Cywydd Merch
gan Dafydd ab Edmwnd
- Dyn wyf yn ceredded y nos,
- (dedwyddach oedd dŷ diddos)
- dyn hurt am gerdded yn hwyr,
- dros hyn Duw a ro synnwyr.
- Du arnaf ydyw oernos,
- Duw, dy nawdd, dued y nos!
- Dyn ni bu, a’r dyno bac
- dan bared, wyneb oerach.
- Deffro fun, differ f’enaid,
- dyn Duw blin sy dan dy blaid.
- Dyro, ti a gai deirhan,
- dy wisg, dy gardod i wan,
- dy lety, dy law ataf,
- dy deg gorff, dywed a’i caf.
- Dy fwyn air er dy fonedd,
- dy fin fal diod o fedd.
- Dy faeth, dy gellwair, dy fodd,
- dy feinael a’m difwynodd.
- Dy laeswallt fal dy lusael,
- dy drem fal dued yr ael;
- dy bryd fal dillad briodyr,
- du a gwyn i hudo gwŷr;
- dy wyneb fal od unnos,
- dy wrid fal bagad a ros.
- Dy garu di a gerais,
- dy gas im nis dygai Sais.
- Dig wyfyn arwain dy gerdd
- dan fargod yn ofergerdd;
- drwy ffenestr dyro ffunen
- dy gam hael i doi fy mhen.
- Dy gerdd ymhob gwlad a gaf,
- dy bwyth nis diobeithiaf.
- Dy garu i’m digio ‘rwy;
- dismel wyd, dismel ydwy.
- Digon caead yw d’ogylch,
- dyn deg wyt, nawdd Dwu’n dy gylch!
- dig wy yn arwain dy gân;
- dygum gas, dwg im gusan.
- Dy gyngor rhag dig angen
- da fydd ei gael, dy fodd, Gwen.