Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 24
← Penawd 23 | Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig gan Lewis Jones, Plas Hedd |
Penawd 25 → |
XXIV.
YMWELIAD M. D. JONES A D. RHYS: AR GANOL Y VRWYDR LEODROL.
Yn mis Mawrth, 1882, heb wybod dim wrth gychwyn oddicartrev am y traferthion a'r ormes oedd ar y sevydliad, daeth yr Hybarch M. D. Jones i ymweled â'r Wladva sylvaenasai ac a hyrwyddasai eve: a D. Rhys, Capel Mawr, yn gydymaith iddo. Y pryd hwnw y cavodd gyvle gyntav i weled peth o'r wlad, a deall drosto'i hun sevyllva a gweddau pethau yn y sevydliad. Nid oedd namyn rhyw 40 o oedogion y "Mimosa" i'w gyvarch ar ei laniad—ond llu mawr o'u plant. Eithr eve a vendithiasai niveri lawer o'r minteioedd dilynol, drwy eu gweled yn cychwyn o dro i dro, a rhoi "Duw yn rhwydd" iddynt. Dechreuasai rhai o'r rheiny lwyddo yn y byd (vel y llwyddai'r Wladva), a theimlo peth diolchgarwch i'r gŵr aberthasai gymaint i wneud iddynt hwy gartrevi a rhagolygon; ac a savasai yn gevn i'r mudiad am 20 mlynedd. Yn ei gydymaith, D. Rhys, a chyvarvyddiad â'i hen ddisgyblion a chyd—lavurwyr D. Lloyd Jones, A. Mathews, J. C. Evans, a L. J., cafai y boddlonrwydd mwynhaol o deimlo vod ei "wobr yn vawr iawn," a'i apostolaeth Wladvaol yn cael ei llawn werthvawrogi gan y rhai wyddent ei mantais yn dda. Wedi yr ymgyvarchwel i weled llu o hen gyveillion, a chydmaru adgovion ac argrafion am y wlad a'r bobl, a'r gobeithion; ac yna gael pregethau a chyrddau hwyliog a lluosog, lluniwyd mintai i roi gwibdaith o vis gyda D. Rhys i'r berveddwlad anhysbys, ac i M. D. Jones, vel gŵr 60 oed (ormod i daith velly), achub yr egwyl hono i weled ac amgyfred y wlad, ynghyd a'r sevyllva yn gyfredinol. Wedi y carcharu a'r cythryvlau yr oedd dda i L. J. gael y wibdaith hono gyda D. Rhys, a chael yn gymdeithion Grif. Huws, Esau Evans, D. S. Jones, R. O. Jones, a W. T. Williams, gan vyned i dueddau y Télsun a Banau Beiddio, ac adrev yn ol drwy ddyfryn Kel-kein a Hirdaith Edwyn. A bu y daith hono yn broviad newydd ac adnewyddiad yspryd i D. Rhys. Yn y cyvamser gwnaed cwmni bychan arall i roddi wib gyda M. D. Jones ar hyd y dyfryn-dir gyda'r avon mor belled a gwaelod yr Hirdaith, i'r havn greigiog alwyd oddiar hyny Havn Mihangel.
Tra gwnelid y gwibdeithiau hyn, travodai y sevydlwyr yr amgylchiadau cyfrous ddigwyddasai y misoedd blaenorol, a chafent varn ac ymgynghoriad M. D. Jones a D. Rhys i'w cynorthwyo. Canlyniad yr oll oedd penodi D. Ll. Jones i vyned yn ddirprwy gyda M. D. Jones a D. Rhys at yr awdurdodau (drwy Profeswr D. Lewis) yn Buenos Ayres i gyvlwyno eto gais y Wladva am Leodraeth ac Ymreolaeth. Gwnaed hyny yn furviol vel isod, ond bu llawer sgwrs ac ymweliad heblaw hyny:
Chubut, Mehevin 10, 1882.
