Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru 2010

Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru 2010

gan Llywodraeth y DU

Cynllun iaith Gymraeg

Paratowyd yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Cafodd y cynllun hwn ei gymeradwyo’n llawn gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym Mis Mawrth 2010. Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Cynnwys
1. Cyflwyniad
2. Safon y Gwasanaeth
3. Goblygiadau ar gyfer gwaith Polisi a Deddfwriaeth
4. Cyflawni’r Cynllun
5. Darparu Gwasanaethau i’r Cyhoedd yng Nghymru
6. Hunaniaeth a Delwedd Gorfforaethol Swyddfa Cymru
7. Gwasanaethau a Ddarperir ar ein Rhan gan Sefydliadau Eraill
8. Gweithredu’r Cynllun
9. Amserlen
10. Monitro’r Cynllun ac Adrodd am Berfformiad
11. Rhoi Cyhoeddusrwydd i’r Cynllun
12. Cwynion

Cyflwyniad

Mae Swyddfa Cymru yn cefnogi Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni ei swyddogaeth o gynrychioli Cymru yn Llywodraeth y DU, cynrychioli Llywodraeth y DU yng Nghymru, a sicrhau bod y drefn ddatganoli yn gweithio’n ddidrafferth yng Nghymru.

Ym mis Mehefin 2003, daeth y Swyddfa dan ymbarél yr Adran Materion Cyfansoddiadol, ac yna’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn 2007. Mae’r Cynllun hwn yn berthnasol i Swyddfa Cymru yn unig, ac mae’n adlewyrchu ein cyfrifoldeb penodol dros faterion sy’n ymwneud â Chymru, a’n hatebolrwydd uniongyrchol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae Cynllun Iaith Gymraeg ar wahân ar gyfer y Weinyddiaeth Cyfiawnder a’i chyrff perthynol eraill.

Mae’r rhan fwyaf o’r swyddogaethau gweithredol hynny a oedd, cyn 1 Gorffennaf 1999, yn gyfrifoldeb i Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Felly, nid yw Swyddfa Cymru yn darparu gwasanaethau yn uniongyrchol i’r cyhoedd yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Swyddfa Cymru’n gyfrifol am gynrychioli buddiannau Cymru mewn deddfwriaeth sylfaenol a wneir gan Senedd y DU ac am wthio Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru drwy ddau Dŷ’r Senedd.

Mae Swyddfa Cymru hefyd yn gyfrifol am hyrwyddo a hwyluso’r setliad datganoli ar gyfer Cymru, sy’n golygu bod angen i Weinidogion gael diddordebau eang mewn materion sy’n ymwneud â Chymru. Wrth arfer y swyddogaethau hyn, mae Swyddfa Cymru weithiau’n cyhoeddi adroddiadau a gwybodaeth arall ac mae hefyd yn delio’n rheolaidd ag amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt.

Lluniwyd Cynllun Iaith Gymraeg Swyddfa Cymru yn unol ag arweiniad Bwrdd yr Iaith Gymraeg a chafodd ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym Mis Mawrth 2010. Caiff ei adolygu unwaith eto o fewn pedair blynedd iddo ddod i rym.

Safon y Gwasanaeth

Mae Swyddfa Cymru yn cydymffurfio â’r egwyddor y bydd, wrth gyflawni ei fusnes cyhoeddus[1] yng Nghymru, yn trin yr iaith Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae’r cynllun hwn yn dangos sut y bydd Swyddfa Cymru yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddelio â’r cyhoedd yng Nghymru.

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth yr un mor uchel ei safon yn y Gymraeg fel ag yn Saesneg. Bydd yr holl dargedau perfformiad yn berthnasol i’r ddwy iaith. Anelwn at fod yn gyson yn safon ein gwasanaethau ni waeth p’un a ydynt yn cael eu darparu yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Pan fydd dogfennau’n cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog (h.y. y Gymraeg a’r Saesneg gyda’i gilydd) neu mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd y fersiwn Gymraeg o’r un ansawdd, ffurf, maint ac amlygrwydd â’r fersiwn Saesneg.

Goblygiadau ar gyfer gwaith Polisi a Deddfwriaeth

Mae Swyddfa Cymru yn cyfrannu at lunio polisi a deddfwriaeth ar draws Whitehall a bydd yn gweithio’n agos ag Adrannau eraill y Llywodraeth i’w helpu i ystyried materion yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg yn gynnar (yn cynnwys creu ffurflenni penodedig) yn unol â’u Cynlluniau Iaith Gymraeg eu hunain, ac i ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ymlaen llaw ynghylch cynigion a allai effeithio ar hyn, ar gynllun Swyddfa Cymru neu ar gynlluniau sefydliadau eraill.

