Cymru Fu/Y Tylwyth Teg

Edmund Prys, a Huw Llwyd o Gynfal Cymru Fu
Y Tylwyth Teg
gan Isaac Foulkes

Y Tylwyth Teg
Eiry Mynydd

Y TYLWYTH TEG.

(Gan GLASYNYS.)

Dyma swp o Draddodiadau a glyw-wyd yn ngwahanol ranau o'r wlad yn nghylch y Tylwyth Teg. Nid wyf am geisio dweyd pa fath rai ydynt, o ba le y daethant, nac i ba le yr ânt: digon yw cymeryd y chwedlau fel ag y traethir hwy mewn llawer parth o'r Dywysogaeth. Dechreuaf hefo'r gyntaf a glywais erioed: —

I

Pan oedd pobl y Gors Goch un hwyrnos newydd fyned i'r gwely, dyma dwrf a chythrwfl anafus o gwmpas y tŷ. Methid yn lan loyw landeg a dirnad pa beth a allai fod


yn cadw nâd yr amser hono o'r nos. Yr oedd y gwr a'r wraig, y naill a'r llall wedi deffro, ac yn methu'n glir a gwybod pa beth a allai fod yno. Deffroes y plant hefyd. Ond ni fedrai neb yngan gair; yr oedd eu tafodau oll wedi glynu wrth daflod y genau. Ond o'r diwedd, medrodd y gwr ystwyrian, "Pwy sydd yna," a "Pha beth sydd arnoch eisiau?" Yna atebwyd ef o'r tu allan gan lais main, arianlef, "Eisio lle cynes i drwsio plant."

Agorwyd y drws, a daeth dwsin o ryw fodau bach i mewn, a dechreuasant chwilio am gunnog a dwfr, ac yno y buant am oriau rai yn ymolchi ac yn ymbincio. Ac ar lasiad y dydd, aethant ymaith, gan adael ar eu holau rodd dlos am y tiriondeb a dderbyniasant, Mynych ar ol hyn y cafodd teulu'r Gors Goch gwmni'r teulu hwn. Ond ryw dro, yr oedd yno yn digwydd bod rolyn o blentyn tlws ac iach. Yr oedd ef yn ei gryd. Daeth y Tylwyth Teg yno; ac oherwydd ei fod heb ei fedyddio, cymerasant eu hyfdra i newid dau blentyn. Cymerasant y plentyn braf i ffwrdd, a gadawsant ryw ledfegyn gwrthun yn ei le, ac ni wnai hwnw ond crio a nadu holl ddyddiau yr wythnos. Yr oedd y fam bron a thori ei chalon oblegyd yr anffawd, ac ofn arswydus dweyd wrth neb am y peth. Ond daeth pawb drwy'r fro i weled fod rhywbeth allan o'i le yn y Gors Goch; a phrofwyd hyny cyn hir, drwy i'r wraig farw o hiraeth ar ol ei phlentyn. Bu'r plant eraill farw o doriad calon ar ol eu mam, a gadawyd y gwr a'r gwiddon bach heb neb i'w cysuro. Ond dechreuwyd yn fuan tua'r adeg hon ail ddod i "drwsio plant," ar aelwyd y Gors Goch; a daeth y rhodd, yr hon gjnt oedd arian gleision, bellach yn aur pur dilin. A chyn pen ychydig o flynyddoedd, daeth y Gwiddon yn etifedd ar le mawr yn Ngogledd Cymru, a thyna paham y dywedai yr hen bobl, "Fe ddaw gwiddon yn fawr ond ei bedoli âg aur." Dyna chwedl y Gors Goch.

II.

Rywbryd, yr oedd William Ellis y Gilwern, yn pysgota ar lan llyn Cwm Silin, ar ddiwrnod niwlog a thywyll. Nid oedd wedi gweled un gwyneb byw bedyddiol er pan ddaeth o waelod Nant y Llef. Ond pan wrthi yn taflyd yr enwair gydag osgo ddenus, gwelai ar ei gyfer mewn llwyn o frwyn, swp anferth o ddynion, neu bethau ar lun dynion, tua throedfedd o daldra yn neidio ac yn dawnsio.

Bu'n edrych arnynt am oriau, ac ni chlywodd yn ei fywyd y fath ganu, meddai. Ond aeth William yn rhy agos atynt, a thaflasant hwythau ryw fath o Iwch i'w lygaid; a thra bu ef yn sychu'r cyfryw, fe ddiangodd y teulu bach i rywle o'r golwg, ac nis gwelodd na siw na miw ohonynt byth wed'yn.

III.

