Cywydd y gal
gan Dafydd ap Gwilym
- Rho Duw gal, rhaid yw gwyliaw
- arnad a llygad a llaw
- am hyn o hawl, pawl pensyth,
- yn amgenach bellach byth;
- rhwyd adain cont, rhaid ydiw
- rhag cwyn rhoi ffrwyn yn dy ffriw
- i'th atal fal na'th dditier
- eilwaith, clyw anobaith cler.
- Casaf rholbren wyd gennyf,
- corn cod, na chyfod na chwyf;
- calennig gwragedd-da Cred,
- cylorffon ceuol arffed,
- ystum llindag, ceiliagwydd
- yn cysgu yn ei blu blwydd,
- paeledwlyb wddw paladflith,
- pen darn imp, paid a'th chwimp chwith;
- pyles gam, pawl ysgymun,
- piler bon dau hanner bun,
- pen morlysywen den doll,
- pwl argae fal pawl irgoll.
- Hwy wyd na morddwyd mawrddyn,
- hirnos herwa, gannos gyn;
- taradr fal paladr y post,
- benlledr a elwir bonllost.
- Trosol wyd a bair traserch,
- clohigin clawr moeldin merch.
- Chwibol yn dy siol y sydd,
- chwibbanogl gnuchio beunydd.
- Y mae llygad i'th iaden
- a wyl pob gwreignith yn wen;
- pestel crwn, gwn ar gynnydd,
- purdan ar gont fechan fydd;
- toben arffed merchedau,
- tafod cloch yw'r tyfiad clau;
- cibyn dwl, ceibiai dylwyth,
- croen dagell, ffroen dwygaill ffrwyth.
- Llodraid wyd o anlladrwydd,
- lledr d'wddw, llun asgwrn gwddw gwydd;
- hwyl druth oll, hwl drythyllwg,
- hoel drws a bair hawl a drwg.
- Ystyr fod gwrit a thitmant,
- ostwng dy ben, planbren plant.
- Ys anodd dy gysoni,
- ysgwd oer, dioer gwae di!
- Aml yw cerydd i'th unben,
- amlwg yw'r drwg drwy dy ben.