Nid yw Swyddfa Cymru yn llunio ei bolisïau na’i gynlluniau polisi ei hun. Os bydd angen i ni wneud hynny yn y dyfodol, cânt eu hasesu o ran canlyniadau ieithyddol a byddant yn gyson â’r cynllun hwn. Byddwn hefyd yn chwilio am gyfleoedd a ddaw yn sgil unrhyw gynlluniau newydd o’r fath i hyrwyddo’r Gymraeg a hwyluso’r defnydd ohoni. Byddwn yn ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ymlaen llaw am unrhyw gynigion a allai effeithio ar y cynllun hwn.

O bryd i’w gilydd, mae Swyddfa Cymru yn cael ymholiadau gan Adrannau eraill y Llywodraeth am faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, a bydd swyddogion yn parhau i gynorthwyo lle bo hynny’n bosibl a/neu’n cyfeirio’r Adrannau at Fwrdd yr Iaith Gymraeg am gyngor swyddogol.

Cyflawni’r Cynllun

Rydym yn ymrwymedig i weithredu o fewn amodau’r cynllun hwn. Mae Cyfarwyddwr Swyddfa Cymru yn atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol am lwyddiant y cynllun ac am fonitro’r modd y caiff ei weithredu. Mae pob rheolwr yn y Swyddfa yn gyfrifol am sicrhau bod ei dîm yn gweithredu yn unol â’r cynllun. Bydd staff yn cael cymorth ac arweiniad (a gaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd) ynghylch defnyddio’r Gymraeg yn Swyddfa Cymru a goblygiadau’r cynllun hwn.

Darparu Gwasanaethau i’r Cyhoedd yng Nghymru

Fel arfer mae gwaith Swyddfa Cymru yn cynnwys cyswllt gyda Llywodraeth Cymru, adrannau eraill y Llywodraeth, grwpiau a mudiadau rhanddeiliaid yn hytrach na chyswllt uniongyrchol â’r cyhoedd..

Gohebiaeth

Rydym yn croesawu gohebiaeth naill ai’n Gymraeg neu’n Saesneg. Pan fydd rhywun yn anfon llythyr atom, byddwn yn nodi ac yn cofnodi’r dewis iaith ac yn ymateb yn yr un iaith. Bydd Swyddfa Cymru yn sicrhau bod yr amser targed ar gyfer ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg, a’r math o ateb a anfonir, yr un peth ag ar gyfer ymateb i ohebiaeth yn Saesneg.

Bydd Swyddfa Cymru yn ysgrifennu’n Gymraeg:

  • at unigolyn, grŵp neu fudiad y gwyddom sy’n gweithio’n bennaf

drwy gyfrwng y Gymraeg, neu sydd eisoes wedi ein hysbysu bod yn well ganddynt gael llythyrau Cymraeg; ac

  • ar ôl cael cyfarfod wyneb yn wyneb neu alwad ffôn a gynhaliwyd

yn Gymraeg a bod angen gohebiaeth ddilynol.

Bydd Swyddfa Cymru yn ysgrifennu’n ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg):

  • at unigolyn, grŵp neu fudiad oni bai ein bod yn gwybod y

byddai’n well ganddynt ohebu naill ai’n Gymraeg neu’n Saesneg; a

  • phan fyddwn yn cyhoeddi llythyr safonol neu gylchlythyr ar gyfer

llawer o unigolion neu fudiadau oni bai ein bod yn gwybod y byddai’n well ganddynt eu cael naill ai’n Gymraeg neu’n Saesneg yn unig.

Os, dan amgylchiadau eithriadol, bydd gofyn i ni gyhoeddi llythyrau ar fyr rybudd (e.e. mewn argyfwng), cawn gyhoeddi llythyrau o’r fath yn uniaith os ydym o’r farn y byddai oedi wrth gyfieithu yn rhoi’r derbynwyr dan anfantais sylweddol. Petai hyn yn digwydd, byddai gofyn i’r Pennaeth Adran ddarparu adroddiad o’r gwersi a ddysgwyd i Fwrdd Rheoli Swyddfa Cymru.

Fel rheol, pan fydd un neu fwy o atodiadau ynghlwm wrth lythyr dwyieithog, byddwn yn cynhyrchu’r atodiad hwn/atodiadau hyn yn ddwyieithog.

