Cywydd i'r Bel Droed
gan Wiliam Midleton
- Nwyfvs fvm anafvs fodd
- yma nwyf am anafodd
- yni gwyllt o nwy a gwyn
- daith mowrbell daeth im erbyn
- och ir nwyf ar chwarav wnaeth
- mwyglo n ol im glin alaeth
- y glin sydd ar galon sad
- glwy oferedd glaf irad
- klwyf o achos klyfychv
- ochr pla fyth chware pel fv
- kwyno bvm kyn kanv i bel
- kana i dychan kyn dychwel
- pel draed pa wlad a rodio
- ba waeth byd yn boeth y bo
- pellen y fad felen fawr
- bail drwythfa beled rothfawr
- peled vffern plaid affrig
- ai hanadl yn bowdr dadl dig
- penglog ledr tonog ledr tew
- yn oddfynflwch addfeinflew
- pypgyn o groenyn grinwyw
- bola pair yn Ilawn gwair gwyw
- merch medda arwa oroen
- rhvw hogl grach ir rhvgl groen
- glavaden lowngavl ydyw
- korwgl dor mwnwgl drom yw
- glain o baderav gwlan
- bradwr iddew korn brydan
- had gwenwyn wedi eginaw
- eginyn drwg anwn draw
- keglyn diawl koeg evlvn dig
- gylla vffernol gwyll ffyrnig
- ne gorvn het groen yw hon
- y bobl o dir babilon
- o groen keffvl mvl ym oedd
- ne groen eidion grin ydoedd
- knap di fantais pen gaision
- ddylvdaw hir ddilid hon
- poten y fall petai n fyw
- pob astrvs pawb ai ystryw
- pawb ai gais fel pe bai gâst
- gwengi foel gynhaig filiast
- pe brwydr pawb a redai
- vwch ben hon achvbwn hai
- ym gvro y mae gwerin
- ym yrv yn bla ymron blin
- ym dynv amod anoeth
- amav r pwyll ymyrv poeth
- ym droi ffell ymdaro fflwch
- ym gvtio am y goetwch
- ymysgwyddai ymysg eddyl
- pybyr gorff pawb ar ai gwyl
- a bydd yn ol baeddv n wir
- fry gynen a fawr gwynir
- aflawen genfigenv
- kair yno dwyll y kroen dv
- gwyn i fyd trwy febyd traw
- gwr bydol a gar beidiaw
- ag ymwrthod ar goden
- afreolvs hevnvs hen
- ffoledd yw ym gyffylv
- och or dig ywr chwarav dv
- os kellawair yn ddiwair dda
- wych lwyddiant na chwilyddia
- os chwarav yn dechravr daith
- afrolvs na friw eilwaith
- medrwn o . . . wn ymadrodd
- gyngor kall roi i arall rodd
- ag ni wyddwn gwn addef
- gwael iawn wedd i galyn ef
- ni bydd anedwydd nodan
- kall erioed nes kollo i ran
- pand yw n wir poen dyn arall
- gwneiff dedwydd yn gelfydd gall.