Y mae chwedl go debyg am le o'r enw Llyn y Ffynonau. Yr oedd yno rafio a dawnsio, telynio a ffidlo enbydus, a gwas y Gelli Ffrydau a'i ddau gi yn eu canol yn neidio ac yn prancio mor sionc â neb. Buont wrthi hi felly am dridiau a theirnos, yn ddi-dor-derfyn; ac oni bai bod rhy w wr cyfarwydd yn byw heb fod yn neppell, aci hwnw gael gwybod pa sut yr oedd pethau yn myned yn mlaen, y mae'n ddiddadl y buasai i'r creadur gwirion ddawnsio'i hun i farwolaeth. Ond gwaredwyd ef y tro hwn.

IV.

Mi glywais fy mam, pan oeddwn yn lâs-hogyn, yn myned dros yr hanes a ganlyn lawer gwaith. Ydyw, y mae'r geiriau eglur, yr olwg syml, yr ystum prydferth, y llygaid hyny ag y mae'r ceufedd wedi eu mynnu iddo ei hun, yn fyw o flaen fy llygaid! Pan yn gwau ei hosan ar ddechreunos, o flaen tanllwyth braf o dân, mi fyddai yn ddifyr clywed barddoniaeth mewn iaith rydd — clywed adroddiad drymgais mam wrth ei hanwyliaid er mwyn eu dyddanu.

Yr oedd unwaith fachgen o fugail wedi myned i'r mynydd, Fel llawer diwrnod arall, cynt a chwedi hyn, yr oedd hi yn niwliog anarferol. Er ei fod ef yn 'dra chydnabyddus a phob rhan o'r fro, eto ryw fodd fe gollodd y ffordd, a cherdded y bu ar draws ac ar hyd am lawer o oriau meithion. O'r diwedd, daeth i bantle brwynog, a gwelai o'i flaen amryw gylchoedd modrwyog. Cofiodd mewn munud am y lle, a dechreuodd ofni yr hyn a fyddai gwaeth. yr oedd wedi clywed lawer canwaith am y triniaethau chwerwon yr aeth llawer bugail drwyddynt oher- wydd digwydd ohonynt dd'od ar draws dawnsfa neu gylchau y TYLWYTH TEG. Brysiodd ei oreu glas fyned oddiyno rhag ofn y sibedid yntau fel y rhelyw; ond er chwysu a thagu, yno yr oedd, ac yno y bu am hir amser. O'r diwedd, daeth i'w gyfarfod dorpwth o hen ddyn llygadlas, llygadlon, a gofynodd pa beth yr oedd yn ei wneud. Dywedodd yntau mai ceisio cael hyd i ben y ffordd i fyned adref yr oedd. "Ho!" ebai, yntau "tyr'd ar fy ôl i, a phaid ag yngan gair nes y peraf i ti."Felly y fu hi. Aeth ar ei ol ef o lech i Iwyn nes y daethant at faen hirgrwn; a thyma yr hen dorpwth yn ei godi, ar ol rhoi tri chnoc hefo'i ffon yn ei ganol, Yr oedd yno Iwybr cul, a grisiau draw ac yma i'w gweled. Yr oedd yno hefyd oeleuni llwyd-las-wyn i'w ganfod yn tarddu o'r ceryg. "Dilyn fi yn ddiofn,"ebai'r torpwth, "ni wneir dim niwaid i ti." Yn mlaen yr aeth y bachgen druan, yn wysg ei drwyn, fel ci i'w grogi. Ond toc, dyma wlad dêg, goediog, ffrwythlawn, yn ymledu o'u blaen; a phalasau trefnus yn ei britho, a phob mawredd ymddangosiadol yn rhith-wenu yn eu gwyneb. Yr oedd yr afonydd yn loyw- droellog, y ffrydiau yn sidellog, y bryniau yn lasdwf irwelltog, a'r mynyddoedd yn llyfn-gnuafog. Erbyn cyrhaedd palas y torpwth, yr oedd wedi pensyfrdanu gan mor beraidd-oslefol y pynciai yr adar yn y coedlwyni. Yno drachefn yr oedd aur yn serenu'r llygaid, ac arian yn gwawlio'r golygon. Yr oedd yno bob offer cerdd, a phob rhyw erfyn chwareu. Ond ni welai neb yn yr holl fan. Pan aeth i fwyta, yr oedd y pethau oedd ar y bwrdd yn do'd yno eu hunain, ac yn diflanu hefyd pan ddarfyddid a hwy. Methai'n lân loyw a dirnad hyn. Yr oedd yn clywed pobl yn siarad hefo'u gilydd o'i gwmpas, ac yn ei fyw nis gwelai neb ond ei hen gydymaith. Ebai'r torpwth wrtho o'r diwedd, "Gelli bellach siarad faint y fyd fyw a fynot." Ond pan geisiodd ysgwyd ei dafod, nis symudai hwnw mwy na thalp o rew. Dychrynodd yn aruthir o'r plegyd. Ar hyn, dyma globen o hen wreigan raenus a thirion yr olwg arni yn d'od atynt, ac yn cil-wenu ar y bugail. Yna dyma dair o ferched hardd nodedig yn dilyn eu mam. Syllent hwythau hefyd yn rhyw haner chwareus arno. O'r diwedd, dechreuasant siarad hefog ef. Ond ni wnai'r tafod ysgwyd. Ond ar hyn, daeth un o'r lodesi ato, a chan chwareu hefo'i lywethau melyn-grych, tarawodd glamp o gusan ar ei wefusau fllamgoch. Llaciodd hyn y rhwymyn oedd yn dal y tafod, a dechreuodd arni siarad yn rhydd a doniol. Yno yr oedd, o dan swyn y cusan hwnw, mewn hawddfyd hyfrydlawn. A bu yno am un dydd a blwyddyn heb wybod iddo aros mwy na diwrnod yn eu mysg. Yr oedd ef wedi myned i wlad lle nad oedd dim cyfrif amser. Ond ryw bryd, fe gododd tipyn o hiraeth arno y buasai yn dda ganddo gael myned i roi tro i'w hen gynefin, a gofynodd i'r torpwth a gai ef fyned. Diolchodd hefyd yn dra moesgar am y tiriondeb a gafodd. "Aros ronyn eto, a chei fyned am swrn," ebai yntau; ac felly fu hi. Arosodd, ac yr oedd Olwen, oblegyd dyna oedd enw y fun a'i cusanodd, yr oedd hono yn anfoddlawn iawn iddo ymadael. Byddai yn edrych yn drwm bob tro y soniai am fyned ymaith. Ac yr oedd yntau hefyd yn teimlo rhyw ias oer wrth feddwl ymadael â hi.