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Caiff gwybodaeth a ryddheir dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ei rhyddhau yn yr iaith y mae ar gael ar y pryd.

Galwadau Ffôn

Rydym yn croesawu ymholiadau dros y ffôn naill ai’n Gymraeg neu’n Saesneg. Bydd galwadau i’n prif rifau ffôn yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain fel arfer yn cael eu hateb gan staff hollol ddwyieithog.

Pan gaiff galwad ei hateb ar linell uniongyrchol ac nid yw’r unigolyn wnaeth godi’r ffôn yn gallu siarad Cymraeg, bydd ef/hi yn egluro’r sefyllfa’n gwrtais ac yn gofyn i’r galwr a yw am gael ei drosglwyddo i barhau â’r drafodaeth gyda siaradwr Cymraeg cymwys priodol, bwrw ymlaen â’r alwad ffôn bresennol yn Saesneg neu ysgrifennu atom yn Gymraeg. Mae’n bosibl y bydd rhai adegau prin pan nad oes siaradwr Cymraeg ar gael a all ddelio â’r alwad yn llawn, yn enwedig os yw’r pwnc yn un cymhleth neu o natur arbenigol. Dan amgylchiadau o’r fath, caiff y galwr ddewis trafod y mater yn Saesneg, neu ysgrifennu atom yn Gymraeg – a thrwy hynny dderbyn ateb ysgrifenedig yn Gymraeg.

Cyfarfodydd Cyhoeddus, Ymchwiliadau a Gwrandawiadau

Er nad yw gwaith Swyddfa Cymru fel rheol yn mynnu ein bod yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus wrth gynnal ein busnes; petaem yn gwneud hynny yn y dyfodol, byddem yn cymryd camau i ganfod beth fydd y galw am gyfleusterau dwyieithog ymlaen llaw. At y diben hwn, byddwn hefyd yn ystyried yn fanwl leoliad y cyfarfod, pwnc y cyfarfod, a’n cynulleidfa bosibl. Os bydd angen, gyda’r wybodaeth hon mewn cof, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad cyhoeddus ar gyfer y cyfarfod, a bydd hwnnw’n gwahodd unigolion i roi gwybod i ni (gyda chyfarwyddiadau clir ynghylch manylion cyswllt) pa iaith y byddant yn ei defnyddio.

Yn yr un modd, petaem yn paratoi dogfennau mewn cysylltiad ag ymchwiliadau cyhoeddus a gwrandawiadau eraill, byddem yn cyhoeddi’r rhain yn ddwyieithog. Ni fydd dogfennau technegol na chyfreithiol fel arfer ar gael yn ddwyieithog oni bai eu bod eisoes ar gael yn Gymraeg.

Cyfarfodydd Eraill â’r Cyhoedd

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb â ni a drefnwyd ymlaen llaw yn Gymraeg. Os na drefnwyd dim byd ymlaen llaw, byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu aelod o staff sy’n siarad Cymraeg er mwyn cyfieithu, os oes rhywun ar gael. Mae’n bosibl y bydd adegau prin pan nad oes siaradwr Cymraeg cymwys priodol ar gael. Dan yr amgylchiadau hyn, byddwn yn cynnig cynnal y cyfarfod yn Saesneg neu ddelio â’r ymholiad drwy ohebiaeth yn Gymraeg. Os bydd y cyfarfod yn mynd rhagddo drwy gyfrwng y Saesneg, bydd unrhyw ddogfennau ysgrifenedig sy’n deillio o’r cyfarfod yn ddwyieithog.

Pobl sy’n Ymweld â Swyddfa Cymru

Mae gennym staff hollol ddwyieithog wrth y dderbynfa yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain. Mae’n bosibl y bydd rhai adegau prin pan nad yw’r un o’n siaradwyr Cymraeg ar gael yn syth. Dan amgylchiadau o’r fath, bydd yr ymwelydd yn cael cynnig trafod ei fusnes yn Saesneg; gadael nodyn ysgrifenedig yn Gymraeg; neu adael ei fanylion cyswllt fel y gall siaradwr Cymraeg gysylltu ag ef/hi yn nes ymlaen.

Cyhoeddiadau

Bydd ein holl gyhoeddiadau (argraffedig a electronig), a gyfeirir at y cyhoedd yng Nghymru, yn ddwyieithog, gan dueddu i ffafrio un ddogfen ddwyieithog. Weithiau, efallai y byddwn yn cyhoeddi yn Saesneg ddogfen dechnegol neu atodiad technegol i ddogfen sydd fel arall yn ddwyieithog, oni bai ei bod eisoes ar gael yn Gymraeg.

