Da Fu'r Drindod
(Ailgyfeiriad o Da Fuâr Drindod)
gan Dafydd ap Gwilym
- Da fu'r Drindod heb dlodi
- A wnaeth nef a byd i ni.
- Da fu'r Tad yn anad neb
- Roi Anna ddiwair wyneb.
- Da fu Anna dwf uniawn
- Ddwyn Mair, forwyn ddinam iawn.
- Da fu Fair ddiwair eiriawl
- Ddwyn Duw i ddiwyno diawl.
- Da fu Duw I ôr, dioer oroen,
- A'i groes ddwyn pymoes o'u poen.
- Da y gwnŵl Mab Mair, air addef,
- Ein dwyn oll bob dyn i nef.