canys hyd y drydedd âch y mae priawd ran ar dir yn llys cwmwd neu gantref, ac y gellir ei hawlio yn y cyfryw lys hwnw; ac ni ellir canlyn cwyn âch ac edryd (a plaint of kin and descent) i maes o lys dygynull, lle bo brawdwr penadur o blaid y brenin yn eisiau."

Hefyd, os oedd mantais yn dyfod i ddyn drwy ei âch, yr oedd anfantais fawr iddo, os byddai ei berthynas yn llofrudd. Disgynai dirwy am alanas (dynladdiad) ar y llofrudd a'i dylwyth. Yr oedd deuparth y ddirwy ar y llofrudd, a'r traian ar ei dad a'i fam. Os byddai ganddo blant mewn oed byddai raid iddynt hwythau dalu eu rhan hefyd; a byddai cenedl y fam, chenedl y tad, hyd y seithfed âch, yn gorfod talu. Felly yr oedd llu mawr o geraint yn gorfod dwyn gwarth pob trosedd a gyflawnid gan y llwyth hwnw. Yr oedd y brawd, y cefndyr, y cyfyrdyr, y cyfnai, y gorchyfuai, y gorchaw, a neiant feibion gorchaw, yn gorfod talu eu rhan o'r galanas. Bellach dyna ni yn gosod graddau tras a pherthynas i lawr:—

I. Y llinell ddisgynedig.—1. Tad, mam. 2. Mab, merch. 3. Wyr, wyres. 4. Gorwyr, gorwyres. 5. Caw, cawas. 6. Gorchaw, gorchawes. 7. Hengaw, hengawes. Gorhengaw, gorhengawes.

II. Y llinell esgynawl.—1. Tad, mam. 2. Tad cu, mam gu. 3. Hendad, henfam. 4. Gorhendad, gorhen fam. 5. Taid, nain. 6. Hendaid, hen-nain. 7. Gorhendaid, gorhen-nain.

III. Llinach gyfredol ddisgynedig.—1. Brawd, chwaer. 2. Cefnder, cyfnither. 3. Cyfyrdir. 4. Ysgiwion. 5. Gwrthysgiwion. 6. Cifyn. 7. Gorchifyn. 8. Gerni. 9. Gwrtherni.

IV. Gradd arall o linach gyfredol.—1. Ewythr, modryb. 2. Nai, nith. 3. Cyfnai, cyfnith. 4. Gorchyfnai, gorchyfnith. 5. Clud. 6. Câr clud. 7. Gwrth clud. 8. Câr o waed.

Yr oedd i ddyn brofi ei fod o genedl y Cymry, o fewn y "nawfed âch," cyn y cydnabyddid ef yn briodawr, neu ŵr rhydd. Byddai alltud yn hir iawn cyn y deuai ei hiliogaeth yn Gymry diledryw. "O derfydd dyfod alltud a gwrhan i'r brenin, a rhoddi tir iddo, a'i fod yn gwarchadw y tir yn ei oes, a'i fab, a'i wyr, a'i orwyr; y gorwyr hwnw a fydd priodawr o hyny allan." O derfydd o'r gorwyr hwnw gwedi hyny roddi ei ferch i alltud, mab y ferch hono sydd a hawl famawl gyda phlant y gorwyr hwnw." "O derfydd i alltud pan ddel o'r wlad wrhan i uchelwr, a myned oddiwrth hwnw at uchelwr arall, a cherdded o hono, a'i fab gwedi ef, a'i wyr, a'i orŵyr, a'i oresgynydd, o uchelwr i'w gilydd, heb wastattau yn un lle mwy na'u gilydd, byddent hwythau ar fraint alltudion hyd tra f'ont heb wastattau felly."

Yr oedd cadw achau fel hyn yn fuddiol ar lawer ystyr:— 1. I gadw y genedl yn bur a diledryw rhag cymysgu ag estroniaid.

2. I gadw moesoldeb a rhinwedd i fynu yn nghorph y genedl yn gyffredin.

3. I feithrin urddas a gwroldeb yn y Cymry, wrth gofio dewrder eu hynafiaid, a'u cadw rhag dwyn gwarth a mefl ar enwau yr hen wroniaid cyntefig.

4. Achau hefyd oedd yn rhoddi hawl i'r dyledogion i'w hetifeddiaethau.

5. Yr oeddynt yn fuddiol hefyd i sicrhau eu breiniau, a'u hanrhydedd i'r dinasyddion.

6. Gan eu bod fel y nodwyd yn rhanu y dirwyon am droseddau rhwng y perthynasau yr oedd yn iawn cadw achau fel y gwybyddid ar bwy i syrthio am dâl; ac yr oeddynt yn cael eu rhwymo fel hyn yn giwdodau wrth eu gilydd yn nghwlwm cymdeithas, yr hyn a'u gwnelai'n fwy anorchfygol fyth. Mae yr yspryd hwnw heb farw eto; am hyny dywedant Cymru fu, Cymru fydd," hyd byth anorphen.

Nawdd Gwraig

"Nawdd gwraig" oedd y nodded neu'r amddiffyniad a roddai gwraig i ffoadur yn amser rhyfel. Ymosod ar y cyfryw un, pan fyddai dan nodded gwraig, oedd "tori ei nawdd." O dair ffordd y sarhâeir y frenines: un yw, tori y nawdd a roddo."—Cyf. H. Dda.