Bydd y polisi golygyddol a nodwyd yn y paragraff blaenorol yn cael ei adolygu’n flynyddol yng ngoleuni profiad. Pan fyddwn yn cyhoeddi dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel arfer bydd y ddwy fersiwn yn cael eu hymgorffori mewn un cyhoeddiad dwyieithog. Pan fydd ystyriaethau ymarferol, megis maint, yn golygu ein bod yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddwn yn sicrhau bod y ddwy fersiwn yr un mor hawdd i’r cyhoedd gael gafael arnynt a bydd y naill a’r llall yn cynnwys neges yn datgan bod y ddogfen ar gael yn yr iaith arall. Pan fyddwn yn codi tâl am gyhoeddiad dwyieithog, ni fydd y pris yn fwy na phris fersiwn uniaith o’r cyhoeddiad hwnnw. Pan fyddwn yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant yn costio yr un faint.

Ni fyddwn yn cyfieithu dogfennau sy’n cael eu defnyddio’n fewnol yn bennaf ond y gallem eu darparu i’r cyhoedd os gofynnir amdanynt.

Ffurflenni

Pan fydd arnom angen cyhoeddi unrhyw ffurflenni i’r cyhoedd eu defnyddio, byddwn yn sicrhau bod y ffurflenni, ac unrhyw ganllawiau esboniadol sydd o bosibl yn cyd-fynd â nhw, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os bydd dogfen yn rhy hir neu’n rhy dew neu’n anodd ei phrosesu, caiff fersiynau ar wahân yn y Gymraeg a’r Saesneg eu cyhoeddi ar yr un pryd. Bydd yr un mor hawdd i’r cyhoedd gael gafael ar y ddwy fersiwn. Pan fydd ystyriaethau ymarferol, megis maint, yn golygu ein bod yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddwn yn sicrhau bod y ddwy fersiwn yr un mor hawdd i’r cyhoedd gael gafael arnynt a bydd y naill a’r llall yn cynnwys neges yn datgan bod y ddogfen ar gael yn yr iaith arall.


Datganiadau i’r Wasg

Byddwn yn darparu gwasanaeth newyddion ar ein gwefan Gymraeg. Bydd 50% o ddatganiadau i’r wasg yn ymddangos ar yr un pryd ar ein gwefannau Cymraeg a Saesneg, a 75% o fewn 24 awr.

Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ddatganiadau i’r wasg yn Gymraeg sydd o ddiddordeb penodol i’r cyhoedd Cymraeg eu hiaith a/neu’n cynnwys elfen yn ymwneud â’r iaith Gymraeg. Bydd ein llwyddiant o ran cyflawni’r targedau hyn yn cael ei fonitro a’i gofnodi.

Ymgyrchoedd Cyhoeddusrwydd, Hysbysebu ac Arddangosfeydd

Nid yw Swyddfa Cymru yn cynnal ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, hysbysebu nac arddangosfeydd fel rhan o’i fusnes arferol. Os bydd angen i ni wneud hynny yn y dyfodol, byddwn yn cynnal ein gweithgareddau hysbysebu a chyhoeddusrwydd yng Nghymru yn ddwyieithog mewn ffordd sy’n trin y ddwy iaith yn gyfartal. Bydd holl ddeunydd cyhoeddusrwydd Swyddfa Cymru, megis cylchgronau, llyfrynnau, taflenni a hysbysebion yn y wasg, yn ddwyieithog. Bydd holl arddangosfeydd, cynadleddau a seminarau Swyddfa Cymru hefyd yn cynnwys stondinau arddangos dwyieithog.

Hysbysiadau Cyhoeddus

Bydd hysbysiadau cyhoeddus mewn papurau newydd a ddosbarthir yn bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru fel arfer yn ddwyieithog mewn cyhoeddiadau Saesneg, neu’n Gymraeg yn unig mewn cyhoeddiadau Cymraeg.

Hunaniaeth a Delwedd Gorfforaethol Swyddfa Cymru

Bydd Swyddfa Cymru yn arddel delwedd gorfforaethol hollol ddwyieithog. Bydd ein henw a’n gwybodaeth gysylltiedig yn ddwyieithog. Bydd hyn yn cynnwys arwyddion (yn cynnwys y rheini o amgylch ein hadeiladau), cloriau cyhoeddiadau a phethau eraill sy’n cael eu harddangos yn gyhoeddus.

