Cywydd Marwnad Dafydd ap Gwilym

gan Iolo Goch

Hudol doe hu hoedl Dafydd,
hoyw o ddyn, ped fai hwy'i ddydd,
diogor awdl, da angerdd,
fab Gwilym Gam gwlm y gerdd.
Lluniai fawl wrth y llinyn,
llyna arfer dda ar ddyn.
Mau ddarpar, mi a ddirpwr
marwnad o gariad y gŵr.
Gem oedd y siroedd a'u swch,
a thegan gwlad a'i thegwch,
a mold digrifwch a'i modd,
ymwared ym am wiwrodd;
hebog merched Deheubarth,
heb hwn, od gwn, aed yn garth
cywydd pob cethlydd coethlawn,
canys aeth, cwyofus iawn.