Daff Owen/Anufudd-dod

Cynnwys Daff Owen

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Gamaliel y Pentre


I. ANUFUDD-DOD

"Eyes, Right! Dress!"

Boys! Take up your Dressing! Smartly now! Left! Turn!"

"Dis!-miss!"

Dyna a glywsid drwy ddrws agored Ysgol Cwmdŵr am bedwar y prynhawn, o fyned heibio i'r pentref hwnnw ddydd Gwener neilltuol ym Mai 1887. Ac onibai gwybod ohonoch mai ysgol yn y wlad yng Nghymru oedd yr adeilad yn eich ymyl, gallasech dybio mai myned heibio i Ysgwâr y Barracks yng Nghaergaint neu Gaerefrog yr oeddech.

Ond y funud nesaf ni buasai dim amheuaeth yn eich meddwl, oblegid yn rhuthro allan i'r heol ar eich traws yr oedd twr o fechgyn yn gwthio heibio i'w gilydd yn nwyfus a direidus dros ben. Ar dafod pob un yr oedd heniaith y tir; ie, 'r un acen felys ag a glywsai Hywel Dda, Gerallt Gymro, Syr Rhys ap Tomos, a John Wesley, oll yn eu hoes a'u tro, pan yn tramwy yr unrhyw ffordd.

"Dere i'r allt, John!" neu "Nawr am yr afon, fechgyn!" oedd y siarad a wnâi yr heol yn llafar drwyddi.

Ond dim ond am foment, oblegid heb aros am neb, i ffwrdd â hwy, oddieithr ambell un a oedai am ei chwaer fach. Hapus hogiau! heb faich na gofid o un fath i rwystro eu hawddfyd nac i arafu eu camau. Ychydig yn fwy swil a thawel, ond nid yn llai llon a hapus, wele'r merched, gyda haul y bryniau ar lawer grudd a hoywder yr awel mewn llawer trem, yn dyfod allan trwy eu drws hwythau.

Tybed a gafodd y merched hefyd yr ymarfer o'r "Left! Turn! Dis!- miss!" yn ôl dull y bechgyn?

Os do, afraid yn siwr oedd y geiriau "Smartly now!" i rai mor heinif ac ysgafndroed â'r rhai hyn.

A phaham o gwbl iaith ymgyrch a chad yn y llecyn heddychlon hwn, lle nad oedd dim tuallan i gwrs tymhorau anian yn digwydd, ond ambell eisteddfod neu ffair, pastai neu "ffêst clwb"?

Dacw'r ateb ym mherson y gŵr a gloa ddrws yr ysgol ac a esyd yr allwedd yn ei logell y funud hon. Sylwch arno. Y peth cyntaf a welwch yw mai un fraich sydd ganddo, yna ei fod yn ddyn talgryf, a bod pob symudiad ac ysgogiad o'i eiddo fel pe wrth fesur. Mewn gair, hen filwr, heb un amheuaeth yn ei gylch. Ie'n siwr, dyna oedd Foster—cynorthwywr mawr y Ficer, ysgrifennydd pob mudiad yn y lle, a thywysydd yr ieuainc i feysydd dysg, ac un a gyfunai ynddo ei hun y swyddi parchus o feistr ysgol yr eglwys, a chlerc yr eglwys ei hun.

Bu cryn gynnwrf yn y pentre amser ei apwyntiad am ei anallu (oherwydd colli ohono ei fraich) i ganu yr harmonium yn y gwasanaeth. Ond am fod iddo lais rhagorol, a bod i Miss Harrison, merch y Ficer, gynnig llanw y bwlch yn ddi-dâl, ef a gafodd y swydd, a phan fu farw yr hen glerc cafodd swydd wag hwnnw hefyd.

Dyma'r gŵr a brysurodd yn awr i'r heol, ac wedi edrych i fyny ac i waered, a holodd un o'r merched ynghylch Daff Owen. Atebodd hithau iddi ei weld yn mynd yng nghwmni Glyndŵr Jones tuag at lan yr afon.

"Ewch ar unwaith i'w ymofyn!" eb yntau, ac i ffwrdd â hi ar yr archiad i chwilio am yr hogyn wrth y torlannau. Ond bu raid iddi gerdded lled tri chae cyn dyfod o fewn clyw y bachgen coll, ac wedi dywedyd ohoni ei neges wrtho, ychydig y diolch a gafodd wedi'i thrafferth i gyd.

"Wfft i ti a'r mishtir!" ebe fe. "Fe af 'nawr jest!"

Yna trodd oddiwrthi i roi ei sylw i rywbeth fil pwysicach yn ei olwg ar y pryd.

"Meindia fe, Glyn, bu bron mynd ma's, pan own i'n siarad â Mari. Dyna beth sydd o myrrath merched o hyd. 'Nawr ynte amdano!"

Testun y cyfeiriad hwn oedd brithyll mawr yr oedd y ddau lanc am ei ddal. Yr oedd y pysgodyn wedi dyfod am dro i'r dwfr bas, lle yr oedd yr afon wedi rhannu yn ddwy, ac wedi ei osod ei hun mewn perigl trwy hynny. Gwelodd y ddau hogyn eu cyfle, a thra chadwai un ohonynt warchae ar yr unig ffordd y gallai'r pysgodyn nofio yn ôl i'r dwfr mwyaf, brysiodd y llall i gloddio tyweirch er llanw'r adwy i'w rwystro i ddianc o gwbl.

Dyna'r funud y derbyniwyd gorchymyn y meistr, ond meistr neu beidio, rhaid oedd dal y brithyll yn gyntaf.

Nid gorchwyl hawdd i'w wneuthur ydoedd ychwaith, oblegid yr oedd mwy o ddwfr o dan y dorlan nag a feddyliasai'r ddau bysgotwr ar y cyntaf. Fodd bynnag am hynny, ei ddal oedd yn rhaid.

Cymerodd gwaith gryn ddwyawr cyn ei orffen, oblegid golygodd godi argae bychan i droi cwrs y dwfr a redai i mewn, a thaflu allan lawer o'r dwfr oedd yn weddill. Ac wedi'r gweithio dyfal bu ysgarmes fywiog o erlid y brithyll o garreg i garreg cyn i Daff ei gael yn ddiogel i'w law yn y diwedd. Yna wedi cyflawn edmygedd o'r ysbail ysblennydd, meddyliwyd am fynd adref, a'r pryd hwnnw y cofiodd Daff gyntaf am archiad y meistr. Yr oedd ias yr helfa wedi ei feddiannu'n llwyr, bellach," ebe fe, "y mae'n rhy hwyr i mi fynd o gwbl."