Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig/Penawd 32

Penawd 31 Cymru Newydd, Hanes Y Wladva Gymreig

gan Lewis Jones, Plas Hedd

Penawd 33


XXXII.

TIROEDD EANG GWREGYS TYVIANUS GODRE'R ANDES.

Wedi i'r Llywodraeth Arianin ymlid y brodorion o'u cynevin a'u llochesau tua'r Andes, deallwyd vod gwlad vawr, amrywiog ei nodweddion, yn ymestyn yn wregys gyda godreu yr Andes, ac vel pe rhwng hyny ag is-res o drumau nes i'r dwyrain. Cawsai J. D. Evans a'i gymdeithion anfodus laddwyd gan yr Indiaid gip arni y pryd hwnw: ac yr oedd adroddion milwrol cadgyrch y Cadvridog Roca yn cadarnhau yr argraf favriol hono, ac yn gwirio hen draddodiadau yr Indiaid am Wlad yr Avalau, a Mynydd y Taranau, a Llyn y Cyvrinion. Velly, yn 1886—7, cynullodd J. M. Thomas vintai o'r gwladvawyr i vyn'd gyda'r Rhaglaw Fontana ac yntau a G. Mayo, "i weled y wlad"—bawb yn dwyn ei draul ei hun, eithr dan reolaeth hwy ill dri. Gosgordd anrhydeddus oedd hono gavodd y Rhaglaw—heb ddim yn vilwrol ynddi ond eve ei hun a'i votymau a'i sergeant: (ond y dygai y gwladwyr beth arvau at saethu cig-vwyd). Ac ni chavodd neb erioed anturiaeth hapusach, a gwneud gwasanaeth i'w wlad ar leied o drwst a thraul. Yr oeddynt ryw 30 o niver. Gwnaeth y vintai hono ddwy daith archwil ar yr eangderau newydd ymagorai o'u blaenau, a gwnaed wedi hyny wibiadau i gywiro yr argrafion cyntav, brysiog: ac ar ol hyny aeth y Rhaglaw (a J. D. Evans gydag ev) ar hyd fordd arall bob cam i'r Rio Negro hyd i Patagones. Ymhen yspaid wedyn aeth agos yr un vagad egniol o wladvawyr (heb y rhaglaw) dros ranau o'r un daith, dan arweiniad J. M. Thomas, i agor fordd dramwy i veni, bob cam i Vro Hydrev—y fordd vawr bresenol. Hawdd mynegu hyn ar bapur ymhen blyneddoedd, ond yr oedd yn wroldeb a threvnidedd ardderchog yn y cyvnod a'r amgylchiadau hyny. Dilyna y fordd, gan amlav, hen lwybrau y brodoriongyda'r avon hyd yr oedd hyny yn ddichon, ac yna ar draws y paith maith bryniog a charegog, hyd at Ryd-yr-Indiaid, lle y gadewir yr avon wrth anelu am y gorllewin (gan ei bod hi yn gogwyddo tua'r gogledd-orllewin), a chan ddirwyn eilwaith gyda hen lwybr brodorion nes dod i Teca, ac oddiyno eilwaith balvalu eu fordd drwy Gors Bagillt a godreu mynydd Tswnica (Pico Thomas), gan ddisgyn o'r uchelderau gyda Nant Rhyvon (sydd yn arllwys