D'oes arnaf eisiau yn y byd
← 'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy' | D'oes arnaf eisiau yn y byd gan William Williams, Pantycelyn |
Rhyw ŵr—rhyfeddol ŵr yw Ef → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
135[1] Haeddiant Drud.
M. H.
'D OES arnaf eisiau yn y byd
Ond golwg ar dy haeddiant drud,
A chael rhyw braw o'i nefol rin,
I 'mado'n lân â mi fy hun.
2 Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud
Yn fwy na'r nef, yn fwy na'r byd,
Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn,
'R wy'n methu gorffwys arno'n llawn.
3 O flaen y drugareddfa fawr
Yn trengi wrth dy draed i lawr,
Gwêl y pechadur duaf gaed
Yn griddfan am rinweddau'r gwaed.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 135, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930