Cywydd i ferch a dorrodd bwyntment
gan Tomos Prys
- Aros yr wyf mewn oerwynt
- Wrth air Gwen, aruthr yw gwynt.
- Oer yw gwynt ar rew ac ôd,
- Ond afiach nad yw'n dyfod?
- Dyfod yma i'm dofi,
- Dduwies hardd, addawsai hi.
- Hi a wnaeth gast annoeth i gyd,
- Achos i'm golli f'iechyd.
- Mae f'iechyd i gyd heb gudd
- Mewn eira,llwm yw neurudd.
- 'Y neurudd sydd yn oeri,
- Aros merch, oer ias i mi.
- Mi a dyngaswn, gwn gwynair,
- Na wyrai Gwen awr ei gair.
- Gair merch, dig ywir ei modd,
- Gwir dirym, gair a dorrodd.
- Torrodd ei llw, taerodd llid,
- Treiai ddoe torri addewid.
- Addewid y fun dduwiol
- Aeth yn brid weithian heb rôl.
- Heb rôl yr ydwyf mewn brad,
- Ac oerwynt sy' am gariad.
- Cariad a briwiad heb ras
- Cawn o unradd cwyn anras.
- Anras od af wrth draserch
- I oeri mwy ar air merch.
- Gair merch oddi ar gwr ei min
- A'm gyrrodd i lam gerwin.
- Gerwin i w^r garu neb
- a dynno â dau wyneb.
- Wyneb bun, od yw mewn parch,
- a wnaeth imi noeth amarch.
- Amarch i fant? merch a fo
- A'i nwydau yn newidio.
- Newidio yn anwadal,
- Addo teg am ddiwedd tâl.
- Tâl y ferch, ond dial fydd?
- Treio gwylio trwy gelwydd.
- Celwydd sy' brid i'm calon,
- Cefais haint, cofus yw hon.
- Hon i fan hyn a fynnaf,
- Dan amod cymod, o caf.
- O caf fun i oed unwaith,
- Chwitiaf, os gallaf, ei gwaith.
- Gwaith a wnaf sy'n gaeth yn wir,
- Gan feinwen, gwn a fynnir.
- Ni fynnir, cribir crybwyll,
- I wlad Duw a wnelo dwyll.