i'r Tawelvor). Yno yr ymegyr gwlad vawr, hardd Bro Hydrev ("Cwm Hyvryd"). O'r van hono ymganghena y vro yn ddwy gaingc—yr un tua'r gogledd am Eskel a Cholila, a'r un tua'r de drwy goedwigoedd y "Dyfryn Oer a'r Corcovado. Oddiar waelod dyfryn Nant-rhyvon, cyn y llyngcir hono gan yr avon vawr Caran-lewfw (o'r gogledd), y mae golygva Bro Hydrev yn werth myned ymhell i'w gweled— yn enwedig wedi y daith vaith, unfurdd o'r Wladva. Cyvyd yr Andes yn gadwen benwyn tua'r gorllewin, ond y llethrau islaw moeledd gwyn y penau yn elltydd coediog hardd ac amrywiol— o'r bedw brigog—ganghenog i'r pinwydd talsyth cyhwvanog; a mathau lawer o brenau eraill addurnol neu vyth—wyrdd. Ymestyna y gelltydd hyn yn ymylwe tua'r de hyd at y Corcovado, ac i'r gogledd hyd at Eskel; y gwaelotir oddi arnynt yn ddolydd porvaog—lle yn eu tymor y bydd carped o syvi (mevus) peraidd, neu a orchuddir gan vrysglwyn, neu hesg, neu vrwyn, yn ol vel y bydd yr avonydd. Neu os troir y wyneb i godiad haul drachevn (a'r cevn at yr Andes), ymddyrcha mynydd Llwyd a mynydd Tswnica a mynydd Edwyn megys breichiau o'r Andes vawr, a'u penau gwynion ganol hav yn dangos ucheled ydynt, er heb vod mor gydiol gadwynog a'r briv drum. Oddiyno tua'r dehau rhed y gwregys iraidd hwn ynghysgod yr Andes nes d'od i Lyn Fontana, o'r hwn yr ymarllwysa'r avon Sin-gyr (lled. 45)—corf o ddwr gymaint a'r Chubut ei hunan: ond wedi gyrva o 400 o villdiroedd a ymgolla o ran gwely (a dyvroedd weithiau) yn y Chubut ryw 100 m. cyn i hono gyraedd y mor. Tua'r gogledd o Vro Hydrev eto mae yr un nodwedd o wlad nes d'od at Lyn Nahuel-huapi—dyvroedd yr hwn yw fynonell avon Limay, a hono oddiar y van yr ymuna yr avon Neuquen gyda hi, a wnant rhyngddynt yr avon Negro, sy'n ymarllwys i'r môr yn lled. 41 (a'r Chubut yn 43. 15). Ar y daith hono, wedi dargan vod Llyn Fontana a'r Avon Sin-gyr, dilynwyd hono nes gwel'd Llyn Colwapi (o vewn rhyw 50 milldir i'r Werydd), gan ddychwelyd i'r Wladva gyda dilyniad dysbeidiol y Sin-gyr, eilw y brodorion yn Iámacan ("yr avon vach "), sydd yn agor i'r Camwy ryw gan milldir o'r môr. Drwy y teithiau hyn gallodd y rhaglaw gyvlwyno i'w Lywodraeth adroddiad lled gyvlawn am y diriogaeth oedd dan ei oval. A gwybu y byd gwybodus amcan go lew am y darn daear oedd i vyn'd dan yr enw Tiriogaeth Chubut o hyny allan.

