Cywydd i Harri Ddu
gan Guto'r Glyn
CYWYDD I HARRI DDU, O EUAS.
Y Dû hydr o'r Deheudir,
Da ei lun mewn du o lir;
Llew du mewn tŷ dillad wyd,
Llin nad êl llai na du-lwyd
Harri Gruffydd, grudd y gras,
Hydd, a llywydd holl Euas.
Ystiwart dan golart gwiw,
Ucha swydd i'ch oes heddyw.
Nid anhaws it'-myn Dwynwen,
Dwyn aur nag ysbardyn hen.
Enaid Euas, Ion diwael,
A Gwent wyt, a fu gynt hael.
Ag weithian yn gywaethog,
Yn troi megis dant yr og.
Os da wr wyd, nid oes drai,
Am wir, ond ni chair mwnai.
Ni gawn gêd yna genyd,
Llyn rhwydd, ail llanw'n y rhyd;
Ni chawn o'ch arian ychwaith,
Na dim wrth fyned ymaith.
Herod gynt, Harri, da gwn,
A Chywyddwr iwch oeddwn;
Mwy nid hawdd, er amnaid teg,
Moli gwr mal y garreg.
Cloi dy ddâ, caledu'dd wyd,
Caledach na'r clo ydwyd.
Deiamwnd ar wydr wyd yma,
Dur ar y dur, o roi dâ.
Mae esgus estronwys drwg,
Genyd i wyr Morganwg.
Bod it' ni wn na bai
dau Ddwsin o brydyddesau.
A'i ar fedr, digrif ydwyd,
Harri eu gwaddoli ydd wyd?
Modd Gwladus, drwsiadus drud,
Haul Glyn Nedd, hael, glan oeddyd.
Meddai'r glêr a omeddwyd,
Mal Sais, emyl Euas wyd!
Eich gwledd roddech i'ch clêr,
A'ch rwmnai, a chai'r amser.
A'ch clared gwiw l'eh clerwyr,
A'ch medd, a gomedd y gwyr.
Gofyn a wnai gefn y nos,
Ganu Cywydd, gainc eos:
Galw am gudd Dafydd Gwilym,
A brudio wnei, heb roi dim.
Harri, os o ddifri ydd wyd,
Heb roddi hwya breuddwyd,
Os cellwair hwyr y ceir cêd,
Oera cellwair yw colled.
Dywaid ti pam nad wyd da,
Dy ddewr-dad di oedd wr-da.
Da fu Fawd a difai ferch,
A wnaeth roddion Nith Rhydderch.
Gweiddi gwn, ar Gywydd gwr,
Ag weithiau, brawd Bregethwr;
Y Saint a glywais yn son,
A rodden fwy o roddion.
Un fodd a hwnw fyddaf,
Troi'n well fy natur a wnaf;
O throi gyda'r bregeth rwydd,
Cei fawr-glod acw f'arglwydd,
Collaist a roist; callestr wyd!