Cywydd y Cedor
gan Gwerful Mechain
- Pob rhyw brydydd, dydd dioed,
- mul frwysg, wladaidd rwysg erioed,
- noethi moliant, nis gwrantwyf,
- anfeidrol reiol yr wyf,
- am gerdd merched y gwledydd
- a wnaethant heb ffyniant ffydd
- yn anghwbl iawn, ddawn ddiwad,
- ar hyd y dydd, rho Duw Dad:
- moli gwallt, cwnsallt ceinserch,
- a phob cyfryw sy fyw o ferch,
- ac obry moli heb wg
- yr aeliau uwchlaw'r olwg;
- moli hefyd, hyfryd dwf,
- foelder dwyfron feddaldwf,
- a breichiau gwen, len loywlun,
- dylai barch, a dwylaw bun.
- Yno o'i brif ddewiniaeth
- cyn y nos canu a wnaeth,
- Duw er ei radd a'i addef,
- diffrwyth wawd o'i dafawd ef:
- gadu'r canol heb foliant
- a'r plas lle'r enillir plant,
- a'r cedor clyd, rhagor claer,
- tynerdew, cylch twn eurdaer,
- lle carwn i, cywrain iach,
- y cedor dan y cadach.
- Corff wyd diball ei allu,
- cwrt difreg o'r bloneg blu.
- Llyma 'ynghred, teg y cedawr,
- cylch gweflau ymylau mawr,
- pant yw hwy na llwy na llaw,
- clawdd i ddal cal ddwy ddwylaw;
- cont yno wrth din finffloch,
- dabl y gerdd â'i dwbl o goch.
- Ac nid arbed, freisged frig,
- y gloywsaint, gwyr eglwysig
- mewn cyfle iawn, ddawn ddifreg,
- myn Beuno, ei deimlo'n deg.
- Am hyn o chwaen, gaen gerydd,
- y prydyddion sythion sydd,
- gadewch heb ffael er cael ced
- gerddau cedor i gerdded.
- Sawden awdl, sidan ydiw,
- sêm fach, len ar gont wen wiw,
- lleiniau mewn man ymannerch,
- y llwyn sur, llawn yw o serch,
- fforest falch iawn, ddawn ddifreg,
- ffris ffraill, ffwrwr dwygaill deg,
- breisglwyn merch, drud annerch dro,
- berth addwyn, Duw'n borth iddo.