I ddangos ei chymeradwyaeth o'r gwrhydri hwnw, ac yn anogaeth i'r sevydlwyr avael yn y lle, neillduodd y Llywodraeth 50 lech (250,000 erwau) o'r tiroedd goreu welsid i vod_yn wladva yno i'r sevydlwyr —a dyna yw BRO HYDREV. Pan wnaed covriviad 1895, yr oedd yno 944 o drigolion ac 85 o dai— ond y cynwysid yn y figyrau hyny gryn 500 o Indiaid a Chiliaid. Ysywaeth, mae y Llywodraeth hyd yn hyn heb drosglwyddo meddiant cyvlawn o'r wlad i'r sevydlwyr rhag ovn i hyny beri tramgwydd i Lywodraeth Chili, wrth vod pwnge y finiau rhwng y ddwy wlad yn anorfenol. Mae hyn yn peri peth elven o anvoddlonrwydd ac ansicrwydd i veddyliau y sevydlwyr

BRO HYDREV.

Darlun o bryd bwyd yno—yr olwyth o gig yn rhostio: y tegell a'r cyllill:
y sipian mati (te Paraguay).

—er y gwneir trosiadau mynych ar y tiroedd yno. Hwyrach y bydd hyn o eglurhad byr ar y sevyllva yn ddigonol:—yn y seith-degau (gwel aml gyveiriadau), yr oedd pethau yn ymddangos yn vygythiol rhwng y ddwy weriniaeth parthed perchenogaeth rhan ddeheuol y cyvandir. Cyvryngodd yr Unol Daleithau drwy ei chenadydd yn Chili (Gen. Osborne), a gwnaed cytundeb o linelliad a finiau: yn ol hwnw rhoddid rhimyn cul o'r tir gyda chydvor Machelan i Chili—rhenid Tierra del fuego rhwng y ddwy wlad, a datgenid y fin i vod "gyda phigyrnau uchav yr Andes a rhaniad y dyvroedd." Pan aethpwyd i edrych y "pigyrnau uchav," gwahaniaethai y gwyddonwyr dros y ddwy wlad yn vawr iawn ar y rheiny: eithr os mai rhaniad y dyvroedd oedd i'w ddilyn, yna yr oedd cryn davelli o'r gwregys tyvianus godreu dwyreiniol yr Andes a'u dyvroedd yn arllwys i'r Tawelvor—ochr Chili, wrth vod yr avonydd yn cyd—redeg gryn fordd gyda'r Andes, ond yn rhedeg drwy vylchau anhygyrch o'r gadwen vynyddig i'r Tawelvor—velly drwy dri neu bedwar o vylchau, ond yr avonydd cyn myned i'r bylchau hyny yn dreinio lleiniau mawr o wlad tu dwyrain i'r Andes. Mae'r ddau briv lyn—Nahuel-huapi a Fontana—yn ymarllwys i'r Werydd, tra llynoedd y Corcovado a Cholila yn bwrw drwy'r bwlch i vôr Chili. Wedi cryn ddadleu a pheth cecru—o leiav o du newydduron y ddwy wlad—cytunodd y ddwy Lywodraeth ar i'r ymravael gael ei athrywynu rhyngddynt gan Vrenines Prydain Vawr (drwy ei chyngorwyr, wrth gwrs). Mae weithian ddwy vlynedd neu dair er pan gytunwyd velly: ond y ddwy wlad yn amlhau llongau rhyvel aruthrol, vel pe'n bygwth eu gilydd. Mae gan y ddwy wlad hevyd ddirprwyon gwyddonol yn archwilio a mapio y mynedveydd o'r naill ochr a'r llall er's tro. Yn y cyvamser mae y Werinaeth Arianin yn gwthio rheilfordd o'r Werydd, gyda'r avon Negro a Neuquen, am lyn mawr Nahuelhuapi, gyda'r hwn lyn y mae agorva lled rwydd i odreu Chili. Oblegid yr ysbrydiaeth yna, mae'n debyg, y peidiodd y Llywodraeth Arianin a rhoi meddiant tervynol o'u tiroedd i sevydlwyr Bro Hydrev, rhag y buasai hyny yn achlysur tramgwydd i Chili. Ond diau y ceir meddiant cyvlawn yn y man.