Y rhai sydd a'u henwau isod, trigolion Gwladva Chubut, tra yn datgan eu hymlyniad wrth gyvansoddiad, cyvreithiau, a threvniadau y Weriniaeth, a'u pendervyniad i vod yn rhanog yn nadblygiad ardderchog dyvodol eu gwlad vabwysiedig, a'u llwyr argyhoeddiad nad oes ddeiliaid mwy heddychol, diwyd, a fyddlon gan y Weriniaeth a ddymunant yn barchus alw sylw at y faith eu bod yn goddev colledion dirvawr drwy ymyriad y Prwyad yn achosion lleol y Wladva. Mae y Cyngor a'r Ynad, drwy gydsyniad y Weinyddiaeth, vyth er 1865 wedi eu hethol gan y sevydlwyr eu hunain; ac yr oedd cyvraith Dyvudiaeth 1876—8 yn trevnu gweinyddiad lleol gwladvaoedd i vod yn llaw Cyngor ac Ynad. Mae tuedd mewn dyryswch vel hyn i barlysu diwydrwydd a llwyddiant y Wladva. Yr ydys gan hyny yn govyn yn barchus i'r Llywodraeth roddi gallu i'r awdurdodau lleol i dravod yn llawn ac efeithiol y buddianau lleol a berthynant i fyrdd, camlesi, iechyd, heddwch, diogelwch ac addysg y lle—pob peth perthynol i Leodraeth (municipal). Yr ydym gan hyny yn deisyvu ar Eich Urddas i gymeryd i ystyriaeth y cais hwn gynted y bo modd, a symud yr anghyvleusderau a'r niweidiau y cwynwn rhagddynt.
Arwyddwyd gan 247 o'r sevydlwyr: cyvlwynwyd gan D. Lloyd Jones.
Wrth gyvlwyno y ddeiseb yna ysgrivenai y dirprwywr vel y canlyn: Mae y Wladva agos i vil o villdiroedd o'r briv ddinas, ac ar ei phen ei hun yn gwbl. Os codai rhyw anhawsder gweinyddol ag y byddai raid ei basio i'r Llywodraeth, byddai o reidrwydd visoedd heb ei setlo. Oblegid y neillduwch hwn nid oes i'r sevydliad ddim byd yn gyfredin neu debyg gydag un man arall o'r Weriniaeth ond gyda'r môr, a chan hyny mae ei holl vaterion yn lleol. Rhaid rhoddi pwys ar hyn i vedru deall y sevyllva. Gwedd arall arni yw, y byddai pob erw o'r dyfryn yn anialedd llwyr heb ddyfrhad. Mae y sevydlwyr wedi cwblhau 89 milldir o briv gamlesi, a 100 milldir o ganghenau. Gyda hyny, tra yr oedd y gwyddonwyr yn levelu a chynllunio, gweithiodd y Wladva argae werth £3,000, vel y mae'r sevydliad wedi soddi £25,000 mewn gweithiau cyhoeddus yn dwyn elw—a diau vod y rhai di—vudd gymaint a hyny drachevn—taw y mae proviad y Wladva wedi bod yn ysgol ddrud iawn. Mae y dyfryn yn 44 milldir o hyd wrth 4 o led —dwyrain a gorllewin: yr avon yn 60 milldir o ben y dyfryn i'r môr, gan ymdroelli i bob cyveiriad, a gwneud troveydd lawer. Mae llinellau tervyn y fermi yn tori y llinell ar ongl o 45: mae'r kilomydrau yn sgwar drwy'r dyfryn uchav, ond yn hirsgwar drwy'r dyfryn isav. Cyn hir disgwylir i'r cynllun dyvrio o'r avon drwy gamlesi, fosydd, a chloddiau gyvlenwi pob erw o'r tir, vel y mae nwy yn cael ei gario drwy bob heol yn y ddinas. Vel hyn y mae genym rwydwaith o gamlesi, yn y rhai y mae gan y sevydlwyr oll vudd cyfredin : geilw hyny am bontydd a llivddoru lawer, ac ymyra hyny â'r fyrdd cyhoeddus ymhob cyveiriad, gan beri costau a govalon lawer. Rai misoedd yn ol syvrdanwyd y Wladva gan yr hysbysiad vod holl weinyddiad y buddianau hyn wedi eu hymddiried i'r prwyad. [Pell oddiwrthyv vi yw yngan gair amharchus am