Ond ar yr amod o dd'od yn ol câdd fyned a digon o aur ac arian, a thlysau a gemau, ganddo. Pan ddaeth adref, ni wyddai neb pwy oedd. Yr oeddis wedi meddwl fod bugail arall wedi ei ladd am annos ei ddefaid; a bu raid i hwnw gymeryd y goes i'r Amerig draw, onide crogesid ef rhag blaen. Ond dyma Einion Las adref, a phawb yn synu. Yn enwedig, wrth wel'd bugail wedi d'od i edrych fel arlwydd cyfoeth. Yr oedd ei foes, ei wisg, ei iaith, a'i eiddo, yn cyfateb i'r dim i'w wneud ef yn ŵr boneddig. Aeth yn ol drachefn rhyw nos lau cynta'r lleuad, mor ddiswta, yr eil-dro ag yr aeth y waith gyntaf, ac ni wyddai neb pa sut na pha fodd. Yr oedd llawenydd mawr yn y wlad isod pan ddychwelodd Einion yno, ac nid neb a lonodd yn fwy nag Olwen ei anwylyd. Yr oedd y ddau yn wyllt wibwrn am briodi. Ond yr oedd yn rhaid gwneud hyny yn ddystaw, oblegyd nid oedd dim yn gasach yn ngolwg teulu'r wlad isod na thwrf a sôn. Ac felly, mewn dull haner dirgel, fe unwyd y ddau. Yr oedd ar Einion flys garw myned eto i roi tro hefo'r wraig, na bo ond ei son, adref i fysg ei deulu. Ac ar ol hir ymbil hefo yr hen fachgen, cawsant gychwyn ar gefn dau ferlyn gwyn; yn wir yr oeddynt yn debycach i eira na dim arall o ran lliw. Felly fe ddaeth ef a'i briod i'w hen gynefin, a barn pawb oedd, mai y lânaf a welodd yr haul yn un man oedd gwraig Einion.

Pan adref, ganwyd mab iddynt, a galwyd ei enw yn Daliesin. Yr oedd Einion erbyn hyn yn fawr ei alwad, a'i wraig yn derbyn pob parch teilwng. Yr oedd ei golud yn anferth, a buan y daeth ganddynt etifeddiaeth eang. Ond yn lled-agos i hyn, daeth pobl iddechreu holi am achau gwraig Einion. Nid oedd y wlad yn barnu mai peth iawn oedd bod heb achau. Holwyd Einion, ond ni roddai ef un ateb boddhaus. A phenderfynodd y bobl mai un o deulu'r TYLWYTH TEG oedd. "le'n wir," ebai Einion, " nid oes dadl i fod nad un o Dylwyth Teg iawn ydyw; oblegyd y mae iddi ddwy chwaer eto mor lân â hithau; a phe gwelsech hwynt yn nghyd, buasech yn cydnabod fod yr enw yn un iawn." Â. thyma paham y galwyd y teulu hynod sydd yn nhir Hud a lledrith yn DYLWYTH TEG.