Cymru Gwlad y Gan (Mynyddog)

Pa beth sy’n Nghymru, gwlad y gân,—
Ai diliau glwys, ai dolydd glân,
Ai gwastad diroedd heb eu hail,
Yn dwyn eu blodau têg a’u dail?
Na, na, nid dyna’r harddwch sydd
Yn têg addurno Gwalia rydd.


Pa beth sy’n Nghymru, gwlad y gân?
Rhaeadrau gwyllt a nentydd glân,
Clogwyni serth a chreigiau ban,
A harddwch. Eden ym mhob man!
Ac O! mae yno fwthyn cu
Sy’n werth palasau’r byd i mi.


Mae tyrrau cestyll Gwalia Wen
Yn pwyntio i fyny tua’r nen,
Gan ddweyd mai anfarwoldeb sydd
Yn eiddo dewrion Cymru rydd;
O boed i mi gael byw yn hon,
A beddrod yn ei thyner fron.


Mae adsain bloedd y dewrion fu,
Heb farw rhwng ein bryniau cu,
Ac ysbryd ym mhob awel wynt
Yn adrodd hanes Cymru gynt;
O boed i mi gael byw yn hon,
A beddrod yn ei thyner fron.