Cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen

Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw Cyn llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen

gan Peter Jones (Pedr Fardd)

Ti, Dduw unig ddoeth, y goleuni a'th gêl
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

92[1] Arfaeth Duw.
10. 10. 10. 10.

1 CYN llunio'r byd, cyn lledu'r nefoedd wen,
Cyn na lloer, na sêr uwchben,
Fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un
I achub gwael golledig euog ddyn.

2 Trysorwyd gras, ryw annherfynol stôr,
Yn Iesu Grist cyn rhoddi deddf i'r môr ;
A rhedeg wnaeth bendithion arfaeth ddrud,
Fel afon gref lifeiriol dros y byd.

3 Mae'r utgorn mawr yn seinio'n awr i ni
Ollyngdod llawn trwy'r Iawn ar Galfari:
Mawl ym mhob iaith trwy'r ddaear faith a fydd,
Am angau'r groes, a'r gwaed a'n rhoes yn rhydd.

—Peter Jones (Pedr Fardd

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 92, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930