Cywydd i'r Calan (1753)

Cywydd i'r Calan (1753)

gan Goronwy Owen

Cywydd i'r Calan,
1753.

Cyn bod gwres i'r haul teswawr,
A gorphen ffurfafen fawr,
Difai y creawdd Dofydd
Olau teg a elwid dydd;
A Duw, gan hyfryted oedd,
Dywedai mai da ydoedd;
Cywraint fysedd a neddair!
Gywir Ion, gwir yw ei air.
Hardd gweled y planedau,
A'u llwybr yn y gylchwybr gau,
Tremiadau tramwyedig,
A chall yn deall eu dig.
Canfod, a gwych eurddrych oedd,
Swrn nifer ser y nefoedd;
Rhifoedd o ser, rhyfedd son!
Crogedig uwch Caergwydion.
Llun y Llong a'i ddehonglyd,
Arch No a'i nawdd tra bawdd byd;
A'r Tewdws, dwr ser tidawg,
A thid nas rhifid y rhawg.
Er nifer ser y nefoedd—
Nifer o fawr wychder oedd—
Ac er Lloer wen ysplennydd,
Nid oes dim harddach na dydd;
Gwawl unwedd â goleunef,
Golau o ganhwyllau nef.
Oes a wad o sywedydd,
Lle dêl, nad hyfryd lliw dydd?
Dra bostio hir drybestod,
Mor rhyfedd rhinwedd y rhod!
Oer suganed wres Gwener
Pan el i ias oerfel ser.

Duw deg lwys, da yw dy glod;
Da, wir-Naf, yw pob diwrnod;
Un radd pob dydd o naddynt,
Pob dydd fal eu gilydd gynt;
Uchder trennydd fal echdoe,
Nid uwch oedd heddyw na doe,
Nes it draw neillduaw dydd
Dy hunan, da Wahanydd—
Dygwyl, yn ol dy degwaith
Yn gorphen ffurfafen faith.
Na chwynwn it, Ion, chwennych
Dydd o saith, wedi 'r gwaith gwych;
Yn talmu da fu dy fod;
Sabath ni chai was hebod.
Mawr yw dy rad, wiwDad Ion,
Da oedd gael dyddiau gwylion;
Da 'r tro it' eu gŵylio gynt,
Duw Awdur, a da ydynt.
Da dy Grog ddihalogŵyl;
Dy Grog oedd drugarog ŵyl,
Er trymed dy gur tramawr;
Penllad yw 'th Gyfodiad fawr.
Da fyg dy Nadolyg, Dad;
Da iawn ydoedd d' Enwaediad,
Calan, fy ngwyl anwyl i,
Calan, a gŵyl Duw Celi.
Da, coeliaf, ydyw Calan,
A gŵyl a ddirperai gân;
Ac i'r Calan y canaf—
Calan, well na huan haf.
Ar ddydd Calan y'm ganwyd;
Calan, nid anniddan wyd.
Gwaeth oedd enedigaeth Io,
Diwrnod a gwg Duw arno;
Calan wyt ni 'th cwliai Naf;
Dwthwn wyt nas melldithiaf.
Nodwyl fy oedran ydwyt,
Ugeinfed a degfed wyt.
Cyflym ydd a rym yr oes;
Duw anwyl, fyred einioes!
Diddan a fum Galan gynt,
A heinif dalm o honynt;
Llawn afiaeth a llon iefangc,
Ddryw bach, ni chaid llonach llangc.
Didrwst ni bu mo 'm deudroed
Ym mhen un Calan o'm hoed,
Nes y dug chwech a'r hugain
Fab ffraeth i fardd meddfaeth, main.
Er gweled, amryw Galan,
Gofal yn lle cynnal cân,
Parchaf, anrhydeddaf di,
Tymmor nid drwg wyt imi,
Cofiaf, Galan, am danad,
Un dydd y'm gwnaethost yn dad;
Gyraist im' anrheg wiwrodd—
Calenig, wyrenig, rodd—
Gwiwrodd, pa raid hawddgarach
Na Rhobert, y rhodd bert bach?
Haeddit gân, nid rhodd anhardd—
Rhoi im' lân faban o fardd.
Hudol am gân, hy ydwyt,
O bâi les gwawd, blysig wyt!
Dibrin wyf, cai dy wobrwy,
Prydaf i it'; pa raid fwy?
a chatwyf hir barch iti,
Wyl arab fy mab a mi.

Aed y calendr yn hendrist,
Aed Cred i ammau oed Crist,
Syfled pob mis o'i safle,
Ac aed âg ŵyl gydag e;
Wyl ddifai, di gai dy gwr;
Ni 'm neccy almanacwr;
Cei fod ar dal y ddalen;
Diball it' yw dy bill hen;
Na sylf fyth yn is, ŵyl fawr;
Glŷn yno, Galan Ionawr;
Cyn troi pen dalen, na dwy,
Gweler enwi ‘Gwyl 'Ronwy’;
A phoed yn brif ddigrifwyl
I'r beirdd, newydd arab wyl;
A bid ei phraff argraphu
Ar dalcen y ddalen ddu,
Llead helaeth, lled dwylain,
Ehangffloch o liw coch cain.

Tarddiadau golygu