Mr. Finoquettoymddengys yn voneddwr bob modvedd]. Yr oedd ganddo i wneuthur rheolau am fyrdd, fosydd, caeau, heblaw setlo pob ymravael a chwynion. Rhoddodd y prwyad orchymyn y gallai'r neb a vyno gau ei ferm i vewn ond gadael 12 llath o fordd o'i hamgylch, a gadael 45 llath o vin yr avon. Setlodd hyny drevn ein fyrdd—yr oeddynt i redeg ar ogwydd o 45 i rediad y dyfryn, a phob 750 llath yr oedd fordd i vod: i vyn'd o'r drev i'r dyfryn uchav, rhaid dilyn yr avon, ac wedi hwyrach dravaelu dwy villdir bod o vewn 10 llath i'r man cychwyn, neu vynd igam—ogam gyda'r tervynau : a phe byddai gan ddyn amynedd i wneud hyny, gelwid arno rai misoedd bob blwyddyn i rydio fosydd a phantiau avrived. Nid wyv yn dweud nad hyn yw y gyvraith, ond dywedav os mai dyna ydyw, ac os rhaid i'r sevydlwyr aberthu 10 erw o dir ger pob ferm i wneud fyrdd cyvreithiol, y rhaid aberthu hevyd lawer o dir i wneud fyrdd tramwyol. Yn ol y cynllun hwn o fyrdd rhaid i bob fermwr vynd i'r draul o gau ei holl ferm, yn lle ei haner—gwn am un man y rhaid i'r fermwr wario £500 am wivro yn lle £150, a cholli 60 erw o vin yr avon—cyvriva mesurydd medrus y byddai'r cynllun hwn yn golled i'r Wladva o £160,000 rhwng tir a thraul. Gwelir velly, wrth vod y fermi yn croesi yr avon, a'r camlesi yn croesi'r fermi, a'r fyrdd yn croesi camlesi—yr arweiniai peth vel hyn i benbleth lwyr. Ceisio dangos yr wyv drwy hyn vod rheolaeth leol yn rheidrwydd. Nis gall vod camgymeriad mwy na gomedd i'r Wladva ei hawdurdodau lleol byddai yn rhwym o ddwyn y swyddwyr cenedlaethol i warth—nid am na byddant yn cyvlawni eu swyddi yn ddigon cydwybodol, ond am nas gallent wneud hyny yn ddeallus heb y proviad lleol. Ac am yr Ynadva drachevn—ve welir oddiwrth yr anhawsderau cymhleth a amlinellais y codai achosion a hawliau a buddianau i'w travod ag y byddai ry anhawdd i ddyn dyeithr eu dadrys. Mae y sevydlwyr yn Archentiaid i'r gwraidd, ac ni ddylid eu herlid oblegid eu hiaith—mae hono yn rhodd Duw. Diau vod yn hanvodol i'r awdurdodau lleol vod yn deall Hispaenaeg, a'r un mor sicr vod o ddirvawr bwys at weinyddu cyviawnder a chwareu teg ar i'r Cymry gael Ynad yn eu deall heb gyvieithydd. Mae y Cymry yn bobl ddwyieithog, ac y mae llaweroedd O blant y Wladva yn hyvedr i siarad Cymraeg, Saesnaeg, a Hispaenaeg.
"Ervyniem gan hyny am dervyn buan ar y mater hwn. Gadawer i'r Wladva deimlo vod gweinyddiad ei hachosion lleol ei hun yngoval deddvau uniawn, weinyddir gan ddynion yn meddu ei llawn ymddiried. Mae traferthion gweinyddiad wedi bod er's blyneddoedd yn rhwystr i'n fyniant diwydol. Ni vuasai ond angenrhaid yn rhoddi y nerth i wneud yr ymdrechion ydys wedi wneud: ond bu'r ymdrechion hyny yn ddadblygiad ar alluoedd vyddant bellach yn help mawr i'n llwyddiant cyfredinol. —D. LLOYD JONES.
Dychwelodd M. D. Jones a D. Rhys i Gymru yn yr ymwybyddiaeth eu bod wedi gweled y wlad a'r bobl, a chael cyvle i hyrwyddo dealltwriaeth rhwng y Wladva a'r Llywodraeth Arianin—heb vawr synied y byddid agos i dair blynedd wedyn cyn cael y Lleodraeth y brwydrid am dani.