Dynion annewr ac anfilwraidd a ddiystyrent, ac a dorent, "nawdd gwraig," drwy ruthro ar y gelyn tra o dan y cyfryw amddiffyniad. Ni wnelai y mawreddig a'r anrhydeddus hyny, am eu bod yn ormod o ddynion i ymladd a menywod, ac oherwydd eu parch i'r rhyw deg; ac o hyny y tarddodd y ddiareb, "Ni thores Arthur nawdd gwraig."

Môn, Mam Cymru.

Paham y gelwir Môn yn fam Cymru? Mae Giraldus, yr hwn a ymwelodd â Môn yn 1188, yn ateb: ai cywir ai annghywir yw'r atebiad, barned y cywrain. Dyna, beth bynag, oedd barn yr oes hono. "Mae'r ynys hon yn fwy ffrwythlon o ddim cymhariaeth mewn yd nag un parth arall o Gymru; ac o hyny y cododd y ddiareb Gymreig, Mon mam Cymru." Pan mae'r cnydau yn ddiffygiol yn mhob parth arall o'r wlad, mae'r ynys hon, oherwydd braster y tir a helaethrwydd y cynyrch, yn abl i ddiwallu angen holl Gymru." Nid oedd Dyffryn Clwyd, Dyffryn Wysg, a Bro Morganwg, dan driniaeth y pryd hwnw mae yn debyg, onide nis gallasai Môn ragori cymaint arnynt.

Rhys Grythor.

AT yr hyn a ddywedwyd eisoes am Rhys Grythor yn Cymru Fu, gellir nodi rhai mân—gofion yn mhellach. Ymddengys, wrth englynion Sion Tudur, i Rhys fyw i hen oedran, a'i fod mor ffol pan yn hen a phan ydoedd yn ieuanc. Yr oedd Rhys yn Eisteddfod gyntaf Caerwys yn 1525, a graddiwyd ef yn ddysgybl dysgyblaidd Cerdd Grwth. Gwelir ei enw ef hefyd yn yr ail Eisteddfod a gynaliwyd yno yn 1567; ac nid oedd tros ddeugain mlynedd o ymarferiad wedi codi ei radd un gronyn yn uwch nag o'r blaen. Treuliodd ei oes i ofera a chrasdafodi, eto yr oedd Sion Tudur yn dywedyd, er garwed oedd ei dafod,—

"Mwyn yw ei Grwth, myn y grog!"

Dyma chwedl am ei wrhydri. Yr oedd pawb yn adnabod Rhys; ond achwynai ei wraig nad oedd neb yn ei hadnabod hi. Penderfynodd Rhys o'r diwedd, er mwyn cael taw a llonyddwch, ddwyn ei wraig i sylw hefyd. Ar ddydd gwyl ffair yn Ninbych, cyfeiriodd ei sylw at grydd oedd yn gwerthu esgidiau, a dangosodd iddi bâr neillduol oedd yn crogi ar hoelen, a dywedodd, "Yr wyf wedi prynu yr esgidiau acw i ti; dos i'w ceisio." Aeth y wraig annichellgar a chymerodd yr esgidiau, gan dybied fod Rhys wedi talu am danynt; ar hyny, dyna wawch fawr yn codi fod lladrones yn dwyn pâr o esgidiau, a'r holl ffair yn cynhyrfu i'w dal a'i chosbi. Pwy yw hi? oedd y cri cyffredinol. "Gwraig Rhys Grythor!" oedd yr atebiad parod o bob genau: a chyn nos yr oedd pawb yn adnabod gwraig Rhys Grythawr.

Yr oedd Rhys yn honi y medrai gyflawni castiau goruwchnaturiol mewn ffordd o gonsuriaeth; ac yn un o ffeiriau Dinbych, penderfynodd osod ei dalent mewn gweithrediad. Yr oedd Potiwr yn gwerthu llestri ar yr heol: aeth Rhys ato, a dywedodd wrtho y talai iddo werth yr holl lestri, os cymerai efe ei ffon a'u curo'n gandryll pan welai efe Rhys yn cau ei ddwrn yn ffenestr llofft y dafarn oedd uwch ei ben. Dyna ben, ebe y Potiwr; hyn a hyn yw eu gwerth. Aeth Rhys i'r llofft hono at gyfeddach, a dechreuodd frolio ei ddawn i drin ysprydion, &c. Aeth y cwmni i'w ammheu, a gofyn beth a allai ef wneud mwy na dyn arall. Edrychwch ar y Potiwr yna," ebe Rhys, "pe bawn I ddim ond cau 'nwrn arno, elai o'i go' wyllt, a drylliau ei holl botiau yn yfflon." "Lol i gyd," ebe'r lleill. "Mi ddalia i chwi hyn," ebe Rhys. "Dyna ben," ebe hwythau. Yna aeth Rhys yn ddefosiynol iawn i ymgroesi, mwngialu iaith ddyeithr, a gwneud amrywiol ymdumiau, er mwyn tynu sylw, a dyna fo yn y ffenestr, yn cau ei ddwrn yn y modd mwyaf awdurdodol ar y Potiwr, nes oedd hwnw yn neidio ac yn gwylltio, yn chwilio am ei gwlbren, ac mewn mynydyn yn malurio ei holl lestri yn gregia uswydd màn deilchion.


Nodiadau

golygu