Cywydd i'r Calan (1755)

Cywydd i'r Calan (1755)

gan Goronwy Owen

Cywydd i'r Calan,
1755.

Ow! hen Galan, hoen Gwyliau,
Cychwynbryd fy mywyd mau,
Ond diddan im' gynt oeddit
Yn Ionor? Hawdd ammor it'!
Os bu lawen fy ngeni,
Ond teg addef hyn i ti?
Gennyt y cefais gynnydd
I weled awr o liw dydd.
Pa ddydd a roes im' oesi,
Trwy rad Ion ein Tad, ond ti?
Adrodd pob blwydd o'm hoedran,
O ddiwyd rif, oedd dy ran;
A gwelwyd, ben pob Gwyliau,
Mai tyccio wnaeth y maeth mau;
Er yn faban gwan gweccry,
Hyd yn iefangc hoglangc hy;
O ddiofal hydd iefangc,
Yn wr ffraw goruwch llaw llange.
Ac ar Galan, yn anad
Un dydd, bum o wr yn dad.
Finnau ni bum yn f'einioes
Etto 'n fyr it' o iawn foes.
Melus im' ydoedd moli
A thra mawrhau d'wyrthiau di,
Ac eilio iti, Galan,
Ryw gelfydd gywydd new gân.

Dy gywyddau da gweddynt
A'th fawl; buost gedawl gynt.
Weithion paham yr aethost,
Er Duw, wrthyf fi mor dost?
Rhoddaist im' ddyrnod rhyddwys
O boen, a gwae fi o'i bwys!
Mennaist o fewn fy mynwes
A chlefyd o gryd a gwres,
A dirwayw 'r poethgryd eirias
Un nglŷn â phigyn a phas.
Ai o ddig lid ydd wy' glaf?
Bernwch, ai cudab arnaf?
Od yw serch, nawdd Duw o'i swm,
Ai cudab yw rhoi codwm
A chystudd di fudd i f' ais,
I'm gwanu am a genais?
Ar hwrdd os dy gwrdd a gaf
Eilchwyl, mi a ddiolchaf.
Ni chaf amser i 'mdderu;
Diengaist yn rhydd, y Dydd du;
Rhedaist fal llif rhuadwy
I'r môr, ac ni 'th weler mwy;
A dygaist ddryll diwegi,
Heb air son, o'm byroes i;
Difwynaist flodau f' einioes;
Bellach pand yw fyrach f' oes?
O Galan hwnt i'w gilydd
Angau yn nessau y sydd;
Gwnelwyf â nef dangnefedd
Yn f' oes, fel nad ofnwyf fedd!
A phoed hedd cyn fy medd mau,
Faith ddwthwn, rhof â thithau.
Dy gyfenw ni ddifenwaf,
Os ei gwrdd yb f' oes a gaf.
Ni thaeraf annoeth eiriau,
Gam gwl, er fy mygwl mau.
Bawaidd os hyn o'm bywyd,
Rhwy fu 'r bai rhof fi a'r byd;
Addefer di yn ddifai,
Rhof fi a'r byd rhwy fu 'r bai.
Duw gwyn a'm diwygio i!
A chymmod heddwch imi
A ddêl cyn dy ddychwelyd,
A llai fyddo bai y byd;
Yno daw Gwliau llawen
I mi ac i bawb. Amen.

Tarddiadau golygu