Bydd papurau pennawd, slipiau cyfarch, taflenni ffacs, cardiau busnes staff, llofnodion e-bost, a phethau cyffelyb, i gyd yn ddwyieithog. Ym mhob achos, bydd y ddwy iaith yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder ac amlygrwydd.

Gwasanaethau a Ddarperir ar ein Rhan gan Sefydliadau Eraill

Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau a wneir gan Swyddfa Cymru gyda thrydydd parti, megis asiantau, ymgynghorwyr neu gontractwyr, i ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru ar ein rhan yn glynu wrth delerau’r cynllun hwn lle y bo’n berthnasol i’r gwasanaethau a gaiff eu darparu.

Bydd Swyddfa Cymry yn gofyn i drydydd parti ddarparu adroddiadau am eu perfformiad yn erbyn y cynllun hwn at ddibenion monitro, a byddwn yn cynnal arolygon cwsmeriaid ar hap i gadw golwg ar hyn.

Gweithredu’r Cynllun

Staffio

Mae 65 aelod staff yn gweithio yn Swyddfa Cymru, ac mae oddeutu tri chwarter ohonynt wedi’u lleoli yn Llundain. Mae oddeutu traean y staff ar fenthyg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chaiff y gweddill eu recriwtio a’u rheoli dan delerau ac amodau gwasanaeth y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

Caiff hysbysiadau recriwtio staff Swyddfa Cymru eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, ill dau. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r ddau sefydliad i sicrhau bod hysbysiadau o’r fath yn cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog yn unol â’n Cynllun Iaith Gymraeg ni a’u cynlluniau nhw.

Penaethiaid Adran fydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddweud wrth ein Cangen Adnoddau Dynol am anghenion ieithyddol eu Hadran a chadw golwg ar swyddi lle mae siaradwr Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol. Yr uwch dîm rheoli sydd â’r gair olaf o ran recriwtio ar gyfer pob swydd.

Hyfforddiant Ieithyddol

Mae Swyddfa Cymru yn ymrwymedig i annog staff i ddysgu Cymraeg ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant iaith er mwyn galluogi staff i weithio’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn parhau i dalu costau hyfforddiant, yn ogystal â chynnig amser cyswllt a seibiant astudio gyda thâl i aelodau staff sy’n dilyn hyfforddiant o’r fath. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa’n flynyddol ac yn ystyried a oes angen cymryd camau pellach er mwyn annog lefelau uwch o gyfranogi.

Cynhaliwyd archwiliad sgiliau ymhlith staff Swyddfa Cymru ym mis Hydref 2009 ac mae’r canlyniadau’n rhoi sylfaen ar gyfer cynllunio hyfforddiant a chynllunio’r gweithlu. Bydd ein Cangen Adnoddau Dynol yn cynnal yr archwiliad hwn o allu ieithyddol ac yn ei ddiweddaru’n flynyddol.

Fel rhan o’n hadolygiad i wneud gwelliannau parhaus i’n trefniadau yn y dderbynfa, byddwn yn nodi pob achlysur y bydd aelod o’r cyhoedd yn ymweld â Swyddfa Cymru, neu’n cysylltu â ni ar brif rifau ffôn ein switsfwrdd, ac yn dymuno delio â materion drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn hefyd yn nodi p’un ai a fodlonwyd y gofynion hynny ai peidio.

Gwasanaethau Cyfieithu

Bydd ein hanghenion cyfieithu’n parhau i gael eu diwallu’n rhannol gan Wasanaeth Cyfieithu Gwasanaeth Llysoedd y Weinyddiaeth Cyfiawnder ac yn rhannol gan gontractwyr cyfieithu allanol. Byddwn yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn ôl yr angen.

Canllawiau i Staff

Byddwn yn tynnu sylw’r holl staff yn rheolaidd at y cynllun, a byddant yn derbyn arweiniad ynghylch goblygiadau’r cynllun ar eu gwaith ac ar unrhyw gamau y mae arnynt angen eu cymryd.

