Cywydd dros Rhys Wyn i ofyn bwa i William Cynwal

Cywydd dros Rhys Wyn i ofyn bwa i William Cynwal:

golygu
Cyrchaf lle i caf orchest,
Croyw fardd braisc cryf o rodd brest.
Corff awenydd croyw fynwes
Cynwal deg, cân ail i des
Cyfarwydd llyfr cof araith,
Cadarn yw, cydiwr ein iaith;
Cynnydd odlau cân ddidlawd
Cawn curo'i gerdd canwyr gwawd.
Tudur a'i fraint hyd ar frig
Tydain y gerdd briotiedig
Treiglwr gwawd, traigl ar gân,
Tafod Ysbytty Ifan.
Adda Frâs wyt, ddiferw sur,
A di fas yw dy fesur;
A gwr o ddysc ar y ddau,
Amseroedd y mesurau.
Cronigl iaith disigl waith deg,
Crair mydr y croyw rammadeg
Cael dysc rwym clodus ei gwraidd,
Cynwal yr Heliconaidd.
Ffres hoyw fu, a pharhaus fydd,
Ffynnon ddigloff awenydd.
Arfau a rôi irfawr wyr
I ryw pawb o rai pybyr.
Un arf i rwy' yn erfyn,
A'i roi o serch i Rhys Wynn.
Nid er ymwan trwy ammharch,
Nid er ei werth nodai'r arch
Rhodd hoyw coch rhwydd i cair,
Yn dorfelyn drwy fowlair.
Mae hiraeth am gyd-saethu
A r Rhys Wynn, llorf Rhosyn llu
Bu wrol Rys burol wraidd,
Weithian hwn aeth yn henaidd
Ni hwylia ar un helynt
Y bwa qwych y bu gynt ;
Ag ni thyn gan waith henaint,
Henwr fyth hanner ei faint.
Ag ni bu'r egin aerwy,
Saethau mawr ysywaeth mwy.
Bwa gwann biau Gynwal,
Bys a dyn, ei bwys a dâl.
Gyr e anwar wr gronyn,
Goreu modd i'r gwr a'i mynn :
Yn llonydd yn llaw henaint,
Llyna fydd yn well no'i faint.
Ar ei wanas wr uniawn,
Ag ar y maes yn grom iawn
A ddaw asen ddewisol,
Aseth a yrr saeth o'i ôl :
Gwrysgen yn gyrru asgell,
Gwindio bydd gennad o bell;
Buan i dysc ar ben dol,
Bry genwair boeri o'i ganol.
Corn bach ef a'i cair yn bwyth,
Cloi diast pen caled ystwyth.
Caed blys ar wingciad blwng,
Caiad wastad cyd-ostwng.
Rhodd ei lais ar y ddol werdd,
Yspongc ar lawes Pencerdd,
Y sarff a fwrw ei swrffed,
Ac yn saeth gron hon a hed
Sain gynnyrch sy'n y gonell,
Seth iawn a bair saethu'n bell;
Hedyddion cyttynion teg,
Hudol a'i gyrr i hedeg.
Mawr son am Sampson y sydd,
Milwr o ffurf ymeilydd.
Ni chwardd y llew owchwyrdd llwyd,
Yn grymmus oni grymmwyd:
Ni chawn hwn awch ywen hir,
Yn ei rym oni rwymir —
Ni ynnill gam yn llaw gwr,
Nes i boeni Yspaenwr
Ag wrth linyn, gronyn gwar,
Gorchest a wnai o'i garchar.
Gwennol a gwsg y gwanwyn,
O fewn ty, nid ar fin twyn
A mis rhai o dai yn deg,
I rhoi adar i hedeg.
O rhoir i benadur hen,
Drwy achos aradr ychen
Gwell rhodd yw gwaell awyr hau,
Gwyllt syth gawellaid saethau
Dodwch, a däed ydyw,
Y Bwa i Rhys, o bâr yw.
Beraidd radd Beirdd a roddan,
Beirdd a gânt am beraidd gân.
Llaw a estyn testyn ter,
Hen gymmod hon a gymmer :
Llaw a gymmer llaw gommedd,
I roi a wna yr un wedd.
Gyrr, ydolwg, wr dilys,
O'th wir fodd y rhodd i Rhys.
Ni werthir, ni honnir hwn,
Un o'i wyrthiau ni werthwn,
Dros werthu dinas werthol,
Teiau Rhys a'u tir i'w hol.
Edmwnt Prys A'i Cant