A rhoddi o'r neilldu 50 lech Bro Hydrev, a 300 lech tiroedd Cwmni Tir y De, gwnaeth y Llywodraeth drevniant mawr arall am y tiroedd eang tua'r broydd hyny. Vel hyn:—I wobrwyo y milwyr wnaethent y gadgyrch gynlluniodd y Cadvridog Roca i lethu neu ddiva yr Indiaid, deddvodd y Congres i roddi allan sicrebau (certificates), i'r milwyr hyny, yn ol eu graddau ac yn ol eu gwasanaeth: trevnid i'r swyddveydd milwrol wirebu ac arolygu y rheiny, ac yna y gellid eu gwerthu yn y varchnad "i gymeryd eu siawns a brynai neb hwynt neu beidio. Y cam nesav oedd i'r Llywodraeth vesur a gwneud adroddiad am y tir gawsid velly "yn veddiant i'r Genedl," a chytunwyd i dalu $300,000 am vesur yr holl diriogaeth velly. Yr oedd hyny dan arlywyddiaeth Juarez Celman, yn erbyn yr hwn y bu chwildroad 1890, ac y bwriwyd ev allan o swydd: a chymaint oedd y llygredd gwleidyddol y pryd hwnw vel na roddai neb ddimai am y sicrebau tirol hyny elwid "Sicrebau Milwrol Rio Negro." Pan ddechreuwyd carthu y llygredd, ac i rai dynion cywir dd'od i awdurdod, ac i adroddiad y mesurwyr vuasent dros y tiroedd ddechreu d'od yn hysbys, ymholid obeutu'r sicrebau yn gynil & gwyliadwrus. Bu clytio a newid llawer ar y trevniad gweinyddol yn eu cylch, vel y buwyd hir o amser yn eu hystyried megys "cath mewn cwd," neu lotri i anturio o ddamwain arnynt. O'r diwedd trevnwyd y gallai pwy bynag oedd yn dal sicrebau gael tir i'w gwerth, ond i'r perchen ddynodi a thalu am advesur y manau ddymunai gael. Yr oedd y mesurwyr, neu bwy bynag arall oedd wedi bod dros y tir, mewn mantais i vedru dynodi y manau goreu: ac vel y cryvhai hyder cydnabyddid velly unrhyw hysbysrwydd gwarantedig ellid gael vel sail meddiant i'r tiroedd i'r rhai gymerent yr antur. Ar y cychwyn yr oedd pris y sicrebau hyn yn isel iawn, oblegid difyg hyder y cyhoedd yn nifuantrwydd y trevniadau: ond codai y pris yn raddol nes bod, mewn rhai manau yn 4s. neu 5s. yr erw, vel y prinhai y tiroedd cyhoeddus, oblegid y gwerthu wnelai y Llywodraeth ar ran—diroedd eang—weithiau drwy "uchav ei gynyg," neu weithiau drwy drevnu arbenig gyda Swyddva Tiroedd Cyhoeddus. Yn y dull hwn tavlwyd yn agored i anturwyr ryw 2,000 lech o'r tiroedd tyviantus gyda godreuon yr Andes; a gadael 3,000 neu 4,000 eraill o vanau llai golygus at drugaredd y dyvodol. Dylid covio yn y van hon vod pob lech tua 5,000 o erwau (a bod yn vanwl 2,500 hecterw). Mae y tiroedd hyn wedi eu mesur yn sgwar (petrual) o 4 lech, sev 2 x 2, ond wedi eu rhanu weithiau i lenyrch llai: eithr amlach o lawer yn rhandiroedd o 8 neu 12 neu 16 lech yn yr un enw. Wedi i'r anturwyr gael eu dewis vanau bydd y gweddill yn agored i'r cyhoedd, yn ol rhyw vantais neu gyvleusdra y deuir i wybod am danynt. Vel engraift arall o'r gwerthiant tirol hwn, dylid nodi y llain o 60 lech gyda'r arvordir ynghyfiniau y Wladva, ychydig i'r de o'r avon Chubut, ryw 60 milldir islaw aber yr avon. Yn t.d. 75 eglurir vel y bu raid i sevydlwyr y Falklands symud eu deadelloedd oddiyno am vod yr ynysoedd hyny yn llawn: mudasent rai tua Chydvor Machelan a Santa Cruz: ac yn ddiweddar prynasant davell o 60 lech, gyda'r sicrebau milwrol oedd yn y varchnad, gan ddwyn drosodd rai miloedd o ddevaid o'r Falklands i'w dodi ar y tir brynasid gerllaw y Wladva.

Y mae eisoes sevydliadau eang (gan mwyav o ddevaid) yn britho llawer o'r tiroedd y cawsid meddiant ohonynt drwy y sicrebau milwrol, ac y mae hevyd viloedd o ddaoedd yn cael eu cadw ar diroedd velly gan squatters, heb berchenogaeth yn y byd ar y tir, na thalu ardreth am dano—hyd ryw bryd y daw perchenogion i veddianu yn ymarverol.

Neillduodd y Llywodraeth 50 lech o'r tiroedd hyn i vod yn gartrev a lleoliad i'r brodorion (reservation), tua'r van elwir Lang—iew, heb vod ymhell o dueddau Teca a Kitsawra. Ond tra bydd eangderau o dir hela heb boblogaeth arnynt, diau mai crwydro y manau hela hyny wna'r Indiaid, i ddala'r creaduriaid gwylltion, a gwerthu y crwyn ddaliant er mwyn elw y gwerthiant, yn gystal ag o nwyv yr hela a hen arver. Ar ran o'r lleoliad hwnw rhoddwyd perchenogaeth i'r hen benaeth mawr Shaihweki a'i veibion—ond chwith iawn iddynt y cyvyngiad hwn ar eu lle ragor broydd coediog eu hen gynevin tua'r Manzanas. Yr un modd caniatawyd perchenogaeth i rai penaethiaid eraill, ond gwyddis yn burion mai "gwerthu" y tiroedd hyny vydd y diwedd, i'r anturwyr a'r travnidwyr sydd yn cyniwair y parthau hyny. Yn y cyvamser mae gweddillion y brodorion ar chwal dros yr holl diriogaeth, gan hel at eu gilydd a'u cyvathrach ar adegau hela neu adegau travnidio.

Heblaw hyn oll mae tavelli eang yn leagues wedi eu prynu a'u meddianu tua'r Valdez, Arwats, Rhyd-yr-Indiaid, &c.

Nodiadau

golygu