Amserlen

Mae llawer o’r ymrwymiadau a nodwyd yn y cynllun diwygiedig hwn eisoes wedi cael eu rhoi ar waith, wrth i ni barhau i gydymffurfio ag egwyddorion ein Cynllun Iaith Gymraeg gwreiddiol a gafodd ei gymeradwyo ar [dyddiad]. Byddwn yn rhoi’r Cynllun diwygiedig hwn ar waith yn ffurfiol ar ôl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ei gymeradwyo. Mae’r Cynllun Gweithredu sydd ynghlwm yn Atodiad A yn dangos sut y bydd Swyddfa Cymru yn gwireddu’r ymrwymiadau a nodwyd yn y cynllun hwn. Cyn gweithredu’r Cynllun bydd staff yn cael canllawiau ysgrifenedig yn nodi’r camau y dylent eu cymryd er mwyn gweithredu’r cynllun hwn. Bydd y gwaith o ddatblygu polisi iaith Gymraeg ar gyfer cyhoeddi ar y we, y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 5.12, yn cael ei gwblhau cyn pen chwe mis ar ôl i’r Cynllun gael ei gymeradwyo.

Monitro’r Cynllun ac Adrodd am Berfformiad

Byddwn yn monitro ein perfformiad o ran bodloni’r ymrwymiadau a wnaethpwyd yn y cynllun hwn ac wrth gyflawni’r amserlen ar gyfer y newidiadau. Bydd penaethiaid pob Adran a Changen neu uned weithredol arall yn gyfrifol am sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw ynghylch sut y maent yn cydymffurfio â’r cynllun ac am unrhyw gwynion am achosion lle methodd Swyddfa Cymru â darparu lefel foddhaol o wasanaeth yn Gymraeg. Cesglir yr wybodaeth hon gan y Gangen Gwasanaethau Corfforaethol a chânt eu cynnwys yn yr adroddiadau bob chwe mis i’r Bwrdd Rheoli.

Os nad ydym yn llwyddo i fodloni’r safonau gwasanaeth a nodwyd yn y cynllun hwn, bydd yr adroddiadau’n esbonio’r rheswm am hyn. Bydd copïau o’r adroddiad yn cael eu hanfon i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Hefyd, ar gais Bwrdd yr Iaith Gymraeg, bydd Swyddfa Cymru yn adrodd am ein cynnydd wrth weithredu’r cynllun hwn.

Rhoi Cyhoeddusrwydd i’r Cynllun

Bydd y cynllun ar gael yn ddi-dâl ac yn ddwyieithog o’n swyddfeydd yn Llundain a Chaerdydd. Gellir gofyn am gopi mewn sawl ffordd:

Swyddfa Cymru
Tŷ Gwydyr
Whitehall

Llundain
SW1A 2NP

drwy ffonio: 020 7270 0534 ; drwy anfon ffacs at: 020 7270 6146 drwy anfon e-bost at: correspondence@walesoffice.gsi.gov.uk

Pan gaiff y cynllun ei fabwysiadu byddwn yn cyhoeddi hysbysiadau yn y wasg a bydd copi cyflawn yn cael ei osod ar ein gwefannau Cymraeg a Saesneg.

Cwynion

Rydym yn gobeithio na fyddwn yn rhoi rheswm i unrhyw un gwyno. Byddwn yn monitro’n ofalus pa mor dda yr ydym wedi cyflawni ymrwymiadau’r cynllun hwn. Os byddwn yn methu, rydym yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn dweud wrthym. Dylid cyfeirio unrhyw gŵyn am wasanaethau Cymraeg Swyddfa Cymru at:

Y Cyfarwyddwr
Swyddfa Cymru
Tŷ Gwydyr
Whitehall
Llundain
SW1A 2NP

Byddem hefyd yn croesawu awgrymiadau ar gyfer gwella’r gwasanaethau a ddarparwn drwy gyfrwng y Gymraeg, a dylai unrhyw awgrymiadau o’r fath gael eu hanfon i’r cyfeiriad uchod a byddwn yn eu hystyried fel rhan o’n hadolygiad parhaus o’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau.

Nodiadau

golygu
  1. Mae’r term “cyhoeddus” yn golygu unigolion, pobl gyfreithiol a chyrff corfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, adran o’r cyhoedd, neu aelodau unigol o’r cyhoedd; yn ogystal â mudiadau gwirfoddol ac elusennau p’un ai a ydynt wedi cael eu hymgorffori ag atebolrwydd cyfyngedig ai peidio, oherwydd maent hwy hefyd yn rhan o’r cyhoedd. Nid yw’n cynnwys pobl mewn swydd sy’n cynrychioli’r Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth.
 

Trwyddedir y ffeil hon yn ôl termau'r Drwydded Llywodraeth Agored y Deyrnas Unedig v3.0.